Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

YN MHOETHDER Y FRWYDR. ( Parhdd…

Detailed Lists, Results and Guides
Cite
Share

YN MHOETHDER Y FRWYDR. ( Parhdd o'r rhifyn ditceddc/J. DYDD MAWRTII. PARIIAU i godi y mae y dilmv Saesneg! Os yw Gogledd Cymru hyd yn hyn heb tleimlo oddi wrtho, yn ei wlad ei hun, ciinillodd yr ymgeiswyr Toriaidd bump o scddau drwyddo y diwrnod hwn. Aeth Doncaster ansefydlog i'w dwylaw, gydt mwyafrif o 141 Chesterton, yn swydd Caergrawnt, yr un modd, gan ddewis gwrthwynebydd y Dewisiad Lleol; a Mr. ALBERT BRASSEY-yr hwn sydd yn Dori, tra y mae ei frawd enwocach, Arglwydd BRASSEY, yn Ehyddfrydwr cysson-a gip- iodd un o ranbarthar. swydd Ehydychain oddi ar blaid Iawnder. Yn Ngogleddbarth Gwlad yr Haf, nid oedd mwyafrif y Rhydd- frydwyr nnmyn 19 a pha ryfedd iddi yn awr droi yn ei hol at Doriaeth 1 Aelod yn meddu mwy o hynodion nag o bwyll gwleid- ydd da ydoedd Mr. CONYBEARE, y Uhydd- frydwr a gynnrychiolai Camborne yn Ngher- nyw; a barnodd yr etholwyr ei bod yn bryd iddynt ei newid ef am Dori. 0 swydd Derby, a Molton yn Nyfneint, ceir nowydd- ion gwahanol; canys yn y ddau le hyn, gwelir fod y Kadicaliaid wedi chwyddo eu mwyafrif. Y Ehyddfrydwr, Mr. CAMERON hefyd, er pob ofnau, a ddewiswyd yn Houghton-Ie-spring, yn sir Durham. Heb fatiyhi, ond cyfeirio ein darllenwyr unwaith yn rhagor at ein colofnau eraill, gwelir yn amI wg fod y diluw yn ei anterth yn Lloegr! Y mae felly i fesur 11awer llai yn Ysgotland! Ond y mae yr Iwerddon heb gael ei deimlo gwbl-fel yn Ngogledd Cymru! Pa reswm, gan hyny, a ellir ei roddi dros fod y tair rhan hyn o'r deyrnas yn cael eu swam- pio' gyda'r mesur ar Ddewisiad Lleol, er esampl, i foddio yfwyr, tafarnwyr, a dar- llawyr Lloegr 1 Dim oll! Ar derfyn y dydd, dyma y sefyllfa;- Ehyddfrydwyr 128 ) I Gwladgarwyr 57 > 194 Parnelliaid 9 ) Toriaid 3 I 364 Undebwyr 57 j 0 558 DYDD MERCHEK. Gwgu ar y Ehyddfrydwyr yr oedd ffawd heddyw etto. Collodd Mr. STEPHEN WIL- LIAMSON, v i Ehyddfrj dwr pur ac adna- byddus, ei sedd yn mwrdeisdrcfi Kilmarnock yn brawf fod dylif y breci a chelwydd marw- oidd-dra masnach wedi twyllo hyd yn oed yr Ysgotiaid, a gyfrifir mor bwyllus. Milwr di-nod a gariodd y dydd ar Sir. WILLIAMS, gan ennill 427 o fwyafrif iddo ei hun er fod y mwyafrif Rhyddfrydig yn 1892 yn 775. Ar y llaw arall, da genym fod Syr WILFRID LAWSON, apostol dawnus dirwest, yn ddi- ogel er gwaothaf gwrthwynebiad neillduol. Disgyiioddeifwyafrifo 771 i 241, modd bynag, yn brawf o boethder y frwydr. Yn ngogledd swydd Worcester, aeth y sedd yn aberth i'r Toriaid, gan droi mwyafrif mawr Ehyddfrydig 1892, o 2,158, yn fwyafrif Toriaidd o 988. Wedi tynu ci fwyafrif i lawr i'r banner y lhvyddodd Mr. AUGUS- TINE BIRRELL, un o'r seneddwyr goreu yn y ty diweddaf, i gadw y sedd i'r Hhydd- frydwyr, yn ngorllewinbarth sir Fife. Codi ei fwyafrif yn Uawn yr banner a wnaeth Syr EDWARD GRKY yn Berwick, Northum- berland, ai, y Ilaw arall. Buasai yn gywil- ydd i etholwyr y rhanbarth hwn ollwng eu gafael o is-ysgrifenydd tramor medrus gweinyddiacth Arglwydd EOSEDERY. En- nillodd yr Undebwyr seddau yn Neheu- barth Ayr, bwrdeisdrefi Falkirk, ac Elgin, a Nairn—oil yn Ysgotland. Ar derfyn y dydd, eafai y pleidiau fel hyn Ennilliony Ehyddfrydwyr 18 Y Toriaid 99 Mwyafrif y weinyddiaeth 134 O'u cvmmharu ag eiddo y Ehyddfrydwyr> y mae mwyafrif ennillion y Toriaid yn 81 —18 o 99—yr hyn, erbyn ei ddyblu, sydd yn 162 mewn ymraniad. Tyner o hyn yr 28 oedd gan y Ehyddfrydwyr wrth gefn ar ddechreu yr ymdrochfa, a cheir y ffigiwr a liodir ucb;d-134. DYDD IAIJ. Llonwyd calonau y Rhyddfrydwyr hedd- yw a dwy fuddugoliaeth. Yr oedd un o honynt, yn sicr, heb ei disgwyl. Ychydig fisoedd yn of, trodd y bar-gyfreithiwr tra adnabyddus yn Nghyroru, Mr. CLEMENT HIOGINS, oddi wrth y Ehyddfrydwyr at yr Undebwyr, gan roddi ei sedd dros Ganol- barth swydd Norfolk i fyny. Yn yr ethol- iad eithriadol a ddilynodd, yr ymgeisydd Toriaidd (Mr. GURDON) a'i hennillodd ond ychydig o amser a gafodd i'w mwynhau; canys yn yr etholiad hwn, cipiodd y Rhydd- frydwyr hi yn ei hol, dan arweiniad Mr. F. W. WILSON, er syndod mawr i'r Toriaid, a llawenydd i'r gorchfygwyr. Nid ydyw yn hawdd cyfrif am y ffaith. Ar yr un I etholrestr yn gymmhwys yr yudaddwyd y frwydr hon a'r un a yraladdwyd yn mis Ebrill a'r un ymgeiswyr oedd ar y maes. Gallesid tybio fod yr amser yn rhy fyr i unrhyw gyfnewidiad gymmeryd lie yn enwedig gan nad oedd, yn y cyfamser, un- rhyw gwestiynau newyddion wedi cyfodi i'r wyneb. Heb law hyny, y mae Mr. GURDON wedi bod yn cynarychioli yr ethol- aetb am flynyddocdd-o 1886 hyd 1892 ac yn dir-feddiannwr galluog yn y rhan- barth. Synodd pawb fod Mr. WILSON yn anturio i'r maes y waith hon o gwbl, inor fuan ar ol ei orthrechiad. I'r maes y daeth, modd byuag; a phrofodd y canlvn- iad ei ddoRthineb. Ac y mae amryw eng- reifftiau cyffelyb wedi digwydd yn ystod y dyddiau blaenorol, o seddau a ladratawyd oddi ar y Ehyddfrydwyr mewn etholiadau eithriadol yn cael (,U hadfeddiannu yn yr etholiad cyffredinol hwn megys Hudders- field, Grimsby, y Lothian Orllewinol, swydd Forfar, a Brigg. Yr unig cithriadau i'r rheol hon, ar hyd yr ymdreehfa, ydynt JHenffordd a Walwortli uc hyd yn oed yn Walworth, tynwyd mwyafrif y Toriaid i Ilawr. Knnillodd Syr JOHN BHUNNER fuddugoliac-th arddereliog yn Northwich. Cadwodd ei sedd, a chwanegodd gannoedd at ei fwyafrif; ond, ammheuir a fuasai rhyw un arall, heb law efe, byth yn gallu cyflawni y gorchestwaith. Yn yr etholaeth hon, digwyddai dylanwad personol y dyn fyned yn annhraethol bellach na'r cwestiynau politicaicid pwysicaf. Ychydig o chwanegiad gwerthfawrocach at neith y blaid Hydd- frydig yn y Ty newydd a wnaed o'r dechreu nag etholiad Mr. SCOTT, golygydd athrylith- lawn y Manchester Guardian. Ami dro yr ymgeisiodd y gAr galluog "hwn am aurhyd- edd seneddol gan etholwyr ei ddinas ei hun; ond bob tro, gwrthodent ef. Ar derfyn y senedd ddiweddaf, ymneillduodd y Rhydd- frydwr glew, Mr. CALEB WRIGHT, o gyn- nrychiolaeth Leigh, yn swydd Lancaster; a Mr. SCOTT a ddewiswyd yn ei le. Siomir llawer os na wna y Golygydd o Fanceinion ei fare yn fuan ar y Ty. Heb fanylu or ganlyniad y frwycir mewn manau eraill, safai y pleidiau ar derfyn y dydd fcl y canlyn:— Ehyddfrydwyr 159 Gwladgarwyr 62 J- 231 Parnelliaid 10 ) Ton-aid 328 ) 393 Undebwyr 65 624 DYDD GWENER. Eunillodd y Toriaid bedair sedd heddyw —cystal ag wyth pleidlais mewn rhaniad. Yn Spaldiug, swydd Lincoln, y bu un o'u buddugolinethau, pan y collodd Mr. HAL- LEY STKWART y sedd a ennillasai efe oddi ar y Toriaid dair neu bedair blynedd yn ol. Gorthrechiad Mr. BARLOW, yn Ngwlad yr Haf (Frome) oedd yr ail. Teiinlai Rhydd- frydwyr Bwrdeisdrefi sir Ddinbych yn ddwys yn herwydd ei brofedigaeth, wrth gofio am yr ymdrechfa galed a wnaeth efe, yn yr etholaeth hon, yn 1886, yn erbyn Mr. KENYON. Y ddwy sedd arall a ennillwyd oeddynt Rugby a Westbury. Yn yr Iwer- ddon, hefyd, ennillodd y Parnelliaid sedd yn Eoscommon (gogledd) oddi ar y G wlad- garwyr, gan godi eu nifer i fyny iddeuddeg, yn !!e i naw, fd yn y senedd flaenorol. Yn Y sotland, ni bu cyfnewidiad yn y pleidiau o gwbl. Cyhoeddwyd un gtfr enwog wedi ei ethol y diwrnod hwn, heb law Syr G. 0. MORGAN; nid amgen Mr. CODETNEY—y gitr mwvaf annibynol ei feddwl, os nad y gonestaf hefyd, yn mysg yr Undebwyr. Y Ehyddfrydwyr, mae'n wir, oedd yn IUII- canu dwyn ei sedd yn Bodmin, yn Ngher- nyw, oddi arno; ond rhaid dyweyd r.ad oedd ei frodyr, y Toriaid, yn yr etholaeth yn gweithio yn egniol a chalonog drosto. Galiu ac ysbryd annibynol Mr. COURTNEY sydd yn ei wneyd ef mor aughymmeradwy gan Arglwydd SALISBURY a'i blaid, ac hyd yn oed gan Mr. CHAMBERLAIN. Nis gall y gwr o Firmingham ddioddef yu agos ato neb, os na byddant yn cydnabod yn ufudd a gwasaidd ei arweinyddiaeth ef. Ar derfyn y diwrnod hwn etto, safai y pleidiau fel y canlyn:— Ehyddfrydwyr 164 I Gw1adgwyr 65 241 ParneUMid 12? Toriaid *fA l 403 Undebwyr 69 644 DYDD SADWRN. Pedair buddugoliaeth newydd i r gelyn sydd i'w mynegu y diwrnod hwn. Yr hyn- otaf oedd gorchfygiad Syr GEORGE NEWNES, perchenog y Tit Bits, a'r Strand Magazine, &c., yn Newmarket. Yn Newmarket y mae canolbwynt rhai o brif rcdegfeydd ceffylau y deyrnas. Ar hyD, yn benaf, ysywaetb, y mae llaweroedd yn byw, ac yn ymbesgi; ac ofer i neb ymgeisio am gynurychiolacth y lie, os na bydd yn gefnogydd selog i 'rasus.' Er mwyn ei ddrygu, taenodd ei elynion y gair fod Syr GEORGE NEWNES yn wrthwyu- ebydd pob math o redegfeydd; yr hyn oedd yn anghywir. Ar y Haw arall, digwyddai ei wrthwynebydd fod yn un o 'arwyr y dywarchen werdd.' Ceffyl hwn-Mr. Hucii MC'CALJIONT—oedd wpdi ennill un o'r prif redegfeydd diweddaraf. 0 herwydd hyn, a'r gau-adroddiad, ni safodd un o aelodau tlyddlonaf y Ty diweddaf o'i flaen. De- Ddwyrain Durham, Dosbarth Devizes yu sir Wilts, a Skipton. yn swydd Gaerefrog, oeddynt y manau eraill y clwyfwyd Rhydd. frydiaeth ynddynt, Wrth alaru am golli gwyr da, yr ydym yn llawenychu o herwydd fod yr enwog JOSEPH ARCH, cyfaill y llafur- wyr aiuaethyddol i mewn yn ddiogelach nag erioed dros ei randir yn sir Norfolk. Ad- lewyrcha hyn y clod mwyaf ar etholwyr y dosbarth gwledig hwn. Buasai yn chwith genym heb Mr. ARCH, mewn Ty mor ofn- adwy o Doriaidd, i ddyrchafu ei lef, fel udgorn, o blaid cyfiawnder i'r amaethwyr a'r llafurwyr-iawnder pa rai a ddiystyrir ac a fethrir mor atifad gan rai ysweiniaid Ceidwadol trahausfalch. Yn y senedd ddi- weddaf, un o'r Parnelliaid blaenaf ydoedd y Milwriad NOLAN, eu 'chwip.' Yn y senedd newydd, "ei Ie nid edwyn ddim o hono,' canys aeth Mr. KILBRIDE, y Gwladgarwr, yn drech nag ef yn ngogledd Galway. Yn mysg enwogion yr Iwerddon sydd yn ddio- gel, gallem enwi lUr. MICHAEL DAYITT- wedi oi ddewis dros ddau le-Dwyrain Kerry a ÐolJeu Mayo. Y mae etholaeth Wyddelig arall wedi eyfla.vni ynfydrwydd mawr, trwy ddewis dyn sydd yn ngharchar, ac heb un golwg am iddo gael ei ollwng yn rhydd, yn enwedig dan deyrnasiad y Tori- aid. JOHN DALY, yr hwn a alltudiwyd am deyrnfradwriaeth, yw yr etholedig nas gall gymmeryd ei s6dd, a'r hwn y bydd yn rhaid etto ddewis un yn ei le. Erbyn nos Sadwrn, pedwar aelod yn unig oedd ynaros, allan o 670, heb eu dewis, a'r pleidiau a safent fel y canlyn:- Rhyddfrydwyr 175 ) Gwladgarwyr 69 ? 256 Parnelliaid 12 j Toriaid 338 ) Undebwyr 72 j 410 666 Or dechreu, ennillodd y Toriaid a'r Un- debwyr 110 o seddau, a chollasant 20, yr hyn a ddygai eu hennillion clir i lawr i 90: -yn cyfrif 180 mewn rhaniad. Gan eu bod mewn lleiafrif o 28 yn cychwynyr ymdreeh- fa, rhaid tynu y uifer hwn allan o 180 ac felly, rhoddir iddynt fwyafrif o 152 yn y senedd newydd. Hwn ydyw y mwyafrif mwyaf a gafodd unrhyw weinyddiaeth Dori- aidd ar hyd y ganrif bresennol, gan eithrio mwyafrif cyntaf y Chwigiaid ar ol pasio Mesur y Diwygiad yn y flwyddyn 1832. Y pryd hwnw, yr oedd y mwyafrif Rhydd- frydig yn dri chant—neu fwy na dau am bob un i'w gwrthwynebwyr. Pa beth a ddaeth o fwyafrif mor ardderchog? Gallesid disgwyl iddo barhau, a gwneyd ei waith am saith inlynedd-oes senedd yn llawn. Nid felly y bu. Yn y flwyddyn 1835—ar ol dim ond o ddeutu dwy flynedd o weithio, gorch- fygwyd y llywcdraeth; dadgorphorwyd y seuedd bu etholiad eyffredinol; a daeth y Ehyddfrydwyr yn eu holau lieb ddim ond cant ac wyth o fwyafiif-Ilai o gant a deuddeg a plied war ugain. Yn y flwyddyn 1837, disgynodd i lawr i ddeugain; ac yn 1841, fe'i trowyd yn fwyafrif Toriaidd o ddeunaw a thrigain. Hob fyned yn fanwl trwy y blynyddoedd dilynol, gallwn ddy- weyd mai y mwyafrif uchaf, ar ol un blwyddyn y Mesur Diwygiadol, ydoedd mwyafrif y Rhyddfrydwyr yn 1868, pan y cawsant fwy o 128 na'u gwrthwynebwyr. Yn nesaf at hwn ydoedd mwyafrif unedig y Toriaid a'r gwrtbgilwyr Uudebol oddi wrth y Rhyddfrydwyr yn 1876 sef, 118. Y tro hwn, bydd eu mwyafrif (a chymmeryd yn ganiataol na newidir dim ar ystad y pleid- iau gan y pedair etholiad sydd i fod etto), dros gant a banner, fel y dywedwyd. Ond, na kwenyched y Toriaid yn ar.g- hymmesur yn eu goruchafiaeth, ac na thrist- iied y Rhyddfrydwyr yn eithafol yn eu gorthrechiad, Os cymmerir y pleidleisiau a gofrestrwyd yn ystod y pythefnos diweddaf i ystyriaeth, gan gyfrif eu nifer yn fanwl, fe weiir yn amlwg nad yw mwyafrif y Toriaid mewn aelodau yn golygu o gwbl eu bod wedi cael mwyafrif cyfattebol yn mysg yr etholwyr; ac am byny, nas gellir, yn deg, dynu y casgliad o gwbl fod unrhyw chwyl- droad mawr a chyfFredinol wedi cymmeryd He yn mam a theimlad y wlad. Er wedi cael 152 o fwyafrif mewn aelodau, can mil (100,000) o bleidleisiau yn fwy a gafodd Argl. SALISBURY nag a gafodd y Rhydd- frydwyr. Ond yn 1892, cafodd Mr. GLAD- STONE ddau can mil (200,000) mwy o bleid- leisiau nag a gafodd y Toriaid, ac etto nid oedd ei fwyafrif ef mewn aelodau yn ddim ond ychydig gyda deugain. Udganed y Toriaid a fynont hwy yn eu hudgyrn, nis gallant ddod dros ben y ftaitb ddiammheuol hont na chamesboDio ei hystyr amlwg. Y wers oddi wrth hyn, wrth gwrs, ydyw, Yn gyntaf, fod yn rhaid i'r fyddin Eyddfrydig fod mewn llawer gwell trefn nag ydyw yn awr yn yr boll etholaetilau. Ya ail, ei fod yn anhebgorol angenrheidiol gwneyd cyfnewidiad trwyadl yn ein cyfundrefn etholiadol. Dyma un o gwestiynau mawr y dyfodol: a'r gwladweinydd a sicrha 'weledigaeth eglur arno, a sicrha, yr un pryd, aufarwoldeb iddo ei hun. I DYDD LLUN. Heddyw, cyhoeddwyd canlyniad yr ethol- iad a fu yn Ngogledd-ddwyrain swydd Derby ddydd Sadwrn; a dyma yr unig gyhoedd- iad a wnaed ar hyd y dydd. Yroa, y ddau ymgeisydd ccddynt Mr. T. D. BOLTON dros y Ehyddfrydwyr, a Dr. COURT dros yr Undebwyr. Etholaeth Ryddfrydig ydyw hon wedi arfer bod er pan helaethwyd yr etholfraint yn 1885. Yn y tair etholiad a fu—1885, 1886, ac 1892-yr oedd y mwy- afrifau i'r Rhyddfrydwyr yn 2,463, 721, a 2,172. Ac yn yr etholiad diweddaf, cadw- odd yr etholaeth hon at ei thraddodiadau Rhyddfrydig; ond tynwyd o ddeutu dau cant ar bymtbeg i lawr ar y mwyafrif yn 1892. Nid oedd yn awr ond 527. Y mae bellach 667 o aelodau y Ty wedi eu dew is- dim ond tri yn aros hob eu bethol, ae nis gall eu canlyniadau hwy wneuthur unrhyw gyfnewidiad o bwys yn ystad y pleidiau. Ymleddir y frwydr yn Nwyrain Donegal a Deheubarth Londonderry heddyw, a chyf- rifir y pleidleisiau yfory. Ni chymmer yr olaf oil o'r etholiadau, Bof yr un yn Orkney a Shetland, le hyd ddydd Mawrth a dydd Mercher, yr wythnos nesaf.

CYFARFODYDD YN PLYMOUTH.

DYDD MERCHER

-.-DYDD lAD.

I DYDD GWENER.

AFIECHYD MR. LLOYD GEORGE,…

IARGLWYDD CARRINGTON AC YSTAD…

I MYDROILYN, SIR ABERTEIPI.

TRAMOR. -I