Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
16 articles on this Page
y GYNSWYSIAD. I
y GYNSWYSIAD. Digwyddiadau », 1 Y Senedd 2 Telegrams 3: Cofnodiou Cyffredinol .1 Y Nofel. 3 Genedigðau, &c. ••• ••• ••• ••• 4 Prif Erthyglau 4 Newyddion Cymreig 4-5 Barddoniaeth 6 Marchnadoedd 6 Gohebiaethau ••• 6 Newyddion Diweddaf on 7 Hysbysiadau 8
[No title]
Yn oeddym wedi synio fod yr hen arfer wrthun o gario ar yr ysgol wedi darfod yn 11 wyr allan o'r wlad ond y mae yn ymddangos ei bod yn parhau i lechu o hyd yn mhlwyf gwledig Ceryg- ceinwen, yn Mon. Tua phythefnos, mwy neu lai, yn ol, daeth bagad o ddynion at annedd dyn o'r enw OWEN OWENs-tnag at yr hwn, o herwydd rhyw reswm neu gilydd, na theimlai ei gymmydogion yn garedig Ymhyfhaodd am- ryw o honynt i ddyfod i mewn i'r ty; ac wedi cael gafael yn OWEN, hwy a'i gwthiasant allan. Yna, wedi cael ysgol, dodwyd ef i orwedd arni; ac er mwyn ei ddiogelwch rhag codwm yn y gweithrediadau dilynol, efe a sicrhawyd a rhaff- au wrth yr ysgol. Yn nesaf, cipiodd nifer o ddynion yr ysgol ac yntau ar eu hysgwyddau, ffurtiwyd gorymdaith; a cherddwyd trwy y gymmydogaeth am gryn ennyd; hyny yw, hyd nes y digwyddodd i heddgeidwad ddyfod i'r lie, pryd y gollyngwyd y caeth yn rhydd. Yn heddlys L'angefni, ddechreu yr wythnos hon, rhwymwyd y direidwyr i gadw yr heddwch am chwe mis.
[No title]
Nid i Nihiliaeth, Sosialiaeth, Ffeniaeth, nac unrhyw aeth' arall gydryw, ond i ddialgarwch personol, yr ydys, yn ddiau, i briodoli yr hyn a ddigwyddodd yn maesdref Walton, ger Liver- pool, y prydnawn Sal diweddaf. Yn y dreflan hon triga g*r o'r enw ROWLANDsoN-yr hwn, mewn buarth ger Haw ei annedd, a ddilyna y grefft o gyffeithio crwyn pysgod. Tra yn y buarth gyda brawd-yn.nghyfraith iddo, yr adeg a nodwyd, sylwodd ar gostrel gareg o faintioli cyffredin wedi ei darnguddio o dan bentwr o goed. Cododd y gostrel i fyny; a thra yn tynu y corcyn oedd yn ei genau ymaith, wele ffrwydr- ad dychrynllyd yn cymmeryd lie, gan losgi ei wyneb, ei ddwylaw, a'i goesau, a gwneyd y llestryn yn gandryll. Anafwyd y brawd, hefyd, gan y darnau, er ei fod ar y pryd rai llatheni o'r fan. Yn ddilynol, caed allan fod peiriant uffernol' o fewn y gostrel, yr bwn oedd wedi ei wneyd yn gywrain i ffrwydo os tynid y corcyn ymaitb. Rai misoedd yn ol, ceisiodd rhyw adyn anadnabyddus siethu Mr. ROWLANDSON, a bernir mM efe a osododd y gostrel beryglus yn muarth y ty, hefyd.
[No title]
Prif waith hufen' ymherodraeth yr Almaen, ddechreu yr wythnos hon, ydoedd dathlu oed- wyl eu teyrn patriarchaidd yn ddeng mlwydd a phedwar ugain. Yn y brif ddinas, Berlin, yr oedd y rhialtwch tu hwnt i bobpeth a fu yno erioed o'r blaen, a chyffelyb ydoedd mewn dinas- eedd eraill ar raddfa lai. Nid ydym yn gwybod am un genedl arall a gafodd gyfleusdra i ddathlu law deng-ralwyddiad ei phen coronog. Fel yr Swgrymasom, hufen' yr ymherodraeth oedd yn ytndaflu i'r gorchwyl hwn. Ychydig ddyddor- de, fel rheol, a gymmerai haenau isaf cym- deithas yno yn y miri. Nid ydyw bendithion renhiniaeth nac ymherodraeth GWILYM yr Imaen wedi bod iddynt hwy nac ami na erthfawr j eithr, y mae beichiau trethol y Ilalll a'r Ilall o'r ddwy ffurflywodraeth wedi bod yn ormes drom arnynt; ac yn gyfryw orthrwm, wir, fel y ceir syniadau gwerinol yn cynnyddu yn yr Almaen yn fwy a chyflymach nag mewn 11,1 wlad arall ynEwrop.
[No title]
 Er yn Babydd selog, nid oes gan Mr. MAT- .l:!&lfa Y. ,?, yr Ysgrifenydd Cartrefol, un gwrthwyn- bblad I Wuanaethu Eglwys Loegr, am y bydd tr WY hyny, y mae yn debyg, yn gwaaanaethu ?eth. Pwy ond Tori cyndyn, a dyn yn teimlo yn elynol i Ymneillduaeth yn mhob dull a gwedd ami, a fuasai yn atteb Mr. T. E. ELLIS fel y gwnaeth Mr. MATTHEWS yn Nhy y Cyffredin nos Lun. Yn mysg pethau eraill, ofynodd yr aelod ieuangc talentog dros Feir- ion, ai gwir ydoedd-fod periglor Llanfrothen yn gwrthod i Ymneillduwyr gael eu claddu mewn darn newydd o'r fynwent, sydd ynglyn ag eglwys y plwyf gyda'r gwasanaeth Aughydffurfiol I Eithaf gwir oedd hyny, meddai yr ysgrifenydd; ond yn ei wrthodiad, nid oedd y rheithior yn gwneyd dim, chwanegai, ag oedd yn drosedd ar ddeddf newydd y claddfeydd. A ph& ham I Am fod y wreigan a fa, tuag ugain mlynedd yn ol, yn rhoddi y tir at wneyd y darn newydd o'r fynwent, wedi ei roddi ar yr ammod fod pob gwasanaeth angladdol a weinyddid ynddo i fod yn ol deddf yr Eglwys!
[No title]
Cwestiwn mawr Prydain yn y dyddiau hyn, heb os nac oni bae, yw-A oes ganddi hi eisieu gweled mesurau o ddiwygiadau gwladol a chym- deithasol yn cael eu pasio I Neu, a ydyw hi yn foddlawn ar i bethau aros fel y maent, heb ei bod hithau yn ceisio chwanegu cymmaint a chufydd at ei maintioli? Os mai y blaenaf a ddymuna, yna, rhaid iddi droi y LIywodraeth bresennol o'i gwasanaeth, a gosod yn ei lie weinyddiaeth o Ryddfiydwyr aiddgar, o dan arweiniad y pen- campwr o Ben ar lAg. Ar y llaw arall, os mai boddlawn ydyw hi i aros yn ei hunman, nis gall wneyd yn well na chadw Ardalydd SALISBURY a'i griw' yn eu swydd. Y mae y Toriaid yn cashau pob deddfwriaeth ddiwygiadol, ac yn dangos yn eglur yn y dyddiau hyn mai myned yn ol i'r 'oesoedd tywyll' ydyw awyddfryd dyfnaf eu calon. Yr ydym ni, o leiaf, yn credu yn gryf fod y deyrnas yn rhy gall i gadw y dynionach hyn wrth ei llyw nemawr yn hwy.
[No title]
Un o'r ammodau ar ba rai y gall Arglwydd Raglaw sir Fflint roddi erw a hanner o dir i'r glymblaid dra aflonydd sydd yn Ninbych yn awyddus am helaethu mynwent yr Eglwyswen, ydyw fod y tir wedi ei gyssegru. Chwith genym feddwl fod un o bendefigion mwyaf dy- lanwadol Dyffryn Clwyd wedi ei swyno i'r fath raddau gan ffwlbri ofergoelus y cyssegriad' fel ag i osod rhyw am mod o'r fath o flaen y cyhoedd o dan unrhyw amgylchiadau. Wrth gwrs, yr ydym yn cydnabod fod hyn yn hollol gyd-daraw a dymuniadau y rhai sydd wedi bod yn fwyaf blaenllaw (er hwyrach nad yn fwyaf cyhoeddus a siaradus) gyda'r mudiad aflerw hwn. Am y bydd y fynwent newydd yn un rydd, ac o dan reolaeth y Cynghor Trefol, y teimlant hwy gymmaint gwrthwynebiad iddi. Ond, ceir y darn newydd at fynwent yr Eglwyswen yn gwbl o dan awdurdod y periglor. Dyma yr esboniad ar eu sSl hwy, yn ddiammheu, a pha ham na wel Ymneillduwyr Dinbych hyny.
[No title]
Yr ydym yn gobeithio na welir byth mo Brydain yn mabwysiadu yr athrawiaeth y dadleuai yr Arglwydd GEORGE HAMILTON, fel prif Ysgrifenydd y Morlys, drosti yn Nhy y Cyffredin nos Lun diweddaf. Amcangyfrifon y Llynges oedd ar y bwrdd; ac yn mysg pethau eraill, dywedai ei arglwyddiaeth mai y rheol wrth ba un y dylai Prydain wario arian ar ei dau wasanaeth amddiffynol-y fyddin a'r llynges —ydoedd yn ol fel y byddo gwledydd eraill yn gwario ar eu byddinoedd a'u llyngesoedd hwy. Gwleidyddion anghraff a ffolion ydyw tylwyth urddasol duciaeth Abercorn, ben a chynffon, wedi arfer bod; ond yr ydym agos yn meddwl na chyrhaeddodd ynfydrwydd politicaidd y teuiu y fath eithafbwynt a hwn erioed o'r blaen. Na, na; nid yr hyn a wneir gan wledydd eraill yw y rheol i fod o gwbl. Effeithiolrwydd ydyw y rheol i ni, wrth gwrs. Gwnaed gwledydd eraill fel y mynont. Gwnaed Prydain ei byddin a'i llynges yn effeithiol.
[No title]
Fel blaenor yr Undebwyr, y mae Ardalydd HARTINGTON wedi colli ymddiried y blaid Rydd frydig yn mron yn llwyr, a'i boblogrwydd agos wedi cwbl ddiflanu. I'r gefnogaeth a gafodd gan y Toriaid yn yr etholiad cyffredinol diwedd- af yn unig y mae efe i ddiolch ei fod heddyw yn aelod seneddol. Yn yr etholiad cyffredinol nesaf, y mae Rhyddfrydwyr pybyr adran Ros sendale wedi penderfynu na adawant gareg heb ei throi er sicrhau dychweliad dyn a fydd yn gynnrychiolydd gwirioneddol i'r etholwyr. Y maent, yn barod, yn prysur wneyd eu trefniad- au gogyfer a'r frwydr sydd yn marn rhai yn mron wrth y drws. Un cam yn y cyfeiriad dymunol hwn ydoedd yr un a gymmerwyd gan- ddynt wythnos i heddyw; sef, chwynu eu cym- deithas oddi wrth yr Undebwyr yn mysg ei swyddogion. Gwir mai anfon eu hymddiswydd- iad i mewn a wnaeth y rhai hyn ond gwneyd hyny yr oeddynt am y gwyddent pa beth i'w ddisgwyl os na wnaent. Derbyniwyd ef yn rhwydd a diolchus, ac nid oes yn aros yn y swyddogaeth yn awr ond y gwenith pur.
[No title]
Y mae yn amlwg oddi wrth lytbyr Mr. CADWALADR DAVIES i un o bapyrau dyddiol Liverpool fod y newyddiaduron Seisnig wedi gwneyd cam dybryd a dinas Bangor wrth ei darlunio fel tref anfoddlawn i wneyd dim tuag at ddathlu jiwbili teyrnasiad y frenhines. Nid dyna y gwir am dani, dybygid. Yr oil a wnaeth y cyfarfod cyhoeddus a fu yno yr wyth- nos ddiweddaf ag y gallasai y dylornwyr ei ystumio yn brawf o annheyrngarwch ydoedd gwrthod cefnogi y sefydliad ymherodrol y mae Tywysog Cymru yn teimlo cymmaint o ddyddor- deb ynddo. Cs ydyw hyny yn brawf o an- nheyrngarwch, yna y mae Bangor, fel lliaws o fanau eraill-Dinbyeh yn eu mysg-yn euog o'r cyhuddiad. Yr hyn a basiwyd yn unfrydol gan y cyfarfod ydoedd, eu bod yn dathlu y jiwbili trwy gefnogi achos lleol; a'r achos y syrtbiwyd arno yn naturiol ydoedd, cael ysgoloriaethau newyddion yn ngholeg y brifysgol sydd yn y ddinas. Wrth gwrs, gall y neb a fyno attegu hobi' Tywysog CYMRU yr un fath.
[No title]
A ydyw cantores swynber I Craig y nos' yn ymfalchio yn ei phoblogrwydd 1 Nis gwydd- om; ond y mae y demtasiwn iddi wneyd hyny yn fawr, yn enwedig pan y eofiom gymmaint ydyw yr awydd mewn pobl am ei chlywed yn canu. Cyrhaeddodd yr awydd hwn ei eithaf- bwynt wythnos neu ddwy yn ol, yn St. Louis, Unol Dalaethau yr America. Ar nos Wener yr oedd ei chyhoeddiad hi yn y ddinas hono. Ond dechreuodd y bobl ymgynnull at y neuadd yo gynnar y noson flaenoroI-nos Iau Amcan hyn wrth gwrs, ydoedd bod mewn pryd i sierhau eisteddle. Cyn machlud yr haul, yr oedd o leiaf gant yn y lie, a'u rhif yh chwyddo yn bar haus, oil wedi penderfynu aros yno ar hyd y nos. Cyn toriad gwawr dranoeth, nid oedd eu rhif o dan fil; yn wyr a gwragedd, duon a gwynion. Un negro a wthiwyd rywfodd yn ol o'r ffrynt, lie y sicrhasai le iddo ei hun yn un o'r rhai blaenaf; ond efe a fynodd adfeddiannu ei safle, a thuag at hyny, ymlusgodd, neu ym- gripiodd ar hyd benau y dorf nes cyrhaeddai y man a ddymunai! Pan agorwyd y drysau, I llanwyd y lie mewn ychydig eiliadau, a lliaws yn gorfod troi yn ol.
[No title]
Ori ydyw hanner y newyddion o A ffghanistan yn wirionedd, yna, yr ydys yn rhwym o gredu fod Rwssia yn arfer yr ystrywiau mwyaf an. nheilwng a chyfrwysddrwg tuag at helaethu ei dylanwad yn Nghanolbarth Asia, os nad, hefyd, yn parotoi gogyfer â. rhyfelgyrch yn erbyn y wlad hono a'r India ei hun. Mewn lly thy r a ysgrifenwyd gan frodor o Bokhara, dywedir fod un o brif swyddogion milwraidd Rwssia ar ei daith yaaweliadol a'r penaethiaid yn y rhanbarth hwnw, gan ranu anrhegion gwerthfawr yn eu mysg, ac addaw llawer yn chwaneg iddynt, os tyr rhyfel allan rhwng Rwssia a Brydain ynghylch yr India, ac os byddant hwytbau yn ffyddlawn i Rwssia, wrth gwrs, yn y rhyfel gyrch hwnw. Yn Afghanistan ei hun, y mae lliaws o I ysbfwyr' Rwssiaidd yn ddyfal yn ceisio cynnyrcbu anfoddogrwydd yn mysg deil iaid yr Ameer, ac yn Jlwyddo i raddau gormodol. Gwna yntau ei oreu i wrthweithio eu dylanwad, canys y mae efe yn awr yn elyn calon i bob peth Rwssiaidd. Yn mysg pethau eraill, y mae efe wedi anfon cylchlythyr argraphedig at benaethiaid y llwythau yn ei wlad, yn yr hwn y geilw arnynt i ymbarotoi i I ryfel fianotaidd' yn erbyn Rwssia fel archelyn eu gwlad a'u cref- ydd, Appelia atynt yn benaf yn yr epistol hwn, fel Mahometaniaid, gan ddangos iddynt pe unwaith yr ennillai Rwssia y Haw drechaf, y bydd eu rhyddid yn sicr o gael ei gymmeryd oddi arnynt. Y mae wedi anfon I offeiriaid' allan i gyffroi meddyliau y werin, hefyd.
[No title]
Ysywaeth, y mae yn rhy fuan i ni na neb arall waeddi 'Diogelweli,l a dyweyd nad oes berygl i heddwch Ewrop gael ei dori eleni. Ar yr un pryd, anhawdd ydyw peidio sylwi ar y gwabaniaeth amlwg ac anwadadwy sydd i'w ganfod yn y teimlad cyhoeddus yr wythnos hon o'i gyferbynu a'r teimlad oedd yn ffynu chwech wythnos neu ddau fis yn ol. Y pryd hwnw, o'r bron nad oeddis bob dydd yn disgwyl clywed fod rhyfel wedi ei chyhoeddi rhwDg Ffraingc a'r Almaen; ac yna, pan fyddent hwy wedi dechreu ymladd, credid yn ddiysgog y bydd Rwssia ac Awstria yn cymmeryd mantais ar y cyfleusdra i neidio i yddfau eu gilydd. Ond heddyw, awn heddwch a glywir o bob cyfeiriad, fel pe buasai y perygl drosodd. Na atto'r Nefoedd mai tawelwch yn rhagflaenu tymmhestl ydyw yr egwyl bresennol. Dyna a ofnir gan rai gwyr craff, modd bynag.
[No title]
Ychydig wythnosau yn ol, cyhoeddodd y Times gyfres o erthyglau sydd wedi tynu sylw mawr a chyffredinol. Eu hamcan ydoedd ceisio profi, trwy ffeithiau ac ystadegau, yr hen gy- huddiadau sydd bellach er's blynyddoedd yn cael eu lluchio i wynebau aelodau Parnellaidd Ty y Cyffredin, o fod yn gwybod am, ac am hyny yn foesol gyfrifol am, a chyfranog yn yr ysgelerderau gwaedlyd a fu yn yr Iwerddon yn ystod y blynyddoedd diweddaf; ac mai ar arian tanysgrifiadau gelynion gwaethaf Brydain y maent hwy yn ymgynnal, heb un amcan, mewn gwirionedd, i'w bodolaeth seneddol, na dryllio yr undeb rhwng Brydain a'r Iwerddon, a ffurfio gweriniaeth yn yr ynys ar gynllun Unol Dalaethau yr America. A gwadiad dir- mygus y mae Mr. PARNELL a'i gyfeillion wedi cyfarfod y cyfan. Yn awr, pa fodd bynag, ceisir dwyn y cyhuddiadau i bwynt; ac er's rhai dyddiau ceisir enwau yn y T5- wrth ddeiseb at y Llywodraeth yn gofyn iddi, yn ddiymdroi, appwyntio pwyllgor i wneyd ymchwiliadau i hyn. Ond rhy brin yr archwaethir y gorchwyl gan y weiuyddiaeth.
[No title]
Dangos eu hanwybodaeth yn unig yr oedd y rhai fu yn lledaenu chwedlau yn ddiweddar y byddai ymherawdwr yr Almaen yn ddihatru ei hun o'i wisgoedd swyddol, ac yn eu dodi am ei fab, ar ddydd pen ei flwydd yn ddeg a phedwar ugain. Ni freuddwydiodd am wneyd dim o'r fath. Efe a fydd farw yn ei swydd, gellir bod yn sicr. I'w boblogrwydd personol ef, yn fwy nag i ddim arall, yr ydys i briodoli yr undeb cryf sydd yn awr yn bodoli cydrhwng y fath nifer liosog o dalaethau anghydrywiol ag a gyf- ansoddant yn ymherodraeth fawr Almaenaidd. Mewn gair, efe ydyw y prif rwymyn undeb rhyngddynt; a phrin y goddefid i neb-hyd yn oed ei fab-fod yn ben cyhyd ag y bydd efe byw. 0 dan lywyddiaeth yr hen batriarch pen- wyn naw deng mlynedd y mae hi wedi cyrhaedd ei safle uchel bresennol. Pan oedd merch bynaf brenhines Brydain, ddeng mlynedd ar hugain ya ol, yn priodi mab hynaf yr ymherawdwr—yr hwn y pryd hwnw nad oedd ond brenin Prwssia-dy- wedai rhai ei bod hi yn priodi is-law i'w sefyllfa, ac y dylasai edrych yn uwch am ei gftr. Ond, ar ol y cyfnewidiadau sydd wedi cymmeryd lie yn nhreigliad y blynyddoedd, pwy yn awr a faidd ddyweyd hyny ?
[No title]
Os gwir ydyw yr adroddiadau a anfonir o Berlin a Vienna, ac yn wir o St. Petersburg ei hun, ynghylch yr ymgais diweddaf i frad- lofruddio ymherawdwr Rwssia, yr oedd y cyn- llwyn maleisus yn un mwy difrifol na dim y meddyliwyd ei fod ar y cyntaf. Erbyn hyn y mae amryw ugeiniau, os nad rhai cannoedd o bersonau, yn gymmysg o feibion a merched, wedi eu cymmeryd i'r ddalfa, ar y cyhuddiad o fod yn gyfranogion yn y brâd. Ond difrifolach fyth ydyw yr ystyriaeth pwy sydd yn cyfan