Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

Y GWERSYLL EWROPAIDD. I

News
Cite
Share

Y GWERSYLL EWROPAIDD. Y MAE y perygl mwyaf yn deilliaw oddi wrth y ffaith fod Ewrop yn parhau i gynnyddu, ac i chwaDegu at nerth milwrol. Gall defnyddiau mor I losgadwy a'r arfau milwrol hyn tfrwydro ar darawiad megys, a myned yn goelcerth dychrynllyd; ac yn mhellach, y mae y baich trethol a aohosir trwy y parotoadau par- haus hyn Yl1 dyfod yn ddinystriol yn en canlyniadau Hyd yn oed yn Mhrydain Fawr, y mae treth yr in- cwm wedi codi i wyth geiniog, tra nad oedd flyn- yddoedd yn ol ond dwy geiniog yn y bunt, fely mae, yn ol geiriau Arglwydd Randolph Churchill wythnos cyn iddo ymddiswyddo, gynnydd o ddeuddeng mil- iwn o bunnau yn y flwyddyn wedi disgyn ar un dos- barth o ddeiliaid ei Mawrhydi.' Y mae hwn yn gyn- nydd dychrynllyd, a chofio yn mha gyssylltiad y dodir ef. Yn ol ystadegau a gyhoeddwyd ddechreu y tlwyddyn hon, y mae arfoglu Ewrop mewn amser o heddweh yn cyrhaedd 3i miliwn o ddynion, a 124 miliwn wedi en dysgyblu yn barod i ryfel. Deuddeng miliwn a hanner o ddynion parod i ymladd yn Ewrop Gristionogol! Y mae y ffigyrau hyn yn dangos y trueni mwyaf. Yn Ffraingc, y mae rhwymedigaeth y gwasanaeth milwrol yn pwyso yn barhaol ar ys- gwyddau y trigolion oil, oddi gerth ychydig o gleifion. Y mae yr amser dysgyblaethol yn parhau am bum mlynedd, ond y mae rhwymedigaeth i'r gwasanaeth yn parhau dros ugain mlynedd. Y mae y Rwssiaid vn ddarostyngedig i'r un rwymedigaeth. Yn Awstria y mae y gyfraith filwrol yn rhwydo pob dyn o 19eg mlwydd oed i fyny hyd 43ain. Nid yw dyn ag sydd yn cyimal teulu cyfan yneithriad i'r ddeddf galed hon. Yn yr Allmaen y mae rhwymedigaeth i'r gwasanaeth milwrol yn cyrhaedd o 20 l 42 mlwydd oed, ond rhaid iddynt ymnno fi'r fyddin dair blynedd yn flaenorol. Rhaid aberthu pob math o gyssylltiadau teuluaidd i'r hawliau creulawn hyn a osodir gan y Llywodraeth. Fel hyn y dygir miloedd o ddynion ieuaingc û'u car- trefi, i fod yn ddinystr moesol iddynt, ac i'w hattal i fod yn alluog i gynnal eu hunain mewn amser dyfod- ol. Yn chwanegol at y beichiau trymion hyn, y mae Ewrop yn gorfod cyfrann at gadw i fyny yr amddi. ffyufeydd. Er enghraifft, y mae Ffraingc er 1871 wedi aileiladu amddiffynfeydd dwbl ar y terfyn rhyngddi a'r Allmaen, y rhai sydd yn cyrhaedd 140 milldir o hyd. Ac nid yn unig y mae yr offerynau arfog yn cael eu cynnyddu mewn nifer, ond hefyd, y maent yn fwy Idieflig' o ran ansawdd. Mewn un cyfeiriad, clywir am offerynau ag sydd yn ddinystr marwol ar bob llaw; yn y cyfeiriad arall drachefn, clywir am 'longau dynamei'taidd,' ac arfau eyffelyb, yn cael eu parotoi ar gyfer brwydrau dyfodol. Gan fod y pethau hyn felly, nid oes ryfedd fod swn rhyfel yn agos, ac ar dori megys. Yn y rhagolwg am y fath drychineb clywir miloedd yn gofyn yn aiddgar A ellir gwneyd rhywbeth i attal y fath gyflafan ?' Y mae y cwestiwn hwn yn Ilawer liawddach i'w ofyn na'i atteb. Er hyny, y mae un cam ag y gellir ei chyninieryd-3 gartrefol a thramor; sef, i weinidogion, yn gystal a'r eglwysi Cristionogol ymddeffroi a sylweddoli eu cyf- rifoldeb yn y mater hwn, a gweddio ar Dduw, arran heddwch cyffredinol y bydysavvd. Ond nid gweddi yw yr oil sydd yn angenrheidiol. Y mae Duw yn pwyso gweddi wrth raddau yr ymdrechion sydd yn ei dilyn. Nid yw ymadrodd y genau yn unig yn dylanwadu yn y nefoedd. Gall wneuthur hyny ar dilynion, oud dyna'r cwbl. Pe byddai Cristionogion a'r eglwysi yn onest, ac nid yn rhagrithiol yn eu gwedd'iau, gallent weithredu yn ddylanwadol ar y cwestiwn pwysig hwn.

[No title]

[No title]

I SIR GAERNARFON.

-'!1 jtn. I