Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
AT BWYLLGOR CERDDOROL CYMAN-…
AT BWYLLGOR CERDDOROL CYMAN- FA GANU YR M.C. Mr. Gol.-Caniatewch i mi Syr, drwy eich colofnau, alw sylw y pwyllgor uchod at y Gys- tadleuaeth Cyfansoddi Ton i Blant oeddynt wedi ei rhoddi yn Nhaflen Cymanfa 1910. Hyd yn hyn nid yw y feirniadaeth wedi gweled goleu dydd. Eisoes y mae y Rhaglen Gerdd- orol gogyfer a'r Gymanfa 1911 yn ein dwylaw, ac ni welais unrhyw gfrybwylliad am y peth. Credaf fod y diystyrwch mwyaf wedi ei daflu ar yr ymgeiswyr oedd wedi anfon eu cynyrch- ion i mewn eleni. Fe ddylai y feirniadaeth er's amser bellsch fod wedi ei chyhoeddi, a'r don fuddugol, os yn deilwng, fod wedi ei hargraffu ar Raglen y Gymanfa yn ol amod y Gystadleu- aeth. Yn mha le y gorphwys y bai, tybed? Dylid edrych i mewn i'r mater a'r unwaith, er chwareu teg a'r cystadleuwyr, ac hefyd er sicrhau cystadleuwyr at y dyfodol. Ydwyf, yr eiddoch, MOELWYN. I
APEL: POBL IEUAINGC BLA.ENAUI…
APEL: POBL IEUAINGC BLA.ENAU I FFESTINIOG. I Mr. Gol.-Diolch i GWYLIWR am y Gair o Apel," ac i chwithau am ei gyhoeddi yn eich rhifyn diweddaf, Yr oedd yn fy mryd er's talm o amser i anfon gair i'r un cyfeiriad. Y mae meddwl am eiliad fod y fath beth yn bosibl a'r hyn y geilw ef sylw ato yn peri i'n gwaed oeri, ac y mae meddwl fod hyn yn cymeryd lie yn Mlaenau Ffestiniog yn chwitho dyn yn fwy fyth. Yn awr, gadewch i mi ddod at y mater yn ddigwmpas: yn y cyngherdd elusenol gynhaliwyd yn ein Neuadd yr oedd nifer o langciau yn pasio cardiau gyda lluniau aflan ac anweddus arnynt o'r naill i'r llall, ac i'r merched oedd yn y rhan hono o'r Neuadd: a'r merched, hwythau, er gwartb oesol iddynt hwy a'u mhamau yn cymeryd "rhan mor flaenllaw, os nad mwy blaenllaw, yn yr ysgelerwaith ffiaidd hwn, Erbyn hyn y mae sicrwydd mai llangciau perthynol i sefyd- liad neillduol yn y dref oedd y rhai ddangosent y cardiau, ac y mae gwybodaeth ddiamheuol pwy oedd y merched ymostyngodd i wneyd peth na fuasai merched drwg heolydd y Prif ddinasoedd yn ddigcn digwilydd i feiddio ei gyflawni. Yr wyf yn deall hefyd fod y ffeidd- dra hwn yn myned yn mlaen yn y Central Hall fel y bu yn y Neuadd Drefol, a gresyn na chaffai y cyfeillion gadwant y sefydliad hwnw afael ar y sawl feiddo wneyd hyny yn y lie. Y peth sydd i'w ofidio yn ei gylch yw,-yr ymffrost haerllug a digywilydd sydd yn medd- iant ein pobl ieuangc yn eu hysgelerder a'u hanfoes. Ond cymerwch y rhybudd hwn,—y mae swyddog wedi ei benodi o dan y Cyngor Dinesig a Deddf y Trefi a'r Heddlu, a gall hwnw gymeryd gafasl yn y sawl gaffo yn dangos cardiau o'r fath,. fel y gall gymeryd gafael mewn llofrudd neu leidr, a'i garcharu heb gwmpasu dim yn yr achos, am fod y sawl wna hyny yn droseddwyr anfad o gyfreithiau eu gwlad. Nid oes dim a ddyru derfyn ar rysedd anuwiol ein pobl ieuangc ond dwrn baiarn cyfraith. Tybed y rhaid myned a rhai o ferched Blaenau Ffestiniog i'r gell cyn y deuant i sylweddoli eu cyfrifoldeb? Eu tadau yn chwysu mer eu hesgyrn yn y cbwareli, a hwythau mewn gwamalrwydd mall yn cerdded yr heolydd y nos, ac yn ymhyfrydu mewn ceisio dwyn i fywyd y dref aflendid bywyd y trefi mawrion lie bu rbai ohonynt yn gwneyd ymweliadau gwenoliaid haf ac yn dysgn bucheddau iselaf y cyfryw. Beth am dyfodol ein haelwydydd? Beth am ein Heglwysi y ceir cymeriadau fel hyn yn llochesu ynddynt er ceisio gwyngalchu eu llygredd ? Nid ysgrifenaf ragor yn awr gan y deallnf fod cwrs arall i'w gymeryd er rhoddi atalfa ddiymdroi ar y gwarth bwn yn y dref. SYLWEDYDD. I
- - - - - - - - - - - - -------…
HARLECH. Y moe y Cwmni Dramayddol fa mor llwydd- ianus y llynedd, ar fedr dechreu ar eu gwaith eleni eto. Yr un yn y cymeriadau, ond fod Mr H. H. Jones yn cymeryd rhan Rhys Lewis yn lie Mr John Lloyd, yr hwn sydd wedi gad- ael y dref. Dechreuant yn Llanfrothen Tach- wedd 26, ac y mae ganddynt ymrwymiad i fod yn Dolgellau. Yn unol a phenderfyniad basiwyd yn Tryfer, y mae pwyllgor o ddau o bob capel yn y dref yn trefnu ar gyfer cynal Cyfarfodydd Llenydd- ol a Diwylliadol yn ystod y gauaf. Syniad campus yw hwn, ac hyderwn yn fawr y cerir ef allan ynllwyddianus fel y byddo gwaith i'n pobl ieuaingc, Yn y Tabernacl (B) nos Fercher, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol Cymdeithas y Bobl Ieuangc o dan lywyddiaeth Mr Ellis, Cambrian House. Darllenwyd papur rhagorol ar John Milton," gan Mrs Annie Jones, Rhiwarthen. Siaradwyd yn mhellach gan Mr Davies, a'r brodyr Owen Denman. Owen Williams, ac E. Lloyd Roberts Mae golwg lewyrchus iawn ar y Gymdeithas eleni, a gobeithiwn y bydd iddi barhau felly ar hyd y tymhor. Mae thaglen ardderchog wedi ei thynu allan am y gauaf. Gobeithio y bydd bendith Duw ar ein cyfarfodydd ac y bydd pawb yn barod i wneyd y gwaith sydd wedi ei roddi iddynt. TOWN GOLF CLUB.—The semi final for the Best Challenge Cup was played on Saturday. Messrs. Hugh Roberts v. Johnny Williams, former beating 2-1, and Messrs. Willie Jones, Clogwyn Terrace v. Richard Thomas Hughes, the former winning on the 19th green. The final will be played next Saturday, when Mr. Willie Jones meets Hughie Roberts. CYFARFOD PREGETHU.—Nos lau a thrwy dydd Gwener nesaf, cynhelir Cyfarfod Pregethu gan y cvfeillion Wesleyaidd, pryd y disgwylir y Parchn. Richard Jones, B.A., Bagillt; a Mostyn Jones, Talsarnau, i wasanaethu.
TRAWSFYNYDD.I TRAWSFYNYDD.
TRAWSFYNYDD. I TRAWSFYNYDD. Yn nghapel yr Annibynwyr, dydd Sadwrn, Hydref 29ain, trwy weinyddiad y Parch J. D, Richards, yn mhresenoldeb Mr Richard Jones, Cofrestrydd, priodwyd Mr Robert Jones, Llys Eden, a Miss Kate Roberts, Frondeg. Dy- munwn o galon i'r ddeuddyn hapusrwydd a llwyddiant. Erbyn hyn y mae Cyfarfodydd y Gauaf yr holl enwadau wedi dechreu, ac y mae y cyfar- fodydd cyntaf sydJ wedi eii cynal wedi profi yn llwyddiant. Nos Iau, yn Eelwys Genhadol St Thomas, cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch, pryd y cafwyd pregeth ragorol ar yr achlysur gan y Parch G. H. Harrison, Blaenau Ffestiniqg. Awd trwy y llithoedd, &c., gan y Parch David Davies, Rheithior. Erbyn hyn y mae ein heddgeidwad rhadlon, P. C. Davies, wedi ail ddechreu ar ei waith eto ar ol cael ychydig ddyddiau o wyliau ar ol llafur a Hudded gyda'r dipio defaid, a llawen genym ei weled yn dechreu mor benderfynol ag erioed i geisio dyrcbafu moesau da yr arda!. Nos Iau, Hydref 27ain, cynhaliodd Cym- deitbas Ddiwylliadol Ebenezer (A.) ei chyfarfod cyntaf am y tymor. Cymerodd y ffurf o gyfarfod adloniadol a chystadleuol; yr oedd yn hwyliog, a chynulliad da ynghyd. Arwein- iwyd yn ddeheuig gan Mr Edward Williams, Isallt, a'r llywydd ydoedd Mr R. Evans, Ty'nllyn Farm, gan yr hwn y cafwyd un o'r anerchiadau goreu glywsom er ys tro. Gwas- anaethwyd fel beirniaid gan y Mri Edwin Lloyd, J D. Richards, a Glan Edog, a rhodd- wyd perffaith foddlonrwydd a chyfeiliwyd yn fedrus wrth yr offeryn gan Miss Bessie Hughes. Railway Shop. Da genym gael y cyfle i nodi gwaith y cyfarfod fel y canlyn:-CAn agoriadol ragorol gan y lleisiwr addawol Mr Hugh E, Owen, Rhinog View. Y goreuon yn y gwa- hanol gystadleuaethau oeddynt,—adrodd i rai dan 12 oed, Annie K Davies, Penygarreg St.; esbonio emyn, Mri Ellis Jones, Bodlondeb. a H. Owen, Glasgoed, yn gydradd; deuawd i rai dan 16 oed, Teddie Rowlands a Maggie Jones; anerchiad barddonol i'r cyfarfod adlon- ladol, Mr W. Williams, Tyllwyd Terrace; taro cyweirood ton, Sarah Roberts, Chapel St.; ledio emyri, Blodwen Jones, Idris View; lliosogi geiriau, Mr Ellis Jones, Bodlondeb, Diweddwyd â datganiad da o'r alaw "Merch Megan" gan Teddie Rowlands. Derbyniodd y ddau ddrysawr Mri John Jones, Pencafnau, ac Edward Roberts, Chapel St., beth cymorth arianol wrth y drws at drysorfa'r Gymdeithas, ac hyderwn y gall gyraedd y nod sydd ganddi eleni, sef pwrcasu Baner i'r Plant. Trysorydd diogel y Gymdeithas ydyw Mr W. Owen, Ty'nypistyll, a'r Ysgrifenydd MrOmri Roberts, a'r hwn y dangoswyd arwyddion amlwg o gydymdeimlad yn y cyfarfod uchod. Yr oedd yn absenol gan ei fod yn y Deheudir yn claddu ei frawd Tom, a phasiwyd pleidlais o gydym- deimlad ag ef mewn distawrwydd. Boed iddo lawer o ddiddanwcb. Cymer y cyfarfod nesaf, a gynhelir nos Iau, Tachwedd lOfed, y ffurf o ddadl ar bwnc dyddorol iawn. Cofier am dano.
LLYTHYR AGORED AT ROLLIE I…
LLYTHYR AGORED AT ROLLIE I WILLIAMS. Anwyl Syr.—Awydd diolch i chwi sydd arnaf am yr amddiffyniad ardderchog yr ydych yn ei wneud y naill wythcos ar ol y llall o blaid Masnach Rydd. Gan belled ag y mae a fyno Crispin ar mater, ni buaswn yn eich cynghori i roddi pin a'r bapur mwyach, gan nad ydyw yn sefyll ei dir, ni welais, ni chlywais, ac ni ddarllenais am neb erioed yn crwydro mwy oddiwrth ei bwngc. Ond daliwch ati gyfaill, gwel y werin oddi- wrth eich llythyrau cryfion, a'ch ffeithiau an- wadadwy, ac hefyd eiddilwch atebion (pe ateb- ion hefyd) eich gwrthwynebydd mai Masnach Rydd pia hi. Gwna ymdrafodaeth fel hon fwy o les i Fasnach Rydd, a mwy o ddrwg i'r ffiloreg a gam-enwir yn Tariff Reform na dim arall oddieithr un peth. Yr un peth hwnw ydyw i Crispin ddyfod allan o'i gragen ac ymddangos yn y cnawd ar y llwyfan gyda chwi i groesi cleddyfau ar y pwngc. Son am gyfarfodydd politicaidd Buasai cyfarfod o'r fath yn gyru holl gyfarfodydd politicaidd Blaenau Ffestiniog i'r cysgod. Mae hwnyna yn osodiad pur drwm medd rhywun. Dim o'r fath beth. Yr wyf yn cofio yn dda am y cyfarfodydd yn amser y diweddar Tom Ellis, a'r cewri fyddai yn dod i draddodi areithiau, heb son am y rbai diwedd- araf. Coffa da hefyd am y brwdaniaeth, brwd- aniaeth ag y mae yn ofynol dyfod i blith chwarelwyr Ffestiniog cyn y gwelir ei gyffelyb, ond er hyny credaf y byddai dad! gyhoeddus rhyngocb chwi a Crispin yru y cyfan i'r cysgod, hyny adyw, gan belled ag y mae addysg a hyfforddiant boliticaidd yn y cwestiwn. Pa faint o'r areithiau campus a'r ymfflamychiadau etholiadol sydd ar gof a chadw ? Dim llawer mi gredaf. Ond buasai cyfarfod ro'r natur a nodais yn sicr o fod yn fwy ar feddwl pawb elai iddo am flynyddoedd lawer; mwy na hyny, bnasai i'r ddadl rhyngoch adael mwy o argraff ar y meddwl na degau-o areithiau. Terfynaf drwy eich cymhell i anfon challenge yn ddioed at Crispin, ac os ydyw yn gredwr mor fawr yn ei athrawiaeth, nid wyf yn tybied y bydd iddo wrthod fel y gwnaeth Mr. F. E. Smith gyda Mr. Vivian dro yn ol. Yr eiddoch yn ddidwyll, EDMYGWR.
MASNACH RYDD, YM MHA LE Y…
MASNACH RYDD, YM MHA LE Y MAE. A PHA BETH YW? Mr Gol.—Tystiolaetha ffeithiau mai baban i gau grediniaeth yn tarddu o farn gyfeiliornus Mr Cobden mai y doll oedd achos o'r drydan- iaeth yw Masnach Pydd ac yn nerth y gred- iniaeth hon y gwnaeth y fath ymdrech i ddifodi: y doll oedd yn achos o'r fath drydyniaeth yn 011 ei farn ef. Ac yn angerddoldeb ei farn a'i grediniaeth gan ladd yr wydd a ddodwyai wyau euraidd i'r gweithiwr a wnaeth efe. Y mae ffeithiau yn profi yn eglur mai proffwydol- iaethau gau a broffwydodd efe am ddylanwad masnach rydd ar holl wledydd cred; ac yn unol a'i farn a'i grediniaeth y llefodd mewn araeth, "Ym mhen pum' mlynedd eto bydd holl wledydd cred wedi mabwysiadu masnach rydd." Ond yn mhen ysbaid o amser cawn ef megis yn ameu ei hunan, ac yn llefain y tro hwn fel hyn, Yn mhen y deng mlynedd eto bydd holl wledydd cred wedi mabwysiadu masnach rydd, a Pbrydain yn weithdy'r byd." Ond er i ddegau o flynyddau fyned heibio, nid oes y tebygrwydd lleiaf fod gwledydd cred yn myned i gyflawni yr un o'i broffwydoliaethau ac onid yw ei broffwydoliaethau ef ei hun yn ei wneuthur ef yn broffwyd. Ac felly gwna ffeithiau apostol mawr masnach rydd yn un nad ellir ymddiried yn yr hyn a wnaeth nac yn yr hyn a ddywedodd chwaith. Ond fe lwydd- odd i gael difodi y doll, sef yr achos o'r drydaniaeth meddai ef; a hyn a ddywedir gan eu disgyblion heddyw. Ond os gwir yr haeriad, pan ddifodwyd y doll darfu drydaniaeth o angenrheidrwydd, am mai anmhosibl fod effaith yn bodoH ar wahan i achos. Ond y ffaith yw bu yr Yd yn uwch ar ol difodi y doll nag y bu yn amser y doll, a hyny am gyfnod maith a phrofa hyn yn eglur dwyll yr haeriad mai hi oedd achos o'r drydaniaeth, oblegid yr oedd ei difodi hi yn anmhosibl heb ddifodi ei heffaith hefyd.- Felly yn mha le y saif yr haerwyr hyn yn awr, tybed. A phe gwir yr haeriad buasai masnach o dan ei rheolaeth yn mhob lie ag un pris a fuasai ar yr yd yn mhob lie, am fod yr un achos yn cynyrchu yr un effeithiau yn mhob lie. Ond pa beth oedd' y doll ? Gofyniad y gyfraith oedd i'r tramorwyr dalu'r doll am ddod a'u hyd i farchnadoedd Prydain; a chofiwn mai gofyn y tramoriaid yr oedd hi ac nid y Prydeinwyr. Y fath ynfydrwydd yw meddwl mai y ni oedd yn talu y doll a'r gyfraith yn gofyn arall. A phe na buasai yd tramor yn dod i'r farchnad, nid oedd gan y gyfraith neb i ofyn toll ganddo. Dyma'r prawf pwy oedd yn talu'r toll. Felly eglur yw nad oes yn ngallu y doll i gynyrchu drudaniaeth na rhadloniaeth chwaith; am fod ein march- nadoedd yn cael eu llywodraethu gan ddeddf annhyblyg llawner a phrinder, a rhaid i'r gwerthwr a'r prynwr blygu iddynt. Bu y boneddwr pig yn isel ei bris yn y farchnad. Paham ? Am ei fod yn lliosocach yn y farch- nad na'r ymofynwyr am dano dyna'r paham. Dyma lawnder yn cynyrchu rhadlonrwydd, Ond heddyw y mae ef yn brin yn y farchnad, a'r ymofynwyr am dano yn lliosocach nag ef; am hyny y mae ei brinder ef yn y farchnad yn cynyrchu drudaniaeth. Hefyd, pan oedd y Weinyddiaeth Doriaidd mewn awdurdod, rhoddasant doll ar y siwgr, a'r un flwyddyn bu methiant ar ei gynhauaf, ac felly bu prinder am dano, yr hyn a gynyrchodd ddrudaniaeth arno. Ond y flwyddyn ddilynol bu cynhauaf ardderchog iddo, a chafwyd llawnder o hono ac effaith hyn fu gostyngiad yn ei brisyn is nag oedd cyn y doll. A pha beth yw hyn ond llawnder yn cynyrchu rhadlonrwydd, Mr Gol.? CRISPIN.
GAIR AT EFRYDWYR CERDDORIATH.
GAIR AT EFRYDWYR CERDDORIATH. Mr Gol.—Ymgymeraf ag ychydig o'ch gofod os caniatewch i alw sylw at efrydwyr cerddor- iaeth y cylch at drefniadau newydd Coleg y Tonic Solfa yn Llundain, nglyn a'r arholiadau chwarterol. Mae awdurdodau y Coleg wedi ystyried llu o gyfnewidiadau pwysig yn nglyn a'r gwahanol dysysgrifau a'r dull o'u heistedd, pa rai, yn sicr, a brofant yn welliant mawr. Mae yn awr bosiblrwydd eistedd y tystysgrif- au uwchaf heb sefyll arboliad y rhai elfenol, ond yn unig fod egwyddorion yr oN oeddynt dan yr hen" scheme" yn gorfod eu heistedd yn cael ei grynhoi yn fater a thraul arianol bron yn y cyfleustra newydd. Dyweder, er eng- ralfft, fod person cymwys yn awyddus i sefyll arholiad am yr Advance Certificate (A.C.), gall ei henill yn awr dan yr Alternative Scheme," ar un eisteddiad, pryd yr oedd yn ofynol dan yr hen ddull iddo sefyll arholiad am 16 o dyst- ysgrifau cyn hYIll. Yr un fath hefo y 'Matric' a'r Advanced Theory," pa un a rydd hawl i sicrhau yr L.T.S.C. Hefyd gellir ei gweithio ar yr un telerau ag o'r blaen, os dewisir yn well, gan ymgeisydd, i fyned drwy y cwrs yn rhanol. Cyfnewidiad arall sydd yn y cynllun newydd ydyw, fod y Coleg wedi gwneyd i ffwrdd a rhai o r hen deitlau, megisyrA.C., a'r G.T.S.C. Nid yw yr A.C. na'r G.T.S.C. yn radd gyd- nabyddiedig gan y coleg. Dyma deitlau y coleg:—Mae y Membership" wedi dod i flaenori yr "Assoeiateship" erbyn hyn ac y "Associateship yn radd o gryn werth heddyw. Nid pasio yr Intermediate Theory yn unig sydd yn ddigon i'w sicrhau, ond mae yn ofynol cael y Matric (practical) a'r Theory cyn y gellir sicrhau yr A.T.S.C., y L.T.S.C. a'r F.T.S.C. Mae llawer o gerddorion wedi bod yn ddigon beiddgar i ddefnyddio rhai o'r teitiau er heb eu henill erioed: dengys hyn ryfyg mawr. Camddealla ambell un y gwahanol ystyriaethau a roddir i faterion o'r fath. Mae y coleg hefyd wedi sicrhau Byrddau Canolog trwy bob parth o'r byd, ac mae y Bwrdd hwnw yq cael ei lywodraethu gan rai o brif gerddorion y cylchoedd. Ar gais mwy nac un gofynwyd i mi ymgym- eryd a'r ysgrifenyddiaeth ynglyn a Bwrdd Ffestiniog, a derbyniwyd yr enw yn hwylus gan y coleg. Wedi hyny anfonwyd Form i'w llawnodi gan y rhai ydynt yn gwneyd i fyny y Local Centre, ac anfonais yr enwau a ganlyn, fel rhai cymwys i wylio am fuddianau ag urddas y Coleg yn y lie, a gofalu nad oes un tystysgrif yn cael ei henill drwy unrhyw fodd anheilwng ac anonest:—Mri M. E. Phillips, B.SC., L T.S C. O. T. Jones (A.law Ffestin), L.T.S c.; George Davies, L.T.S C. Dr R. Edwards, A c., Llan; J. Lloyd Edwards, A C. (Pencerdd Bowydd); Cadwaladr Roberts (Pen- cerdd Moelwyn), E. Ffestin Jones. A.c., Wm. Morns Williams, A.C., Edward Edwards, The Square; Watkin Jones, A C., Celyn, Bala; W. R. Jones, A.c Penrhyn a Robert Thomas, A.c., Penmachno. Mae y Bwrdd yn dechreu ar ei waith yn egniol yn barod er dwyn Solfa a'r Staff i sylw dyladwy. Bydd yr arholiad nesef yn cael ei threfnu yn Nghylch Ffestiniog, dydd Sadwrn, Tachwedd 19, 1910, a threfnir cyffe i'r neb a ewyllysia ddod yno i sefyll arholiad am y tystysgrifau elfenol yr un diwrnod, ond i'r ymgeisydd anfon rhyw fath a'r manylion i mi erbyn nos Iau cyn hyny. Bydd yn bleser genyf roddi ryw gym- aint o fanylion yr arholiadau i'r neb a gar ym- holi.—Yr eiddoch yn bur, R. JONES (PERORFRYN), Bryn yr Haf, Blaenau Ffestiniog, Hydref 30, 1910,
--- - I-- PENTREFOELAS. ----I
PENTREFOELAS. Gyda gofid dwys yr hjsbyswn amfarwolaeth Mr William Owen, Bryniau Gwerfil, yn ei 52 mlwydd o'i oedran. Nid oedd yn gryf er's talm gan y dyoddefai oddiwrth anbwyldeb mewnol, a chyfyngwyd ef i'w dy am chwech wythnos, a dydd Sadwrn torwyd ef i lawr o ganol ei dyaid plant: naw mewn nifer, yr ieu- engyf yn bum' mlwydd a haner oed. Cladd- odd ei wraig, yr hon oedd yn chwaer i Mrs Henry Williams, Pantllwyd, Ffestiniog, ddwy flynedd yn ol; a'i frawd, Joseph Owen, Cefn- garw, Pentrefoelas, tua deng mis yn ol, Bu Mrs Wynne Finch, i'r hon yr oedd yn foreman yn nodedig yn ei gofal am dano yn ei gystudd, a gwnaeth bobpeth posibl iddo er ei adfer, ond y cwbl yn ofer. Bu yr ardalwyr hefyd yn gar- edig dros ben iddo yn ei waeledd, gan mor hoff ydoedd pawb o hono. Teimla y teulu yn ddiolchgar i bawb am eu sirioldeb a'u hynaws- edd. Claddwyd ef ddydd Mercher, pryd y gwasanaethwyd wrth y ty gan Mr Ellis Rob- erts, ac yn y fynwent a'r eglwys gan y Parch Alban Lloyd. Nawdd y nefoedd fyddo dros y plant amddifaid.
;-T ANYGRISIAU.--------,
T ANYGRISIAU. CYFARFOD DIRWESTOL Y CHWIORYDD.— Cynhaliwyd yr uchod nos Lun diweddaf, yn Nghapel Carmel (A.), o dan lywyddiaeth y Parch J. Albert Morgan. Dechreuwyd trwy ddatganiad gan Gobeithlu Carmel, o dan arweiniad Mr W. J. Williams, Bodiwan. Darllenodd Mr Joseph Williams, Haulfryn, ranau o'r Ysgrythyr, ac aeth i weddi. Awd trwy y rhaglen canlynol :-Adroddiad gan Miss Olwen Lloyd, Fron. Datganiad gan barti Miss Sarah Jones, Dolydd Terrace. "Dadl Dirwestol," gan Mrs Owen a Mrs Williams, Manod Road. Anerchiad gan y Llywydd. Cystadleuaeth areithio ar Ddir- west," 1 Thomas Hughes, Glan'rafon Terrace. Datganiad gan y Gobeithlu. Cynygiwyd y diolchiadau gan Mrs Jane Jones, Glan'rafon Terrace, a chefnogwyd gan Mrs Elizabeth Grace Jones, Dolydd Terrace. Diweddwyd trwy weddi gan Mr Morgan. PRIODAS. Dydd Gwener diweddaf yn Nghapel Bethel, yn mhresenoldeb Mr Richard Jones, unwyd mewn glin briodas Mr David Williams, Brynbowydd, a Miss Ellen Parry, Maesygraian. Gwasanaethwyd ar yr amgylch- iad gan y Parch R. Silyn Roberts. Llongyf- archwn y ddau ar eu huniad priodasol. DAMWAIN.—Drwg genym ddeall i Mrs Edwards, y Ddol, gyfarfod a damwain nos Sadwrn diweddaf. Ymddengys ei bod yn myned ar fusnes i Bodychain ac iddi tra yn myned trwy y twll oddi tan y ffordd haiarn syrthio gan anafu ei phenglin mor dost nes y gorfu i'r meddyg ei bwytho. Gyda Ilaw, credwn fod y twll hwn odditan y ffordd haiarn yn lie ag y dylid cymeryd sylw o hono gan yr Awdurdodau Dinesig gan ei fod yn llwybr cyhoeddus. Y mae yno bibell ddwfr yn myned drwodd ar ganol y llwybr a hono yn noeth ar rai prydiau, ac ami un wedi bod ar ei grafangau ar lawr, oherwydd sathru ami. Hefydcredwn nad yw yn ddigon uchel i fod yn hwylus nag yn ddiberygl chwaith. DARLLENFA.—Yr wythnos ddiweddaf, agor- wyd Darllenfa Bethel, am y tymhor dyfodol. Disgwylir y bydd llawer yn gwneyd defnydd o honi. Dyma gyfle rhagorol i gael gweled new- yddion y dydd a llyfrau a chylchronau, heblaw ei fod yn lie cysurus ar nosweithiau y gauaf dyfodol.
.TALSARNAU. -- ALSARNAU.
TALSARNAU. ALSARNAU. Nos Wener, Hydref 28ain, 1910, cyfarfu Cymdeithas Lenyddol a Duwinyddol Soar (w). yn Ystafell yn Bryn Street. Llywydd, y Parch E. Mostyn Jones; Is-lywydd, Mr Edward Jones, Bryn; Trysorydd, Mr D. W. Edmunds, Plasuchaf; Ysgrifenyddes, Miss Jennie Rob- erts, Soar. Anerchiad gan y Llywydd. Yna cafwyd dadl gan Mri D. R. Jones, Bryn Street, a Wm. Morris, Gwylian House, ar "Pa un ai Barddoniaeth ai Cerddoriaeth sydd yn dylan- wadu gryfaf yn ffurfiad cymeriad da." Wedi dadleu brwd, caed mae Cerddoriaeth ydyw y dylanwad cryfaf. Yn Nghymdeithas Gydymdrech Grefyddol Bethel (M.C.), cafwyd papur rhagorol ar y "Paham rwyf yn Brotestant," gan Mr Evan Evans, Ynys. Wedi talu diolch am y papur, terfynwyd y gweithrediadau. Dydd Mawrth, cynhaliodd Mr John Davies Sale lwyddianus yn Yard Ship A'Ground, ar Wartheg, Ceffylau a Defaid.
..-....DOLWYDDELEN. I
DOLWYDDELEN. I Y GWAITH DWFR:—Dymunir arnom ddywedvd mai deg swllt ac nid deg punt ofynai Mr Robert Williams, Bryntirion, am ryddid (easement) i fyned a'r pibelli dwfr trwy'i dir, Deg punt" oedd y swm nodwyd yn yr Ymchwiliad, er y gwyddem yn, bersonol mai deg swllt" ydoedd yn gywir. Adrodd banes yr Ymchwiliad fel y cymerodd le oedd ein gwaith ni. ac nid cywiro yr hyn ddywedai y rhai roddent eu tystiolaeth.
PYSGOD AFLAN.
PYSGOD AFLAN. Pwysig i Benau Teuluoedd. Goheithio nad gwir a glywsom yr wythnos ddiweddaf fod y gyfraith wladol yn cael ei thori a'i hanwybyddu gan rai dyhirod anynol trwy ddal pysgod ar eu "cladd a'u cymhell hyd y tai, am bris temtiol i'r anghyfarwydd eu prynu yn gigfwyd i'r teulu ymborthi arnynt. Gwyr pawb mor chwaethus a maethlon yw cig y brithyll yn ystod ei dymor, sef o'r 2il ddydd o Chwefror hyd y dydd cyntaf o Hydref, ond ofnir fod lluaws o'r trigolion yn esgeuluso cofio ac ystjyried mor aflan mae cnawd y brith- yll yn myned yn amser claddu. Mae Senedd Prydain Fawr wedi deddfu yn arbenig ar gyfer yr amser a'r modd y delir y Brithyll Torgoch (Char) a'r Eog. Am y rheswm y caniateid i'w dal gylchogylch y flwyddyn hyd nes y passiwyd y Fresh Water Fisheries Act" yn 1868, yr hon sydd yn gwa- hardd dal brithyll, torgoch nag Eog yn Nghymru na Lloegr, dan ddirwy drom, rhwng y cyntaf o Hydref a dydd cyntaf y Chwefror canlynol; ond mae gan Fwrdd y Ceidwadwyr (Board of Conservatives) hawl i newid y daddiad yn ol gofynion yr amgylch adau Ileol, megis fel yr estynir tymor pysgota brithyll a thorgoch gan Geidwadwyr Ddyfrdwy o Gaer i'w tharddiad yn yr Aran a'r dyfroedd cylchynol sydd o fewn terfynau awdurdod y Bwrdd hyd y 15fed o Hydref-ond gyda ni yn Ffestiniog ac yn nyfroedd y Dovey, Mawddach a'r Laslyn (yn cynwys y Ddwyryd a'i chang- enau, yn Hyn ac afon), terfynu ar ddiwedd y dydd cyntaf o Hydref. Yr un modd saif y gyfraith hyd yn awr gyda golwg ar yr eog mewn unrhyw ddyfroedd cyhoedd na chyfrin-public nor private- rhwng diwedd y dydd cyntaf o Fedi a diwedd y dydd cyntaf o Chwefror, Ond ar yDdwyryd a dyfroedd y Ddyfi, Mawddach, a'r Laslyn, estynir cortynau y tymor pysgota gyda genwair (rod & line) hyd ddiwedd dydd diweddaf Hydref, a phery yn gauedig hyd y dydd cyntaf o Fai. Cofus genym am yr ysgrif ddyddorol ac adeiladol gyhoeddodd Dr Roberts (Isallt) gwrs o flynyddau yn ol fel Llywydd y Gymdeithas Enweiriawl ar gyflwr lliprynaidd a llysnafeddog cnawd a chroen y brithylliaid yn ystod y pedwar mis y clafychant ac yr adferant eu hunain i ddod yn ymborth cymwys. Os ydym yn cofio yn ddigon da. rhoddodd y Doctor restr o bysgod y Lmor a'r dwr croew a chan- ddynt wahanol adegau o'r flwyddyn i fyned drwy yr oruchwyliaeth o "gladdu," fel y dywedir, a bod darbodaetb natur yn gofalu bod cyfran ddigonol o bysg mewn cyflwr bwytadwy (in season) drwy gydol y flwyddyn yn niffyg y gweddill o'r pysg. Rhybuddiai y Doctor hefyd am yr effeithiau drwg all ymborthi ar gig brithyll yn y cyflwr gwrthwynebus yma ddwyn oddiamgylch ar blant a chleifion a'r rhai hyny sydd a chylla gwan ganddynt, yn wyr ac yn wragedd. Carem yn fawr weled yr ysgrif hono eto, nen ei chyffelyb.
Undeb Ysgolion Annibynwyr…
Undeb Ysgolion Annibynwyr Ffestiniog, Maentwrog a Thrawsfynydd. Cynhaliwyd Cyfarfod Ysgol yr Undeb uchod yn Bethel, Ffestiniog, Sabboth Hydref 30ain, 1910. Cyfarfod deg o r gloch. Llywydd, Mr Edward Williams. Dechreuwyd y cyfarfod trwy ganu ton gynulleidfaol, yna cafwyd adroddiad rhagorol o'r bennod laf yn Epistol Iago gan Mrs, Wiliiams, Bont Newydd. Wedi canu ton cynulleidfaol, arweiniwyd mewn gweddi gan Mr Hugh Davies, Hendre Mur, Utica. Yna cafwyd anerchiad gan y Llywydd ac i Unawd Cyssegredig gan Mr. Francis M. Evans. Holwyd y dosbarth hynaf yn yr ail Bennod o Epistol lago gan Mr. John Williams, Jerusalem, a chafwyd holi ac ateb bywiog ac effeithiol, yn dangos ol llafur, gyda parodrwydd neillduol. Wedi canu ton gynulleidfaol, dtweddwyd trwy weddi gan Mr. Edward Roberts, Hyfrydfa. Cyfarfod dau o'r gloch. Llywydd, Mr Morris Evans. Dechreuwyd trwy gael ton gan y plant dan arweiniad Mr Hugh J. Hughes. Yna darllenwyd Psalm, ac arweiniwyd mewn gweddi gan Mr. D. M. Roberts, Salem. Ton gan y Gobeithlu, ac anerchiad gan y Llywydd. Unawd gon Mattie Owen. Yna holwyd y plant yn hanes Iesu Grist gan Mr. 0. O. Roberts, Wedi i'r plant ganu ton, cafwyd anerchiad byw, addysgiadol ac effeithiol, i'r plant gan Mr. R. Percy Hughes, Utica, ar Wirionedd ac Anwiredd." Unawd gan Mr. Hugh J. Hughes, a holwyd y plant drachefn. Unawd gan Mr. R. J. Jones. Wedi i'r Gobeithlu ganu, diweddwyd trwy weddi gan Mr. R. W. Roberts, Brynbowydd. Cyfarfod 6 o'r gloch. Llywydd, Mr. W. Pritchard. Dechreuwyd trwy ganu ton gynulleidfaol, ac adroddwyd rhan o Mathew V benod yn rhagorol gan Mr. R. J. Thomas. Dirgoed. Arweiniwyd mewn gweddi gan Mr David Evans, Trawsfynydd. Yna canodd y Cor dan arweiniad Mr. William Stephan, a chafwyd anerchiad meistrolgar a chyfoethog; gan Mr. John Williams, Jerusalem, ar y testyn Angen yr. Ysgol Sabbothol am gynorthwy- yr aelwyd i wneud ei gwaith yn effeithiol." Siaradwyd arno yn mbellach gan y Llywydd, Mri. W. O. Thnmas, Edward Roberts, R. W. Roberts. D. J. Rowlands, 0.. Evans, Trawsfynydd. Wedi cael pedwarawd gan Mr. R. J. Jones a'i gyfeillion, terfynwyd trwy weddi gan Mr. W. O. Thomas, Bethania. Chwareuwyd yr Organ yn ystod y cyfarfodydd- gan Mr. Edward Samuel a Miss Laura, Pritchard. Gwnaeth y Llywyddion oil eu gwaith yn bynod o effeithiol a deheuig. Daeth y cynrychiolwyr yn lluosog i'r Cyfarfod, a chafwyd croesaw a charedigwydd mawr gan y cyfeillion yn Bethel, ac yr oedd yr holl gyfarfodydd yn dangos ol Ilafur mawr, a chafwyd eneiniad neilldhol ar bob ffurf o'r gwasanaeth, a chredwn i'r Cynrychiolwyr a'r: Eglwys dderbyn bendith. —YSG.