Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
20 articles on this Page
I TCYNNWYSIAD. -I
I TCYNNWYSIAD. I pjgwydcMM 1 Y SenedJ — ••• "• — ••• 2 Tclegrfinis — I., 3 Troseddau a Darawei. niau 3 Dcbcmlir Cymrn 3 Genedigaethau, &c. 4 Prif Erthyglau 4 Kewyddioa Cymreig 5 Barddonia;tb. n' 6 Marchnadoedd «• 6 Gohebiaetbau 6 Hysbysiadau. 7-8
[No title]
RES gartref chwyldroadau ydyw Yspaen wedi arfer bod ar hyd y blynyddoedd, bron y gallem ddvweyd ar hyd yr oesoedd. Odid yr ii deuddeg mis heibio na bydd gan y llywodraeth ryw o-ythr wfl gwrthryfelgar, bychan neu fawr,* ar ei dwyKw i'w ddarostwng. Nid yw yr un sydd gauddi yn y dyddiau hyn, y mae'n wir, i'w gym- mharu AT rhai sydd wedi bod yno; ac etto, nid haw-dd dyfalu yn mha le y buasai hwn yn terfynu oni bae i'r awdurdodau ymgodymu ag ef mewn pryd. Ni chaniateir i ddim manylion ddyfod allan yn ei gylch ond, er gwaethaf pob dyfitlwch, y mae yn wybyddus fod amryw yn y brifddinas, a rhai mewn trefydd eraill, wedi eu eymineryd i'r ddalfa fel cyfranogion ynddo ac i wneyd y drwg y i waeth fyth, ymddengys fod rhai o swyddogion y llywodraeth ei hun, ac hyd yn oed gweision yn y palas brenhiuol, yn y camwedd.
[No title]
Y mae yr Arglwydd RANDOLPH CHURCHILL j wedi dychwelyd adref o'i daith gyfandirol, yn iachach ei gorph a rliyddach ei ysbryd, yr ydym yn hyderu. Daeth i Dy y Cyffredin am y tro gyntaf nos Lun, i wrandaw ar Ysgrifenydd yr Iweiddon yn dadlenu ei fesur gormes. Ar y modd y gwrandawai, yr oedd yn ammhossibl deall pa fodd y teimlai. Ymddangosai mor oer a digyffro a phe na fuasai ond un o chwedlau doniol /ESOP yn cael ei hadrodd. Nid oes neb hyd yma yn gwybod pa ochr a gymmer efe. Dyfalir y bydd i'r Jlywodraeth wneyd cais arbenig i sicrhau ei bleidgarwch trwy gynnyg swydd newydd iddo yn y weinyddiaeth; ond a ueidiai efe at yr abwyd ? 0 un peth gellir bod yn sicr; sef, y gallai ei arglwyddiaeth, pe yn dewis, ddymchwelyd Arglwydd SALISBURY a'i lywodratt I bendramwnwgl yn y cyfwng hwn.
[No title]
UJlem dybio fod rhai o glerigwyr yr Eglwys Sefydledig yn Llynlleifiad wedi penderfynu gwaradwyddo ei chymmeriad trwy eu hystrangc- iau defodol, hyd eithaf eu gallu hwy. Y ddau Sabbath diweddaf, bu eglwys loan Fedyddiwr, yn Park Road, yn faes golygfeydd tra an- iSaliljotfiol ac anghrefyddol. Mynai y clerig g&dw canwyllau yn oleu ganol dydd ar yr allor; ond mytiodd un o'r wardeiniaid eu diffodd, am yr hyn y dygwyd ef o flaen yr ynadon ganol yr wythno8, Yn y cyfamser, yr oedd y clerig wedi addaw peidio goleu y canwyllau y Sabbath di- weddaf ond efe a wrthododd beidio casglu yr Mian mewn 'bagiau,'yn 1:e y platiau yn ol yr hen drefn. Canlyniad hyn a fu i'r warden pybyr a erlynwyd gan y ficer ychydig ddyddiau yn JWnorol, gipio ei fag oddi ar un o'r casglydd- iorl, ei ddryllio, a cholli yr arian hyd lawr, am yr hyn, yn 01 pob tebyg, y dygir ef eilwaith o flatii yr heddlys.
[No title]
id yn fynych y darDenwn am ysbeiliad j wy beiddgar na'r un a fu yn Birkenhead nos Fawrtli, Tua naw o'r gloch dychwelai Mr. ^1TH, aroJygwr mewn ariandy, adref, a phan Yi, mrou yn ymyl ei dy ei hun, yn Axton, wele a: /n dyfod ato, gan ofyn iddo yn haerllug .dlll1 Sw' Wrth gwrs, gwrthododd yntau y ^an we^e yr adyn yn rhoddi 4y"'()d ?d" nes oodd efe ar ei hyd ar lawr; y?' Y" Penlinio ar ei fynwes, gan geisio tynu 11 oritwr allan ? ?ge]!. Ac efe yn methu ei t4all Yl rbydd a bod Mr. SMITH yn amddiayn 4 byd eithaf ei allu, chwibanodd yr ys- ??i( "'y hyn a ddygodd dri o ddyhirod eraiH llaw yn gwylio, ato i'w gynnorth- ??''?smt ei bwrs, yn yr hwn yr '?aj ?n ? Punt, a hen swllt wedi ei fathu yn j ? yadyu 181? GIlodd Mr. SMITH roddi disgrinad o ddau o'r ysbeilwyr i'r heddgeid- waid, y rhai yn awr ydynt yn dyfal ch wilio am 1 danynt hwy a'r ddau arall.
[No title]
Yn y dyddiau hyn, gofynir mewn syndod, a chan rai gydag ammheuaeth mawr-Ai tybed C h an rai gyda-, mewn difrif y gall Mr. CHAMBERLAIN bleidio mesur y llywodraeth ar orfodaeth yn yr Iwerdd- on, a darostwug y Gwyddelod i gyllwr na bydd nemawr gwell nac uwch nag ystad o gaefchiwedl Y mae yn alarus meddwl nas gall fod ond ychydig ammheuaeth mai yn y eadarnhaol yr ydys i atteb y cwestiwn, ysywaeth. Gan nad pwy a geir i wrthwynebu yr oruies, bydd y cyn Radical o Birmingham yn mhlith pleidwyr gwresocaf y mesur. Sicrheir gan rai sydd yn proffesu gwybod y gyfrinach yn dda fod peth cyfnewidiad wedi ei wneyd yn y mesur chwe awr cyn i Mr. BALFOUR ei ddadleu yn y Ty; a'i fod, gan hyny, yn y wedd bresennol arno, oil yn gymmeradwy ganddo. Ac, er hyn oil, efe a feiddia alw ei hun yn Rhyddfrydwr!
[No title]
Nid ydyw y Parchedig GRIFFITH ELLIS, M. A., Bootle, i'w ystyried yn mysg pleidwyr cael cyf- ieithiad diwygiedig o'r Beibl Cymraeg. Nid am ei fod yn ystyried y cyfieithiad presennol yn berffaith, ac nid am nad ellid ei ddwyn yn rhwydd yn nes at y gwreiddiol; ond am y gall- em, trwy gyfieithiad newydd, golli y swyn a'r llyfnder sydd yn ei arddull, yr hyn yn sicr a fyddai yn golled uwch law ei phrisio. Darllen odd Mr. ELLIS bapyr galluog, nos Lun diweddaf, yn nghyfarfod y Gymdeithas Genedlaethol Gy- mreig, Liverpool, ar Gyfieithiad Diwygiedig o'r Testament Newydd yn Gymraegac wedi dangos fod y cyfieithiad presennol yn rhagori mewn lliaws o fanau ar y cyfieithiad Seisnig awdurdodedig, ac y ceir ynddo liaws o'r darllen- iadau sydd yn yr un diwygiedig, tra ar yr un pryd yn addef fod ammherffeithrwydd ynddo, dywedodd I nas gallai, gyda dim hyder, osod ei hun yn mysg y rhai sydd yn dadleu dros gyf- ieithiad diwygiedig yn yr iaith Gymraeg.'
[No title]
Dydd Llun diweddaf, rhwng naw a deg o'r gloch yn y boreu, cyfarfyddodd dau weithiwr ar linell ffordd haiarn siroedd Lancaster a Chaer- efrog a'u marwolaeth niewn modd dychrynllyd iawn, ger llaw gorsaf Marsh Lane. Yn ol un adroddiad, dychwelyd o'r orsaf gyda bir o haiarn yr oeddynt. Yn ol adroddiad arall, eyf- lawni rhyw orchwyl ar y llmell ei hun yr oedd- ynt. Bid a fyno, goddiwoddwyd hwy gan y tien cyflym o Liverpool i Southport, yr hwn a'u iladdodd mewn amrantiad, gan ddryllio eu cyrph yn arswydus. Bysbyswyd yr awdurdod- au am y ddamwain yn ddioed, a chymmerwyd y cyrph i' dy .y meirw i aros y trengholiad, yn yr hwn y pasiwyd dedfryd o farwolaeth ddam- weiniol. Ni wyddai gyriedydd a gwyliedydd y tren ddim am y trychineb hyd nes y cyrhaedd- asant ben eu siwrnai.
[No title]
Ni a obeithiwn nad ydyw hen ddinas enwog Caerlleon yn myned i golli dim ar ei chymmer- iad da trwy i rai o'i thrigolion ymfwystfileiddio yn eu hysbrydoedd a phenderfynu eu cwerylon trwy her-ymladdfeydd. Gwell genym obeithio mai eithriad annymunol i'r rheol ydoedd yr hyn a ddigwyddodd yn amgylchoedd y ddinas y Sul diweddaf. Yr wythnos flaenorol, digwyddodd anghydwelediad rhwng dau laslangc o ddeutu ugain mlwydd oed, yn nghyfch rhyw gystadleu- aeth neu gilydd, a thrwy ymladd am arian y gellid tori y ddadl. Am hyny, y diwrnod a nodwyd, yn ngVtydd rhyw ddau cant o rai tebyg iddynt hwy eu hunain, buont am dair Iroutull neu bedair yn dyrnodio y naill y Hall yn ddi- drugaredd, hyd nes y dyfarnwyd un o honynt yn fuddugwr. Yn mha le yr oedd yr heddgeid- waid Ai heb glywed am yr heilynt yr oedd- ynt? A ydyw y ddau ymladd wr mewn daJfa. ganddynt1
[No title]
Nid yw yn debyg y peryglai bretiin Belgium y gronyn lleiaf ar gadernid ei orsedd, ond efe a allai chwanegu llawer at ei boblogrwydd, pe rhoddai efe faddeuant Hawn a chyffredinol i'r rhai a daflwyd i ac a gedwir yn ngharchar am y rhan a gymmerasant yn y terfysgpedd sweith- faol' a ddigwyddodd yn y wlad hono yu mis I Mawrth y llynedd. Ffyna teimlad cryf, ac un cynnyddol, o blaid iddo wneyd hyn y dyddiau presennol. Y Sul diweddaf, cynnaliwyd cyfar- fod poblogaidd yn un o neuaddau eangaf y brif ddinas, gyda'r amcan o fabwysiadu deiseb at y brenin a'i weinyddiaeth o blaid rhyddhad y carcharorion dan sylw. Llywyddid gan senedd- wr areithid gan amryw o wyr mwyaf dylan- wadol Brussels; a gwneid y cynnulliad i fyny, yn benaf, o'r dosbarth canol a marsiandwyr y ddinas. Amser yn unig a ddengys pa un a Iwyddir yn y neges.
[No title]
Od oes gwir mewn un sibrwd a ledaenir yr wythnos hon, y mae hen helynt terfyndir Aff- ghanistan wedi ei benderfynu, a Brydain a RwøsÏa wedi dyfod i weled lygad-yn-llygad yn mha le i dynu y llinell derfynol. Da iawn, os ydyw hyn o achos anhunedd ac el fen perygl rhwng dwy wlad a ddylent fod mewn heddweh di-dbr A'u gilydd wedi ei symmud ymaith. Ffyononell y sibrwd, medd gohebydd un o new- yddiaduron Manchester yn Llundain, yr hwn oedd y cyntaf i'w ledaenu, yw swyddfa dramor Rwssia ei hun. Modd bynag, rhy brin yr ydys yn gallu ei gredu ar unwaith. Diwedd yr wythnos o'r blaen, rhoddid ar ddeall fod y prif ddirprwywyr yn Affghanistan o du Brydain a Rwssia i ymgyfarfod yn St. Petersburg, i gyd ymddiddan ar y pwngc; ac ai tybed fod y gwaith wedi ei orphen yn mron cyn i'r un o'r ddau gychwyn ? Ar yr un pryd, gobeithiwn ei fod, ac na chlywir chwaneg o drwst yn ei gylch.
[No title]
Fel llywodraethwr cyffredinol yn Canada y mae Ardalydd LANSDOWNE, yr hwn, gyda llaw, sydd yn rhyw fath o Ryddfrydwr, wedi llwyddo i ymgadw rhag gwneuthur camgymmeriadau dybryd, ac i ennill peth poblogrwydd yn mysg y Canadiaid. Ond, fel perchen ystad eang yn yr Ynys Werdd, y mae.efe yn amlwg wedi cym- meryd cam gwag, trwy ei wrthodiad pendant a chyndyn i roddi gostyngiad yn ei ardrethoedd, a thrwy hyny roddi cyfleusdra i'w denantiaid i fabwysiadu I Cynllun y Rhyfelgyrch,' yr hyn, hefyd, sydd yn sicr o effeithio ar ei boblogrwydd yn Canada. Mewn ystyr arianol, hawddach na nemawr dirfeddiannwr Gwyddelig y gallasai ei arglwyddiaeth fforddio dychwelyd swm da yn ol i'w ddeiliaid anghenog; ond ymddengys ei fod wedi cau ei galon rhagddynt o wir adgasedd tuag at weithrediadau y Cynghrair Cenedlaethol.
[No title]
0 New Zealand ceir hanes gyda'r llythyrgod diweddaf sydd yn wir ddychrynllyd yn ei fanyl- ion, ae yn dangos fod y cynfrodorion yn parhau mewn ystad isel o ran eu gwareiddiad. Cred ant yn ddwfn mewn dewiniaeth, a'r gospedig aeth yn eu mysg ar y rhai a geir yn euog o'r trosedd ydyw llosgi i farwolaeth. Ymddengys fod g'«'r a gwraig o'u plith yn cael eu drwgdybio o fod yn ddewiniaid; ac mewn cyfarfod dirgel- aidd a gynnaliwyd gan benaetliiaid, ae eraill o wyr blaenaf y llwyth-o ddeutu trigain mewn nifer, meddir penderfynwyd gweinyddu y ddedfryd arnynt Mewn canlyniad, amgylch- ynwyd eu hannedd gan nifer liosog o wyr a gwragedd yn sychedu am eu gwaed, Dodwyd y lie ar dan, a rhag iddynt lwyddo i ddiangc o'r fflamau, saethwyd y ddau yn gyntaf. Yna ym wahanodd pawb, gan gredu fod llid y duwiau wedi ei ddyhuddo.
[No title]
Ar yr 21ain o'r mis diweddaf, derbyniodd Mr. STAMFORD RAFFLES, ynad cyflogedig Liver- pool, lythyr, yn yr hwn, wedi rhoddi yr enwau gwaethaf y gallai eu dychyraygu arno, y bygyth iai yr ysgrifenydd gymmeryd ei fywyd oddi arno. Yr enw wrth yr ysgrif ydoedd THOMAS HARDY a disgrifiai ei hun fel milwr perthynol i un o'r catrodau sydd yn gwersyllu yn Nghaer- gaint. Fel person unigol buasai Mr. RAFFLES yn taflu y llythyr i'r tan; ond o herwydd y swydd a ddelir ganddo, efe a'i rhoddodd yn nwylaw yr heddgeidwaid. Anfonwyd un o honynt hwythau i Gaergaint, yr hwn a gafodd filwr o'r enw JOHN HARDY yno, a'i lawysgrif, yn ol tystiolaeth ei gydnabod, ac yn ol yr hyn a ysgrifenwyd ganddo ef ei hun yn ngfrydd y gwyddog, yn debyg i ysgrifen y llythyr. Y mae yr achos yn awr yn nwylaw g*r cyfarwydd mewn llawysgrifiaeth i wneyd cymmhariaeth rhwng yr epistol bygwth ac ysgrifau addefedig y cyhuddedig.
[No title]
Gwlad a. diffyndolliaeth mewn bri ynddi yw Ffraingc wedi bod ar hyd y blynyddoedd. Ond hyd yn oed yno y mae teimlad cryf o blaid masnach rydd yn ffynu, ac yn cynnyddu bob dydd mewn nerth. Un o'r arwyddion goreu ydyw fod cynghrair rliyddfasnachol new- ydd gael ei ffurfio yno, a rhai o wyr blaenaf y Weriniaeth wrth ei lyw, megys, M. LEON SAY, M. YVES GUYOT, a CAMILLE PELLETAN. Paris, wrth gwrs, ydyw pencadlys y cynghrair. Bwr- iedir cario yr ymgyrch yn erbyn diftyndolliaeth yn mlaen trwy gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, a gwasgar pamphledau ar hyd a lied y wlad, i oleuo meddyliau y bobl, a chreu teimlad ynddynt o blaid y gyfundrefn rydd. A'r sycimudiad newydd hwn y mae ein cydymdeimlad dyfnaf ni; ac eiddunwn ei Iwyddiant penaf. Pe ceid gan Ffraingc a'r Unol Dalaethau i fabwysiadu masnach rydd, nid hir y byddai yr holl fyd heb wneyd.
[No title]
Heno (nos Wener), y bydd Mr. PARNELL yn cynnyg ei welliant ar y Mesur Gorfodol, a chymmer yr ymraniad le nos Lun, y mae yn debyg. Teimla y Toriaid yn hyderus am fudd. ugoliaeth fawr. Y gefnogaeth a roddir iddynt gan y Rhyddfrydwyr rhagrithiol-yr Undebwyr —sydd yn peri iddynt fod yn hyderus.
[No title]
A yw y blaid Doriaidd yn unfryd-un-farn ar y mesur gorfodol sydd yn awr o flaen y wlad ? Oddi wrth ei hanes blaenorol, fel plaid ufudd ac ymostyngar yn mhob peth i'w harweinyddion, gallesid disgwyl iddi fod. Ond y mae genym bob sail i gredu nad yw yn y dyddiau presennol. Yn hytrach, ceir yn ei rhengoedd wyr craff a galluog sydd yn meddu barn o'r eiddynt eu hunain, ac yn teimlo yn llawn mor wrthwynebol i ysbeilio y Gwyddelod o'u rhyddid a'u hiawn- derau fel deiliaid yn y wladwriaeth a neb pwy bynag yn mysg y blaid Ryddfrydig. Yn wir, sibrydir fod ogof' ar fin cael ei ffurfio, i'r hon y rhed pob Tori anfoddog a gwrthwynebol i orfodaeth a chwanegir mai Jarll CAERNARFON fydd blaenor gwyr yr ogof y waith hon. Ni ryfeddem ddim, canys y mae ei duedd ef yn gref at Ymreolaeth er pan fu yu Arglwydd Raglaw yr Iwerddon.
[No title]
Mewn llythyr a dderbyniasom oddi wrth Mr. THOMAS LEWIS, A. S., efe a'n hysbysa mai afiechyd yn unig a'i lluddiodd ef rhag bod yn bresennol yn Nhy y Cyffredin, noson yr ymran- iad ar welliant Mr. MORLEY. Pe yn gallu bod yn y Ty, ni raid dyweyd mai dros y gwelliant y buasai yn pleidleisio. Da genym ddeall fod y boneddwr anrhydeddus wedi gwella, ac yn awr yn alluog i gyflawni ei ddyledswyddau seneddol.
[No title]
Yn ol y newyddion diweddaraf oddi ar arfor dir gorllewinol Affrica, yr oedd y sefyllfa yn adfydus a chythryblus i'r eithaf yno. Er's rhai blynyddoedd, nid yw masnach yn flodeuog ar y goror hwn; ond yn awr, ymddengys ei fod wedi attal yn llwyr. Yr achos o hyn, y mae yn ym ddangos, ydyw ymladdfeydd rhwng y brodorion a'u gilydd yn y caDolbarth. Pan oedd yr ager- long a gyrhaeddodd i Liverpool o'r rhandir, ddechreu yr wythnos hon, yn cychwyn oddi yno, yr oedd yr awdurdodau Prydeinig wedi gorfod anfon ymgyrch milwraidd i ranau mewnol y cyfandir i amddiffyn y masnachwyr a gostegu y cythrwfl, o byddai hyny yn bossibl. Nid oedd ond ychydig wythnosau chwaith er pan oedd llywodraeth Ffraingc wedi gorfod anfon rhyfel- long yn yr un cyfeiriad i gystwyo y penaethiaid crwynduon.
[No title]
Nid oes yn ddiau ddim ag sydd yn ilieiddiach gan deimlad y wlad na bod neb o'i swyddogion yn deibyn llwgrwobrwy. Yr ydym, gan hyny, yn gobeithio nad oes dim o'r cyhuddiadau bryntion a luchid yn ddibrin gan y naill aelod at y llall yn nghyfarfod diweddaf pwyllgor iechyd dinas Manchester yn wir. 1 ddechreu dywedodd aelod o'r enw Mr. BRIGHT fod yr Henadur BROWN wedi cynnyg brib o gan punt iddo ef am arfer ei ddylanwad fel cadeirydd pwyllgor y baddonau ynglyn a phryniant rhyw dir y teimlai yr henadur ddyddordeb ynddo