Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

- - - "IlrleN.1-111%fl%"-4…

ILLYTHUR AGORED AT DRETH.…

Advertising

LLANRWST.

I BLAENAU FFESTINIOG. I

News
Cite
Share

I BLAENAU FFESTINIOG. I PREGETHWR WESLEYAID POBLOGAIDD.— Sul Rhagfyr yr lleg, bu Mr. Evan Bowen, pregethwr ieuanc rhagorol gyda'r Wesleyaid, yn lianw pwlpudau y Bedyddwyr yn Calfaria a Moriah, Blaenau Ffestiniog. Gwr ieuangc o Llwyngviril ydyw, a Myfyriwr yn Ngholeg Bangor. Mwynhawyd ei weinidogaeth yn fawr iawn gan y ddwy Eglwys.—GOH. JERUSALEM.— Cynhaliwyd y Gymdeithas Ddiwylliadol nos Fawrth, o dan lywyddiaeth Mr Evan Jones. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr John Roberts Llwyn Derw. Noson canu Caroiau oedd bon, a chymerwyd rhan fel y canlyn :-Miss Mary Ann Pierce, Mri David Williams, Cromwell Street a'i gyfeillion; Robert Morris, Trefeini; Thomas Pugh, Morris H. Thomas a'i gyfeillion. Miss Madge Roberts, Morris H. Thomas, Anerchiad gan y Parch J. Hughes, Can gan Ifor Jones, Tanrallt Terrace, Gair gan Mr Owen Jones, Llywydd y Gymdeithas Diweddwyd gan Mr Owen Rowland Williams., Treuliwyd noson hynod o ddifyr ac adeiladol. FOOTBALL —Next Saturday at Newborough Park, Blaenau Festiniog v. Colwyn Bay. Kick off 2-30 p m. Admission 4d, Schoolboys, 2d. Referee, Mr Welch, Crewe. The follow- ing players will represent the home team ;— Goal, Smith. Backs, Tom Hughes, W. Trevor Jones. Halves, J. Jones Roberts, J. Kinnear, W. H. Williams. Forwards, R, Roberts, J. Lloyd, W. J, Hughes, W. R. Owen (Captain), W. J. Penny. Reserves, Bob Powell, Moses Roberts, J. Hughes. ARHOLIAD CHWARTEROL Y TONIC SOLFFA COLLEGE.—Dyma ganlyniad yr Arholiad dan nawdd Bwrdd Canol Blaenau Ffestiniog, a gynhaliwyd yn mis Taehwedd. Aeth y rhai a ganlyn yn llwyddianus drwy yr ArhoHad :-Mr J. R. Jones, Rhiwbach Quarry, am y 1st Stage of Harmony Analysis Certificate," a'r 1st Stage of Musical Composition Certificate Mr Llew Owen, Llewellyn Street, Penmachno, am y "Matriculation" (Practical Certificate), yr hon a drwydda i fod yn aelod (member) o r Coleg, dan y cynllun newydd. Mr John Wil- liams, Arthur Terrace, Penmachno, am y 3rd Grade Certificate (Staff Notation). Y ddau ddiweddaf wedi eu cyfarwyddo gan Mr Robert Thomas, A c. Bryn Llewelyn, Penmachno. Arholwyd y ddau gan yr Athro M. E. Phillips, BSC, L T.S c. Dymunaf dros y Bwrdd eu llongyfarch yn galonog, gan eu hanog i ganiyn yn mlaen nes cyraedd y pinaclau uwchaf sytia yn nglyn a'r Coleg. Cymer yr Arholiad nesaf le ddechreu mis Chwefror. Ymofyner am bob manylion ag Ysgrifenydd y Coleg, sef Robert Jones (Perorfryn). PREGETHWR FOBLOGAIDD—Deall wn y bydd y Parch. Aaron Morgan, Blaenffos, o'r Deheu- dir, yn pregethu yn ngbapel Calfaria nos Fercher nesaf, Rhagfyr yr 28ain, Yr oedfa yn dechreu am saith o'r gloch. Gallwn gyfeirio yma at y llyfr newydd y mae Mr Morgan yn gyhoeddi. Llyfr o adroddiadau i blant ydyw. Ei deitl yw Bara'r Plant." Y mae yn barod yr wythnos hon. Nid ydym yn eofio i ni eliced weled llyfr mwy pwrpasol i blant nag yw hwn. Lleinw ddiffyg a deimlir yn ddwys gan athrawon ac arweinwyr cyfarfodydd plant. Cynwysa ddarnau hynod o darawiadol a chyfaddas i rai o bump i ddeuddeg mlwydd oed. Torthau chwech ydyw y Bara" yma, ond proffwydwn y bydd mwy o gip arnynt nag ar hot cross buns. YSTORM.- Derbyniodd Mr. John James, Crydd, Glynllifon Street, lythyr oddiwrth David ei fab o Falmouth, dyddiedig y 19eg. Ymddengys iddo fod mewn ystorm enbydus ar fwrdd yr agerdd-long. -Hwyliasant o Caer- dydd nos Fercher, a phan yn y fynedfa i Gulfor Biscay daeth yn ystorm arswydus, a gorfuwyd troi yn ol i Falmouth. Yn ystod yr ystorm olehai y tonau cynddeiriog i mewn i'r llong cafodd tri o'r dwylaw eu hanafu yn drwm. Codwyd David James i fyny i ben un o'r peirianau, a meddyliodd ar y cyntaf fod ei ddwy goes wedi eu tori, a chafodd beth niwed i'w wyneb. Pan gyrhaeddodd y Hong i Fal- mouth nos Sadwrn daeth y meddyg sr ei bwrdd, a chafodd nad oedd ein cyfaill ieuaogc wedi tori yr un asgwrn, oad ei fod wedi anafu y pan glin a niweidio ychydig ar, y gewynau. Awd ag ef a dau araH i'r Ysbytty, ond cafodd fyned yn ol i'r Hong ddydd Llun. Y cyfaill arall yw W. Ellis Hughes, brodor o Nefyn, ac Ellmynydd (German) Hughes wedi anafu ei law gyda rhaff wirf rydlyd, a'r Ellmynydd wedi anafu ei ymysgarcedd. Gwelsant Agerdd long arall yr oedd dau o'i dwylaw wedi eu ysgubo dros ei bwrdd a'u colli yn y dyfnder mawr. Da genym in cyfaill ddod allan mor raglun- iaethol o le mor gyfyng. NEWYDD TRIST.—Daeth y newydd trist i Mr Robert a Ellin Pughe, Ysgoidy Bach. Tanygrisiau, ddydd Llun, fod eu mherch Margaret Ellin wedi marw yn hynod sydyn yn Colwyn Bay, lle'r oedd hi a'i phriod yn cadw masnachdy, ac yn gwneyd yn dda. Yr oedd wedi troi ar wella yn rhagorol ar ol rhoddi genedigaeth i'w phlentyn cyntaf bythefnos yn oi, ond cymerodd pethau gwrs arall ddiwedd yr wythnos, a thorwyd hi i lawr yn mlodau ei dyddiau. BLODEUGLWM.—Trwy afryfusedd gadawyd allan o hanes y gwobrwyo yn Nghyfarfod Blynyddol yr Ysgol Sirol i un o'r Genethod gyflwyno Blodeuglwm hardd i Mrs Ellis ar ddecbreu y gweithrediadau ac iddi hithau gydnabod hyny yu ddiolchgar. ENILL.—Yn Arddanghosfa Llandudno dydd Sadwrn, enillodd Mr. Robert Pritchard, Chwarel y Llechwedd, Elaenau, ail a thrydydd wobr loda'i Ddaeargast Gymreig hefyd enill- odd Mri H. P a W. R. Jones, Bronygadair, ail a thrydydd gyda Daeargi Cymreig. Llopgyf- archwn y cyfeillion ar eu buddugoliaeth. GWELLA.—Llawen genym weled ein cyd- drefwr Mr John Bradley, wedi gwella mor ragorol ar ol ei waeledd trwm, trwy yr hwn y cyfyngwyd ef i'w ystafell am naw mis. Boed iddo adferiad Hwyr yw ein dymuniad cywir. PRIODAS. Ddoe (ddydd Mercher), yn nghapel y Methodistiaid Rhydbach, Lieyn. gan y Parchn R. R. Morris, Bl. Ffestiniog, a D. F. Roberts, Rhydbach, unwyd mewn glan briodas Mr Hugh Rowlands, 7. Summerhill Terrace, Blaenau, a Miss Williams, Ty'r Ysgol Sirol, Bottwnog. Y mae i'r ddau ein dymun- iadau goreu. MARWOLAETH.—Gyda gofid dwys yr hysbys- wn am farwolaeth sydyn Mrs. Ellen Parry, gweddw y diwedJar Thomas Parry, 1, Leeds Street, yr hyn a ddigwyddodd prydnawn ddydd Linn, yn ei 58 mlwydd o'i hoedran. Cafodd stroke ddydd Sadwrn, o'r hon y bu farw. Nid oedd flwyddyn oddiar y bu ei phriod farw, ac yn awr y mae Miss Parry wedi ei gadael yn hynad unig. Nodded yrArglwydd a fyddo drosti. Bydd bwlch yn Eglwys Brynbowydd ar ei bol. CERDDOROL —Llongyfarchwn Mr William John Owen'ar lwyddiant Seindorf y Bala yn Abermaw yr wythnos ddiweddaf: efe oedd yr arweinydd. Hefyd, Mr Evan Evans, Bron Dwyryd, yn enill ar y Prif Unawd, a Mr Robert Smith. Trefeini, ar yr Unawd ar yr Euphonium, j Parhad yn tudalen 8. jr

Advertising

LLYS METHDALIADOL BLAENAUI…

.--TANYGRISIAU.----I

Advertising

YSPIWYR.