Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
Hide Articles List
13 articles on this Page
CYD-BWYLLGOR HEDDGEID-I WADOL…
News
Cite
Share
CYD-BWYLLGOR HEDDGEID- WADOL SIR DDINBYCH. DYDD Mawrth, cynnaliwyd cyfarfod arbenig 0 gyd-bwyllgor heddgeidwadol sir Ddinbych, yn Ngwi-ecs&m, dan lywvddiaeth y Cadben ,iffiti?-Boseawen, y cadeirydd, i ystyried rhagor ar y cynnygiad i chwanegu at neuadd y sir, Gwrecsam, ar gyfer heddlysoedd, llysoedd sirol, a brawdlysocdd chwarterol, Gohiriwyd y cwestiwn o gyfarfod rheolaidd diweddaf y cyd-bwyllgor. Cyflwynodd arolygydd y sir, Mr. Lloyd Williams, gynlluniau o lysdy newydd, &c.; ac wedi peth trafodaeth, pender- fynwyd fod yr arolygydd i gael ei gyfarwyddo i wneyd cynlluniau eraill i'w gosod ger bron y pwyllgor mewn cyfarfod dyfodol. Tybir y cyst y gwaith o helaethu y neuadd tua 1,000P.
CYNGHOR SIROL DINBYCH.I
News
Cite
Share
CYNGHOR SIROL DINBYCH. CYNNALIWYD cyfarfod chwarterol o'r cynghor uchod yn Rhuthyn, ddydd Gwener, dan lywydd- iaeth Mr. Samuel Moss, pryd yr oedd yr aelodau canlynol yu bresennol:— Syr Watkin W. Wynn (isgadeirydd), Syr R. Egerton, Milwriad Sandbach, Parch. H. Rawson Williams (Bettwsycoed), Mri. J. W. Luinley, John Roberta (fferm Plas Heaton), R. Saxon Gregson Ellis (Rhuthyn), R. K. Benson (Gwrec- sam), T. A. Wynne Edwards (Dinbycb), Pryce E. Story (Dinbycb), Thomas Jones (Plas Coch), A. Foulkes (Abergele), J. McMurray (Henllan), William Jones (Llannefydd), W. G. Rigby (Llan. dyrnog), John Roberts (Colwyn Bay), Thomas Parry (Colwyn Bay), David Roberts (Glyndyfr- dwy), William Davies (Llysfasi), William Thom- as (Gwrecsam), Dr. J. Jenkins (Rhutbyn), J. M. Hughes (Llanblodwel), Thomas Thomas (Tj Nant), John Moriis (Llangollen), W. E. Samuel Gwrecsam), Thomas Morris (Llanrhaiadryn- Mochnant), Robert Ellis (Llanrhaiadr-yn-Nginm- meircb), W. TrevorjParkins (Gwrecsam), J. H. Darby (Brymbo) R.4H. V. Kyrke (Gwreesam), J. Coster Edwards (Llangollen), W. C. Hughes (Rhiwabon), Simon Jones (Gwrecsam), Edwin Bellis, William Ellis, Thomas Ingman, a T. J. Rooper. Darllenwyd ymddibeurad am absennoldeb oddi wrth amryw aelodau. Codi Cyflogau. Teimlid eryn ddyddordeb yn y pwngc o godi cyflog ts-arolygydd y ffyrdd, ac arolygydd pwys- au a mesurau Gwrecsam. Ymddengys hefyd fod peth camddealltwriaeth o berthynas i'r hyn a wnaed yn nghyfatfod diweddaf y cynghor, gan fod rhai aelodau yn meddwl fod y penderfyniad i godi 50p. ar gyflog yr is-arolygydd wedi ei gario. 0 dan yr argraph hon, yr oedd Mr. Pryce E. Story, Dinbycb, wedi rhoddi rhybudd y byddai iddo gyiariyg I fod y pendeifyniad a basiwyd yn nghyfarfod y cynghor yn Ngwrecsam, ar y cyntaf o Awst, yn cycnyddu y awm o 50p. yn ngyflog îs- arolygydd y ffyrdd yn nosbarth Gwrecsam, yn cael ei ddiddymu, pe rheolid fod y eyfryw ben- derfyniad yn cael ei basio.' Rheolodd y cadeirydd, fodd bvnag, nad oedd y penderfyniad ddim wedi ei basio, fel nad oedd augen am i Mr. Story gynnyg' ei bender- fyniad. 0 ganlyniad, eyunygiodd Syr R. E. Egerton fod argymmhelliadau pwyllgor y cyllid, yn cyn- nwys codiad o 50p. ar gyflog Mr. Ellis W. Jones (arolygydd dosbarth Gwrecsam), a chodiad o 25p. ar gyflog Mr. Noah Price (arolygydd pwysau a mesurau yn y dosbartb), yn cael eu cadarnhau. Mr. C. K. Benson, Gwrecsam, a eiliodd y cyn- nygiad. Mr. Wynne Edwards, wrth siarad yn erbyn codi y cyflogau, a ddywedodd na ddylesid ar gyf- rif yn y byd gaiio argymmhelliadau y pwyllgor allan. Nid oedd ganddo ef yr un sill i'w ddy- weyd yn erbyn y naill swyddog na'r llall. Gwýr rhagorol oeddynt, yn ei farn ef ond nid yn awr oedd yr adeg i gynghor a gynnrychiolai amaeth- wyr i godi cyflogau ei swyddogion. Arferai efe edrych dros hysbysiadau am swyddogion cyffelyb mewn rhanau eraill o'r Deyroas Gyfunol, a chaffai yr ;amrywiai y eyflogant thwngil 100p. a 150p.; ac mewn rhai achosion, caniateid swm at gadw ceffyl. Yr oedd cyflogau eu swyddogion hwy, fodd bynag, gryn lawer yn naveh na byn. Heb law hyny, nid teg y barnai efe godi cyflog un arolygydd heb godi cyflog y llall, hefyd. Y cadeirydd a ofynodd a ddymunai unrhyw un gynnyg gwelliant ar adroddiad y pwyllgor o berthynas i'r mater yma. Syr W. W. Wynn a gynnygiodd fod codiad ar gyflog Mr. Ellis W. Jone9 i fod yn 25p. yn lie 50p. Barnai efe fod 50p. yn godiad gormodol ar unwaith, gan fod y swm yn un rhan o bedair o'r boll gyflog. Barnai efe tod y cyflog presennol braidd yn isel am y gwaitb a wneid, yn arbenig gan y eyflawnid y gwaith hwnw yn y modd mwyaf effeithiol gan y swyddog. Fodd bynag, yr oedd codiad o 50p. yn ormod, yn ei farn ef. Mr. Thomas Mortis a eiliodd y gwelliant. Syr Robert Egerton a ddywedodd ei fod ef yn berffaith baiod i dderbyn gwelliant Syr Watkin Wynn. Y eadeirydd Oud ni ellwch chwi ddim newid adroddiad eieh pwyHgor eich bon.' Mr. Benson a ddywedodd mai prin yr oedd yn deg gosod jwyddogion dwyrain y sir yn erbyn rhai ei gorllewin wrth henderfynu y cwestiwn hwn. Cymmerasai efe ddyddordeb mawr yn nyledswyddau arolygwr y pwysan a'r mesnrau, ac eiddo arolygydd dosbarth dwyrain y sir, ac yr oedd efe yn gryf o'r farn fod y cyflog pres- ennol yn anuigonol am y gwaith a wneid. Aethai y pwyllgor yn dnvyadl i'r mater, a phenderfynasant yn unfryd fod y swyddog- ion yn haeddu y codiadau a gynnygid. Yr oedd yr arolygydd (Mr. E. W. Jones) wedi gosod ffigyrau ger eu bron oedd yn dangos yn glir nad oedd ei gyflog, wedi y talai yr holl dreuliau, namyn 70p. yn v flwyddyn. Dylaeent gadw mewn cftf tod miloedd o bunnau bob blwyddyn yn pasio drwy ddwylaw yr arolygyd*, ac i swyddog i'r cynghor a ofalai am y draul bon, yr oedd lOp. yn y flwyddyn fel cyflog yn llawer rhy isel. Yr oedd ganddo ef (Mr. Benson) ys- torwyr yn ei wasanaeth i'r rhai y talai uwch cyflog nag a dalai y cynghor i wr o broffesiwn. Cefnogai efe argymmhelliad y pwyllgor yn mblaid codiad o 50p.. Mr. Rooper a alwodd sylw at y ffaith fod Mr. Ellis W. Jones Did yn unig yn gwneyd ei waith ei bun, eithr hefyd y mae yn gwneu. thur llawer o'r gwaith a ddylasai arolygydd y sir (Mr. Lloyd Williams) ei wneyd. Ed- rycbai ar ol y prif.ffyrdd a mynedfeydd pont- ydd, ac adgyweiriai a chadwai y cyfryw bontydd mewn cywair. Nid oedd hyny yn waith arferol i Is-arolygydd. Ac edrych ar y mater mewn goleuni arall, aeth swm o 2,150p. drwy ei ddwy. law y llynedd yn gyflogau i weithwyr dan eiofal, peth na chaniateid byth mo hono mewn siroedd eraill. Ar ol dyfyno ffigyrau eraill, aeth Mr. Roop- er rbagddo i ddyweyd nad oedd yr hyn a gynnyg- id godi ond codiad bychan iawn i ddyn oedd yn gwneyd eyminaint o, ddyledowyddau fel arolyg- ydd medrus ar ffyrdd, &o. Gallai arolygydd da gynnilo o bump i chwe thynell o ddefnydd trwtio ffordd am bob milldir drwy-arolygineth fanwl a fofalus, a chai y air fwy M'i had-dalu yngljn & Mr. Jones oe cadarnheid y codiad ar ei gyaog. I Nid oedd gan y cynghor bawl i fod yn wastraffns, ond yr oedd raid iddi fod yn deg tuag at ei swyddogion. Mr. Lumley a ddywedodd nas gallai efe gyttuino a'r hyn a ddywedodd Mr. Benson sef, nad oedd cyflog yr arolygydd namyn 70p. yn y flwyddyn. Nid oedd dichon fod y mynegiad hwnw yn gywir. Talai y cynghor iddo 200p. yn y flwydd- yn ac wrth fynegiad oedd ganddo ef (Mr. Lum- ley), yn ei law, yr oedd cyflog yr arolygydd, wedi talu pob treuliau, yn 87p. A chaniatau fod y mynegiad yn gvwir, nid oedd swm y cyflog ddim yn cyttuno & ffigyrau Mr. Benson. Eithr efe a ammheuai gywirdeb y mynegiad a gyflwyn- wyd i'r pwyllgor.gan yr arolygydd. Yn ol y mynegiad hwn, talai yr arolygydd 22p. 10s. yn rhent a threthi. Gosodai y cynghor iddo ef dy am ardreth o lOp. yn y flwyddyn; felly, meth- ai efe a deall sut v gwnai allan fod ei ardreth a'i drethi yn 22p. 10s. Cyfeiriai Mr. Jones hefyd at y cyfrifoldeb gyferbyn a chyfrifoldeb (yr arol ygydd dros orllewin y sir (Mr. Adams), a defn- yddiai hyny fel rheswm yn mhlaid codi ei gyflog; eithr ystyriai ef (Mr. Lumley) fod cyfrifoldeb Mr. Adams gymmaint a chyfrifoldeb Mr. Jones (clywcb, clywcb), os nad mwy. Yr oedd gan Mr. Adams ddarn llawer mwy o'r sir i ofalu am dano nag oedd gan Mr. Jones, ac yr oedd llawer gwell cyfleusderau i deithio yn nwyrain nag yn ngorllewin y sir. Nid anrhydeddus o beth o gwbl ydoedd ar yr arolygydd Jones wneyd y gymmhatiaeth rhyngddo efe a Mr. Adams fel riieswm o blaid codi ei gyflog ef. Y cadeirydd:—' Os ydych yn hbrio mynegiad yr arolygydd, fe ddylai gael cyfle i w broh. Mr. Lumley a ddywedodd ei fod yn hcrio oy. wirdeb y mynegiad, ab yn rueddwl y dylid troi y mater yn ol o dan sylw y pwyllgor, fel y gellid chwilio iddo. Ar yr un pryd, efe a obeithiai na fyddai i'r cynghor ddim codi cyflog yr arolygydd; neu os gwneid hyny, fod y ddau arolygydd i gael eu gosod ar yr un tir. Mr. W. C. Hughes a ddywedodd fod ganddo et achlysur i drafaelio cryn lawer ar hyd y ffyrdd yn nosbarth Gwrecsam, a chaffai ef fod Mr. Jones bob amser yn gwneyd ei oreo dros y sir. Ag ystyried v modd effeitbiol y gwnai Mr. Jones ei waith, ystyriai ef fod ei gyflog yn rhy fychan, a bod ganddo hawl i'r codiad. Mr. W. E. Samuel a ddywedodd mai yr union swm a dderbyniai Mr. Jones fel cyflog ydoedd 70p. Yr oedd efe yn swyddog rhagorol, a dv. tasai, mewn tegwch, gaet ta) rhesymo). Yr oedd cyflog mor fychan a 70p. i ddyn y buasai miloedd 0 (bunnau drwy ei ddwylaw yn gymmhelliad i anonestrwydd. Syr W. W. Wynn a ddywedodd fod yn rhaid iddynt gymmeryd pob arolygwr ynol ei deilyng- dod, ac nid gosod un yn erbyn y llall. Nid oedd ond un o'r arolygwyr wedi cael ei gymmeradwyo i dderbyn codiad yn ei gyflog; ond nid oedd hyny yn rheswm yn y byd dros i'r llall gael codi ei gyflog hefyd. Nis gallai efe gyttnno &r yrare- symiad y dylid codi cyflog y swyddog am fod awm mawr o arian yn pasio drwy ei ddwylaw. Gellid dwyn yr ymresymiad hwn yn mlaen o blaid codi cyflog eraill o swyddogion y cynghor. Heb law hyny, darfu i'r dyn dderbyn y swydd, a'i holl gyfrifoldeb, dan bennodwyd ef iddi. Mr. Wynne Edwards a sylwoddfod cryn lawer wedi ei ddyweyd ar a oedd yr arolygydd yn cael oyflog priodol ai peidio. Ntd ymddangosai iddo ef mai dyna oedd y gwir gwestiwn mewn dadl, eithr pe gadawai yr arolygydd ei swydd, oni fyddai ddichon i'r cynghor gael 50 eraill yn barod i gymmeryd y swydd am yr un cyflog, a pnron ,vn Ilawn mor ragorol swyddogion ag yntau? Wrth y safon yna y dylesid penderfynu y cwest- iwn hwn. Os caniateid y codiad, daliai efe y byddent yn talu mwy i'w harolygydd nag ydoedd yn angenrheidiol iddynt. Wrth der. fynu, dymunai ofyn i'r arolygydd ai opid oedd yn ffaith ei fod ef yn cyflogi pengweithiwr yn Llanrhaiadr-yn-Mochnant, ac nad oedd y dyn hwnw yn gwneyd dim ond edrych ar ol y dynion eraill? Yn ngorllewin y sir, nid oedd ganddynt ddim o'r fath. Mr. Thomas Morris a ddywedodd fod y dyn o Lanrhaiadr-yn-Mochnant yn gweithio y rhan fwyaf o'i amser. Mr. Mc'Murray a gynnygiodd fod arolygwyr y ddau ddosbarth yn cael codiad yn en cyflogau; eithr wrth reol y cadeirydd, yr oedd y cynnygiad allan o drefn. Yna, aeth y cadeirydd rhagddo i roi y mater i lais y cyfarfod-y cynnygiad gwreiddiol oedd fod 50p. i'w godi ar y cyflog, a'r gwelliant nad oedd y codiad i fod ddim ond 25p. Mr. Story; a hawliodd gael llais agored ar y mater, gan y cymmerai y sir ddyddordeb mawr yn y peth. Cefnogai pum aelod gais Mr. Story, a chyttun- wyd i bleidebu yn agored. Mr. Mc'Murray' Sut y caniateir i Mr. Story gynnyg gwelliant, tra y gwrthodwch adael i mi wneyd hyny? (chwerthin).' Yna, ymranodd y cynghor, gyda'r canlyniad fod 31 o blaid y gwelliant, gyferbyn a 9 dros y cynnygiad gwreiddiol. Wele restr yr ymran- iad:— o blaid y gwelliant (codiad o 25p.)Syr W. 0 blaid y gwelliani, W. Wynn, Mri. Thomas Jones (Plas Coch), W. Thomas, T. Parry, Griffith Bosoawen, J. R. Jen. kins, W. Jones, J. M. Hughes, J. Roberts (Col- wyn Bay), T. Jones, F. E. Rooper, John Morris, D. Roberts, Milwriad Sandbach, Thomas Morris, W, G. Rigby, Robert Ellis, Henry Williams, W. Davies, A. Ffoulkes, John Roberts (Plas Heaton), J. H. Darby, P. H. V. Kyrke, J. C. Edwards, W. Saxon Gregson Ellis, C. K. Benson, W. E. Samuel, a Syr Robert Egerton-31. Yn erbyn.-Mri. Samuel Moss, T. Ingam, Simon Jones, J. W. Lumley, Henry Rawson Williams, Edwin Bellis, William Ellis, P. E. Story, a J. McMorray-S. Yna, rhoddwyd y gwelliant i fyny fel cyn- nygiad. Mr. Story a gynnygiodd fod yr holl fater i gael ei droi yn ol i bwyllgor y cyllid, am nad ystyr. iwyd y mater yn ddigonol, 8C am nad oedd saith yn bresennol yn y cyfarfod i'r pwyllgor a wnaeth yr argymmhelliad, dim un o'r saith yn dyfod o orllewin y sir. Dr. J. R. Jenkins, Rhuthyii, a eiliodd y gwell- iant. Ni phleidiodd ond 12 o'r aelodaa y gwelliant; ac felly, fe'i collwyd. Yn ddilynol, ymranwyd drachefn (yn agored ar hawl Mr. Wynne Edwards), ar y cynnygiad sef, fod cyflog yr arolygydd yn cael ei godi 25p., a chariwyd y cynnygiad gyda 26 o bleidleisiau gyferbyn a 16. Pleidleisiwvd fel v canlyn :— 0 blaid.—Mri. Samuel Moss, Simon Jones, Thomas Jones, William Thomas, Thomas Parry, Syr W. W. Wynn, Syr Robert Egerton, Griffith Bosoawen, J. R. Jenkins, J. M. Hughes, Thomas Thomas, F. E. Rooper, David Roberts, John Morris, Milwriad Sand bach, Thomas Morris, J. H. Darby, R. H. V. Kyrke, J. C. Edwards, W. C. Hughes, Edwin Bellis, W. T. Parkins, J. Me'Rurray, Thomas Ingam, W. E. Samuel, R. C. Benson.-26. Yn erbyn.—J. Lumley, William Jones, John Roberts, Henry Rawson Williams, W. G. Rigby, Robert Ellis, Henry Williams, William Davies, A. Foulkes, John Roberts (Colwyn Bay), Wil- liam Ellis, Edwin Bellis, P. E. Story, W. S. G. Ellis.-14. Cyflog Arolygydd y Pwysau a'r Mesurau. Y mater nesaf a ddygwyo yu miaen oeaa yr I argymmhelliad a wnai pwyllgor y cyllid, ar fod I 25p. i'w chwanegu at gyflog arolygydd y pwysan a'r mesurau. Mr. Pryce E. Story a gynnygiodd nad oedd yr argymmhelliad i gael ei dderbyn. Yn ei farn ef, yr oedd y cynghor wedi myned yn ddigon pell drwy godi cyflog yr arolygydd arall, a dylid ym- attal yn awr. Os caniateid y cais hwn, methai efe weled beth oedd i rwystro y swyddogion eraill i ddyfod yn mlaen a hawlio codiadau cyffelyb. Ni fyddai yn syndod yd y byd ganddo ef pe gofynai y clerc am godiad yn foan (chwerthin). Y clerc: Ni fyddai yn syndod yn y byd, syr (chwerthin). Mr. Story a ddywedodd fod y boblogaeth yn ngorllewin y sir, i raddau mawr, yn dibynu ar amaethyddiaeth; a methent ddeall sut yr oedd swyddogion a bennodwyd mor ddiweddar, gan daraw bargen &'r cynghor, yn dyfod yn miaen l hawlio codiad yn eu cyflogau. Yn ei farn ef, yr oedd y swyddog hwn yn derbyn digon o dIU; ac am hyny, fe bleidleisiai ef yn erbyn y codiad. Mr. Lumley a obeitbiai na chaniateid mo r coa- iad. Ownai arolygyddion y naill ran a'r llall o'r air yr un swm o waith; ae os codid cyflog un, fe ddylid, befyd, godi cyflog y llall. Yr oedd yn ddrwg ganddo ef weled na tedrai y cynghor gyt- tuno ar rhyw gwrs unffurf o berthynas i gytlogau swyddogion yn nwy ran y sir; ac yn absennoldeo y cyfryw unffurflaeth, byddai i anhawsderau bar. hau i godi. Ar ol rhoddi ystyriaeth ofalus i'r cwestiwn hwn, yr oedd pwyllgor gorllewin y wedi penderfynu y treuliau yr elai y swyddogiori iddynt wrth deithio; n barnai ef mai hwn. oedd y ewrf; a ddylasid ei gy>: uieryd yn gvffredinol, yn hytrach na chynnyddu y cyflogau. Eithr pa gwis bynag a gymmerid yn yr achos yma, barnai efe y dylasid ymddwyn yr un fath at arolygwyr y ddwy ran o'r air. Mr. Griffith-Boscawen a ddywedodd fod yn syn ganddo glywed Mr. Lumley yu dyweyd fod gwaith yr arolygwyr yr un fath yn y ddau ben i'r sir. Yr oedd y gwaith yn nosbarth Gwrecsam yn holloi wahanol i'r gwaith yn nosbarth Dinbych, o her- wydd y boblogaeth fwy oedd yn y cyntaf, a'r peiriannau gwahanol a ddefnyddid yno. Mr. McMurray a ddywedodd ei fod yn deall fod yn rhaid i'r arolygwyr gyssegrn eu holl amser at waith eu swyddau. Am hyny, fe ddylasent gael yr un gyflog; a chynnygiai ef fod 10p. w chwanegu at gyflog y ddau. Ni eiliwyd mo'r cynnygiad hwn. d,,Ied.wyddau Dr. Jenkins a ddywedodd fod dyledswyddau arolygydd pwysau a mesurau yn dyfod yn bur ysgeifn ar ol peth amser; ac yn yr ystyr hon, gwahaniaetbai ei ddyledswyddau yn fawr oddi wtth eiddo arolygydd y ffyrdd. Pan fyddai arol- ygydd pwysau a mesurau wedi treulio tair nen bedair blynedd yn ei swydd, ae wedi profl a stampio y pwysau, deuai ei ddyledswyddau yn dra ysgeifn. Nid oedd y dyddian hyn yn ddydd. iau i chwanegu at faich y trethdalwyr, y rhai oedd yn gwelthio yn Ilawer caletach na'r awydd- ogion nyzl. Yn ddilynol, ymranwyd, a gwrthodwyd y pen- derfyniad i godi yn nghyflog yr arolygwr drwy fwyafrif o 24ain yn erbyn 16eg. Cynnyg Codi Cyflog y Prifgwnstabl. Cymmeradwyai pwyllgor y cyllid, hefyd, tod y swm o 9p. 10s. yn oael ei chwanega at gyflog y prifgwnstabl, am ei wasanaeth o dan Ddeddf yr Heintiau (Anifeiliaid). Mr. McMurray a gynnygiodd fod y swm i gael ei ganiatau. Y cadeirydd a ddywedai fod yn ddrwg ganddo ef tod y codiad hwn wedi ei gynnyg, ac yr oedd yn ei wrthwynebu oddi ar egwyddor. Yr oedd y 9p. 10s. o dan sylw yn golygu y swm a dalasai y prifgwnstabl i'r Police Superanualion Fund, yr hon a ddarparai flwy(ld-dil i'r Ucbgadben Lead- better pan ymneillduai. Egwyddor ddrwg iawn ydoedd i gyflogwr unrhyw berson dalu tftl yswir- iant y person hwnw; a thyna beth oedd y cyn- nygiad hwn, yn ymarferol. Ni chlywodd efe erioed am yr un cyflogwr yn talu til yswiriant y cyflogedig i'r gronfa o'r hon y cawsai yr olaf ei flinydd-dftl. Nid cwestiwn o swm, eithr mater o egwyddor ydoedd; ac yr oedd yr egwyddor mor ddrwg ag yr oedd ddichon iddi fod. Mr. Story a farnai na ddylesid galw ar y sir i godi yn nghyflog y prifgwnstabl, yr hwn oedd newydd chwanegu cost dan heddgeidwad yn nwyrain y sir, tra y gallasai yn hawdd eu cael o orllewin y air, lie nad oedd y bobl mor afreolus. Yn ddilynol, gorchfygwyd yr argymmhelliad hwn, drwy fwyafrif o 24ain yn erbyn 13eg. Pleidleisiwyd fel y canlyn :-0 blaid y codiad- Syr Robert Egerton, y Meistri Simon Jones, William Thomas, Griffith-Boscawen, F. E. Rooper, David Roberts, John Morris, J. H. Darby, R. H. V. Kyrke, J. C. Edwards, Edwin Bellis W. T. Parkins, William Ellis, Thomas Ingam, C. K. Benson, a W. E. Samuel-16. Yn erbyn—Y Meietri Samuel Moss, Thomas Jones, Thomas Parry, J. W. Lumley, J. R. Jenkins, William Jones, J. M. Hughes, John Roberts (Colwyn Bay), Thomas Thomas, Henry Rawson Williams, y Milwriad Sandbacb, Thomas Morris, W. G. Rigby, Robert Ellis, Henry Wil. liams, William Davies, A. Foulkes, John Roberts (Plas Heaton Farm), W. C. Hughes, P. E. Story, T. A. Wynne Edwards, J. McMurray, a W. S. G. Ellis-24ain. Byrddau Gwarchodwyr A/onyad. Pennodwyd yr aelodau canlynol i gynnryehioli y cynghor ar y gwahanol fyrddau gwarchod- wyr:- Yr Hafren, a'i Changhenau.-Y Meistri J. M. Hughes a J. Parry Hamer. Y Ddyfrdwy, a'i Changhenau.-Y Meistri J. Coster Edwards, Edwin Bellis, Henry Dennis, R. H. V. Kyrke, a Christmas Jones. Y Qlwyd, a'i Changhenau.- Y Meistri Thomas Gee, P. E. Story, Ellis Williams, John Roberts, William Davies, Evan Roberts, Owen Williams, T. A. Wynne Edwards, a'r Milwriad Charles S. Mainwaring. Y Gonwy, a'i Changhenau.-Y Meistri David Jones, Roger Hughes, John Davies, O. Isgoed Jones, a John Blackwall. Y Ddyfrdwy.—Mr. J. Coster Edwards, Rhiw- abon. Pennodwyd y Milwriad Mainwaring yn un o lywiawdwyr Coleg y Gogledd, Bangor. Dewiswyd y rhai canlynol yn aelodau o Bwyll- gor Ymwelwyr GwaUgofdy siroedd y Gogledd:- Dr. J. R. Jenkins, Mr. J. W. Lumley, a Mr. W. E. Samuel. Ar awgrymiad Mr. Lumlpy, penderfynodd y cynghor etto alw sylw yr amaethwyr at y ffaith y gallent gael dadansoddi porthiant a gwrteithiau, a'r sir i ddwyn rhan o'r draul, o dan Ddeddf y Porthiannau a'r Gwrteithiau. Ceisiai Cynghor Sir Feirionydd gan y cynghor bennodi aelodau ar gyd.bwyllgor o Feirionydd a Chaernarfon, i ystyried y pwngc o wneyd ffordd haiarn ysgafn hyd ffordd Caergybi, o Gorwen i Fettws.y.coed; a phennodwyd y rhai a ganlyn Y Milwriad Mainwaring; Mr. J. H. Darby; Mr. Rawson Williams; Mr. John Thomas, Llangwm; a Mr. T. A. Wynne Edwards. Mr. Thomas Parry, Colwyn Bay, a gynnygiodd, ac eiliodd Mr. John Roberts, fod y penderfyniad a basiodd y cynghor yn gwneyd Colwyn Bay yn gyfrifol am bob taliadau dros 1,100p. am bont Groes yn Eirias, yr hon a orphenwyd yn ddiwedd. ar, yn cael ei ddiddymn, a bod y cynghor yn talu rhan, o leiaf, o'r draul chwanegol. Mr. Roberts Ni phleidleisiodd ond Mr. Parry a Mr. Roberts droa y cynDygiad.
I CYMDEITHAS AMAETHYDDOL I…
News
Cite
Share
I CYMDEITHAS AMAETHYDDOL SIR DREFALDWYN. CYNNALIWYD cyfarfod lliosog o amaethwyr a meistradoedd tir yn Nhrallwm ddydd Llun di. weddat, i ystyried y cwestiwn o adfywio Cym. deithas Amaetbyddol sir Drefaldwyn, yr hon a adawyd i 'fyn'd i'r gwellt,' fel y dywedir, rhyw bymtheng mlynedd yn ol. Llywyddidgan Syr Watkin Williams Wynn; ac yn mhlith y rhai oedd yn bresennol, yr oedd Iarll Powys, Mr. A. C. Humphreys Owen, A.s.; yr Ucbgadben Pryce Jones, A.S.; y Mri. Marshall Dugdale, Llwyn Richard Jones, Pertheirin; G. D. Harrison, Trallwm; W. Forrester Addie, Trallwm; y Milwriad Harrison, Tretaldwyn; y Cadben Mytton, Garth; y Cadben Hayhurst France, y Mri. G. Kempster, J. L. Smith, R. E. Jones, E. H. Morris, R. W. Hughes, Hugh Lewis (Drefnewydd), ac eraill. Darllenwyd Ilythyrau yn cydymdeimlo S'r amcan oddi wrth amryw bersonau a fethasant fod yn bresennol yn y cyfarfod. Sylwodd y cadeirydd, wrth agor y gweithred iadau, y rhaid fod perffaith unfrydedd yn mhlith amaethwyr a thirfeddiannwyr y sir wrth bender- fynu y fath fater. Cynnygiodd Iarll Eowys: 'Mai dymunol a fydl?a?i n adsefydlu hen Gymdeithas Amaethyddol sir Drefaldwyn.' Dywedai ei fod yn sicr y rhoddai tirfeddiannwyr y sir bob cefnogaeth i'r symmudiad. Mr. Roberts, Ystum Colwyn, a eiliodd y cyn. nygiad. Mr. Richard Jones, Pertheirin, a gefnogodd y cynnygiad; ac awgrymodd fod cyfarfodydd o'r gymdeithas i gael eu cynnal mewn gwahanol ranau o'r sir, a bod y gwahanol ardaloedd i gael eu dos. barthu. Oni wneyd byny, byddai i'r gymdeitbas ddirywio yn rhyw symmudiad cyfyngedig i Ddyffryn yr Hafren yn unig. Yr Uchgadben Pryce Jones, A.s., a gefnogai y symmudiad yn gryf; ond barnai y byddai yn ddoeth cynnal yr arddangosta bob dwy nynedd. Mr. Humphreys-Owen, A.s., a farnai eu bod oil yn cydweled y byddai i adfywiad v gymdeithas fod o les i amaethyddiaeth yn y sir (cymmerad- wyaeth). Dylasai yr arddangosfa fod o natur drwyadl ymarferol, fel ag i galonogi pob math o anturiaeth a gwaith amaethyddol drwy yr holl sir. Cariwyd y penderfyniad yn unfrydol; a phen- derfynwyd cynnal arddangosfa yn y flwyddyn 1896, a bod yr oil oedd yn bresennol i fod yn bwyllgor darpariadol. Terfynwyd y cyfarfod trwy basio pleidlais o ddiolohgarwcb i'r cadeirydd.
B O D F F A R I. I
News
Cite
Share
B O D F F A R I. Cynghor Ptwyl. Cynnaliwyd cyfarfod o'r cynghor uchod ar y 18fed cyfisol, dan lywydd- iaeth Mr. Enos Jones, pryd yr oedd yr holl gyng- horwyr, ac eithrio y Milwriad Mesham, yn bres- ennol. Darllenwyd oofnodion y cyfarfod cynt, a chadarnhawyd hwy. Cymmerwyd y ceisiadau am randiroedd dan ystyriaeth. Nid oedd ond un yn gwneyd cais, a phenderfynodd y cynghor ymwneyd â'r cais yn y dyfodol. Bu y pwngc o dalu seilrent am gwt yr elorgerbyd hefyd dan sylw. Penderfynwyd, yr un modd ag y gwnaed yn mhlwyf Aberchwiler, talu 2s. yn y flwyddyn, os cyttunal y ficer.
! RHUTHYN. I
News
Cite
Share
RHUTHYN. I Yr Etholiad Bwrdeisiol.-Enwyd ymgeiswyr ar gyfer y pedair sedd sydd yn myned yn wag yn Nghynghor y Dref ddydd Iau diweddaf. Y pedwar aelod sydd yn ymneillduo ydyw y Mri. W. T. Rouw (C.), T. P. Roberts (C.), G. F. Byford (C.), a J. Roberts (R.), ac y maent oil yn ceisio ail etholiad. Enwyd y rhai canlynol hefyd fel ymgeiswyr:—Mr. J. Probert (C.), Mr. J. Jones, Maesllan (R ); a Mr. T. J. Roberts, fferyllydd (R.).
BANGOR. I
News
Cite
Share
BANGOR. I Htddlys. Dydd Mawrth, ger bron Mr. T. Lewis, ac ynadon eraill. Meddwdod, -Joseph Davies a gyhuddid o fod yn feddw ao afreolus mewn t, trwyddedig. Caf- wyd ef yn euog, a dirwywyd ef i swllt a'r costau. John Jones a gyhuddid o drosedd cyffelyb, a dirwywyd yntau i swllt a'r costau. lori'r Heddwch.— William Edwards a Frank Coppack a gyhuddwyd gan yr heddgeidwaid o dori'r heddwch. Rhwymwyd hwy i gadw'r heddweh am chwech mis. Arfer laith Aflan.-Mary Thomas a gyhuddid o arfer iaith anweddus ac aflao. Dirwywyd hi i 2s. 6c., a'r costau. Gkr dwy Wraig.-Thomas Williams, llafurwr, Glanadda, a gyhuddid o amlwreiciaetb. Erlynid gan yr Arolygydd Harris, ac amddiffynai Mr. Thornton Jones. Traddodwyd y diffynydi i sefyll ei brawf yn y frawdlys, eithr gollyngwyd ef yn rhydd ar ei waith yn ymrwymo am lOp. ei hun, ae yn cael meichiau arall am 20p.
LLANLLWNI. I
News
Cite
Share
LLANLLWNI. I Y Cynghor Plwyfol.-Nos Lun, Hydref 14eg, cynnaliwyd cyfarfod o'r cynghor uchod, yn ysgoldy y plwyf, pryd yr oedd yr oil o'r aelod- au yn bresennol, er dyfod i benderfyniad parthed y ceisiadau a ddaw i fewn am dir. Darllenodd y cadeirydd, Mr. D. H. James, lvthyr, yr hwn a dderbyniodd oddi wrth Fwrdd Llywodraeth Leol, yn dadgan fod gan bob llafurwr a chrefftwr hawl i gael dernyn o dir o dan y gyfraith newydd. Penderfynwyd fod y mater i gael ei anfon i gynghor y sir, yr bfrtnsydd i weithredu yn mhellach. Dygodd Mr. Evan Williams, Maesnoni, dan sylw y dylid cael pont dros yr afon Ceiliog, ger Pen-y- graig, a'r hyn y cydsyniwyd yn ddiwrthwyn- ebiad; a phaswyd penderfyniad i appelio at y Cynghor Dosbarth, yr hwn sydd i weithredu yn mliellach gyda'r achos.'
CROESOSWALLT. I
News
Cite
Share
CROESOSWALLT. SWPER RHYDDFRYDIG. Nos Wener, y 18fed, rhoddwyd derbyniad i Mr. S. Parry Jones, llywydd Cymdeithas Ryddfrydig Croesoswallt, a Miss Parry Jones, mewn swper a drefnwyd i gydnabod eu gwasanaeth i'r achos Rhyddfrydig yn yr etholiad diweddaf. Llywydd. id gan y maer (Mr. George Perks); ac yr oedd y Cadben Owen Thomas, yr ysgeisydd Rhyddfryd. ig dros y dosbarth, a Mr. Owen Owen, yn bresen. nol. Wrth gynnyg I llwyddiaut i'r achos Rhydd- frydig,' dywedodd y cadeirydd ei fod yn credu fod methiant y blaid Ryddfrydig yn y wiad yn ddyledus yn benaf i ddiffyg trefnu. Teimlai efe yn fwy o hyd y dylasai trefniadaeth fyned o'r cylch 11011011eol i'r cylch censdlaethol yn hytrach nag o'r cylch cenedlaethol i'r lleol. Os oeddynt i gael trefniadaeth effeithiol, yr oedd raid iddynt ofalu ei fod yn nerth a bywyd o'rgymmydogaeth y plwyf, neu yr ardal (cymmeradwyaeth). Y Cadben Thomas, yr hwn a gafodd dderbyn- byniad brwd, a ddywedodd ei fod yn sefyll yao ger eu bron fel ymgeisydd gorchfygedig. Yr oedd yn ddrwg ganddo am byny, ond gobeithiai nad oedd wedi ei waradwyddo, ac yn sier nid oedd wedi ei wangaloni (cymmeradwyaeth). Gweitbiasant vn dda; ond os rhoddai pawb ei ysgwydd wrth yr olwyn, credai ef y gorchfygent y tro nesaf (cymmeradwyaeth). Yr oedd yo dda ganddo ef fod yno i anrhydeddu Mr. a Mrs. Parry Jones, o herwydd pe buasai ganddynt ddau gyffelyb yn mhob plwyf, ni fuasai Mr. Stanley Leighton yn aelod dros Groesoswallt heddyw (cymmeradwyaeth). Ni fyddai iddo ef byth anghofio caredigrwydd Rhyddfrydwyr Croesoswallt; yr oedd efe wedi brenddwydio am danynt byth er yr etholiad, a bu yn breuddwydio am y dyfodol hefyd (chwerthin a chymmeradwy. aetb). Wrth atteb, dywedodd Mr. Parry Jones ei fod yn credu y byddai petbau yn dra gwahanol yn yr etholiad nesaf os byddai iddynt oil weithio a pherfleithio eu trefniadaeth.
GOLYGFEYDD GWARTHUS MEWN MYNWENT…
News
Cite
Share
GOLYGFEYDD GWARTHUS MEWN MYNWENT GYMREIG. DAW hanes am olygfeydd gwarthos yn mhentref Penderyn, sir F 'p,? ch,,?. ig? Ymddengys fod y ,w.ith..dg,weirio yr eglwys yn gofyn cloddio yn y fynwent o gwmpas; a'r modd creulawn y mae y gweithwyr yn ymddwyn tuag at weddillion y meirw sydd wedi deffro dig y gymmydogaeth. Ni ddangosir y parch lleiaf tuag at yr esgyrn a deflir i'r wyneb wrth gloddio. Taflwyd yr esgyrn hyn oil ynghyd yn un domen anferth o benglog- au, esyrn breichiau, cluniau, coesau, asenau, ac esgyrn llai. Naturiol iawn ydoedd i'r lath ym- =d ddeffro digofaint yn mynwesau y rhai a ddeuent yno I gladdu eu meirw. Y diwrnod o'r blaen, gwnaed pethau yn waeth fyth, pryd y daeth nifer o bogiaulyno, gan gymmeryd y pen- glogau yn Ile p6l droed, ac ymddifyru drwy !uchio esgyrn at en gilydd, tra yr oedd y gweith- wyr yn malu yr esgyrn yn llwch i'w cymmysgu gyda'r mortar. Y mae yn hen bryd rhoddi terfyn ar ymddygisdau annynol o'r fath yma.
MARWOLAETH SYR CHARLES HALLE.
News
Cite
Share
MARWOLAETH SYR CHARLES HALLE. BOREU ddydd Gwener diweddaf, yn ei drigfod yn Manchester, bu farw y cerddor adnabyddua, Syr Charles Halld. Ganwyd ef yn 1819, a mab yd- oedd i feistr seindorf lleol yn agos i Elberfetd. Bu yn efrydu yn benaf yn Paris; ac yn 1846, dechreucdd gynnal cyngherddan yno. Yn ystod chwyldroad 1848, daeth i Lnndain; a thrwy chwareu un o ddarnau Beethoven mewn cyng- herdd yn y brifddinas y flwyddyn hono yr ennill- odd efe sylw gyntaf yn y wlad hon. Yn ddilynol, ymsefydlodd yn Manchester. Bu am flynydd. oedd yn un o'r prif chwareuwyr ar y piano; ac er 1857, daeth yn enwog fel arweinydd. Gwnaed ef yn farchog yn 1888, yn mhen 40ain mlynedd wedi eiddyfodiad i Loegr. Yn Ngorphenaf, 1888, priod- odd Madame Norman-N<5ruda, y grythores enwog, yr hon a adnabyddir yn awr fel Lady Hallé. Nid oedd ond ychydig awser er pan ddaethai Syr Charles adref o daith yn Neheudir Affrica, a dy. wedai ei fod yn taimlo lawn deng mlynedd ieu. engach ar ol y daith. Er pan ddychwelodd adref, buasai yn brysur yu trefnu ar gyfer ei gyngherdd- au enwog; ae nid oedd neb yn ammheu nachaw- sai hoedl ac iechyd i'w harwain etto y tymmor hwn fel y gwnaethai ar hyd y blynyddoedd.
I SWYDDOG MEDDYGOL NEWYDD…
News
Cite
Share
SWYDDOG MEDDYGOL NEWYDD SIR GAERNARFON. CYNNALIWYD cyfarfod o Gyd-bwyllgor lechydc,' sir Gaernarfon ddydd Iau diweddaf, yn Mhorth- madog, dan lywyddiaeth Mr. R. M. Greaves, i'r pwrpas o ethol swyddog meddygol i'r dosbarth, am gyflog blynyddol o 670p. Ymgeisiai naw am y swydd i ddechreu, ond tynwyd y nifer i lawr i bump; sef, Dr. Fraser, Caernarfon; Dr. Gornall, Warrington Dr. Evan Jones, Llundain; Dr. Stephens, Llundain; a Dr. Wiilowby, East- bourne. Mr. Thomas Owen, Rbyddgaer, a gynnygiodd fod Dr. Fraser, Caernarfon, yn cael ei bennodi i'r ewydd. Mr. J. T. Jones, Criccieth, a eiliodd y cynnyg- iad, a chefnogwyd ef gan Dr. Hughes, Penmaen. mawr Dr. Rowland Jones, Bangor, a ddywedodd fod yn ddrwg ganddo na fuasent wedi dewis Dr. Fraser heb hysbysebu am ymgeiswyr eraill. Teimlai efe fod Dr. Fraser yn gwbl alluog i gyf. lawni dyledswyddau y pennodiad; ae oni btaaai fod ymgeiswyr eraill, buasai yn dda ganddo ef ei gefnogi. Ond wedi hysbysebu, teimlai efe nad oedd yn deg peidio rhoddi eyfle i'r ymgeiswyr er. aill. Wedi ystyried pob peth, teimlai efe yn sicr mai Dr. Stephens ydoedd y cymmhwysaf; a chynnygiodd fod Dr. Stephens yn cael ei ben- swydd. Ni eiliodd neb mo'r gwelliant; ac felly, dywed- odd y cadeirydd fod Dr. Fraser wedi ei ddewis yn swyddog meddygol sir Gaernarfon.
'BWYTA PECHOD.'
News
Cite
Share
'BWYTA PECHOD.' YN n hy "'rodydd y Gymdeithas Wyddono B,d.q-ig' a Y.l i yn ddiweddar, gwnaed cyfeiriad at arfer ry f- ?d a fodoJai meWD Hawer gwlad, a gel wid hi wrth yr enw bwyta pechod.' ymddengys mai anffawd a wneyd y .r?h waith rhyfeddol hwnw ydoedd rhoi teisen neu dafell o fara ar fron y dyn marw hyd Otud oerai y corph; ae yna, arferai y bwytawr drosglwyddo y deisen neu y dafell i'w enau, ao i lawr ei wddf, fel rhyw ymborth arall: a chredid ei fod yn bwyta pechodau y marw, a'u cyfrifoldeb i'w canlyn. Dy- wedwyd fod yr arfer farbaraidd hon yn weddill- ion o gannibaliaetb, a haerai rhai y ffvnai hi yn Nghymru hyd yn ddiweddar iawn. Ysgrifenodd rhyw Gymro brwd i'r Times i ddyweyd na fu arfer telly erioed yn Nghymru, hyd y gwyddid; a barna'r Parch. Ganon Silvan Evans, a'r Parch. T. Eynon Davies, nad oes brolion y bu peth o'r fath yn ffynn. Yn y Times, y dydd o'r blaen, ym. ddangosodd Ilythyr maith oddi wrth Mr. Sidney Hartland, yn profi, ar sail tystiolaethau Aubrey, Pennant, a Miss Gertrude Hope, fod yr arferiad wedi ffynu yn Nghymru. Y mae Mr. Hartland, ar sail ystori o eiddo y Parch. Elias Owen, yr hynaflaethydd, oystal a dyweyd mai pobl dra ang- hymmhwys i holi hanes hen goelion, arferion, a straeon ysbrydion ydyw paraoniaid ae yogolfeislr- iaid, o herwydd, eb efe, nid eddyf y werinos wrth bobl mor ddysgedig eu bod yn credu mewn bwganod a phethau o'r fath; ond unwaith y cewch rywun cymmhwys i holi, fe ddaw pawb ft'i ystori fydd yn gredu fel ei bader. Boed a f'o asi hyn, terfyna Mr. Hartland ei lythyr drwy ddyweyd mai la rhyw 'grair dyddorol o hynafiaeth oya c6f' yr edrych ef ar y bwytawr pechod,' ac mai y peth diweddaf y buasai efe yn breutidwydio am dano fuasai gwneyd bodolaeth y fath foneddwr a'r bwytawr' yn sail i unrhyw gyhuddiad nen h6niad yn erbyn Cymru neu'r Cymry. Nid ydym yn ammheu dim ar fwriad Mr. Hartland; ac yn wir, hyd yn oed os bu yr arfer yn ffynu yn mhlith ein hynanaid, ni welwn ni ryw lawer o achos gwrido o'i herwydd ond i ni, nid ymddengys y tystiolaethau ar y naill ochr fawr cryfach nag ar y llall.
[No title]
News
Cite
Share
Y mae Cynghor Sirol Llundain am blanu coed hyd y lleoedd agoredyn y ddinas, yn arbenig yn Parliament Fields,