Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
4 articles on this Page
Hide Articles List
4 articles on this Page
TEL-P,RAU AM Y 'FANER.'
News
Cite
Share
TEL-P,RAU AM Y 'FANER.' 11 arifripliivj dydd S&dwrn ydyw 1. yr un ond 01 phrta sm v^rtnr. y1i rhad (irwT v post, ydyw Is. Sg., ond talu yn mlMn, tett 28. 01 na wneir hyny. Anfonir 2 gopl urwy y poai am -if, 9c. y chwtirter. ond talu yn mmen, fit-u Ss. 08 na wiiair hyny. lief yd. wifouir 4. <5, neu nnrhyw gyfnller yn ddidcnl drwy y port gan y CyfcMdawi yn oll, vr uu. PRMitr?mphha drdd Marcher ydyw x?. Kt pMt m chwarter, v,? ?h?d dr?y', p.?t, cymrcerir ?,:? .,i,hy? n*ier ?ny dan yr un amlen, y? rr 01 2 s .2g. yr un.ond ttlnynmkm!nea2e.6< '? hyy. El phr is wodi ei ttampio yw 3?. nou ?. 9c. y chwMtM. ond talu yn mlaen: 8 8s. 01 na wneir hvnv, Y MAB y chwarter! yn tcrlynu ddiwedd Mawrth, Mch¡,l!n, y,,e, -h,l _I.bid, anfonir hi yn mlMn hyd nes y ceir ?hyb.dd I attal. SJNOL DALAETHAU YR AMERIOA,-Anfonlr y ddwy FAmBp. am y pnstaii canlynol yn ddi-draul i'r Unol Dal- aethau :—BAHHB dyddMerclier yn 01 3s. 8c. y chwarter, a BANKS dydd Sadwrn yn ol 2s. 2c, y chwarterond yn IUhob amgylchiad, y mae yn rbald tain yn mlaen, ac attelir hi pan v hydd yr arian wedi ou treulio. Gellir anfon trwy ddrafft ar fangc, neu ar rytf dy masnachol ?mmhus dloge) arall y" Lloegr: a gwell hyn na thalu trwy papurau dollars yr Unol D..l.??t ."?, g.. fd eu gwertli :IXiotU:;ly idt:: gGirab,gh: Da bryd y terfyna. BARDDONIAKTtf.—Y mae ami un o'r beirdd, wrth anfon y cyfansoddiadau I ni, yn pwyso arnom eu cyhoeddi 'yr wythnos nesaf.' DKmun? hysb3,pu y cyfryw fod yn ammhossibl i nl gyflawni eu Ws on dy fel yeb"iW?, c, lyld rhvw rai yn dymuno hyny with -1. llinellau ar farwolaethan, .o" neu .ga(-thau, &c., dealler, os bydd yn angenrhcidiol iddynt anfon 3c. am bob Ili?.?l ?ymwya? y cyfmsodfUad&u. S?t teUy y. ,?dd ,y. J Desaf,' ao ni byddwn m iyfrif(?l am eu rhagoroldeb fel cyfansoddiadau. Oa n8 wneir by, bydd ng?.,h. id? 'o' I ni anfon y cyfansoddiadau at olygydd y F.,dd. oniaeth, ..1,. r 1,?lly Mi t!ythBMm cyn ymddangos, yn ol 8wm y farddoniaeth fvdd mewu liaw.
TEL E It A U AM HYSBYSIADAU.…
News
Cite
Share
TEL E It A U AM HYSBYSIADAU. Y PRIB am Hysbysiadau Masnachol, Ysgolion, Eisteddfodau Cyfarfodydd Cyhoeddus, Llyfrau, &C., fydd yn ol 3s. y fod- fedd-gan fesur 1 lawr y golofn AM Hysbysiadau o Yn yn cynnwys 18 o Kiriaa nen lai, codir 6c.; ac yn ol Ie. am bob tri gait dros hyny Os tolir vn mlaen Haw; nen. 4<. y llinell, 08 ua wnolr hyny'
CARTREFOL. j
News
Cite
Share
CARTREFOL. DYWEDIE fod yr Arglwyddes EVA QUINN wedi dysgu Cymraeg er mwyn gallu canfasio Cymry Deheubarth Morganwg i bleidleisio dros ei gA,r. Fel rheol, byddwn yn echrydu wrth glywed Cymraeg y math yma ond yr oedd Cymraeg yr EFA hon, mae'n amlwg, yn ddigon da i daflu Mr. ARTHUR JOHN WIL- LIAMS oddi ar ei orsedd, gyda chymmhorth dylanwadau eraill annhraethol fwy anghym- meradwy na Chymraeg gwael. Nid yw Mr. JOHN MORLEY yn debyg o ddyfod i Leyn ac Eifionydd fel ymgeisydd ac felly, ni bydd yn angenrheidiol i Mr. KKIR HARDIE ddyfod i lawr fel gwrthwyn- ebydd iddo. Nid yw Mr. BRYN ROBERTS yn debyg o roddi ei le i fyny i un gntr; er mai cilio o'r ffordd er mwyn Mr. MORLEY a fuasai, yn ddiau, ei lwybr uniongyrehol i'r faingc farnol. Am roddi sedd iddo yn rhyw le yn Ysgotland y sonir yn awr. Un o'r aelodau Gwyddelig a ddylasai ymddiswyddo iddo yn ein bryd ninnau. Am mai efe ydoedd cadeirydd y Ddir- prwyaeth Dirol Gymreig, ac wedi dangos yn eglur, lawer gwaith, yn y gadair hono, fod ei gydymdeimlad yn ddwfn fig amaethwyr y Dywysogaeth dan ormes eu tirfeddianwyr Toriaidd, bydd yn llawen gan filoedd fod Arglwydd CAKRINGTON, cyn i Arglwydd ROSEBERY adael ei swydd, wedi ei wneyd yn iarl). Nid oes yn mysg peudefigion Prydein- ig deilyngach gwr i gael dyrchaliad nag Iarll OARRINGTON. Fel y gwelir mewn rhan arall o'r rhifyn hwn, y mae efe wedi prynu Cas- tell Gwydr ger Llanrwst, gan ei gefnder, Arglwydd ANCASTER; a gellir beUach ei weled ef yn dyfod i fyw yno am rai rhanau o'r flwyddyn. Annheilwng i'r eithaf yw y sylw canlynol o eiddo y British Weekly diweddaf am Syr WILLIAM HARCOURT, ar ol ensynio ei fod ef yn eiddigus am na chawsai fyned yn Brif Weinidog GWRsanaeth iiiawr i'r achos Rhyddfrydig a fuasai i rai o etholwyr Gor- llewinbarth sir Fynwy ofyn yn ago red i Syr WILLIAM HARCOURT a wnai efe, os dvchwel- id ef i'r senedd, ddilyn yr arweinydd Rhydd- frydig yn fi'yddlawn. Os bydd i'r ddyrnaid o Ryddfrydwyr sydd wedi eu dychwelyd ddechreu cweryla â'u gilydd, bydd myrdd- iynau cefnogwyr yr achos yn y wlad yn r'hwym o deimlo syudod a digofaint tuag I atynt.' Allan o'r chwe sedd ar hugain yr ym- drechasant am danynt, nid yw 'yr ymgeis- wyr llafur annibynol' wedi llwyddo I enmM_ cymmaint ag un. Ni ddaeth eu diffyg mewn nerth i'r golwg yn fwy amlwg mewn unrhyw etholiad erioed. Yr oil y llwyddasant i'w wneyd ydoedd galluogi y Toriaid, mewn amryw fanau, i ennill seddau oddi ar y Rhyddfrydwyr. A dyma amcan Mr. KEIR HARDIE. yr vdym yn ofni, yn yi- etholaethau hyny y ceir y Toriaid a'r Rhyddfrydwyr wedi eu mantoli yn agos, a'r olaf yn meddu y sedd o'r blaen. Y dydd o'r blaen, dywedodd Syr MICHAEL HICKS BEACH yn bendant na raid ofni i'r llywodraeth ddwyu mesur ar Ddadsefydliad yr Estrones yn Nghymru heb ddadwaddol- iad nid ydynt am gyfiwrdd a'r pwngc o gwbl. Ofnwll mai y gorchwyl gwaethaf a wneir gan y senedd Doriaidd newydd fydd gwadd- oli ysgolion dyddiol yr Eglwys a'r Pabydd- ion. Dywed y Law Journal fod dychweliad JOHN DALY dros ddinas Limerick yn un Mighyaredin, ao yngl)'1l ag ef cyfyd cwest- iwn cyfreithiol o'r dyddordeb mwyaf. Cymmerwyd DAI.Y i'r ddalfa lawer o flynyddoedd yn ol, « phelenau deinameit yn ei ddwylaw. Yn mrawdlys War- wick, yn 1884, rhoddwyd ef, J. F. EGAN, ac eraill, ar eu prawf caed ef yn euog o deyrn- fradwriaeth, a dedfrydwyd ef i benydwasan- aeth am ei oes. Yn ngharchar y mae efe yn awr a phan bardynwyd amryw garcharor- ion Gwyddelig politicaidd gan y llywodr- aeth ddiweddar, nid oedd efe yn caelei enwi fel ua i'w ollwng yn rhydd. Yn yr etholiad hwn, am nad oedd gwrthwynebydd ar y maes, ac am hyny, mai efe ydoedd yr unig un a enwyd, ni bydd dim i w wneyd ond anfon gwrit arall, ar ol agoriad y senedd, i Limerick neu ynteu, lhaid i wyr Limerick fod heb eu cynnrychioli hyd nes y daw rbyw ymgeisydd i'r maes ag y bydd y fiordd yn rhydd iddo i eistedd yn Llys Sant otephan. 'Ni a ymladdwn yn wastad yn erbyu dad- sefydliad y t tafarn. Y mao y Beibl a'r Bir wedi chwareu rhan flaenllaw yn yr eth- oliad hwn, a theimlaf yn sicr y glynant wrth eu gilydd yn y dyfodol,' meddai areithydd yn y cyfarfod i longyfarch Mr. A. B. FOR- WOOD, o Liverpool, fel yr aelod dros Orms- kirk, ac un o ganoniaid penaf yr Eglwys yn gwrandaw arno ? Mr. BALFOUE, ar y Haw arall, a wada yn bendant fod a wnelo y ddiod ddim &'r buddugoliaethau Toriaidd. Felly y diolcha efe i'w gefnogwyr aiddgar. Mae efe yn gwadu na nofiodd ei blaid i'w hafan ddymunol ar frig Ilanw y breci ar ol gweled y dernyn nodweddiadol a ganlyn, hefyd, yr hwn a anfonwyd allan gan dafarn- wyr Berwick-on-Tweed i geisio bwrw yr is-ysgrifenydd tramor bendramwnwgl Dyrua ein cyfleusdra ni, ac ni ddylem adael iddo lithro o'n dwylaw. Bydded eicb masnach eich politics hefyd, ac aberthwch eich syn- iadau politicaidd. Defnyddiwch bob moddion cyfreithlawn i ddylanwadu ar eich eyfeillion a'ch cwsmeriaid, ac ymdrechwch sicrhau gorchfygiad eich gwrthwynebydd.' Nid yw Mr. SAMUEL BARROW, yr ymgeis- ydd Radicalaidd yn Ngogledd-ddwyrain Kent, yn amddifad o ddoniau y dyn digrif. Yn un o'r areithiau a draddododd, dywedai ei fod ef wedi cael ar ddeall nad oedd eisieu iddo wneyd dim ond dangos ei hun, ac yna y byddai yn sicr o ennill yr etholiad. Ar hyny, dechreuodd rhai o'retholwyr chwerth- in. Wei, dyma fi,' meddai yr ymgeisydd anrhydeddus. Wrth gwrs, chwarddodd y gwrandawyr dracliefn ac nid oedd dertyn ar eu bysgafnder;pan aeth efe yn mlaen i ofyn pa beth oeddynt yn ei feddwl o hono Dyma fi, yn bed war ugain ar ddeg o bwysau yn 62 inlwydd oed yn 42 mlwydd o Ryddfrydwr cysson, heb newid dim wedi priodi er's 41ain mlynedd; a chenyf ddeunaw o wyrion.' Ni chaed y fath wledd chwerth- in er's llawer o amser. I Nid ydyw fod llywodraeth yn cael mwy- afrif mawr yn y senedd yn sicrhau hoedl hir. iddi. Yn ystod y ganrif bon y mae amryw weinyddiaethau wedi dechreu ar eu gwaith gyda nerth mawr; ond, cyn pen ychydig amser wedi cael eu hunain mewn cyfyngder. Yr elfen benaf o wendid yn y weinyddiaeth bresennol ydyw yr hyn a gyfrHir gan rai o'i phleidwyr ei nerth mwyaf. Gweinyddiaeth gymmysgrywiol ydyw. Gwneir hi i fyny a aelodau sydd wedi arfer bod, ar rai o'r prif gwestiynau, yn yr elthafion cyferbyiuol y naill oddi wrth y lJalJ, a'r rhai a ddywedant nad ydynt wedi ymwrthod <1 dim o'r hyn y buont yn ei gredu. Gallant edlycha byw, a chydoddef eu gilydd, er mwyn ymddangos- iad ac elw, am ddwyjneu dair blynedd. Yna daw y cwerylon, yr anghydweled, yr ymddi. swyddo y naill ar ol y llall, ac yna yr ym- ddrylliad. Bydded y Rhyddfrydwyr yn amyiteddgar. Daw eu tro. Gweithio yn ddistaw, a phertfeithio eu trefniadau ydyw eu dyledswydd hwy, gan fod yn barod erbyn yr adeg y bydd galw am fyned i'r frwydr. Yr ydym yn Uongytarcn Air. UARVELL WILLIAMS, a charedigion Cydraddoldeb Cref- dd,Dl,ar ei fuddugoliaeth ardderchog ef yn Mansiield, Nottingham. Hyd yn oed mewn senedd rpor dra Thoriaidd a'r un nesaf, gall gwr o alluoedd a chraffder Mr. WILLIAMS gael ami gyfleusdra i hyrwyddo ei hoff bwngc yn ei flaen. Gogoniant' yr etholiad, yn marn y Due o DDYFNEINT yw fod y llywodraeth wedi ennill y fath fwyafrif heb osod ei rhaglen ger bron y wlad. Nid yw yn syn o gwbl fod Mr. TIIOMAS ELLIS yn meddu safle mor ddyrchafedig yn yr etholiad cyffredinol sydd newydd fyned heibio. Yr oedd set ei etholwyr drosto yn angerddol. Gwna un esampl y tro cystal a chant o enghreifftiau. Nid gormod gan cliwarelwyr Ffestiniog golli y prydnawn, oddi wrth eu gwaith, er mwyn myned i'w hamrywiol etholfeydd i gofrestru eu pleid- leisiau dros y gftr sydd wedi ennill lie mor ddwfn yn eu'serchiadau. Gohebydd o ryw le yn Nghymru-ni ddy- wedir pa un ai o'r De ai ynteu o'r Gogledd —i'r Daily ??s (Llundain) am ddydd Gwener a ysgrifena i ddyweyd mai camgym- meriad dybryd ydyw priodoH y gorthrech- !-neriad dybryd y ybdlayiw d Ryddfrydig wedi eu ia d au y niae cael yn Nghymru i dwyll ymresymiadau yr Undebwyt- ynghyleh marweidd-dra masnach, ac mai ar y Rhyddfrydwyr yr oedd y bai am dano. Nid yw y gVvr hwn yn ceisio gwadu na wnaeth yr ymgeiswyr Toriaidd, a'u cyn- northwywyr areithyddol, eu gereu (neu, yn hytrach, eu gwaethaf) yn y cyfeiriad hwn i daflu llwch i lygaid yr etholwyr. Nis gall neb wadu hyny. Dyweyd y mae efe na Iwyddasant, gan awgrymu mai nid gwylan- od ehud, parod i gymmeryd eu twyllo gan unrhyw fliloreg o'r fath, ydyw etholwyr goleuedig uymru nyny yayw, y uroaonon eu hunain. Yn rnwrdeisdrefi sir Benfro a Chaerdydd yn unig y gellir dyweyd fod yr ysbryd celwyddog' hwn wedi cyrhaedd ei amcan ond, y rheswm am hyny ydoedd fod yn y ddwy etholaeth a enwyd gynnifer o Saeson wedi ymsefydlu, a'u tywyllwch poli- icaidd yn ddybryd a dygn. Dirgelwch y gorchfygiadau yn Nghymru, yn marn yr ys- grifenydd hwn, a orwedd mewn dau gyfeir- iad arall. Y cyntaf ydyy y trefniadau rhagorol oedd gan y tafarnwyr ar gyfer yr etholiad, ac ar lawn waith er's misoedd.' A'r rheswm arall a nodir ganddo am fod cynni- feroseddau y Dywysogaeth wedi myned i ddwylaw y gelyn ydyw, 'diffyg arweinwyr yn ein plith ni ein hunain fel plaid, a'r difa- terwch difraw, ynghyd a'r dadleu rhyngom a'n gilydd.' Dyma y pethau a'n handwyodd yn marn yr ysgrifenydd a dyma y pethau y rhaid i Ryddfrydwyr Cymru eu hedrych yn eu gwyneb, er mwyn adennill y tir ydys wedi ei golli. Un o'r newyddion, neu, yn hytrach, si- brydon etholiadol diweddaf ydyw, fod Mr. WILLIAM PRITCHARD MORGAN yn barod i I roddiei sedd dros Mertbyr i fyny er mwyn i Mr. JOHN MORLEY ymgeisio am dani. Nis gwyddom pa faint o wir a ddichon fod yn yr tdroddiad hwn. Ond, yr ydym etto yn dyweyd, mai nid yn Nghymru, eithr yn yr 1 werddon, y dylid chwilio am sedd i'r gwr sydd wedi dangos ei hun yn gymmaint o gymmwynaswr i'r Ynys Werdd. Yn Sheffield, disgwylir y bydd dwy o'r seddau yno yn myned yn weigion yn fuan ar ol aeoriad y senedd. Dywedir fod Syr ELLUl ASHMEAD BARTLETT wedi cael addew- id am bennodiad i ryw swydd neu gilydd mewn gwlad dramor. Chwanegir fod Mr. STUART WORTLEY, hefyd, yn debyg o gael rhyw swydd. Ac y mae y ddau hyn yn awr yn aelodau dros Sheffield. Mr. BERNARD EGAN, y Parnellydd awrthod- wyd yn Ngogleddbarth Mayo, a wrthwyn- eba i Mr. D. CRILLY gael y sedd, am forI ganddo ef sail i gredu fod pum cant or pleidleisiau yn angbywir. Pan oedd y 'polio' yn myned yn mlaen yn Saffron Walden, ddydd Gwener, ymosod- odd nifer o ddyhirod ar dy y Parchedig Mr. PLOWRIGHT, gweioidog yr Annibynwyr yn Henham, a churasant yntau nes ydoedd mewn ystad hollol ddideimlad. Yn adeg 'diluw y breci.' nid Mr. PLOWRIGHT ydyw yr unig un sydd wedi gorfod dioddef o herwydd ei egwyddorion. Panydoedd nifer o etholwyr yn prysuro mewn eweh o Ynys Uist Ogleddol yn Ysgot land, i'w bwth polio ddydd (Iwener, dym- chwelodd eu bad, a boddodd dau o hon- ynt. Yn Preston y cynnelir yr Arddangpsfa Am- aethyddol Frenhinol berthynol, i swydd Gaerhirfryn eleni. Y flwyddyn nesaf, fe'i cynnelir yn Southport. Gwnaed galanas mawr mewn rhanau o Fanchester trwy orlifiad yr Afon Irwell, a bernir fod un bachgen wedi boddi. Yn Sal- ford, ar yr ochr arall, gwnaed mwy fyth o alanas, yn agos i Stockport, goichodd yr afon dros linellau y ffordd haiarn. Nid yn mysg y Rhyddfrydwyr yr oedd dymuniad am weled Mr. LEONARD COURTNEY yn colli v dvdd yn Bodmin. Casheir mwy o lawer arno ef gan ei bobl ei hun, y Toriaid a'r Undebwyr. Hwy fu yn ei rwystro ef i gael ei wneyd yn Llefarydd y T, pan oedd y Rhyddfrydwyr, gydag ychydig eithriadau, yn barod i'w ddewis, y mae efe yn rhy alluog ac annibynol ei farn gan y blaid sydd yn rhwymo ei hun wrth fympwyon SALISBURY a CHAMBERLAIN. Ennill y sedd a wnaeth efe, er pob claearineb o'i blaid gan yr ar- weinwyr, ac er fod y gwrthwynebiad yn un cryf a phenderfynol. Yn ol addefiad Mr. HENRY St. JOHN RAIKES ei hun, nid oedd yr ymosodiadau' bondigrybwyll arno ef, a'i wraig, yn ystod yr Ylllgyrch etholiadol diweddar yn Nwyr- einbarth sir Ddinbych agos can waethed ag y disgrifid ar y cyntaf cu boed. Ceisiodd man ysgriblwyr Toriaeth o fewn y rhanbarth roddi ar ddeall i'r Saeson ehud yn Lloegr fod y Cymry yn euog o'r barbareidd-dra. mwyaf bwystfilaidd, ac nad oedd ball ar gieidd-dra Rhyddfrydwyr! Wrth gwrs, gwyddem nad oedd gwir yn yr adroddiadau gwylltion hyn; ac yn awr, fe'n cadarnheiryn ein syniad gan Mr. RAIKES ei hun, yr hwn, wrth eilio y bleidlais o ddiolchgarweh i'r CJchelsirydd am ei wasanaeth yn Ngwrec- sam, ddydd Gwener, a ddywedodd fod eith- afrwydd mawr wedi ei ddangos wrth ysgrif- enu yr hanes. Gwyddem yn dda fed Rhydd- frydiaeth yn gref yn Nghoedpoeth a'r Rhos. Caniatawn hefyd, fod y teimladau yn rhedeg yn uchel ar adeg ethoiiad. Ond gwyddem, hefyd, mai deiliaid yr Ysgol Sabbothol ydyw y corph niawr o etholwyr Rhyddfrydig y rhanbarth. Yr oedd hyny, ynddo ei hun, yn ddigon i greu ynom yr anghrediniaeth Ilwyraf yn 1 mwysttileiddiwch' na barbar- eidd-dra'ein eydwladwyr o fewn y goror hwn. Yn mhellach, gwyddom i ba blaid i fyned i chwilio am farbariaid' Cymreig Ithaid i Ryddfrydwyr Caerdydd, mae'n amlwg bellach, chwilio am flaenor arall i arwain eu eftd, Ni ddaw Syr EDWARD REED yn ei ol i fywyd cyhoeddus etto, yn ol pob golwg. Trwy drafferth fawr y llwyddwyd i gael ganddo ddyfod i'r maos y tro diweddaf. Dylanwad Arglwydd ROSEBERY, yn benaf, a'i dygodd allan. Ei orchfygu a gafodd ac yr ydym yn deall ei fod yn teimlo yn ddwys. Ni ddisgwyliai ddim yn amgen na gwaethaf y tafarnwyr ond, yn sicr, yr oedd ganddo hawl i ddibynu ar y bleidlais Wyddelig. Gan hon, o dau hudoliaeth yr offeiriaid, y brad- ychwyd ef yn anfad, er iddo ef fod yn hynod flyddlawn i achos yr Iwerddon. Ceir prawf amlwg o gynnydd a nerth I y Babaeth yn Eglwys Loegr yn y gwasanaeth hynod a fu foreu dydd Llun cyn y diweddaf—dydd g\Vyl rhyw hen sant neu gilydd—yn o eglwysydd y brif- ddinas. Ar yr allor ac ysgrin y ganghell yr I oedd bloden yn ddirifedi. Gwneid yr orym- daith i fyny o ddeuddeg o oneiriaid yn eu cwcyllau a'u hurddwisgoedd, y rhai a gerdd-' ent ar hyd yr .el.s'Hdan ganu hymnau, megys Mawl l ti U MAIR a ganwn Ill: .1; Na wyla, MAIR, na wyla mwy.' Ar arogldarth nid oedd brinder. Canwyd yr epistol oddi ar risiau y ganghell, a'r efengyl, ynglyn a r hon y ffurfiwyd gorymdaith neillduol, a gan- wyd o dan y pulpud. Y pregethwr ar yr achlysur hwn ydoedd y Canon rHYNNB. Yn y weddi o flaen y bregeth, gweddiid dros y frenhines, 'ein harglwyddi a'n tadau, A rch- esgob Caergaint ac Esgob Llundain, ond cymmerid gofal i beidio crybwyll dim am y senedd a'r prifvsgolion. Modd bynag, gweddiiid dros y glerigaeth a'r cymdeithasau eglwysig, ysgolion dyadiol y plwyf, a'r ysgol- orion, a throB orphwysdra eneidiau dau facer cyntaf yr eglwy?phob noddwr a ?r car- edig iddi sydd wedi myned ad ref. ? 011 a ddywedwn ni yw, fod y parsoniaid hyn yn dra segur, ac y buasai yn rheitiach iddynt dreulio eu hamser i well defnydd.
TRAMOR. -I
News
Cite
Share
TRAMOR. I CYFEIRIASOM yn ein rhifyn diweddaf at lofruddiaeth cyn-brifweinidog Bulgaria. i I ond, yr oeddym yn rhy hwyr i sdn am ei angiadd. Ni bu claddedigaeth mwy cyth- I ryblus yn Sofia erioed nag augladd M. STAM- BULOFF. Gan faint ei dygasedd tuag ato, ni wnaeth y llywodraeth unrhyw ddarpariaeth ar gyfer cadw trefn ynddo. Yeanlyniad fu i'r 'ysbrydion drwg' deimlo eu bod at eu rhyddid i wneyd fel y mynent. Cafodd amryw eu lladd, a mwy eu hanafu. Yr un pryd, yr oedd tywysog y wlad yn' ysgafn fwynhau ei hun' yn Coburg, gyda'i win a merched. I Daw Macedonia dan sylw Ewrop yn fuan. Nis gall beidio. Myned o ddrwg i waeth y mae pob peth yno. Yn agos i le o'r enw Strumitza bu ymladdfa ffyrnig rhwng 125 o «wrthryfelwyr' (fel y gelwir hwy) a milwyr rheolaidd Twrci a'r olaf, ol herwydd gwell dysgyblaeth, a orfuant. Mewn lie ;Vi enw Tiskuo; ychydig yn ddiweddarach, bu ym- laddfa arall rhwng yr un pleidiau, gyda'r un canlyniad. Mae y ddau le hyn bron ar der- fyn Bulgaria, a dywedir mai o Bulgaria y daeth y 'gwrthryfelwyr.' Gresyn na fuasent yn fwy llwyddiallnus. Ar gyfer Armenia, dywedir fod y Sultan a'i weision wedi tynu allan gynllun newydd, yr hwn sydd yn well na'r ddau gyntaf, meddir. Hefyd, mae efe wedi pennodi SHAKIR PASHA i arolygu y gwaith o roddi ei ddiwygiadau ef mewn ymarferiad. Ond, nid fel hyn yr hud-ddenir y galluoedd Ewropaidd, yr ydym yn gobeithio. Taflu llwch i'w llygaid, yn y modd mwyaf digywilydd, ydyw hyn oil. Da genym gael ar ddeall fod Arglwydd SALISBURY am ddilyn gwladwein- iaeth Arglwydd ROSEBERY. Mae y Ffracgcod wedi ennill Mevatanana, heb unrhyw wrtbwynebiad. Nid oedd yr ynyswyr nac wedi llosgi nac ysbeilio y dref, a chawsai y gwaith mwn cyfagos lonydd ganddynt. Cludir y milwyr a'r cad-ddar- pariaetbau i'r Ffrangcod mewn llongau Prydeinig, er mai cenhadon Prydeinig sydd wedi gwareiddio Madagascar. Gwneir hafog dychrynllyd ar y milwyr gan glefydon a I chrydeymmalau, ac analhiogir, ar gyfartal edd, ddau cant yn yr wythnos o honynt. Mae y fyddin Ffrengig yn y brifddinas erbyn hyn. Ar hyn o bryd, y mae Aix-la-Chapelle mewn cyffrawd inawr. Heigia yr heolydd a phererinion duwiol o bob parth o'r Almaen a Beiariuin. am fod y gair wedi myned allan fod creiriau rhyfeddol -a gedwir yn yr eglwys gadeiriol hynafol sydd yno i gael eu har- ddangos unwaith yn; rhagor, a bod pechodau i gael eu maddeu am dalu ymweliad & hwy, ac wrth gwrs, am fwrw arian yn nghoff'rau gweigion yr offeiriaid. Mae yr hen greiriau yn dra amrywiol, ond sicrheir dilysrwydd pob un. Un o honynt yw gfrn gwynfelyn wedi ei wneyd o gotwm, yr hwn yr edrychir llawer arno i'w edmygu, am fod MAIR y Forwyn wedi ei wisgo. Mae y cadachau yn mha un y rhwymwyd y Mab bychan pan y dodwyd ef yn y preseb, hefyd, yn cael eu dangos yno ac ar y rhai hyn y mae syllu mawr, fel y gallesid disgwyl gan Babyddion ofergoelus. Gellir gweled y wisg a ddodwyd am gorph IOAN Fedyddiwr ar ol tori ei ben, yn mysg lIiaws o bethau eraill. 0 bossibl mai ar y bretbyn oedd am lwynau y Gwar- edwr pan ar y groes yr edrychir gyda mwyaf o gyRsegredigrwydd. Nid oes dim llai na thri chan mil o bobl wedi dyfod i'r ddinas fechan a enwyd i weled y pethau hyn, a'r 4 hen langciau ofleiriadol yn chwerthin yn eu I llewys wrth weled arian y ffyliaid yn dylifo yn ddi brin i mewn i'r drysorfa. Y dydd o'r blaen, anfcnodd y Pab LEO lythyr spostjlaidd at esgobion Belgium ar gwestiynau y dydd, yn y wedd Sosialaidd arnynt. Ynddo gpilw ar feistriaid a gweith- wyr, o blitli y Pabyddion, i fod yn on est a chyfiawn yn eu hymddygiadau y naill tuag at Jy llall, ac ymgadw l'hag codi unrhyw derfysg yn y wiadwriaeth. Cymmer olwg ffafriol ar yr awgrym i gynnal cynnadledd arbenig i drafod cwestiynau llafur ynddi Yn mhellach, dywed na ddylai y c!erigwyr na'r lleygwyr gymmeryd rhan, na thrwy ysgrifen nac mewn ymadrodd, yn y dadleuon ar syniadau newyddion ond, yn hytrach, gwneyd eu goreu i wrthwynebu Sosialaeth fel y mae hi yn ceisio gwyidroi sylfaeni cymdeithas. Y man y llvwodraeth Brydeinig wedi cym- meryd meddiantfo Ynys Trinidad. Gwrth- wynebir hyn yn y modd mwyaf pendant gan lywodraeth Brazil. Anfonwyd llythyr gan- ddi at y llysgenadwr Prydeinig, gan ddyweyd ynddo fod Prydain, yn 1782, wedi rhoddi yr ynys i fyny i Portugal. Ar y llaw arall, hawlir hi gan Brydain er y flwyddyn 1,700, pan y cymmerodd Dr. HALLEY teddiant o honi, yn enw Prydain, heb i Portugal wrth dystio yn y graddau lleiaf. Nid yw lIywodr- aeth Brazil, ar y llaw arall, wedi gwneyd unrhyw hawliad cyhoeddus iddi. Ar yr un pryd, ymddengys fod Llywodraeth Prydain yn eithaf parod i ddadleu y cwestiwn a 'lywodraeth Brazil, mewn ysbryd cyfeillgar. Yn Ngogledd-Orllewinbarth Wyoming, Unol Dalaethau yr America, y mae cySro difrifol wedi tori allan yn mysg yr IDdiaid Cochion, a byddin gref o filwyr y weriniaeth wedi eu hanfon yno i adfer trefn. Aeth o ddeutu tri chant o Indiaid Uwyth Bannock i Wyoming i hela, a gwrthodent roddi l fypy y gwaith o ddinystrio yr helwriaetn. AI- weiniodd hyn i anhunedd gyda thrigolion y dalaeth, a lladdodd yr lndiaid un ymsefydl- ydd, ei wraig, a'i blentyn. Talodd yr ymsef- ydlwyr y pwyth iddynt am hyn, gan ladd saith o'r W Cochion.' Gwrthododd yr lndiaid ddychwelyd yn ol i'w rhanbarth. Maent yn awr yn cadw meddiant o fylchau y mynyddoedd, gan wrtbsefyll pob ymdrech i'w gyru oddi yno. Bu mintai or cartreflu yn ceisio gwneyd hyny ond, methu. wnaed. Ofnir rhag i'r rhyfelgyrch fod yn un gwaed- lyd. Parha y Twrc i erlid y CrlStionogion yn Armenia. Mewn rhai manau maeyrerledig- aeth yn boethach nag erioed. 0 fewn yr ycbydig wythnosau diweddaf, y mae pedwar cant yn chwaneg o Gristionogion Arraeniaidd wedi eu dodi yn ngharcharau Caer Cystenyn. Gwaherddir y patriarch i appelio am arian l gynnorthwyo y dioddefwyr yn Sassoun. Po fwyaf a wrthdystia y wlad hon a gwledydd eraill, gwaethaf yn y byd yw yr erledigaeth •yn myned. Y dydd o'r blaen, dywedai llyw- odraethwr Marsovan ei fod ef wedi pender- tynu llwyr ddinystrio y cftn Cristionog Os diswyddid ef am wneyd hyny, ymffrostiai yn mhellach y medrai efe gael cylfeusderau i gario ei waith yn mlaen wedi hyny Teimla yr Armeniaid yn ddwys o herwydd nad yw llywodraeth Brvdain yn gwneyd yr hyn a [ ddisgwylid oddi wrthi. Cychwynodd y La Normandie o Havre am New York, un diwrnod yr wythnos ddiwedd- af dan amgylchiadau hapus. Ond, yr ail ddiwrnod, lladdwyd y tanwr gan ffrwydrad nwy yn y lie i gadw glo. Yn mhen deu- ddydd wedi hyny, torodd tfin allan ynddi, yr hwn a ddifioddwyd ar 01 deng awro ymdreeh ga, 'ed. Da iawn gan y cadben oedd cael troi i mewn i Queenstown i ymofyn cymmhorth Oes fer fu i'r rhyfel-long haiarnwisg Ffrengig newydd, if-asselia. prydnawn ddydd Alei-cher, 'iansiwyd'hi i'r m6r am y tro cyntaf. Dranoeth rhedodd ar y traeth a rhaid adgyweirio llawer arni. Rhwng yr Eidal a Brazil ffyna anghyd- welediad difrifol ynghylch yr iawn y dylid ei roddi i ddeiliaid yr Eidal am y colled ion a gawsant pan oedd y gwrthryfel yn Brazil. Yn Palestrina, yn yr Eidal, y mae cryn derfysg wedi bod, fel gwrthdystiad yn erbyn y trethi a godir gan y Ilywodraeth. Ymleda y cyffrawd, ac y mae miiwyr wedi eu hanfon yno i'w ddarostwng. Nid yw llywodraeth yr Unol Dalaethau yn caniatau i ryfel-longau gwledydd eraill dauio ar ei llongau masnachol hi, ac anfon dynion iddynt i chwilio beth fydd ynddynt. Am fod un o longau rhyfel Yspaen wedi gwneyd hyny a llong berthynol iddi ar ororau Cuba, gofyna y weriniaeth am eglurhad, ac ymddi- heurad. Mae Yspaen yn cael llonaid ei breichiau o waith i ddarostwng gwrthryfel yr ynyswyr. Bu digwyddiad gwaedlyd yn Megyaszo, yn agos i Szerenes, yn Hungary, ddydd tau. Ethol heddynad lleol yr oeddis, ac eiddigedd mawr yn ffynu rhwng pleidwyr yr ymgeis wyr. Heb reswm o gwbl, aeth yr heddgeid- waid i ymyryd a'r bobl a'r canlyniad fu, ym- laddfa ffyrnig, yn mha un y lladdwyd tri dyn. Gwasgarwyd y dorf, a chymmerwyd deg ar hugain o honynt i'r ddalfa. A'r bai i gyd ar geidwaid yr hedd eu hunain Yn un o orsafoedd y ffordd haiarn yn Silesia, o ddeutu deg o'r gloch boreu ddydd Iau, deuai cerbydres i mewn. Methwyd ei liarafu, a rhedodd yn orwyllt oddi ar y llinell, gan fyned ar draws adeitadau yr orsaf lladd y gyriedydd ac anafu y gwyliedydd, a lliaws o'r teithwyr a dychryuu pawb trwy yr holl le ac attal trafnidiaeth am ddyddiau. Yr wythnos ddiweddaf, caed ycliydig new- yddion am y penaeth 4 rabaidd, y Sheik SEN- ussi. Dywedir ei fod ef wedi myned, gyda byddin, i Dat-fur, un o dalaethau y Gau Brophwyd yn y Soudan, a'i fod ef yn awr yn gwneyd ymgais i gyrhaedd hyd at Omdur- man, y brifddinas, trwy Kordofan. Amryw fisoedd yn ol, yniunodd y penaeth hwn & Sultan Wadai; acyroedd gan y ddau, rhyng- ddynt, fyddin gref o amryw gaunoedd o ryf- eJwyr y gallent ddibynu arnynt. Lnodd y ddau eu miuteioedd ynghyd i wneuthur rhuthrgyrch cryf a phenderfynol yn erbyn yr ellyll dynol sydd yn gormesu y byd 'Mahometanaidd yn y Soudan gyda chreu- londeb digyffelyb. Os Ilwyddant hwy i ddyfodai,no o'r tu ol iddo, bydd y Jlakcli megys rhwng dau dan. Ar yr ochr arall bydd y rrydeimaid a r jYiaaiiaici yn pwyso arno a'r disgwyliad ydyw y llwyddant hwy, rhyngddynt, i roddi terfyn ar ei deyrnasiad mall. Cr edir. hefyd, fod 'lywodratth ain yn aimog y tihcik a r Sultan i'r \¡it" da. hwn. Ryddäi yn fenditb i areiddiad, mas- nach, n'r efengyJ, i gael gwaredigaeth oddi wrth y Gau Brophwyd creulawn hwn. Amddiffynir tv y trafnoddwr Prydeinig yn Rio de Janeiro gan fintai o heddgeidwaid. Yr achos o hyn ydyw, fod y bobl yn teimlo mor ddigofus yn erbyn Prydain am ei bod wedi cymmeryd mcddiant o Ynys Trinidad. Ofnir rhag i niwed gael ei wneyd i'r traf- noddwr. Os gwaethyga pethau yno, y peth nesaf y gallwn ddisgwyl elywed am dano ydyw, fod un o'r rhyfel-iongau Prydeinig yn cael ei hanfon yno. Am fod y Mahdi yn eu gorwesu (ac, felly, yn cadanihau yr hyn a ddywedir genym mewn paragraph blaenorol), dywedir fod derfis aid' barfur, ac amryw dalaethau yn nghymmydogaeth Khartoum, yn myned oddi yno, a" ymsefydlu mewn cymmydogaethau pellach mewn cyfeiriad gorilewinoi. Ni roddai dim fwy o lawenydd i'r rhai hyn na dyoichweliad gallu eu gormeswr annhringar ac annhrugarog. Hwyrach nad yw hyny yn mhell. Nid oes prin dair wythnos er pan briododd y Dywysoges HELENE o Orleans a'r Due AosTA o'r Eidal; ac ymddangosai eu bvwyd priodasol yn debyg o fod yn un llawn llonder a llawnder. Ysywaeth, eisoes y mae profed igaeth wedi gorphwys ar eu haelwyd glyd. Yfodd y dywysoges leiath fig la ynddo. Y canlyniad fu iddi gael ei chymmeryd yn glaf iawn, gan daraw pawb o'i chwuipas a dychryn. Nid Brazil ydyw yr unig wlad sydd yn dyweyd fod ganddi hawl i ddyweyd gair yn erbyn gwaith Prydain yn cymmeryd medd. iant o Ynys Trinidad. Mae llywodraeth Venezuela, hefyd, yn udganu yn groch yn ei hudgorn hithau. Pa hawl sydd ganddi hi mwy na Brazil i'r ynys fechan, nid yw yn hawdd gwybod. Ond, y mae Venezuela yn teimlo mor gryf ar y mater fel y IDyn ym- Itidd cyn y cailf Prydain gadw meddiant o lioni, os ydys i gredu yr hyn a ddywedai ei harlywydd wrth ohebydd un o newyddiadur- on New York. Nid yw yn ymddangos fod Arglwydd SALISBURY yn cymmeryd gdim cyffro. Un rheswm am hyny ydyw, y gftyr efe yn dda, fel gweinidog tramor gallu cryf, pa fodd i ymddwyn at all. truenus o wan. Llywodraeth mewn profedigaeth am arian beunydd ydyw llywodraeth yr Edal, er ei bod yn trethu ei deiliaid yn drymach nag un arall dan haul. Mewn cyfyngder y mae hi yn y dyddiau hyn. Hi a twriadodd adeiladu senedd-dy newydd yn Rhufain, am draul o drigain mil o bunnau. Ond, am fod yr arian yn brin, y mae y bwriad wedi ei dynu yn 01.