Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

Y SYMUDIAD YMOSODOL.

News
Cite
Share

Y SYMUDIAD YMOSODOL. GAN Y FRIF-ATHRAW Y PARCH. ELLIS EDWARDS, M,A,, D D., BALA, Yn Mai 1911, bydd y Symudiad Ymosodol (The Forward Movement) yn ugain oed. Dechreuodd mewn pabell yn East Moore, Caerdydd. Sefydlwyd ganddo 50 o orsafau. Ei brif faes yw yr hwn a gynhwysa y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru, y Debeudir, ond y mae gsnddo orsafoedd yn y Gogledd, ac yn Ngwrecsam, ei neuadd ef yw y fwyaf a'r oreu o gerrig a phriddfaen, a geir yn Ngwynedd. Amcan cyntaf y Symudiad oedd dwyn i mewn y rhai nad ceddynt yn aelodau o unrhyw eglwys na chynnulleidfa, a gwneyd o honynt ddychwe;e3igion. Yn Nghaerdyda, lie y cychwycodd, daeth ei Iwyddiant yn fuan amlwg, a miloedd a heidient i glywed ei Efengyl. I'w ofal anfonwyd plant wrth y cannoedd. Adnabyddwyd y Symudiad fel un o alluoedd mwyaf grymus y ddinas, Nid oedd dim gwadu y ffaith, yr oedd rhyw nerth wedi dyfod a anfonai ei oleuni i'r llecedd tywyllaf, ac a droiai rai o'r dynion a'r gwragedd gwaeth- af vn wych weision i'r Duw byw. Meistrad- oedd a wrthodent erlyn, oherwydd fod y tros. eddwr, drwy y Symudiad Ymosodol, wedi troi dalen newydd mor lwyr. Gwragedd nas gallai neb eu rbeoli a wnawd fel wya, oherwydd rhywbeth a glywsent mewn un o ystafeilcedd y Symudiad YmosodoL Rhai mercbed oeddynt ar yr beolydd, a gyfnewidiwyd gyrnaint, fel nad oedd gan aelodau y Pwyllgor, a ddeuent o bell, ac a'u gwelent yn eu gwisgoedd destlus, un syniad o ba beth eu gwaredwyd. Gweith- wyr gyda hwyrach un cyfreithi»r yn eu pHth, a ddygasent eu cellos, eu violins, eu hoffer- ynau pres i wasanaeth yr Efengyl. Caent weled ilwyfan a 80 o gerddorion. pawb agos yn llaw-weithwyr. Buan y gadawyd yr un babalI Neuaddau hardd wedi eu codi at yr amcan a gasglent i mewn dyrfaoedd, wedi eu huno a'r Efengyl gan y Symudiad Ymosodol. Yn awr, y mae ei adeiladau yn y Deheudir ar daen drwy'r holl wlad. Yn Casnewydd y mae gan y Symudiad un o'r neuaddau mwyaf eacg (dos a gwel ei chynulleidfa ar nos Sul), ynghyd ag amryw neuaddau eraill. Ceir neuaddau hefyd yn Abertawe, Ostellnedd, Treharris, a Dyffryn y Rhondda. Nantvffyllon, Merthyr a Barry Dock, Pontrpoo], Abeicarn, y Blaina, a manau eraill yn Mynyw a siroedd eraill. Yn mhob He yr oedd plant prydferth, llawer o ba rai a ddaliesid gan y bleiddiaid, a llawer a gwympasant dros y dibyn. Ond gwel Y mae'r cwn ar ol y gelynion rbeibus, mae'r bugeiHaid yn brysio i achub yr wyn, a'r Dominicani, cwn hela yr Arglwydd, y bugeil- iaid gwaredol am y rhai yr vdym ya son (nid anghofiwn lafur rhai eraill) ydynt wyr a gwragedd y Symudiad Ymosodol. A ydyw y defnyddioldeb yn pallu? A ydyw y brwdfrydedd yn oeri ? A ydyw yr ymgyrch yn graddol wanhau ? A ydyw yr aelodau a'r adeiladau wedi myned erbyn heddyw yn blis- gyn, heb yr hen bwerus sylwedd ? Os edrychwn ar y ffeitbiau gwelir fod y gwaith yn myned ymlaen mor lwyddianus ag erioed. Os arfer dulliau ymosodol i ddwyn yr Efengyl at becbaduriaid oedd amcan cyntaf y Symudiad, nid dyna ei amcan pellaf, Tynai ddynion i mewn i'w planu, i'w coledd, i geisio iddynt y gras a ddygai ffrwyth lawer. Wei, y mae gan bob un o'r gorsafoedd eglwys i Grist wedi ei gosod ynddi, eglwys reolaidd dan ofal Bugail. Ymofyna yr aelodau am y weiridog- aeth oreu. Cadwent eu bugeiliaid gartref yn eu perthi, drwy o'r bron yr holl flwyddyn. Yn fwy fwy, fel gwyr llawn oed, hwy eu hunain a ddewisact eu bugeiliaid. Daeth nifer o'r eglwysi yn hunan- gynhaliol (y boced a ddwg egwyddor i brawf) peidiodd eraill a phwyso am gynhaliaeth ar gyllid y Symudiad. Erbyn hyn, y mae Cangen neillduol I'r Merched, yr bon a gynhaliodd un o'i chyfarfodydd yn Llandrindod yn mis Awst, y flwyddyn hon. Un o'i hysgrifenyddesau Trefnyddol sydd ferch ynghyfraitb i'r Parch. David Saunders, o anwyl goffadwriaetb, ac mewn congl yn y cyfarfod hwnw eisteddai Mr. Evan Roberts, yr efengylydd, yn wrandawr dystaw ar yr banes- ion a adroddid am fywyd wedi ei ddiwygio, a merched ieuangc wedi eu dwyn o gywilydd i ddedwyddwch. a "llawenydd drwy ymdrechion rhai o wragedd Yr Hen Gorph." Hyn," meddai Mr. Evan Roberts, sydd yn wir yn waith Duw." Y mae y Cartref Gwaredol yn Ngbaerdydd yn parhau ei waith. Daw plant, fesur y miloedd, yn awyddus eto at athrawon y Symudiad. Neuadd yn East Moore, a agorwyd lie nad oedd un lie o addol- iad, a gasgla fwy na 500 o wrandawyr (i roddi y nifer yn isel) ac Ysgol Sul nad ywnemawr lai. Cyfrifa y Memorial Hall gynulleidfa o 2.0CO; y Neuadd fwyaf yn Nghasnewydd, un o 2,500 gydag Ysgol Sul o 680. Yn y gcrsafoedd lleiaf oil, ymddengys fod cynulleidfa dros gant, ac nid oes un ohonynt heb ei heglwys a'i Hysgol Sul. Dyma dystiolaeth ymwel- ydd a'r Memorial Hall, Caerdydd (y flwyddjn hon, yn y Goleuad "-Mr. W. F. Phillips, B.A., B.D.) "Cafwyd cyn- ulleidfa hynod o dda yn oedfa'r bore, a gwnawd hi i fyny o wrandawyr o bob oed, o'r baban i'r gwr deg-a phadwar-ugain. Yn wir, yr oedd nifer y rhai oedranus yn nodwedd hyfryd a rhyfeddol. Yn y prydnawn, anerchais gyfarfod i ddynion yn Sefydliad Wellington Street. Yn ddibetrus dywedaf mai hwn oedd un o'r cyfar- fodydd mwyaf hynod a rhyfeddol V bum ynddynt erioed. Yr oedd yn agos i ddeg a phedwar ugain yn bresennol, llawer ohonynt heb fod oddimewn i le o addoliad am lawer o flynyddoedd nes y dygwyd hwy i gyffyrddiad a'r gwaith yn Wellington Street. Y mae troedigaethau hynod wedi cymeryd lie drwy offerynoliaeth uniongyrchol y gwaith a wneir yma. Yr oedd nifer fawr o ddynion yn bres- enllol yn nghyfarfodyn y Memorial Hall, ac yn ddios y mae gwaith mawr yn myned ymlaen ycahlith y dynion hyn, a'r nos Sul yr oedd y neuadd fawr bron dan sang gyda chynulleidfa yr hon, pe na bae unrhyw un gyffelyb iddi mewn unrhyw neuadd a berthyna i'r Symudiad gyfiawnhai ei fodolaeth." Nid erys y tyst gyda hyn. Dywed fod y neuadd yn agor y ffordd, ac yn gosod esiampl i'r eglwysi hyn. Fy amcan cyntaf wrth bennu yn frysiog hyn o linellau ydyw nid hysbysdaenu y gwaith, na chanmol ychwaith y gweithredwyr. Nid rhaid i'r gwaith wrth hysbysiad, ac y mae y gweith- wyr yn rhy lawn o'r gwaith i ofalu am glod. Ond dymunwn gael nodi allan y ffaith fod genym yma engraifft o'r hyn y gall yr eglwys ei gyflawni yn nghanol gofynion cymmleth y dydd heddyw. Dyma i ni eglwys yn dal yn bybyr at y Ffydd Efengylaidd, yr hon sydd mewn gafael a'r werin bobl. Pregethir yr efengyl yn ei galwad hanfodol i wyr a gwrag- edd fel pecbaduriaid, ac y mae gwyr a gwrag- edd yn ei gwrandaw yn ewyllysgar, ac yn ateb i'w bappel. Yr hyn a wna yr eglwys neillduol hon drwy ei threfniadau, dylid ceisio ei wneyd gan ein holl eglwysi. Mwy yn ein heglwysi o ysbryd narth a brwdfrydedd y Memorial Hall. Yr wyf yn siarad yn bennaf am eglwysi eia cyfundeb ni ein hunain-a.'i gwca yn haws i ni gyfarfod y cybuddiad a anelir atom yn rhy ami, fod yr eglwysi ar ol yr amserau, ac nad ydynt mewn gafael a ffeithiau gwirioneddol bywyd a chymdeithas. Yr engraifft hwn, wrtho ei hun, a brawf y tu hwnt i gysgod o amheuaeth y gall yr eglwysi, ddadrys ac ateb y cwestiwn aDhawdd a berthynas y werin a Christionogaeth ond yn unig i'r eglwysi ddyfod yn fyw i'r hyn y mae y sefylifa ei hunan yn ei wneyd yn bosibl iddynt." Yn niwedd 1909, yr oedd cynydd yn nifer y gwrandawyr (un mawr), deiliaid yr Ysgol Sul, aelodau ar brawf, plant yn yr eglwys, plant wedi ei bedyddio, ac ychwanegiad o un yn nifer y gorsafoedd. Ond tra yr adelledir eglwysi ac Ysgolion Sabbothol, nid yw gwaith Ymosodol y gor- safoedd mewn un modd wedi peidio. Nid yw yr eglwysi yn llithro i fod yn barlyrau lie y gall dynion yn unig gael mwynhau y gwrany- dawiad o'r Efengyl, Nid ydyct wedi dyfod hyd at ddweyd Yr ydym ni yn bobl dda, a pharchus yn awr, nid oes arnom eisieu dyhirod carpiog." Arfera yr aelodau fyned allan i'r heolydd, fel y gwna Byddin Iachawdwriaeth. Canant, pregethant, gwahoddant yn yr awyr agored. Nid ofnant gymeryd eu safle gogyfer a thy tafarn. Cymer troedigaethau le yn am). Tynnir pentewynion o'r tan etto. Troseddwyr pen y ffordd a ddygir etto i'w hiawn bwyll, fel yn nechreuad hanes y Symudiad. "Ni chaiff dda nad el yn namwain." Mentrwyd llawer gan arweinwyr y Symudiad. Benthyciwyd llawer o arian, ond, o'r ddyled enfawr, talwyd'eisoes /49.167, a chyfrennir gan yr aelodau eu hunain gyfartaledd yn ol y pen, svdd fel yr hysbysir i mi yn jogymmaint a chyfartaledd yr holl Gyfundeb. A ydyw efengyleiddiad Cymru yn waith a orwedda mewn rhan, o leiaf, ar ysgwyddau y Methodistiaid Calfinaidd i Yna, cofier fod y rhan fwyaf o boblogaeth Cymru. yn y Deheudir. Llinell fechan wedi ei thynu o amgylch tref Caerdydd, a gynhwysa fwy o bobl na holl Wynedd gyda'i gilydd. Ond y Deheudir ydyw yn gymwys y fan lie y gwna y Symudiad fwyaf o'i waith. Pa le y cynhydda poblogaeth y Gogledd yn gyflymaf ? Yn Ngwrecsam a'r ardaloedd glofaol yn ei hyml. Aeth y Symudiad Ymosodol yno hefyd. Os na ddaw dynion. at yr Efengyl, awg Efengylwyr y Symudiad yr Efengyl atynt hwy. Os na thycia y moddion arferol i atdynu, defnyddiant hwy y moddion anarferot sydd bron a gorfodi sylw. I gaol gwrandawiad saif y Symudiad "yn mhen lleoedd uchel, ger llaw y ffordd, lie mae llwybrau lawer, Ger Haw y pyrth yn mhen y dref, yn ymyl y drysau, y mae yn ilefain." Cynhadledd Swyddogol y Wesleyaidd a ddangosasant awydd i gael moldio eu Cenhad- aeth ar lun y Symudiad Ymosodol. Yr Henaduriaethwyr Cymreig," ebai un o'r Wesleyaid, ydynt wedi gosod i eglwysi eraill Cymru esiampl o hyfeidd-dra cysegredig. Dicbon na allant hawlio gwreiddiolder am y drychfeddwl o Symudiad Ymosodol, ond, yn ddiamheuol, mor bell ag y mae a fynno y Dywysogaeth, hwy ydynt yr arweinwyr yn yr eofn anturiaeth." Y mae mwy o eisteddleoedd yn Neuadd Ganolog Casnewydd nag a geir yn mhrif ystafell "Neuadd Goffadwriaethol Charles Garrett," a godwyd gan y Wesleyaid yn Lerpwl. Henaduriaeth Sir Forganwg, a chyfarfodydd Misol eraill, yn mbell o fychanu y Symudiad, ydynt yn galw arno i gymeryd gwaith yn Hopkinstown, Pontypridd, Abercwmboi, Bed- was, Hilford, a manau eraill. Pwyllgor Gwyl- iadwriaethol (Watch Ctmrnittee) Ceerdydd, a'r Prif Gwnstabl a dderbyniant yn gynes- ddiolchgar wasanaeth oddiwrtho. Aelodau o gatrawd Yr Ymgyrch Efengylaidd (Evangel- istic Campaign), perthynol i Caerdydd, a'r gymydogaeth ac yn cynwys dynion o wahanol enwadau, Undeb Dinasyddion Caerdydd," er pureiddiad cymdeithasol a moesol y dref a rhanau eraill o'r De, ni chaent ddewis-gyfarfod mwy canolog, mwy cydrywiol, mwy gwerth- fawr at eu gwaith na swyddfa y Symudiad Ymosodol. Y Symudiad Ymosodol yn fethiant ? Beth ddarllenydd a dybi di ? Oni wnawn oil oni ddylem gymeryd y fraint anrhaethol o roddi iddo ein help ? Yn enwedig tydi y Cristion proffessedig yr hwn wyt, drwy apwyntiad Duw, yn offeiriad iddo, i sefyll ar risiau allor yr holl fyd, i eiriol a dwyn eraill attat, oni roddi di dy gynorthwy eithaf ? Ond y mae un peth y gofynwn i chwi yn fwy am dano,-ti yr hwn ni fedri dy hun gymeryd rhan yn y Symudiad neillduol hwn, a chwi y rhai a'i cymerwch,-nag y gofynaf am eich cymorth arianol, pe baech foddlawn i roddi miloedd, ac os ydynt gennych i'w roddi. Efengylydd i'r iawn rywm cha unrhyw anhawsder i gasglu gwrandawyr na dim, i gael hyd i ddynion a fyddant aelodau o eglwys Crist, ac aelodau cywir, mor bell, ag y gallwn ni farnu. Y mae meusydd toreithiog yn barod i'r medi! Gweddiwch, a gweddiwch yn ddibaid ar Arglwydd y cynhauaf am y gweithwyr!

EISTEDDFOD GADEIRIOLI ANIBVNWlfR…

Advertising

Gwobrwyo yn Ysgolion Elfenoi…

Nod Angen Oymdeithas ---Lenyddol.---

IGyfarfod Llenyddol a Cherddorol…

I Chwedlau am Robin Ddu -Eryri.

I MINFFORDD.

Advertising