Skip to main content
Hide Articles List

15 articles on this Page

Aelwyd y Cymry.

ANERCH Y GOLYGYDD.

News
Cite
Share

ANERCH Y GOLYGYDD. Fy Xghychvladvvyr Hoff:- Y1 ydym gyda gradd o bleser wedi ym- gymeryd a'r gwaith o olygu y rhan Gymraeg I) 'hri£' newyddiadur 'pÚf' sir Cymru. Er c-ym- aint yw helynt golygydd o dan yr amgylchiad- adau a'r manteision goreu (yr hyn nid yw ein ffawd i) iyn hollol ar hyn o bryd), gobeithiwn er hyny, y pery y pleser, ond bydd iddo ddi- bvnu i xaddau helaeth ar y gefnogaeth a gawn a'r dyddordeb a gymerir yn ffyniant yr "Ael- wvd." Xid yw y gwaith o olygu yn dasg dieithr ini, er fod cryn lawer o ddwr Afon amser wedi llifo er's pan eisteddasom ddiweddaf yng nghadair Golygydd. I'r oeddem bryd hyny yn fyfyriwr yn un o'r Prif-ysgolion, ac yn gyd- olygydd un o'r wythnosolion Cymreig a Saesnig. Felly nid ydym heb brofiad, a gobeithiwn y gweithreda profiad, amynedd, ac amynedd, ym- gais at iagoriaeth. "Aelwyd i Gymry" sir Ben- fro a'r cyffiniau fydd y colofnau hyn, a cheisir ei gwneyd hi mor gynhes a dynol ag y gallwn. Erfyniwn ar Gymry llengar a barddol Dyfed a phob bro aTall i'w chadw yn wresog gan dan gwladgarwch a serch eirias at hen-iaith dewr-j ion a duwiolion ein gwlad. Nis gall cylch yr "Aelwyd" fod yn rhy eang a pho eangai yr a amlaf i gyd fydd y dwylaw rydd danwydd i'w wresogi hi. Yn unol ag ysbryd y "Guardian" ydd y colofnau hyn yn anibynol ar blaid a sect, hyny yw, ni byddant yn offeryn caeth i'r naill na'r Hall o honynt, ond caiff bob barn a chred berffaith. ryddid a chroesaw i fynegu eu syniadau ynddynt ar unrhyw bwne dan haul. Amryvvzaeth sydd un o egwyddorion sylfaenol bywyd, ac un o elfenau pwysicaf prydferthwch a nerth. Gan hyny, nyni a osodwn amrywiaeth yn un o nodweddion amlycaf yr "Aelwyd," gan lwyr gredu mai felly y bydd hi yn fwyaf dydd- orol. Eycl y gallwn, un o'n harwyddeiriau fydd y ddiareb Ladin—"Homo sum et nihil humani a me alienum puto"Myfi wyf ddyn, ac ni chyfrifaf ddim dynol yn estronol imi,"—ond gyda golwg neillduol ar Gymru, Cymro, a Chym- raeg. Gyda chynydd addysg a chyfleusderau teithio, y mae cylch dyddordeb y Cymro yn eangu beunydd, ac o ganlyniad, rhaid i'r Wasg Gymreig, hyd y gall, gydfyned a gofynion yr .amserau. Dichon y dywed rhai o'n darllenwyr ein bod yn rhy uchelgeisiol ein bwriadau os meiddiwn dybio y geill ein dwy neu dair colofn ni gyrhaedd y safon a awgrymir. I hyn, ein tiateb yw: boed ein gofod fychan neu fawr, nid oes niw.ed mewn gosod i ni ein hunain uohel sicod,-gwell yw anelu at y lleuad na'r llwyn! Clywais ddweyd mai cynghor amlaf y duwiol Willianis o'r Wern i bobl ieuainc ydoedd—"Gos- o,lwch y nod yn ddigon uchel," a chwynai hyd ei fedd, er cymaint ei Iwydd a'i waith, am nas gOsodasai nod uchelach iddo ei hun. Kid yd- ym yn ddall i ddiffygion gwasg Cymru, ac nid 063 arnom ofn dweyd mai yn ei hwythnosolion y gwelir y dyffygio* hyny amlycaf. Nid ydym mor fi'o-1 a iihybio y gallwn ni yn y colofnau hyn eu hosgoi yn hollol. ond gwnawn ein gore* o fewn ein gofod a'n gallu. Dylai pob wythnos- olyn Cymreig amcanu at foddio chwaeth y mwyaf diwylliedig "yn yr oes oleu hon," a gwrthod lie i bobclifriaeth bersonol, a phob rhagfai-n sur, a phartiol sel. O'r ochr arall, os yw y wasg Gymreig yn tueddu at chwerwder, partiol set, a chyfyngdra gwelediad, y mae, hyd yn hyn, boed diolch i Dduw, yn rhydd o fud- reddu ac aflendid y newyddiaduron Saesnig a "gwa3g felen" Lloegr a'r Amerig. Iaith cref- ydd, lion, a barddas, yw iaith y Cymry, a chredv/n yn ddiysgog mai un o aehosion penaf glendid ein gwasg ydyw bodolaeth yr hen iaith. Pe ond ar y tir hwn yn unig, heb son am arall, dylem gyd-ymdrechu yn mhlaid ei ffyn- iant. Yn llaw Rhagluniaeth bu, ac y mae, yn un o biif offerynau dyTchafiad y Cymro mewa moes, a rhin, a lien. Bygythir ein gwlad fech- an, an\vyl, g3.n y gorlif Saesneg gyda'r oil a j gvnwys o ran mantais ac anfantais, diwylliant, a bydolrwydd, ac yn ei wyneb, gwiw cais i lenoriun a beirdd y sir am gymhorth i'w gwneyd mor ddefnyddiol a dyddorol ag sydd bosibl. Cawson. ein hunain, yn y gorphenol lawer o adloniaut ac adgyfnerthiad meddwl yn ngholof. nau Cymraeg y "Guardian," gan y fath lenor- ion a t)-;rdd a'r Parchn. J. S. Jones, Hwlffordd; E. J. Herbert, Mr. T. Evans, Mafonwy, Pen- dragon. Brynaeh, Blodionwy, Mr. H. Evans, a Kilmorey, yn nghyd ag eraill ellid eu henwi. Ar die gwladgarwch a chariad at yr hen iaith, a'r ffaith mai y "Guardian" o'r holl bapyrau gvhoeddir yn y sir yw yr unig un arlywa fwrdd i'r Cymry yn eu hiaith eu hunain, y gofynwn am gynyrchion gwybodaeth ac awen y bonedd- igion a enwasOIll yng nghyd ac eraill i'n "Hael- wyd." Yr ydym yn bwriadu eu gwneyd mor ddernyndiol ag sydd ddichonadwy mewn ini gofio mai rhaff deir-caine ein gwahanfodaeth fel cenedl ydyw ein hiaith, ein nodweddion, a'n Hen. Pan gollir y gyntaf (pell y bo'r dydd!) byddwn yn d'lotach o rywbeth drutach nag en- illiou aar. Nid awn mor bell a dweyd fod coll iaith yn golygu Ihvyr ddiflaniad nodweddion cen- edl, ond y mae yn help mawr i hyny. Pan ballo iaith pylir nodweddion gwahanfodol cenedl, os na chollir hwy yn llwyr, ac nid colled fechan, chwaith, ydyw colli y peth cyfrin hwnw cys- syllTiedig ag iaith sef yr hyn a alwn o ddiffyg enw gwell, yn 'sentiment.' Gwyddom fod y teunlad Cymrsig a'r oil a olyga, yn llifo yn gryf a gwresog yn nhueddau uchaf sir Benfre. Yr ydym yn hyf, gan hyny, i ofyn am gyfran 4) hono i gyfeiriad yr "Aelwyd," ac yr yclym yn hyderus, hefyd, nau gwrthodedig fydd ein ystyr lenyddol, hyny yw, drwy alw sylw ein darllen- wyr at fudiadau meddyliol yx oes, yn nghyd a nodiadau ar lyfrau ac awduron Cymreig a Saes- nig. Gwyddom pa mor flasua i'n chwaeth pob amser ydoedd "Kodiaday Llenyddol" Pendragon ac hyderwn na warafun efe i ninau a darllenwyr yr) "Aelwyd" yn y dyfodol ei gynyrchion gwerihfawr. Bydd croesaw genym i newyddion lleol pob ardal, a gobeithiwn na fydd neb yn ol o ddcfnyddio yr "Aelwyd" fel cyfrwng gwybod- aeth. adloniant a dyddordeb. Gyda dvmtino BLWYDDYX XEWYDD DDA i'n dariieu-.wr a'n gohebwyr, y gorphwyswn Yr eiddoch yn rhwymau serck at ein Hiaith a'n G\\ lad, GOLYGYDD YR "AELiWYD." Tonav. r 8, 1909. O.Y.-Bydd genym, yn y rhifyn nesaf," hys- bysiad o bwys a dyddordeb neullduol i ddar- Henwyr yr "Aelwi-cl.Gol.

HWLFFORDD.

- OLLA PODRIDA, KEU .Dipyn…

CONGL Y BEIRDD.

THE CHARLESWORTH MOTOR--I…

[No title]

Advertising

NEW SCHOOL FOR LLANWNDA.

STORM IN FISH GUARD BAY.

[No title]

Advertising

- HAVERFORDWSST IONS

THE VALUE OF REST.

Advertising