Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

5 articles on this Page

ER. SERCHOG GOF

News
Cite
Share

ER. SERCHOG GOF Am David Tudor, Ty'ntwll, Trawsfynydd, yr hwn a hunodd yr Iesu Hydref 7fed, 1910. Un sydd eto wedi'n gadael,- Gorphwys mae mewn tawel hedd, Un a hoffodd garu'r lesu Er mwyn enill nefol wledd Un am dysgodd inau'n dirion Rodio llwybr uniawn Duw, Pan yn blentyn bach dibrofiad, Heb ddychymyg sut i fyw. Hoffwn inau eto rodio Hyd y Ilwybr rodiodd ef, Cario ei ddymuniad allan, Tywys fenaid tua'r Nef; Pwysodd ef ar Grist a'i haeddiant, Er pob gofid, loes a chur, Ar fy nghlyw yr erys beunydd Ei weddiau taerion pur. Dafydd Tudur heb un arswyd, Groesodd 11 yr afon ddofn, Tan ei droed ca'dd graig gadarnaf, Croesodd felly heb ddim ofn Iesu'n tori grym y tonau, Safodd hwnw wrth ei glun, Dyma un sydd ddigon cadarn. Tyn ni oil a'i law ei hun. Dafydd Tudur fola bellach, Yn ei garfref yn y Nef, Ac mae gobaith cry cawn ninau Yno ei gyfarfod ef Cofiaf byth e'n gwaeddi Diolcb, A thangnefedd ar ei wedd, Peidiwch wylo, deulu anwyl, Cewch ei gwrdd ar fryniau'r hedd. Caerhys, GWLADYS WILLIAMS. Trawsfynydd.

EISTEDDFOD FFESTINIOG.

CAN DDESGRIFIADOL .I RINWEDDAU…

-- --- -- --' I TREFN OEDFAON…

Advertising