Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

4 articles on this Page

[No title]

News
Cite
Share

Ni ddarfu i un pwnge dynu mwy o sylw y Deyrnas Gyfunol yn ystod yr wythnos ddiw- eddaf na'r hwrddlestri sydd yn awr yn gorwedd yn y Mersey-y rhai, meddir, a adeiladwyd gan Meistri Laird, o Birkenhead, i'r Gwrth- ryfelwyr yn America; ac fe sicrheir nad oes un ammheuaeth o barth i'w nodwedd ryfelgar. Maent wedi eu gorchuddio & haiarn cryf, yn meddu lleoedd cymmhwys i fagnelau, ac wedi eu cyfansoddi yn y fath fodd fel y gellir eu defnyddio fel hwrdd lestri. liGnid unwaith mai i Lywodraeth Ffraingc y gwnaed hwynt, ac i'r diben o gael gan y byd gredu yr adrodd- iad, rhoddid enwau Ffrengig arnynt; ond wedi i Drafnoddwr Ffraingc yn Liverpool anfon llythyr i'r newyddiaduron i hysbysu nad oedd dim a wnelo ei lywodraeth ef a hwynt, dy- wedid mai Rhaglaw yr Aipht oedd wedi eu herchi. Modd bynag, y gred gyffredinol yw, eu bod wedi eu hadoiladu i lywodraeth Jeffer- son Davis; yr hon sydd yn defnyddio y llwybr hwn, nid gyda'r meddwl o leshau ei hun trwy nmeidio masnach yr Undebwyr, ond gyda'r amcan o gynnhyrfu rhyfel rhwng Lloegr a'r Gogledd. Os anfonir y llestri byn allan, der- byniant eu harfau a'u dwylaw o'r wlad hon trwy ochelyd llythyren y gyfraith, a defnyddir hwynt i ddinystrio masnach y Gogledd. A'r hyn sydd waeth ydyw, fod sefyllfa y gyfraith y fath fel nas gallwn wneud dim. Er ein bod yn gweled ein hunain yn cael ein harwain yn brysur i ryfel arswydus, nis gallwn ymsymmudv Dyrysir ni yn hollol gan yr esboniad a roddir gan y cyfreithwyr ar Gyfraith Rhestriad Tra- mor. Gellir adeiladu llestri yn mhorthladd- oedd Prydain, ond nid eu "taclu" fel llestri rhyfel, a'u gwerthu i genhedloedd mewn rhyfel i galluoedd yr ydym mewn heddwch a hwynt. Nid ydyw yr eglurhad cul a roddir ganddynt ar y gair "taclu" ond rhywbeth i gadw llythyren y gyfraith, ar draul dinystrio ei hys- bryd. Onid ydyw gwisgo llestr a haiarn, a'i dodrefnu a hwrdd, yn dacliad" i ryfel, cystal a'i harfogi a magnelau ? Onid ydyw adeiladu llestr mewn un o'n porthladdoedd, a'i harfogi o un arall, yn frad wriaeth i ochelyd y gyfraith ? Os nad allwn brofi i ba le y bwriedir anfon y llestri hyn, ai nid allwn brofi nad i'r lie y pro- ffesir eu hanfon yr anfonir hwynt ? Fel y saif pethau yn bresennol, y mae rhan o ddeil- iaid y Frenhines mewn cynghrair a'r Gwrth- ryfelwyr, ac yn rbyfela yn erbyn y Gogledd. Y cyfryw ydyw yr eglurhad, yn ol Cyfraith y Gwledydd, y dylid ei roddi ar ymddygiad Mr. Laird a goruchwvlwyr y De yn y wlad hon. Fel y dywed Mr. Goldwin Smith—" Mae y Gwrthryfelwyr yn camddefnyddio ein porth- laddoedd, yn llygru ein niorwyr, yn dian- rhydeddu ein baner, yn troseddu yn erbyn ein hammhleidgarwch, ac yn fwriadol yn ein gosod mewn perygl aruthrol." A ddywedir nas gall y Ilywodraeth attal hyn ? Os oes anhawsder YD. y Fyfr-itli, onid oes gan y Goron allu i attal allforiad arfau trwy orchymyn mewn Cynghor? ac fe arferwyd y gailu hwn gyda golwg ar sulphur a phlwm yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf. Nid oes un ammheuaeth nad ydyw y ddwy lestr yn dyfod o dan y pen "ftfau;" ae felly, gall larll It ussell an hattal ibag myned allan, os ewyllysia. Pa fodd yr edrychim ni ar y trosedd, pe cyflawnid ef yn tin herbyn ni? Pa fodd y dat fu i ni edrych Mno yn ystod y rhyfel yn y Crimea? Clyw- som fod gwiblougau rhytel yn caei eu hadeil- adu a'u taclu i Rwssia yn mhorthladdoedd America, i'w defnyddio i ddinystrio ein mas- toch; a chwynasom wrth Lywodraeth yr UDol Daleithiau fod hyn yn drosedd o ysbryd am- mhleidgarwch. Gwrandawyd ar ein cwyn. ae attaliwyd y Ilongau rhag myned allan; ae o herwydd yr ystyrid fod cyfraith fwrdeisiol yr Unol Daleithiau yn annigonol i gyfarfod a'r achos, diwygiwyd y gyfraith yn y fath fodd ag i wneud ei gweithrediad yn sicr. Onid ydyw cyfiawnder yn galw arnom i ddi!yn yr esampl hon 1 Pa ham y goddefir i beth mor bwysig a llwyddiant y wlad i ddibynu ar beth mor ddistadl ynddo ei hun ag ydyw eglurhad ar un o'n cyfreithiau. Y mae hyd yn oed y Times—yr hwn a fu yn dadleu yn ffyrnig dros yr ochr arall i'r cwestiwn—yn awr yn addef y dylid diwygio y gyfraith a bod gwaith, un o ddwy blaid mewn rhyfel yn defnyddio porth- laddoedd gwlad ammhleidiol i'r diben o barotoi rhyfelgyrch yn erbyn y llall, yn anghysson i phenaduriaeth y Frenhines; a chadarnheir hyn gan yr holl areithiau a draddodwyd yn ein senedd ar Gyfraith Rhestriad Tramor. Y cwestiwn sydd gan ein llywodraeth i'w ystyried yn awr yw-nid pa un a ydyw Hong neillduol i gael ei defnyddio fel gwiblong yn erbyn un o'r pleidiau mewn rhyfel. Mae pethau yn wahanot yn awr i'r hyn oeddynt cyn i'r Alabama adael porthladd Liverpool. Prof- wyd gan fryslythyrau attafaeledig fod Llyw. odraeth y De yn gwneud defnydd rheolaidd o borthladdoedd Prydain i'r diben o adeiladu llynges wrthryfelgar. Maent trwy eu dichell- ion wedi llwyddo i ochelyd gwyliadwriaeth swyddogion y Tolldy; ac mor fuan ag y mae y llongau yn myned i'r m6r, dechreuant ar eu gwaith ysbeilgar. Gan nad oes ganddynt un porthladd fel sylfaen i'w gweithrediadau, maent wedi mabwysiadu porthladd Liverpool fel un manteisiol i'w gwasanaethu; yr hyn sydd ynddo ei hun yn groes i'r gyfraith. Y farn gyffredin yw, os parhawn i hbni nad ydyw Cyfraith Rhestriad Tramor yn cyfarfod a'r achos, y gallwn fod yn eicr, pe torai rhyfel allan rhyngom a Ffraingc, ac America yn am- mhleidiol, na byddai i Lywodraeth Washing. ton attal gwneuthuriad Alabamiaid i Ffraingc i ddyfetiia ein masnach ar For y Werydd.

I 9-twgddion ymdø. I

MADAGASCAR.

[No title]