Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

YR IAITH GYMRAEG, A CHOLEGAU…

News
Cite
Share

YR IAITH GYMRAEG, A CHOLEGAU CYMRU. Y MAE yn dda genym weled fod Coleg Deheudir Cymru wedi cymmeryd i fyny y cwestiwn sydd yn cael ymdrin ag ef yn y penderfyniad canlyn- 01, yr hwn y cyttunwyd arno gan senedd Coleg y Brifysgol yn eu cyfarfod diweddaf:— Bod senedd Coleg Prifysgol Deheudir Cymru yn dymuno yn barchus ddwyn ger bron senedd Pnfysgol Llundain y pwysigrwydd o chwanegu yr iaith Gym- raeg at yr ieithoedd yn y rhai y gellir arholi yr ym- geiswyr yn arholiad cyntaf (rnatncltlatwn) y bnf- ysgol. Y mae arwyddion boddhaol mewn gwahanol gylchoedd fod y genedl Gymreig, a'r iaith hefyd, yn cael mwy o sylw nag yn y blynyddoedd o'r blaen; ac yr ydym yn llawenhau wrth weled fod corph mor ddylanwadol a Choleg Prifysgol Deheudir Cymru wedi cyttuno ar y pender- fyniad uchod. Y mae llawer o foneddigion erbyn hyn-ac yn eu plith, Ardalydd BUTE, a'i briod-yn pen- erfynu dysgu Cymraeg i'w plant—yr hyn sydd yn arwydd arall er daioni. Yn aunibynol ar bwysigrwydd y Gymraeg fel iaith, a'r fantais a ddeillia oddi wrth ei bod yn cael ei hefrydu, yr ydym yn rhyfeddu fod neb sydd yn caru llwyddiant gweithwyr, a'u teuluofidd, yn ceisio eu harwain i ddysgu Saesneg i'w plant, ac i anghofio Cymraeg. Yr ydym yn rhyfeddu hefyd fod rhai rhieni (a'r gweithwyr yn enwedig) mor ffol a chymmeryd eu camarwain gan neb i siarad Saesneg yn unig a'u plant, yn hytrach na siarad y ddwy iaith. Yn Lloegr, y mae yn angenrheidiol i bawb fedru siarad Saesneg, wrth gwrs j ond nid ydyw yn un anfantais iddynt fod yn deall yr iaith Gym- raeg. Felly hefyd, os byddant yn trigianu yn Nghymru, y mae y Gymraeg yn angenrheidiol; ac y mae deall y Saesneg yn fanteisiol yr un modd. Ond da fyddai i rieni gofio y bydd eu plant, fe allai, yn gorfod ymfudo i America, neu i ranau eraill o'r byd, lie y bydd gallu deall a siarad Cymraeg yn mron yn sicr o ddwyn cyfeillion iddynt. Ac yn mhrif drefi Lloegr hefyd, o ran hyny, os gallant siarad yr iaith, ac os byddant yn meddu cymmeriad da, bydd eu cydgenedl yn gymmhorth iddynt i sicrhau lleoedd a gwaith, a llawer o fanteision eraill y byddant yn chwilio am danynt—yr hyn nis gall y Sais na'r 'Die- Sion-Dafydd chwaith. eu disgwyl. Dywedir fod y Freemasons yn adnabod eu gilydd yn mhob rhan o'r byd, trwy arwyddion neillduol; a pha le bynag y gwel un frawd iddo mewn angen mewn rhai o'r gwledydd pell, bydd yn teimlo ei hun dan rwymau i'w dderbyn, a'i groesawu, a'i gynnorthwyo. Ni wyddom pa beth ydyw yr arwyddion dirgelaidd hyny, trwy ba rai y mae y naill yn adnabod y llall, ac nid ydyw o bwys genym; ond gwyddom hyn, oddi wrth hanesion sicr a gawsom o'r America, ac Awstralia, a New Zealand, a gwledydd eraill- fod y ffaitil fod dyn yn Gymro, ac yn gallu siar- ad Cymraeg, yn drwydded sicr iddo yn mron i gefnogaeth Cymry unrhyw ardal y bydd efe yn disgyn i'w plith. Gellir ymddiried fod hyn yn ffaith sicr. Annogwn rieni Cymru, gan hyny, drwy yr holl Dywysogaeth, i siarad Cymraeg a'u plant yn eu teuluoedd, ar yr un pryd ag y maent yn dysgu Saesneg, ac i ddwyn eu plant i fyny niewn adnabyddiaeth o'r hen iaith. Yr ydym yn llongyfarch colegau Aberystwyth a Chaerdydd am y sylw y maent hwy wedi ei dalu i iaith eu gwlad. Yii Aberystwyth, y mae Mr. J. E. LLOYD, B.A., yn 'athraw Cymraeg a Hanesyddiaethac yn Nghaerdydd, y mae Mr. THOMAS POWELL, M. A., yn llenwi yr un cylch; ac yn cymmeryd i mewn, ni dybiwn, yr ieithoedd Celtaidd. Ond yn Mangor, nid oes son am na'r naill na'r llall! Y mae Groeg a Lladin, yr Ieithoedd diweddar, a'r iaith Saes- nig, ei llenyddiaeth a'i hanesiaeth, Rhesymeg, A throniaeth, Mesuroniaeth, Fferylliaeth, An- ianeg, a Daeardraith, a phroffeswyr galluog wedi eu pennodi i ofalu am bob un o honynt. Ond nid oes yno i'w gael yn eu trefniadau cym- maint a'r ddarpariaeth leiaf ar gyfery Gymraeg! Nac oes :—nid oes yiio gymmaint a modfedd o le iddi hi gael rhoddi ei throed i Jawr! Y mae symiau anrhydeddus yn cael eu talu i'r profies- wyr sydd yn llenwi y cadeiriau uchod; ond nid ydyw yn ymddangos fod cymmaint a swllt mewn blwyddyn yn cael ei wario ar hen iaith barchus a chyfoethog yr Hen Wlad yn Ngholeg Mangor! Diolchwn o galon i bwyllgorau Aberystwyth a Chaerdydd am yr hyn a wnaethant; a chred- wn nad ydynt ar eu colled, ac na byddant ar eu colled chwaith, wrth beidio ymddwyn yn ddi- ystyrllyd at iaith eu gwlad eu hunain.

Y DDRYCIN WYDDELIGI WEDI DECHREU!

IY DEGWM.

Y CLERIGWYR, A DEISEBAU I'R…

T R A M 0 R. I