Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

--Y GOGLEDD. I

News
Cite
Share

Y GOGLEDD. I Y mae'r Parch. T. R. Jones, Minneapolis, Unol Dalaethau yr America, ar fin talu ymweliad 8 sir Feirionydd. Y mae y Parol). L. F. Ward, ciwrad Eglwys Genhadol Ruthin Road, Gwrecsam, wedi derbyn ciwradiaeth Glossop, ei gartref. Yn Rhosrobin, nos Fawrth diweddaf, cyflwyn- wyd pwrs o aur i'r Patch. J. Silas Evans, Is-ganoii yn Eglwys Gadeiriol Llanelwy, fel cydnabydd- laeth am ei wasanaetli. Y mae W. C. Woodsworth, 17eg mlwydd oed, o Ysgol Ganolraddol y sir, Dolgellau, wedi ennill yagoloriaeth o ddeg punt ar hugain y flwyddyn am ddwy flynedd yu Ngholeg y Preceptors, ac wedi pasio amryw arhoiiadau pwysig eraill. Dydd Iau diweddaf, hwyliodd y Parch. J. O. Williams ( Pedrog), Liverpool, tuag America. Y mae Pedrog yn myned i'r Talaethau Unedig ar daith bregethwrol a darlitbiol. Deallwn y bwriada efe ddychwel yn ol tua mis Hydref. Boed iddo bob rhwydd-deb. Dywed Mr. Pennant ei fod am ymgeisio etto dros fwrdeisdrefi sir Fflint. Rhaid fod Mr. P. P. Pennant yn cael bias ar orchfygiad, o blegid dyma y chweched tro iddo gael ei guro. Yn ngwaelod y nant ac nid ar ei pilen, y myn etholwyr y bwr- deisdrefi iddo fod, pa sut bynag. BAI,A.-Y Coleg Dutcmyddol.-Y dydd o'r blaeu, anfnnodct rhywun caredig a thwymngalon y swiu o 20p. i Dr. Hughes, Bala, tuag at groufa y coieg uchod. Uy?una y Doctor ddyweyd wrtho, '0 estyn etto i barhau, dy drugareddau wrtho, J?is gellir cyfranu at Mhos tei)yogacb, tinoD. yn ddïau. Yn Nglofa Plas Power, Gwrecsam, ddydd Mawrth diweddaf, syrthiodd swm mawr o ysbwr- iel ar ddyn o'r eaw John Hughes, a lladdwyd ef. Dygwyd ei gorph adref mewn cerbyd; a phan oeddid yn ei dynu i lawr, symmudodd y ceffyl, ac aeth olwyn y cerbyd dros wddt bachgen bychan, o'r enw Powell, gan ladtl hwnw hefyd. Cyfarfu pwyllgor Cymdeithas Ryddfrydig Aberdyfi yr wythnos ddiweddaf; ac ar gynnygiad Mr. \V. J ores, penderfynwyd yn unfrydol dalu holl dreuliau yr etholiad diweddar; achyfarwydd- wyd yr ysgrifenydd, Mr. J. Owen, i anfon at Mr. W. It. Davies, goruchwyliwr ethoiiadol Mr. Ellis, i'w hysbysu am benderfyniad y pwyllgor. Hysbysir am farwolaeth y Milwriad George Mc'Corquadale, yr argraphydd enwog ac adna- byddus i'r ffyrdd haiarn a'r llywodraeth. 1311 farw yn ei drigfod ar lan y Fenai. Dyn wedi dyfod i fyny drwy ei ymdrecbion ei hun ydoedd efe, a llanwai amryw swyddau tra phwysig. Bu efe yn Khyddfrydwr, oud troes yn Undebwr yn y Bwyddyn 1885. Rhwiig chwech a saith o'r gloch, ddydd Iau diweddaf, darfu i ddyn a elwiv Protteswr Lloyd, dysgwr nofio, neidio oddi ar Bont Menai i lawr i'r dwfr. Yr oedd efe wedi hysbvsu ei fwriad, a cheWodd yr heddgeidwaid ei rwystro; ond llwyddodd i'w hysgoi. Nofiodd i'r lan; ac yr oedd yn amlwg nad oedd lawer gwaeth ar ol ei anturiaeth ddibris. Pasiodd y rhai a ganlyu drwv yr arhoiiadau a cynnaliwyd yn Llandudno ar y 12fed o Orphenaf, gan Gvmdeitbaa Gorphoredig y Cerddorion:- Misses Ellen J. Hughes, J. Holmes,gM. Aitkm, A. Harrop, H. F. Holmes, P. M Keenor, F. C. Dobbie, E. Green, L Jones, M. M Oement, M. Williams, A. Vicknell, M. Broome, a Master P. Thomas, a Seth. Yn Southsea, ger Gwrecsam, dydd Mercher di. weddaf, cynnaliodd Mr. Wynne-Evans drenghol- iad ar gorph John Hughes, 53,dn mlwydd oed, yr hwn a laddwyd yn nglofa. Plaspower, dan am- cylchiadau a gyhoeddwyd t-isoes, Tystiodd John Hopwood, partner y trangcedig, fel y daeth careg fawr yn rhydd gan ddisgyn ar Hughes, a l ladd yn y fan. Dodwyd rheithfarn o I' arwolaeth ddamweinio! Yn Mborthaethwy, yr wythnos ddiweddaf, bu Mr. R. Jones-Roberts, trengholydd sir Fon, yn oynnal trengholiad ar gorph Mary Jones, 56ain mlwydd oed, yr hon a fu am flynyddoedd lawer yn deuluyddes i Mr. Reynold Rathbone, Glan Menai, ond oedd er's peth amser yn trigo gyda pherthynasau yn Mhorthaethwy. Yr oedd y drangcedig wedi cymmeryd ati yn fawr ar farwol- aeth ei mam; a phan nad oedd neb adref gyda hi, aeth a boddodd ei hun yn y Fenai. Dodwyd rheithfarn o Hunan laddiad tra'n wallgof. Prydnawn ddydd Mawrth, yr wythnos ddiwedd. af, ewelodd rhai o drigolion Porth-y-gest, Porth- madog, ryw wrthddrych gwyn ar y traeth yn agos 1 drwyn Penrhyn; a phan aed vno, cafwyd mai corph g r ieuangc ydoedd. Adnabuwyd ef fel un Alfred Norman, 18 mlwydd oed, mab i Mr. a Mrs. Norman, y rhai a ddaethant drosodvi o Sheinela i dreulio eu gwyliau y dydd Sadwrn blaenorol. Aeth y trangcedig gyda'i dad a'i frawd i ymdrochi yn agos i'r Gareg Gooh ddydd Linn. Yr oedd y mor ar drai ar y pryd, ac y mae boddiad y trnan yn ddirgelwch hyd yu hyn. Dywedir mai lithro oddi ar graig i ran ddofn o'l afou a wnaeth, fod vno draeth by w, ac na ddaeth efe i'r golwg dra- chefn. Bawyd yn chwilio'r afon gyda bachau, &o. ond ni chafwyd y corpli hyd n"s Fawrth, fel v di?rinwyd uchod. Cynnaliwyd trengholiad ddydd Mercher, a dodwyd rheithfarn o 'Cafwyd wc1i boddi.'

Y DEHEU.

YR OFFEIRIAID GWYDDELIG A'R…

LLANDWROG ISAF.

[No title]

! CYNGHOR SIR -DDINBYCH.I

Y 'LLYWODRAETHWR' I ARCHWAE…

[No title]

Co I of n 1 letchcb.

II ARHOLIAD GORSEDD Y BEIRDD,…

ACHOS WILLIAM HUMPHREYS ABERCIN.

[No title]