Skip to main content
Hide Articles List

8 articles on this Page

DYDDIAU GWOBRWYO YR YSGOLION…

I YSGOL LLANRWST.,

I'-- - -- --- - - --Pwy yw…

[No title]

ILLYS MANDDYLEDIONI ILLANRWST..

News
Cite
Share

LLYS MANDDYLEDIONI LLANRWST. Dydd Gwener, o flaen ei Anrhydedd y Barnwr I Samuel Moss. Ail Grybwyll Achosion. I Mr Alun Davies (Mri R. O. Jones a Davies), a gyfeiriodd at achos David Roberts, Grocer, Capel Garmon, yn erbyn W. 0. Roberts, 3, Tyddyngwyn Terrace, Blaenau Ffestiniog, yr hwn odd wedi atafaelu am y swm dyledus. Gofynodd Mr Davies am i'r atafaeliad gael ei rwystro am fod y Diffynydd wedi talu 17/4 allan o'r 1:,1 12s 4c dyledus, i fab yr Hawlydd yn ei fasnacbdy yn Eettwsycoed.—Mr J. D. Jones, ar ran yr Hawlydd, a ddywedodd iddo ysgrifenu at y Diffynydd Ionawr 7, yn gofyn am y £ l 12s 4c ac ar Mawrth 29, anfonodd y Diffynydd at yr Hawlydd yn dadieu yn erbyn y cyfrif, Anfonodd ef (Mr Jones), drachefn at y Diffynydd yn gofyn am fanylion, a chan na chaed atebiad ihoddwyd yr achos yn y Ll ys I ar Mehefin 22 am y swm a hawlid.; Gorphenaf 2, bu i'r Diffynydd dalu 17/4 i fab yr Hawlydd yn ei fasnachdy yn Bettwsycced. Gorphenaf 5, daeth yr achos o flaen y Llys, ond ni ddaeth gair ffordd yn y byd oddiwrth y Diffynydd am y taliad yn Bettwsycoed, ac archodd ei An- rhydedd i'r arian gael eu talu yn ol 5/- y mis. Gan nad oedd dim yn cael ei fdalu, atafaelwyd Hydref 11, ac yr oedd y Ceisbwl mewn medd- iant i fyny i'r dydd hwnw. Pan atafaelwyd y bu i'r Diffynydd son gyntaf arc y taliad o 17/4. Er nad oedd yr Hawlydd yn debyg o gael dim o'r 17/4 dalwyd i'w fab, cherwydd fod hwnw wedi gwneyd cytundeb Drosghvyddiadol, eto yr oedd yn barod i'w tynu allan o'r swm dyl- edus. Bai y Diffynydd ei hun oedd ei fod wedi gadael i'r peth redeg o Hydref 11 i chwyddo y fees.-Daliodd ei Anrhydedd i'r Hawlydd weithredu yn hollol resymol yn yr achos, ac archodd i'r Diffynydd dalu y fees, Mr. J. D. Jones a gyfeiriodd at achos Evan Williams, Cigydd, Trefriw, yn erbyn Ellen Thofmas, Tynewydd, Trefriw. Yn Llys Gorphenaf bu i'w Anrhydedd ercbi i'r £ 6 3s 9c dyledus gael eu talu yn ol punt y mis yn misoedd yr haf, a deg swllt y mis yn misoedd y gauaf.— Gostyngodd si Anrhydedd y taliad i 5s y mis yn lie 10s. a bod y mater i'w grybwyll wrtho eto yn y Gwanwyn os bydd angen am hyny, F. C. Cobden ac Ardalydd Queensbury yn Diffynwyr. Mrs. Mc'Gregor, Nantbwlchyrhevrn, a wysiodd F. C, Cobden ac Ardalvdd Queens bury am arian dyledus i'w diweddar wr.—Mr. T. Latimer Jones ar ran Mr. Cobden a ofynodd am ohiriad gan fod ei gyflogydd yn rhy wael i allu bod yn bresenol ya,y Llys.-Mr. ]. D. Jones ar ran yr Hawlyddes a ddywedodd i'r Diffynwyr gymeryd helwriaeth a bod Mr. Mc'Gregor yn geidwad helwriaeth iddynt, a bod y gost i'w ranu rhyngddynt. Bu i Gyfreithiwr yr Ardalydd anfon i hysbysu fod ei Arglwyddiaeth yn awr yn Ne America, ac na ddyebwelai hyd ddiwedd Ionawr. Yr oedd yn cydsynio a gobiriad ar yr amod fod y Diffyn- yodion i fod yn gyfrifol am y costau i fyny hyd y dyddiad hwnw.-Caniataodd ei Anthydedd ohiriad ar y telerau a nodwyd, Eiddo y diweddar David Hughes, Ty'nycoed, Penmachno. Winnie Eeans, Ty'nycoed, Penmachno, a ofynodd am ddatganiad y Llys mai Ymddiried- olwr i eiddo ei thad oedd ei brawd Griffith Hughes, Foelas Terrace, Capel Garmon, ac nid perchenog (legatee) -Mr. Clement Davies (yn cael ei gyfarwyddo gan Mr. J. D. Jones) a ymddangosodd dros yr Hawlyddes a Mr. W, Twigge Ellis dros y Diffynydd. Mr. Davies a aeth yn fanwl trwy'r amgylch- iadau. Gofynodd am i'w Anrhydedd ddatgan fod y £349 17s 4c oedd yn awr yn London City & Midland Bank Llanrwst, adawyd gan dad Mrs Hughes, fu farw Tachwedd 2, yn cael eu dal gan ei brawd Griffith Hughes fel vmddiriedolwr. Gweithiai ei thad D. Hughes fel coedwigwr ar etifeddiaeth y Penrhyn, a chynilodd _(200, Ionawr 1903 cododd y swm hwnw o'r Llythyrd% a dododd hwy yn yr Ariandy, a dododd ^20 arall i mewn Gorphenaf 1904, yna /4Q yn Medi 1995, ac /20 Rhagfyr 1906. Hyd yr arnser yma yr oedd yr arian i mewn yn ei enw ef ei bun, ond o hyny allan yn ei enw ef a'i fab Griffith Hughes. Y ddadl oedd p du yr Hawlyddes, fod yr arian yn yr arii n y yn tnw y ddau er mwyn cyfleusdra yn unig, gan fod David Hughes yn rnhell dros ei 70 oed a bu farw Tachwedd 2, 1910, yn 79 mlwydd oad. I brofi mai mater o drefniant er mwyn hwylusdod oedd fod y ddau enw yn yr Ar andy, ac nid yn drosglwyddiad yr eiddo i Griffith Hughes ar ol dydd ei dad, galwyd yr Hawlyddes, E. J. Evans (ei gwr), Richard Davies (gwr chwaer hynaf yr Hawlyddes), Jane Roberts, Eidda (chwaer y diweddar David Hughes), a Robert Williams, Rhianfa, Penmachno (cydweithiwr a David Hughes). oil yn tystio mai trefniant erl hwylusdod yn unig oedd yr un yn yr ariandy. Mr Ellis, o du y Diffynydd, a ddadleuodd fod yr achos yn troi yn hollol ar fwriad David Hughes wrth wneyd y trefniant. Yr oedd Rheolwr yr Ariandy a'r Diffynydd yn deall fod y trefniant yn cael ei wneyd i'r arian fyned drosodd i'r un fyddai yn goroesi y llall.—Y Diffynydd a dystiodd i'w dad wneyd pobpeth yn glir iddo ef, fod yr holl arian iddo ar ol ei ddydd. Yr oedd gan ei dad eiddo gwerth tua /66 ar adeg ei farwolaeth yn Ty'nycoed.—Mr E. Jones-Owen, U.H., Rheolwr yr Ariandy, a roddodd adroddjad manwl am y trefniant gyda dodi dau enw yn yr Ariandy. Yr oedd yr arian yn ddieithriad yn myned i law yr hwn fyddai fyw hwyaf. Cododd Griffith Hughes -(20 o'r arian, fel y deallai ef, elai [10 at y costau claddu. Y swm yn yr Ariandy oedd (348 17s 4c. Dywedodd G. Hughes wrtho fod 110 o'r arian dalodd ei dad i mewn Mawrth 23, 1909, yn perthyn iddo ef yn bersonol. Ei Anrhydedd a ddaliodd fod yr arian 03dd yn yr Ariandy yn cael ei dal gan y Diffynydd fel Ymddiriedolwr, ac y dylii gael ei ranu yn gyfartal rhwng y tair merch a'r brawd (G. Hughes). Y Diffynydd Griffith Hughes i daln costau y rhwng archeb roddwyd yn y Llys diweddaf i beidio cyffwrdd yn yr arian nes y penderfynid yr achos, a'r gweddill o'r costau i ddod o'r etifeddiaeth,

- - - - - - - - - - ........…

PENRHYNDEUDRAETH,

[No title]