Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

I abbpog.I \-:;I-

News
Cite
Share

I abbpog. I \I COLEG Y BRIF YSGOL, ABERYSTWYTH. CYFARFOD 1 LLYS Y LLYWIAWDWYR. I CYNNALIWYD cyfarfod o Lys Llywiawdwyr Coleg Aberystwyth yn Llyfrfa y Coleg, prydnawn ddydd Mercher diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr. J. Foulkes Roberts. Yr oedd y boneddigion canlynol yn breaennol: -}lr. Vaughan Davies, A S.; Mr. A. C. Hum- phreys-Owen, A.S.; yr Uchgadben Pryce Jones, A.S y Prifathraw T. F. Roberts, Dr. Thos. Chas. Edwards, Bala; Miss E. A. Fewings, y Mri. D. Samuel, A. J. Hughes, D. C. Roberts, E. Arm. strong, W. Jones, J. J. Jones (Llanybydder), E. R. James, J. Th<"nns (11 Iffordd), J. M. Howell, Mrs. A. J. Tho". y Parch. T. H. Williams (Drefnewydd), y Mii. Juhn Jenkins (Llanidloes), \V. H. Colby, John A. Doyle, Richard Rees (Machynlleth), J. Smont, Richard Williams (Dref- newydd), y Parch. T. A. Penry, y Mri. E. Davies (Dolcaradog), Lewis Jones (Arbertb), Richard Richards, T. F. Roberts, Richard Jones, E. Trub- s" "nol1;), J. A. M-ir-i- J. P. '.fcll (Castell- 1 Jj.llns (Aber- ystwyth), y Parch. Llewelyn Edwards, y Mri. H. C. Fryer, E. M. Williams (Abertawe), Dr. Snnpe, Dr. Ethe, y Mri. J. P. ) Ma.-bliail, Edwin Jones (Llandinam), Thomas Owen (Aber. ystwyth), yr Henadur C. M. Williams, Mr. J. D. Perrott, yr Henadur Peter Jones, a'r Parch. T. Mortimer Green, y cofrebtrydd. Y Prifathraw T. F. Roberts a gyflwynodd adroddiad blynyddol y cynghor, yn cynnwjs eiddo yr Adran Amaethyddol, yngbyd (l'r man. toleni. Y cadeirydd, wrth gynnyg fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn, a sylwodd ei fod yn adroddiad gwerthfawr a chalonogol dros ben. Yr oedd arwyddion tyfu i'w gweled yn mhob man. Er enghraifft, yr oedd nifer yr efrydwyr ar derfyn y term diweddaf yn 330; ond yr oedd yn awr yn 350. Rhifai yr efrydwyr aewyddion y llynedd 141, ao eleni 151. Gyda'r adeilad, ynglyn A'r hwn y caed cymmaint o drafferth er y flwyddyn 1872, yr oeddynt yn awr o fewn cyrhaedd i'r pen. Da iawn ydoedd ganddo allu dyweyd fod gorpheniad yr adeilad, a'r dyledion byohain oedd arnynt, yn cael eu cyfarfod gan addewid Syr William Har- court o rodd o ddeng mil o bunnau (10,000p.), ar yr ammod fod oyfeillion y coleg yn rhoddi pum mil o bunnau (5,000p.). Yn lie codi pum mil o bunnau (5,000p.) yr oeddynt hwy wedi codi pum mil ao wyth cant o bunnau (5,800p.); ac felly yr oedd ganddynt bymtheng mil ao wyth gant o bunnau (15,800p.) yn awr mewn llaw tuag at gwblhau yr adeilad (cymmeradwyaeth). 0 beirthynas i Luest y Merched, fe dyfasai y gaingc hono o'r coleg yn rhyfeddol iawn; a buont yn dra ffodus yn newisiad eu harolygyddes (Miss Car- penter). Byddai yr adeilad oeddid yn godi yn awr yn ddigon ar gyfer 130 o foneddigesau 80C ar hyn o bryd yr oedd y nifer hwnw yn bresennol yn y coleg. Darperid, pa fodd bynag, at godi asgell arall fel ag i gael rhagor o le i efrydesau. An- hawsder arianol a fu yr anhawsder ar hyd y pum mlynedd ar hugain diweddaf; ac fe gostiai o bam mil i chwe mil o bunnau i adeiladu yr asgell bono. Yr oedd digon 0 arian yn Nghymru, a gobeithient hwy y denai Cymry oyfoothog i'w cynnorthwyo. Yr oedd y coleg, er y cwbl, mewn ystad hapus iawn. Daethai y llys dros eu holl anhawsderau, ac yr oedd y coleg mewn cyflwr ysblenydd (uchel gymmeradwyaeth). Derbyniwyd yr adroddiad. Mr. A. C. Humphreys-Owen, A.S., a gyflwyn- odd adroddiad y trysorydd. Cydsyniai yn Ilwyr a'r hyn a ddywedwyd am gyflwr boddhaol y coleg fel sefydliad ond o safle y trysorydd o edrych ar bethau, nid oedd efe yn sicr a ydoedd y rhagolwg mor ddisglaer. Yr oedd yn rhaid iddynt ddy- weyd o hyd fod arnynt eisieu arian, gan eu bod wedi gordynu 659p. 16s. o'r bangc. Buasai efe yn hoffi i r swm hwn ddiflanu o'r cyfrifen oyn y gall- ent hwy ddyweyd en bod yn gwbl foddlawn ar eu hamgylchiadau. Nodai hyn er mwyn dangos fod gan y coleg angen am haelfrydedd ei gyfeillion o hyd. Yr oedd Mr. Edward Davies, Llandinam, wedi addaw y byddai iddo, o gronh ymddiriedaeth oedd ganddo, roddi benthyg y swm o ddwy fil o bunnau i'r coleg, os troai allan y byddai Neuadd y Merched yn debyg o brofi yn He boddhaol i soddi arian arno. Yr oedd y fath addewid yn galonoctyd mawr, ac yn haeddu eu diolohgarwch gwresocaf (eymmeradwyaeth uchel). Cynnygiai efe fod yr adroddiad yn cael ei dderbyn. Eiliwyd hyny gan Mr. H. C. Fryer, a phasiwyd ef. Ar gynnygiad Mr. Vaughan Davies, A.s., yn cael ei eilio gan Mr. Doyle, derbyniwyd adrodd- iad yr Adran Amaethyddol, yn yr hwn y sylwid fod nifer yr efrydwyr yn y dosbarthiadau gwneyd caws ac ymenyn yn oynnyddu yn foddhaol. Ar gynnygiad Mr. William Jones, yn cael ei eilio gan Mr. Trubshaw, pasiwyd 'Fod Llys y Llywiawdwyr, gan fod 4,700P. eisoes wedi eu tala o'r 5,800p. a danysgrifiwyd i gyfarfod ammodau y Trysorlys am rodd o ddeng mil o bunnau ac y bydd i'r gweddill gael eu talu, yn 01 pob tebyg, cyn diwedd y flwyddyn, yn ceisio gan lywydd y coleg hysbysu y ffaith hon i Ganghellydd y Trys- orlys ac hefyd, ei hysbysu fod cynlluniau ar gyfer ail drefnu a chwblhau adeiladau y coleg yn awr yn cael eu parotoi; ao mai bwriad y cynghor ydyw myned yn mlaen gyda'r gwaith yn ddioed ac yn rhagor, i ofyn iado ar fod amcangyfiifon seneddol am y flwyddyn gyllidol nesaf.' Y Parch. Llewelyn Edwards a gynnygiodd, ac eiliodd Miss E. A. Fewings, a phasiwydFod y llys yn dymuno galw sylw oyfeillion y coleg, a cbyfeiilion addysg uwchraddol merched, at (1) yr angenrheidrwydd o godi, rhag blaen, swm chwan. egol o ddwy fil o bannau (2,000p.) i gwblhau y gwaith o ddodrefnu y neuadd oyn hydref nesaf, pryd yr agorir hi i dderbyn efrydesau 800 (2) at yr appdl a wneir yn awr gyda'r amoan o godtswm chwanegol mor fuan ag y gellir, fel ag i gyfiawn- hau y cynghor i fyned yn mlaen i orphen y neuadd, yn gyinmiiiat ag na fydd i'r rhan a adeiledir yn awr gynnwys lie ond yn unig i'r merched sydd yn y coleg ar hyn o bryd.' Ar gynnygiad -Mr. Vaughan Davies, A.S., yn cael ei eilio gan yr Uchgadben Pryce Jones, A.S., pasiwyd penderfyniad yn annog y llywodraeth i ganiatau rhodd fwy i'r coleg tuag at addysg am- aethyddol. Y cadeirydd a gynnygiodd fod Arglwydd Ren- del yn oael ei bennodi yn llywydd y llys. Eiliwyd gan Mr. John Jenkins, Llanidloes, a chefnogwyd gan Mr. A. C. Humphreys-Owen, A.s., a'r Prifathraw T. F. Roberts. Cariwyd y cynnygiad yn unfrydol. Yn ddilyno), ad-bennodwyd Mr. J. Foulkes Roberts yn islywydd; a Mr. Edward Davies, Llandinam, a Mr. A. C. Humphreys-Owen, A.S., Glansevern, yn drysoryddion. Dewiswyd y rhai a ganlyn yn aelodau o'r Llys -Yr Aorhydeddus W. N. Bruce, Mrs. Vaughan Davies, Mr. Morgan Evans, y Prifathraw W. J. Evans, Mrs. Humphreys-Owen, Miss Constance Jones, Mr. D. E. Jones, Mr. E. Parry Jones, Syr James Hills-Johnea, G.C.B., V.C.; y Parch. H. Elved Lewis, Syr Marteine Lloyd, Barwnig; Mr. Samuel Pope, Q.C.; Dr. Joshua Powell, Arglwydd Powys, y Prifathraw Owen Prys, Mr. R. Rioh- ards, Mr, W. Watts Williams, Syr J. Williams, Barwnig, y ProSeowr J. Young Evans, o Goleg Trefeoca; Mr. A. Osmond Williams, Penrhyn- deadtMth; a'r Proffeswr Hugh Williams, o Goleg y Bal&. Dewiswyd y rhai canlynol, yn aelodau o'r cynghor :-Mr. Thos. Davies, y Parch. Dr. Thos. Charles Edwards, Mr. Thos. E. Ellis, A.B.; Mr. Gwilym Evans, Mr. Stephen Evans, Mr. H. C. Fryer, y Parch. Lewis James, Dr. Edward Jones, Mr. F. W. A. Roche, Mr. Robert Ward, Mr. E. Parry Jones, Ffeatiniog; Mr. Richard Jones, Pertheirin Mr. Thomas Jones, cadeirydd Cyng- hor Sirol Meirionydd; Dr. Iaambard Owen, Llun- dain; a Mrs. Jessie Williams. Penderfynwyd cynnull y cyfarfod nesaf yn Mlaenau Ffestiniog. Terfynwyd y gweithrediadau trwy dalu diolch i'r cadeirydd.

Y TADAU MEWN CYFFRO. I

I LLANARTH, CEREDIGION. I

YMCHWIL GAN GYNGHOR YI SIR…

CYD-BWYLLGOR HEDDGEIDWADOL…

CYNGHOR SIR FON._I

I TRWSIO YR EISTEDDFOD.

FFORDD HAIARN WYDDGRUG A 'JUNCTION'…

LLANDYSSUL.

I LLANGELER.

I PONTSIAN.

I LLWYNRHYDOWEN.

I TALGAREG.