Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

INODIADAU WYTHNOSOLI

News
Cite
Share

I NODIADAU WYTHNOSOL I TRYCHINEB CHEQUERBENT. Wedi hyn ni bydd raid dyweyd wrth neb mai pentref mawr gerllaw Bolton ac ychydig filltiroedd o Fanceinion ydyw Chequerbent. Hir gofir enw a lleoliad y pentref oherwydd y galanastra ofnad- y a fu mewn giofa yno ychydig ddydd- iau yn oLpan y lladdwyd, megis ar dar- awiad amraat, dri-chant-a-haner o wyr. O'r rhai oedd yn y pwll ar y pryd ni ddiangodd dim ond un i ddywedyd pa fodd y bu, ac o'r braidd y mae lie i ob- eithio y ceir byth wybodaeth sicr yng- hylch achos y danchwa. Pan oedd par- otoadau yn cael eu gwneyd ar gyfer y N adolig- a'i lawenydd, daeth tristwch mawr a galar ac wylofain dros yr holl ardal. Ymdaenodd tywyllwch doi- dew dros y lie, ac erys ei gysgqd prudd ddyddiau lawer. Tystia Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Cwmni ei fod wedi arfer cyfrif y pwll yn un o'r rhai diogelaf yn y deyrnas a hyd y mae'n wybyddus ar hyn o bryd, ni fyddai y glowyr yn arfer cwyno o herwydd' fod nwy ynddo. Yr ydym yn gobeithio, ac y mae yn ddiameu genym, y daw amser cyn bo hir pan y ceir rhyw ddyfais aj wna y fath ddinystr ddychrynllyd ar1 fywyd dynol yn nglofeydd y wlad yn anmhosibl, a chyfrifir y neb a'i llunia yn fawr ymhlith cymwynaswyr y ddyn- oliaeth Da ydyw gweled y parodrwydd mawr a ddangosir i estyn cymorth ar-I ianol i deuluoedd y trancedigion. Dylifa i rhoddion hynod hael i fewn o bdb rhan o'r wlad-symiau bychain a symiau mawrion yn gymysg. Mae natur y golled y mae canoedd o deuluoedd wedi ei chael y fath fel na ellir ei gwneyd i fyny trwy roddi arian iddynt. Er hyny y mae arian yn werthfawr iawn, ac yn yr achos yma saif rhwng llaweroedd a thlodi a fuasai yn dyfod atynt fel ym- deithydd a rhwystra angeu rhag dyfod atynt fel gwr arfog. Tra y mae cydym- deimlad ynddo ei hun yn' dda ac yn werthfawr yn ngolwg y rhai y'i hestynir iddynt, mae'n well ac yn werthfawr- ocach. pan y'i mynegir yn fiurf cymorth sylweddol wrth raid.

CALENIG. ,:I

PEDAIR BLYMED.0 MEWN AMDDI----FFYWFA-

SEDD WAG. 7I ? -- p

MWYAFRIF Y llYWODRAETH.