Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y SYMUDIAD YMOSODOL.

EISTEDDFOD GADEIRIOLI ANIBVNWlfR…

Advertising

Gwobrwyo yn Ysgolion Elfenoi…

News
Cite
Share

Gwobrwyo yn Ysgolion Elfenoi LJanrwsi a Trefriw. Prydnawn ddydd Iau, ymwelodd Mr W. Hughes, U.H., a'r Parch W. Thomas, ar ran Llywodraethwyr Lleol Addysg y cylch, ag Ysgolion y BecbAn, Llanrwst, i'r amcan o ranu y gwobrwyon enillwyd gan y plant. Yr oedd golwg dda ar y cant a haner plant oedd- ynt yno o dan ofal Mr D. J. Williams a'i gyd- athrawon, ac aethant trwy raglen ddyddorol iawn mewn canu ac adrodd.—Mr W. Hughes a ddatganodd ei lawenydd o weled i ddau enill oriaduron arian am bresenoldeb difwlch am saith mlynedd, 21 wedi cadw'r ysgol heb golli yr un tro yn ystcd y flwyddyn, a 18 heb golli ond nifer fechaa iawn o weithiau. Trwy y cysondeb hwn yr oeddynt nid yn unig yn enill iddynt eu hunain fanteision mawrion, ond enillasant roddion at dreuliau yr ysgol fyddai yn ysgafnhad pwysig ar y trethi.—Y Parch W. Thomas a gyflwynodd yr oriaduron i Robert Roberts a Robert Evan Pritchard. gan anog iddyrst ganlyn yn mlaen yn yr un cyfeiriad yn y dyfodol. Yna cyflwynodd lyfrau i'r rhai fuont ffyddlawn ar hyd y flwyddyn, a'r rhai cyson yn yr ysgol.—Terfynwyd y cyfarfod dyddorol trwy i'r plant ganu, Fel y llong ar gefn y Hi" We are out on the ocean sail- ing a 0 beth a wnei di a'r Iesu ?" Prydnawn Gwener, ya Ysgol y Genethod, Llanrwst, bu Mr W. Hughes a'r Parchn W. Thomas a W. Cynwyd Williams vn rhanu y gwobrwyon i'r ffyddloniaid perthynol iddi. Y mae yr ysgol hon o dan ofal Miss Jcnes a chynorthwyesau yn gwneyd yn dda iawn, ac yr oedd golwg hardd nodedig ar y "Goeden Nadolig 11 anferthol wedi ei llwytho ag anrheg- ion ddarparwyd gan yr athrawesau. Wedi myned trwy raglen ddyddorol mewn adrodd a chanu.—Cafwyd sylwadau buddiol gan Mr W. Hughes cyn i Mrs T. C. Roberts ranu gwob- rwyon i saith o'r genethod am bresenoldeb di- fwlch yn ystod y flwyddyn, i bedair am bresen- oldeb da, chwech am ymddygiadau. a llu am waith da yn ystod y flwyddyn.—Llongyfarch- wyd Miss Jones a'r stiff gan y Parch W. Cyn- wyd Williams. Dibenwyd trwy ranu 11 wyth y Goeden Nadolig, a chanu yr anthem Genedl- aethol Gymreig, Prydnawn Iau, yn y Neuadd, Trefriw, bu cyfarfod nodedig o lwyddianus gyda gwobrwyo plant yr ysgol ddyddiol. Llywyddwyd gan y Parch Evan Davies, ac arweiniwyd gan y Parch Henry Jones. Yr oedd poblogrwydd y cyfarfod yn brawf o'r dyddordeb gymer yr ardalwyr yn Uwyddiant addysg y plant, a'r lie uchel sydd gan Mr Roberts, yr Ysgolfeistr, a'i gynorthwywyr yn eu serchiadau. Cafwyd anerchiadau campus gan y Cadeirydd i agor y cyfarfod, ac aeth y plant trwy raglen ddyddor- ol dros ben.—Cyflwynodd Mrs Marsh wobr- wyon o'i heiddo ei hun am wniadwaith i ugain o'r genethod.-Rhoddodd Cadben Kitchen wobrwyon i nifer. lawr iawn am fedrusrwydd mewn Seisneg. Canmolai yr arholwr y plant yn y gangen bwysig hon. Rhanwyd y gwob- rwyon hyn gan y Parch Henry Jones.—Mr R, H. Williams A gyflwynodd y gwobrwyon am bresenoldeb, a cbafwyd ganddo anerchiad buddiol ac amserol.-Y Parch Henry Jones a ddywedodd fod Cadben Kitchen yn rhoddi y gwobrwyon am Seisneg da er cof am ei ddi- weddar frawd, Frederick Kitchen, yr hwn oedd wedi cymeryd y fath ddyddordeb yn y lie a'r plant.—Ar gynygiad Mr T. R. Williams, diolchwyd i roddwyr y gwobrwyon, y Cadeir- ydd, yr Ysgolfeistr a'i gynorthwywyr, a phawb gymerasant ran yn y cyfarfod.

Nod Angen Oymdeithas ---Lenyddol.---

IGyfarfod Llenyddol a Cherddorol…

I Chwedlau am Robin Ddu -Eryri.

I MINFFORDD.

Advertising