Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

News
Cite
Share

BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH. Cyfarfu y Gwarcheidwaid canlynol ddydd Mawrth yn Swyddfa'r Bwrdd, Pecrhyndea- draeth, Mri. Owen Jones, (Cadeirydd), Cadben Morgan Jones, D. Tegid Jones, Richard Roberts, Richard Williams, Parch. Thomas Griffith, Parch. John Hughes, Mrs. Morris, E. J. Hughes. Wililiam Williams (Blaenau), William Williams (Trawsfvnydd), John Roberts (Talsarnau), John Roberts (Trawsfynydd), R. J. Jones, David Pughe, E R. Owen, J. R. Jones, Owen Evans, D. Fowden Jones, Morgan Roberts, Edward Llewelyn, Parch. Collwyn Morgan, John Williams, John Pritchard, Thomas Roberts (Clerc), David Jones (Clerc Cynorthwyol), Dr. J. R. Jones (Meddyg y Ty), D. J. Jones (Meistr y Ty), a'r tri Swyddog Elusenol. Adroddiad y Meistr. Adroadocd y Meistr fod 98 yn y Tv ar gvfer 79 yr un amser y Ilynedd. Galwodd 21 o grwydriaid yn. y Ty yn ystod y bytbefnos dSiwednsf.—Rhagfyr 15, daeth Robert Farry, 59 oed i'r Tyo Ffestiniog.—Rhagfyr 17, daeth Thomas Roberts, gynt o Turnpike Newydd, Blaenau, i'r Ty, ac aeth allan o hono ei hun ar y 19, ac anfonwyd ef yn ol trwy archeb Ustus ar yr 22.-Rhagfvr 21 daeth Gwen Evans a'i thri plilentyn i'r Ty o Lanbedr.Rbagfyr 15,1 daeth Richard Griffith, bachgen 9 oed i Ffes- tiniog dan ofal y Pwyllgor Byrddu allan.- Dymnnai y tlodion yn y Ty ddiolch i'r Bwrdd am en caredigrwydd yn rhoddi iddynt wledd ddydd Nadolig yr- hwn a fwynhawyd yn fawr ganddynt.—Y Cadeirydd, Yr wyf yn sicr nad oes dim sydd yn fwy o lawenydd i ni na chlywea i ni aliti sirioli meddvHrm ac ysbryd- oedd y rhai sydd yn y Ty. "—Rhoddodd y caredigion canlynol roddion o Fyglys ac Aur- afalau i'r tiodion, Mri. Thomas W. Jones, Thomas Roberts, Joseph Humphreys, J. Gas Jones, Mrs. Casson, Dr. W. V. Roberts, Mr. Yale, a Mr. R. O. Jones, Blvenau.-Diolcbodd y Bwrdd i'r caredigion uchod am eu dyddordeb yn v tlodion a'u rhoddion iddynt. Yr oedd eisiau nwyddau gwerth £ 94 i'r Ty, yn cynwys dilladau, llestri, ac esgidiau. Yr Elusenau a'r Tlodion. Talodd Mr Richard Parry yn Nosbarth Tremadoc £87 123 Oc rhwng 258 o dlodicn yn ystod y bvthefaos diweddaf ar gyfer £ 88 5s 10c rhwng 275 yr un amser y llynedd, a gofynodd am £ 73 at alwadau y bythefnos nesaf. Yn Nosbarth Ffestiniog talodd Mr William Thomas xC125 10s 3crhwcg 359, ar gyfer J131 14s 9c rhwng 369, a gofynodd am 6100. Yn Nosbarth Deudraeth taledd Mr J. Bennett Jones SO 2s lOcrhwng 237, ar gyfer;681 14s 2c rhwng 237, a gofynodd am £ 60. Cyfanswm yr elusenau rhwng 854 o dJodibn J293 5s lc, ar gyfer £ 302 lls 9c rhwng 861, a'r gofvniadau yn £ 233. Yn yr Ariandy £ 198 85 Ie, Y Blwydd-dal i'r Htih Hysbysodd Mr. Bennett Jones fod y tlodion yn ei ddosbarth ef yn ddiolchgar i'r Bwrdd am y swllt rhodd Nadolg at eu helusen arferol. Yr oedd 67 ar ei lyfr ef yn myned am flwydd- dal, a galwyd enw pob un o honynt er mwyn estyn eu helusenau byd ddiwedd yr wythnos hoc. Mr. Wiiliam Thomas a ddywedodd nad cedd ef wedi oel y rhestr o'r rhai elai am flwydd- dal yn ei ddosbarth ef oddiwrth y Swyddog, ond yr oedd 38 yn yr oed i gael blwydd-dal rhwng plwyf Ffestiniog a phlwyf Maentwrog, a 14 yn Mhlwyf Trawsfynydd. Deuai a'r rhestr at y Bwrdd nesaf. Mr. Richard Parry a ddywedodd nad oedd yntau wedi cael y rhestr, ond yr oedd 24 yn ei ddosbarth yn yr oed i gael myned oddiar lyfrau yr Undeb. Dysgwyliai am y rhestr st y Bwrdd nesaf. Y Cadeirydd a ddywedodd nad ellid can- iatau elusen yn mhellach na diwedd y flwyddyn hon. Yr oedd cylch-Iythyr Bwrdd y Llywod- raeth Leol yn giir iawn nad oedd raid i'r tlod- ion dderbyn y blwydd-dal os ewyllysient arcs o dan: y drefn bresenol, a bod yn nghallu y Bwrdd i gynorthwyo hyd yn nod y rhai dder- bynient flwydd-dal. Yr oedd eu teimladau yn Kur gymysgedig wrth feddwl fod eu cysylltiad fel Bwrdd yn dibenu a nifer fawr o'r tlodion y bu yn bleser mor fawr iddynt weinyddu i'w cysur a'u diddanwch am gynifero flynyddoedd. Dymunant yn dda iddynt fel rhai yn myned i dderbyn en coron, gan hyderu y cant goron aniflanedig ar derfyn eu taith. Cydymdeimlad. Gwnaeth y Cadeirydd gyfeiriad at absenoldeb Mr R. O. Williams, Garn, Is-gadeirydd y Bwrdd. Drwg oedd ganddo ddeall mai afiechyd oedd yr achos nad oedd gyda hwy yn nghyfatfod olaf y flwyddyn, Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a Mr Williams, a dymuniad cywir ar ei adferiad buan. Y Gweinyddesau. Daeth lljthyrau oddiwrth Ysgrifenyddesau Cymdeithasau Lleol y Gweinyddesau yn Blaenau Ffestiniog, Porthmadoc, a'r Penrhyn, yn diolch &m Roddion y Bwrdd iddynt, Achos gofidus. Y Swyddog a adroddodd am acbos bacbgen ieuangc o'r Biaeoau yr oeddid wedi gorfod myned ag ef i'r Gwallgofdy.—Y Cadeirydd a ddywedodd fod hwn yn achos trallodus iawn. Yr oedd y bachgen yn un nodedig o obeithiol, ac wedi dringo i fyny'r ysgol yn gyflym iawn, ond daeth cwmwl dros ei feddwl, a chwalwyd y rhagolygon addawol oedd iddo. Yn sicr, yr oeddynt oil yn cydymdeimlo a'i rienifuont mor ymdrecbgar gyda'i addysg, yn neillduol y-n ngwyneb y siomiant trist a gawsant trwy gystudd blin eu bacbgen. Atal Elusen. Y Swyddog a ddywedodd iddo rhoddi 16/- i ddyn o'r Blaenau oedd wedi colli ei fraich ac un llygad at iddo brynu penwaig i gychwyn enill ei fywoliaeth, ac erbyn hyn yr oedd y 10/- yr wythnos wedi dod i lyny, Pedwar swllt yr wythnos oedd vn gael cyn y cynorthwy arbenig hwn at ei gychwyn o newydd. Dywedodd y dyn iddo anfon am beawaig, ond iddo dderbyn pysgod o fath arall, y rhai y bu raid iddo eu claddu am ei bod yn drewi. Credai y Swyddog nad oedd'o un dyben i'r Bwrdd geisio helpu yn yr achos, am nad cedd y dyn yn gweith- redu fel y dylai, ac na byddai amcan y Bwrdd gydag ef yn cael ei ateb. Un oedd nad oedd o wahaniaeth faint o gynortbwy gaffai. Pasiwyd yn unfrydol i atal yr elussn, ac iddo ef a'i wraig ddod i'r Tlodty. Trefniant Newydd yr Elusenau. ) Y Cadeirydd a ofidiai adrodd i'r Pwyllgor fethu cyfarfod ddydd Gwener i ystyried cyfer- wyddiadau Bwrdd y Llywodiraeth Leol gyda golwg ar dalu yr elusenau yn bersonol i bob tlawd yn ei gartref, yn lie mewn gorsafopdd penodol fel y gwneir yn awr Awgrymai fod rhybudd o dri mis yn cael ei roddi i berchenog- ion y gorsafoedd, a bod y drefn bresenol yn cael ei pharhau hyd ddiwedd y flwyddyn arianol. Yr oedd y cwestiwn yn un eang a phwysig, a dylent symud yn arafaidd a phwjll- og gydag ef er mwyn myned i mewn iddo yn drwyadl gan y bydd yn ofynol gwneyd ad- drefniant gyda'r Swyddogion Elusenol a llawer o bethau eraill. Bydd i'r pwyllgor gyfarfod ar unwaith i fyned uwchben y cyfan.—Cymerad- wyd yr awgrymiadau Achos y Meddyg. I Y Parch Thomas Griffith a ofynodd a oedd rhywbeth wedi ei dderbyn oddiwrth Feddyg dosbarth Ffestiniog yn nglyn a'r achosion grybwyliodd ef am danynt gryn amser yn ol Y Cadeirydd, "Ysgrifenodd Dr Griffith Roberts yma i ddweyd y byddai yn bresenol mewn cyfarfod o'r Bwrdd, ond ni ddywed yn mha gyfarfod.Mr Griffith, Carwn gael eglurbad ar yr achosion a nodais, dyna'r oil." -Cadeirydd, Fe wna y Clerc ei adgofio eto." Diolch y Mamaethod. I Mrs Casson a ysgrifenodd i hysbysu y Bwrdd o ddiolch cynes y gwragedd ofalent am y Plant fyrddid gyda hwy o dan gyfundrefn Byrddu Allan am y rhodd Nadolig i bob placityn.

MAENTWROQ. I

----PENRHYNDEUDRAETH -

ATEB I ANERCH

I YSGOLDY'R GARREGDDU.

I CYFLWYNEDIG-

-FFESTINIOG.