Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
5 articles on this Page
Hide Articles List
5 articles on this Page
Y CTNNWTSIAD. - -. - - .-…
Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share
Y CTNNWTSIAD. a Yr Tabryd Uenedlaethol a I Aelodau Cymreig 3 Llythyr Llundain 4 Deheudir Cymru 4 Llythyr Manchester 4 Qonebiaethau 5 Adolygiad y Wasg 5 Bethesda 5 Ffestiniog 5 Llaiibrynmair 5 Newyddion Crefyddol 6 Elusenau 6 Gwibdeithiau Marchawg Crwydrad 6 Llangefni 6 Caernarfon 6 Troseddau 6 Cymdeithas Adeiladu y Liberator-Prawf Jabez Balfour, a'i Gyfeillion 6 Addyag 6 Coleg y Brifysgol, Aberystwyth 7 Y Tadau mewn Cyffro 7 Y Cynghorau Sirol 7 LlandyBsul, a'r Cylcboedd 7 Dlgwyddiadau 8 Prif Erthyglau. n, n. 9 Newyddion Cymreig 10 John Jones, junior 11 Llenyddiaeth n' 11 Barddoniaeth 11 Lloffion 11 Amaethyddiaeth 12 Dinbych 12 Gwreosam 12 Genedigaethau, &o 13 Marchnadoedd, kc. 13 Newyddion Diweddaf .13 Cyfarfodydd Misol 14 Mr. Lloyd George, A, s., a'i Feirniaid 14 Dirwest 14 Cyngbrair Dirwestol y Gymdeitbas Gyfunol 14 Dirwest yn Nghymrn 14 Claddedigaeth Mr. Daniel Owen, Wyddgrug 14 Hysbysiadan 1, 2-15,16
YR YSBRYD CENEDLAETHOL,I A'R…
News
Cite
Share
YR YSBRYD CENEDLAETHOL, A'R AELODAU CYMREIG. (PAPHAD). I YN 01 ein haddewid yr wythnos ddiweddaf, yr ydym yn ymgymmeryd heddyw kg adolygu y prjf ffeithiau y cyfeiriwyd atynt mewn sylw condemniol ar Mr. LLOYD- GEORGE yn ngholofnau newyddiadur arall. Anfynych iawn y byddwn yn anturio codi i sylw nodiadau a wneir mewn newyddiad- uron Rhyddfrydig Cymreig, hyd yn oed pan y byddwn heb gydweled a hwynt. Tra yr ydym yn ymdrechu yn yr un fyddin, gwell o lawer ydyw cyttuno i anghyttuno,' fel y dywedir, ar gwestiynau y gellir eu hystyr- iod yn ail-raddol, a chydymdrechu yn eg- niol &'n gilydd o blaid yr un egwyddorion. Ond yn yr anigylchiad hwn, yr ydym wedi methu bod yn ddistaw, yn gymmaint a bod ffeithiau wedi eu cyflwyno i sylw y cyhoedd mewn gwedd oedd yn ymddangos i ni yn hollol anghywir, ac yn hynod o angharedig —gyda'r amcan diammheuol o ymosod ar gymmeriad cyhoeddus gwleidyddwr ieuangc anrhydeddus' yn ngwir ystyr y gair, a chreu rhagfarn yn ei erbyn er fiicrhau ei wrthod- iad gan ei etholwyr yn yr etholiad nesaf. Y mae ymddygiad o'r fath gan filwyr yn yr un fyddin yn mron yn anesgusodol! Pa faint fyddai y golled o golli Mr. LLOYD GEORGE o'r senedd, pe y digwyddai y fath anffawd chwerw, nid oes neb a all fynegu. Addefir gan feirniaid galluog ei fod yn un o'r rhai galluocaf, ar lawer ystyr, sydd o fown senedd Prydain; ac ly mae wedi llafurio yno, ac yn y wlad, bi-aidd na ddywedwn gyda ffydd- londeb dihafal, er creu a chyffroi ysbryd cyhoeddus cenedlaethol er csfnogi mesurau yr oedd y geuedl, ac y mae hi etto, yn dyheu am danynt. Y mae efe hefyd wedi cyssegru y blynyddoedd diweddaf—ac yn ol fel y gallwn farnu heb wybod ei fwriadau, y mae efe etto yn benderfynol o gyssegru ei am- ser a'i alluoedd ar allor gwasanaeth ei gyd- _]1 L. --=_ .] 1 ro geneui, xiou geissio na uyrcnanaa, na swyaa, nac unrhyw fantais arall iddo ei hun ar ddwylawy weinyddiaeth; a chyda'r amcan- ion hyn, y mae wedi ymddyeithrio i raddau pell oddi wrth ei alwedigaeth fel cyfreith- iwrymddygiad y byddai yn dda i eraill ei gofio. Ac os mynir gweled barn estroniaid am dano, digon yw dyweyd ei fod yn cael ei dderbyn gyda'r gymmeradwyaeth wres- ocaf ar bob llwyfan y bydd yn ymddangos -yn gystal ag yn Nghymru. Y mae efe hefyd, wedi derbyn sêl cymmeradwyaeth uchaf ei etholwyr, trwy oi ddychweliad i'r senedd ar eu traul eu hunain; a hyny yn erbyn gwrthwynebwyr mor gryfion a Syr JOHN PULESTON a Mr. ELLIS NANNEY. Wrth ddywedyd hyn, nid oes neb sydd yn adnabod Mr. LLOYD GEORGE, ni gred- wn, yn tybied ein bod yn dyweyd gormod. Addefwn ein bod yn dyweyd llawer rhy fychan; ond yr ydym yn credu pob gair a ddywedwyd-n gallem ddyweyd chwaneg j i pe buasai angen. Ond y mae hyn yn ddigon i ddangos ei fod yn sefyll yn uchel yn marn a theimlad y genedl, yn gystal ag yn ein meddyliau ni, a'i fod yn haeddu y parch, y gefnogaeth, a'r amddiffyniaid gwresocaf y gall calon Gymreig eu rhoddi iddo. Yn awr, ni a nodwn yr ychydig ffeithiau sydd wedi aehlysuro-ond nidwedi aChosi-1 y trybest annheilwng hwn; a gwnawn hyny mor fyr ag y gallwn, gan nad ydyw yn bleser yn y byd i ni, ond yn end, i ymdrin fig ef. Y mae y ffrwgwd diweddaf hwn, fol y mae yn hysbys, wedi bod ynghylch dau gynnygiad a wnaed :-Un gan Mr. D. A. THOMAS, yr aelod galluog a pharchus dros Ferthyr Tydfil, a'r llall gan Mr. LLOYD- GEORGE—a'r ddau ynglyn & mesur y llyw- odraeth ddiweddaf ar Ddadgyssylltiad a Dadwaddoliad yr Eglwys, yr hwn oedd ar y pryd ger bron y senedd, ac wedi ei ym- ddiried gan y weinyddiaeth yn nwylaw Mr. ASQUITH. Cynnygiad Mr. ASQUITH oedd fod y deg- ymau i gael eu defnyddio gan gynghorau y siroedd, yn benaf gyda golwg ar fantcision y gwahanol blwyfydd yn mha rai y cesglid hwy. Dyna fel y darperid yn y mesur oedd ger bron y ty, Cynnygiodd Mr. THOMAS welliant, i'r perwyl fod y degymau i'w casglu i ddwylaw Cynghor, a'u rhanu i'r gwahanol giroedd yn ol nifer eu poblogaeth. Buasai sir Forganwg, gyda'i phoblogaeth fawr o agos i saith gan mil (693,072), felly, yn rhedeg ymaitn a oron nanner aegymau y deuddeg sir—poblogaeth unol pa rai, yn 1891, oedd ychydig dros bymtheg can mil (1,501,163). Ond gan fod sir Fynwy yn cael ei chyn- nwys yn y mesur, ac erbyn hyn yn addef- edig yn rhan hanfodol o Gymru, y mae yr holl boblogaeth agos yn ddeunaw can mil (1,776,405). Ond a chymmeryd sir Fynwy i mewn, buasai sir Forganwg ei hun, yn yr hon y mae cynnrychiolaeth Mr. THOMAS yn gorwedd, yn rhedeg a llawer mwy nag un ran o dair o'r ho!l ddegymau. Nid gwrthwynebu y cynnygiad uchod o eiddo Mr. THOMAS oedd amcan cynnygiad Mr. LLOYD-GEORGE; ond gwella y mesur mewn cyfeiriad arall. Yn ol y mesur, yr oedd trefniad degymau Cymru i gael ei ymddiried i dri o bersonau achafwydenwau y tri y bwriadai y wein- yddiaeth eu hymddiried iddynt gyntaf; sef, yr Anrh. W. H. BRUCE, Syr ALGERNON WEST, a HUGH R. HUGHES, Ysw., Ystrad, Yr oedd dau Sais wedi eu pennodi, ac un Cymro-dau Ryddfrydwr, ac un Ceidwad- wr. Nis gallai y fath drefniant a hwn fod yn dderbyniol gan y wlad. Ai nid oedd tri Ohymro galluog a gonest i'w cael yn eu mysg-ac ai nid teg fuasai bennodi un Ym- neilidiiwr, o leiaf-y gellid ymddiried y fath orchwyl iddynt 1 Dyma oedd teimlad Mr. LLOYD-GEORGE a chynnygiodd well. iant fod y pennodiad o'r Dirprwywyr i fod yn nwylaw Cynghor Cenedlaethol Cymreig. Ac i ddangos fel y derbyniwyd ei gynnygiad gan bersonau oedd heb fod yn dal eyssyllt- iad & Chymru, gallwn ddyweyd fod holl newyddiaduron Llundain oedd yn bleidiol i'r weinyddiaeth yn ei gymmeradwyo, ac wedi annog y weinyddiaeth iiw dderbyn. Etto:—Gwasgodd Mr. THOMAS ei gyn- nygiad yn mlaen i bleidlais-a saith o fwy- afrif yn unig oedd gan y llywodraeth Ni wasgodd Mr. LLOYD-GEORGE ei gyn- nygiad ef i bleidlais; a hyny, nid am nad oedd yn credu ynddo mor gadarn ag yr oedd Mr. THOMAS yn ei gynnygiad of ond am nad oedd yn dymuno gosod y weinydd- iaeth mewn lleiafrif; a thrwy hyny, beryglu ei bodolaeth. Yn ol y rhagolygon, gallasai wneyd hyny, a chario ei gynnygiad; o her- wydd fod y Torlaid yn gweled rhesymol- deb ei gynnygiad, ac yn barod i'w gefnogi. Nid oedd efe heb weled y gallai mai awydd am gael gosod y weinyddiaeth mewn lleiafrif oedd yn gorwedd wrth wraidd eu parod- rwydd hwy i'w gefnogi. Yn ngwyneb hyn, y mae yn eglur fod Mr. D. A. THOMAS wedi gwasgu ei gyn- nygiad yn mlaen, beth bynag fyddai y can- lyniadau; a bod Mr. LLOYD-GEORGE, rhag ofn y canlyniadau, wedi tynu ei gynnygiad yn ol. Er hyn, y mae Mr. LLOYD-GEORGE yn cael ei feio-a Mr. D. A. THOMAS yn cael diangc bron yn groen-iach! Yr ydym yn ofni fod rhyw ddrwg mwy nag sydd yn y golwg wrth wraidd yr ymosodiad hwn!- ac nid ydym heb ddarganfod ffeithiau sydd yn arddangos, yn holl irediad yr erthygl, pwy yw y gftr sydd wedi ei hysbrydoli! Os gofynir pa un ai cynnygiad Mr. As- 3UITB ynte cynnygiad Mr, t). A. THOMAS, j I oedd y tecaf, nis gall fod un petrusder yn meddwl neb fod cynnygiad Mr. ASQUITH i ofalu yn annhraethol well na chynnygiad Mr. THOMAS. Etto :-wedi i Mr. LLOYD-GEORGE dynu ei gynnygiad yn ol, ymwelodd eilwaith, yn ol yr hanesion, i Mr. ASQUITH; ac yn yr ymweliad hwnw llwyddodd i'w argy- hoeddi o resymoldeb ei gynnygiad; ac addawodd Mr. ASQUITH ei fabwysiadu a'i roddi yn y mesur. Yn mhen dau neu dri diwrnod ar ol yr ymddiddan a'r trefniad hwn, ymddiswyddodd y weinyddiaeth-nid o herwydd hyn, ond o herwydd nad oedd digonedd o corditeJmath o bylor) wedi ei ddarparu gan y Gweinidog Rhyfel (Syr CAMPBELL BANNERMAN) ar gyfer unrhyw ymosodiad byr-rybudd y gallesid ei wneyd ar y deyrnas hon gan rai o'r galluoedd tra- mor. Dyna'r ffeithiau ac wrth hysbysu yr achos o'u hymddiswyddiad, ni chyffyrdd- odd Syr CAMPBELL BANNERMAN air A chyn- nygiad Mr. LLOYD-GEORGE; ac ni chyff- yrddodd Arglwydd ROSEBERY, na Syr WILLIAM HARCOURT chwaith, a'r cwestiwn hwn pan yn dadgan y rhesymau pa ham yr oedd y weinyddiaeth wedi barnu mai ei dyledswydd oedd ymddiswyddo. Er hyn, Mr. LLOYD-GEORGE sydd yn cael ei wneyd yn gyfrifol am ymddiswydd- iad y weinyddiaeth—a hyny er fod Mr. ASQUITH wedi derbyn ei welliant ddau neu dri diwrnod cyn i hynyadigivydd fo. Os oes un o'r ddau yn gyfrifol am y fath drychineb Mr. THOMAS ydyw y gir!-ac -nid Mr. GEORGE; o blegid gwasgwyd cynnygiad Mr. THOMAS i bleidlais y noswaith cyn i Argl. Rosebery ymddiswyddo-a saith yn unig oedd ganddo wrth gefn Y mae haeru fod Mr. LLOYD-GEORGE yn gyfrifol am hyn dan y fath amgylchiadau yn dangos fod rhyw ddrwg bwriadol wrth ei wraidd yn rhywle, neu fod rhagfarn cryf yn erbyn Mr. LLOYD- GEORGE wedi eu harwain i anghofio y ffeithiau. Pa un bynag, nid ydyw y fath ymddygiad yn debyg o ddiangc heb dder- byu condemniad diarbed pawb o garedigion yr Hen Wlad. Yr ydym, yn y syl vadau uchod, fel y gwelir, wedi ymdrin â'r cynnygion hyn yn eu perthynas a Mr. D. A. THOMAS a Mr. LLOYD GEORGE yn unig. Ond y mae yn angenrheidiol i ni gael gwybod pa fodd yr oedd y ddau berson, a'r ddau gynnygiad, yn sefyll yn eu perthynas a'r blaid Gymreig fel y cyfryw yn y Senedd. A oedd cynnygion y ddau wedi derbyn cymmeradwyaeth yr aelodau Cymreig 1 Yr oedd un-ond nid y llall. Am gynnygiad Mr. D. A. THOMAS, cafodd ei anghymmeradwyo yn benderfynol, a gwnaed pob ymdrech gan ei gyd-aelodau i'w attal rhag ei wasgu yn mlaen. Ond am Mr. LLOYD-GEORGE, ymddygodd yn y modd mwyaf rheolaidd, a theyrngarol i'r blaid. Derbyniodd ei gynnygiad gymmeradwyaeth unfrydol y blaid-ond un-mewn cyfarfod a gynnaliwyd i'w ystyried, ac addawsant ei gefnogi yn y Tj; a dymunwyd arno d gynnyg—ac felly y gwnaetb, fel yr amlyg- wyd uchod. Heb law hyn, derbyniodd ei gynnygiad gymmeradwyaeth wresocaf y Gynnadl- edd fawr o gynnrychiolwyr y De a'r Gog- ledd a gyfarfuasant yn Aberystwyth; ac ar ol hyny gan y cyntirychiolwyr gyfarfuasant yn Llandrindod o'r Gogledd a'r De, ac an- nogwyd ef ganddynt hwythau hefyd i'w wasgu yn mlaen. Yr ydym yn meddwl fod yr holl ffeithiau uchod yn gywir. Os nad ydynt, bydd yn I dda genym eu cywiro yn ein nesaf. Tair blynedd neu bedair yn 01, yr oedd un arall o feibion talentog a ffyddlawn yr Hen Wlad yn wrthddrych sylwadau ang. haredig mesvn rhai eylehoedd-y rhai, yn amlwg, oeddynt yn tarddu 0 genifgen, neu o rywbeth cyffelyb. Nid effeithiodd byny fymryn ar y rhai oedd yn ei adnabod oreu ac erbyn hyn, y mae efe wedi rhoi prawfion amlwg o'i ffyddlondeb i'w egwyddorion, ac i fanteision goreu Cymru; a theilynga barch difluant y genedl-u y m ae efe yn ei gael o ran hyny. A goddefer i ni chwanegu, os mynwn weled ein seneddwyr a'n gwyr ey- ho eddus yn myned rhagddynt mewn gwas- anaethgarwch a defnyddioldeb, ac yn ym- godi yn marn ac ymddiried y wlad, y mae yn rhaid i ni ymgadw rhag codi I ysbrydion drwg' yn ddiachos, a phriodoli iddynt weith- redoedd ac amcanion nad ydynt yn bodoli ond yn ein dychymygion gwag ein hunain! A phe byddai iddynt wneyd camgymmeriad iifwriad-drwg weithiau-a phwy sydd heb wneyd hyny?—ein dyledswydd ni ydyw ei gladdu mor fuan ag y gellir dan wyth troed- fedd o ddaear, os nad yn ddyfnach; ac nid ei gyhwfanu ger bron ein gelynion, a lleihau eu defnyddioldeb a'u dylanwad drwy hyny. A dywedwn fwy-os nad allwn, fel ceneal, ddringo i fyny i'r tir uchel hwn, ni byddwn, mewn gwirionedd, yn haeddu cael dynion o alluoedd mawr a disglaer ac o gymmeriadau pur i aberthu eu galluoedd, eu hamser a'u pob peth am flynyddoedd i'n gwasanaethu.
Pgthgr IClttntoiI Nos LuN,…
News
Cite
Share
Pgthgr IClttntoi Nos LuN, Hydrtf 2Sain. (Oddi wrth ein Gohebydd Neillduol.) Y CWESTIWN CHINEAIDD. BOREU dydd Gwener, fe allesid yn hawdd dybio, oddi ar astudiaeth o- rai gwynebau yn mhlith miliynau Llundain, ein bod ar fin rhyfel. Pe buasai y frysneges a ym- ddangosai ar ddalenau y Times wedi ei han- fon, medde nhw, o Hong-Kong, y mae yn debyg mai rhyfel fyddai y peth nesaf. Ond hyd yn hyn, y mae hysbysiad y Times heb gael ei gadarnhau. Fe yr pawb sydd yn gyfarwydd a. gwleid- iadaeth dramor fod Rwssia ar y blaen yn y dichell a'r cyfrwysdra rhyng-wladol sydd yn myned dan yr enw diplomacy; ac ni synai neb rhyw lawer pe buasai Arth Mawr y Gogledd yn gor-estyn hyd yn oed yr Hea- then Chime, er cyfrwysed yw hwnw. Ond yr oedd y possiblrwydd o gynghrair dirgel yn ymwneyd yn agos a buddiannau Pryd- einig heb fod neb ond gohebydd y Times yn Hong-Kong yn gwybod dim am dano, yn fwy nag y gellid ei lyngcu yn ddi- gwestiwn. Mae'n digwydd fod y Llys- genhadydd Prydeinig yn St. Petersburg- Syr Frank Laseelles-ar hyn o bryd yn treulio peth amser yn y wlad hon. Ychydig, fel rheol, o wybodaeth a geir gan lys- genhadydd; ond nid yw Syr Frank Laseelles yn petruso dyweyd fod y chwedl yo hollol anwybyddus iddo ef; a'r tebygrwydd pres- ennolyw, mai dyfais, ac nid hanes, yw yr oil. Modd bynag, y mae y chwedl, gan nad pa mor ddi-sail yw, wedi cynnhyrfu y teimlad ymherodrol; ae mae'nddiau y cedwirllygaid effro ar symmudiadau Rwssia yn y Dwyr- aic. EGLWYSWYR AC ADDYSG. Y mae'n dda gweled arwyddion tfod y wlad yn ago red i'r perygl ynglyn kg addysg. Gwnaeth Mr. Athelstan Riley wasanaeth pwysig i Addysg Rydd drwy ei brangciau gormesol yn Mwrdd Ysgol Llundain. Y inae bostfawredd esgobion a chlerigwyr yn gweithio yn yr un cyfeiriad. Yfory, caiff cynnrychiolwyr Anghydffurfiaeth gyfle i ys- tyried pa ran a gymmerant hwy yn y frwydr sy'n agoshau o blegid yn ngbyfarfod y Liber- ation Society, y mae Mr. Hirst Hollowell i siarad ar safle Anghydffurfwyr ynglyn a'r cwestiwn dan sylw. Y diwrnod dilynol, bydd Cymdeitbas Addysg iGenedlaethol yn ystyried eu perthynas hwythaa a'r un ewest. iwn, ac yn trafod moddion i rwystro y cais am waddol pellach i ysgolion enwadol. Yn y pethau hyn ni ddylai Cymru fod ar ol, o blegid y mae nid yn unig ei Rhyddfryd- iaeth, ond ei rhyddid, mewn perygl.
•*1'=I ABERGELE. I
News
Cite
Share
• = ABERGELE. I Cynghor Dosbarth.—Cynnaliwyd cyfarfod o'r cynghor uchod ddydd Mawrtb, o dan lywyddiaeth Mr. J. Copping. Cynnygiodd y Parch. D. Evans, ficer y plwyf, eu bod yn cymmeryd mesurau i ledu y brif ffordd rhwng Abergele a Phedsaro, a'u bod yn codi arian buag at wneyd hyny. Wrth sylwi ar welliantau lleol yn ystod y pum mlynedd ar hugain diwedd- af, dywedodd y ficer fod Abergele, ae nid heb achos, yn cael y gair o fod yn mhellach ar ol yr oea nag unman yn Ngogledd Cymru. Sefyllyneu hnn-fan, ac nid myned yn eu blaen; fuasai eu nod yn yr amser a aeth heibio. Ni adeiladwyd cym- maint ag un tj newydd yn Mhensarn yn ystod V 25ain mlynedd diweddaf. Yr oedd yn ddyled- swydd arnynt fel awdurdod gyhoeddus galonogi y bobl drwy gario allan welliantau angenrheidiol. Credai ef y byddai i'r landlordiaid, pe gofynid iddynt mewn ysbryd priodol, roddi y tir angen- rheidiol am ddim. Y eadeirydd a ddywedodd y byddai raid cael cenad Cynghor y Sir cyn y ceid lledu y ffordd; ac o berthynas i gael y tir am ddim, ofnai efe, oddi wrth ei brofiad, mai yr atteb a fyddai, Na, dim perygl Cynnygiodd y Parch, D. Evans fod 3p. yn cael eu talu o'r trethi i Miss Owen am fenthyg Cae'r Bee' fel cadlas chwareu i drigolion Pensarn ac Abergele. Mr. Thomas Evans a eiliodd y cynnygiad. Mr. Leigh a gynnygiodd welliant,|i'r perwyl nad oedd yr arian i gael eu talu o'r trethi; a ohariwyd y gweiliant drwy fwyafrit o un-pump yu erbyn ptawar.
I gfhrate Tpmru. :Nos SADWRN,…
News
Cite
Share
I gfhrate Tpmru. Nos SADWRN, Hydref 26ani. I (Oddi wrth ein Gohebydd Neillduol). TAN DYCHBYNLLYD YN BURRY PORT. YCHYDIG wedi saith o'r gloch nos Sul di- weddaf, canfyddwyd fod siop Mr. R. J. Arthur, haiarnydd, Burry Port, ar dan. Nid oedd ond y wraig a'r plant yn y ty ar y pryd yr oedd Mr. Arthur ei hun yn yr eglwys, ac yr oedd y rhan fwyaf 0 bobl y dreflan yn y gwasanaeth crefyddol yn yr amrywiol addoldai. Yr oedd yr adeilad yn nghanol bloc o bed war o dai, yn y brif heol, ao yn nghanol masnaeh y lie. Ym- gyssylltai yn y pen gorllewinol & thafarn goffi M r. Leonard, ac yn y pen gorllewinol it siop esgidiau Mr. John Rees, ac yn nhal- cen hono drachefn yr oedd siop llieiniau Mr. Badger. Ni chollwyd dim amser, ar ol eanfod y perygl, i ddanfon i'r gwahanol addoldai i alw am gymmhortb, a danfon i'r gwaith copr am y brigad dan, ac i orchymyn chwythu yr hostei- i alw y bobl ynghyd. Pellebrwyd hefyd i Lanelli am y frigid dan oddi yno, yr hon a gyrhaeddodd i'r fan cyn pen awr ar ol danfon y cais am dani, ac a wnaeth waith ardderchog ar ol cyrhaeddyd. Yr oedd yno gannoedd o bobl yn flaenorol, a pheiriant bychan y gwaith eopr yn gwneu- thur ei oreu; ond yr oedd y peiriant hwnw yn rhy wan i gystadlu k nerth y fflamau, a'r cannoedd pobl yn gweithio yn ddi-drefn, heb un rheolydd arnynt. Yn ffodus, yr oedd nant o ddwfr yn weddol agos ac wedi i dan- ddiffoddwyr Llanelli ddechreu gweithio, o dan gyfarwyddyd Cadben Scott, ni fuont yn hir cyn cael y Haw drechaf aryroddaeth ofnadwy. Cyn naw o'r gloch, yr oedd y fflamau tanbaid, uchelfrig, wedi eu dar- ostwng, ao yn agos a chael eu llwyr ddiffoddi. Ond er pob ymdrech a wnaed, ac er cymmaint y llwyddiant fu ar yr ym. drechion, llosgwyd ty Mr. Arthur i'w bwll, a llosgwyd penau a liofftydd uchaf tai Mr. Leonard a Mr. Rees, oedd yn ymgyssylltu ag ef yn mhob talcen. Achubwyd siop Mr. Badger heb i'r adeilad dderbyn nemawr o niwed. Cyfri6r y golled yn 3,000p.; ond yr wyf yn barnu fod hwn yn brisiad pur uchel. Nid oes wybodaeth pa fodd y dechreuodd y tan. Mae yn ddrwg genyf weled yn adrodd- iadau y newyddiaduron lleol gyhuddiadau mor enbyd yn erbyn llawer o drigolion y lie -eu bod yn gwrthod rhoi llaw o gymmhorth pan oedd mawr angen am dano, alu bod ar eu beithaf, rai o honynt, yn lladrata y nwyddau a fwrid allan mewn brys o'r mas- nachdai, i'r dyben o'u hachub rhag y tin. Nid wyf yn ammheu nad oedd rhai yn mhlith y cannoedd na fynent ac na allent wneuthur dim pan oedd y perygl fwyaf; ond y mae digon o brawf fod y mwyafrif, o bob gradd ac oedran, wedi ymdaflu i'r gwaith A'U holl egni, ac wedi parhau ynddo hyd y di- wedd. Fe allai hefyd fod yno rai, fel y mae yn arferol o fod mewn amgylchiadau cyffelyb, yn ddigon di-gydwybod a di-ddynoliaeth i gymmeryd ymaith eiddo eu cymmydogion, pan yn gweled eu hanneddau yn myned yn aberth i'r tan. Ond yr wyf yn credu y prawf amser mai ychydig o ladrata a fu, ac y ceir gweled fod gohebwyr, trwy gymmeryd chwedl wyllt yn ffaith, wedi gwneuthur cam dirfawr a phobl Burry Port. 0 drugaredd, ni chollwyd yr un bywyd, er i dri o deulu gael eu gwneuthur yn ddi- gartref am ysbaid, a chael eu colledu o'r rhan fwyaf o'r pethau oedd ganddynt. Nid achub- wyd dim oedd eiddo Mr. Arthur; ond y mae yn debyg fod ei d £ a'i ystorfa ef wedi eu hyswirio i'w llawn werth. Yr oedd tt ilfr. Rees hefyd wedi ei yswirio, tra nad oedd ei ystoc fawr wedi ei hyswirio ond mewn rhan. Cydymdeimlir yn ddwfn a'r teuluoedd hyn yn eu hamgylchiadau trallodus, ac y mae pawb ar eu goreu i wneuthur iddynt bob caredigrwydd a fedrant. Derbyniodd un gftr niwed trwm ar ei fraich, trwy i lechan ddis- gyn ami; nid yn debyg y bydd efe alluog i weithio am rai wythnosau. Anerehiadau yr Esgobion.—Yn ystod yr wythnos hon, yr ydym wedi cael dadganiad o farn a. theimlad ein hesgobion yn wyneb y sefyllfa newydd y golygant eu bod ynddi mewn canlyniad i'r etholiad. diweddaf. Teimlant eu bod wedi cael buddugoliaeth fawr ar ran yr Eglwys, a'u bod ar ol ystorm beryglus wedi cael tawelwch am ysbaid; nid ydynt, pa fodd bynag, yn meddwl fod pob perygl drosodd, nac o blegid hyny yn meddwl fod y tawelwch presennol yn amser i ddiosg eu harfau. Yn marn Eigob Llandâf, ni ddygwyd erioed i'r senedd lesur mwy creu. lawn, anonest, ae anghyfansoddiadol, iialp mesur ar ddadsefydliad a dadwaddoliad yn