Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
13 articles on this Page
PRYDAIN FAWR A PHERSIA.
PRYDAIN FAWR A PHERSIA. Mae'r berthynas rhwng Prydain a Phersia ym mhell o fod yn foddhaol ar hyn o bryd. Er's amser hir bellach mae cyflwr mewnol y wlad hono yn ddrwg iawn; nid yw bywyd nac eiddo yn ddiogel ynddi. Oherwydd anewyllys- garwch Deu anallu ei Llywodraeth i gadw trefn ynddi, mae'r tKftmorwyr sydd yn masnaehu yno nid.yn unig yn cael colledion mawrion; heblaw hyny, mae eu heinioes hwy a'u gwasanaeth- yddion mewn enbydrwydd. Barnodd Syr Edward Grey yn angenrheidiol hysbysu Llywodraeth Persia fod yn rhaid iddi yn ddiymdroi arfer moddion effeithiol i ddwyn trefn. o'r tryblith sydd yn y wlad, a bod yn rhaid iddi wneyd hyny o hyn i ben y mis ac oni wna, y bydd i Brydain Fawr gymeryd y gwaith mewn Haw. Yr wythnos ddiweddaf glaniwyd 120 6 wyr oddiar gadlong Brydeinig ym mhorthladd Lingah i amddiffyn y dref yn erbyn mintai gref o yspeilwyr, ag y dywedodd eu bod yn nesau ati i ymosod arni. Dywedir fod hyn wedi ei wneyd argais Llywodraeth- wr y. lie a'r Conswl Prydeinig yno. Ond mae Llywodraeth Persia wedi gwrthdystio yn bendant yn erbyn y weithred, ac wedi galw am i'r gwyr a laniwyd gael eu gorchymyn i ddychwel- yd ar unwaith i'r gadlong. Mae rhesymau dros gredu fod Rwssia a Phrydain yn deall eu gilydd, ond y mae Llywodraeth yr Almaeo yn teimlo yn eiddigus i'r eithaf.
O'R BiWEDD.
O'R BiWEDD. Hysbysir yn swyddogol fod adroddiad y Ddirprwyaeth Eglwysig wedi ei ar- wyddo gan y Barnwr Vaughan Williams a mwyafrif o'i ddirprwywyr, ac wedi ei hanfon i'r Ysgrifenydd Cartrefol i'w chyflwyno i'r Brenin. Gyhuddir rhywun neu rywrai o'r aelodau o fradychu cyf- rinach trwy wneyd rhanau o hono yn hysbys i gynrychiolwyr y wasg. Mae'n sicr fod hyny wedi ei wneyd, ond mae'n bosibl nad yr un o'r aelodau a'i gwnaeth ond un o swyddogion y Ddirprwyaeth neu un :o'r swyddfa lle'i hargraphwyd. Pwy bynag a'i gwnaeth, nid oedd yn beth iawn i'w wneyd. Nid ydym ni, fodd bynag, yn gofalu dim pa un a gy- hoeddir yr adroddiad a'i peidio. Gwydd- om y gwneir, a gwyddom gystal a hyny nad yw ei werth ddim yn fwy na gwerth y papyr y'i hargrapher arno. Mae'n ddiameu genym fod y Barnwr Vaughan /Williams yn credu yn wahanol, oblegid "gwyny gwel y fran ei chyw, ac y mae yn falch iawn o hono. Dichon y bydd i ni, pan gawn gopi o'r adroddiad, farnu yn briodol sylwi arno.
ETKOLIAD WALTHAMSTQW.
ETKOLIAD WALTHAMSTQW. Cymerodd hwn le ddydd Mawrth, ond ni wneir y canlyniad yn hysbys cyn dau o'r gloch prydnawn heddyw (ddydd Mercher). Os daw gwybodaeth mewn pryd, cyhoeddir y fflgyrau mewn colofn arall.
rVWVVVVvvvvvvv LLANRWST.
rVWVVVV vvvvvvv LLANRWST. Y mae Mr T. R. Jones i gael ei anrhegu heno a phwrs yn cynwys ugain punt. Cymer y seremoni le yn y Neuadd, a chyflwynir yr anrheg gan Mr Watling, Cadeirydd y Cynghor Dinesig. Y mae y Pabyddion yn cynal cyfarfodydd arbenig yr wythnos hon yn eu Heglwys. Nos Fawrth, pregethodd y Gwir Barchedig Herbert Vaughan, D.D., Llundain, a phregethodd yr un gwr parchedig nos Fercher. Heno traddodir anerchiad gan y Tad Trebaol ar "Gymru a Rhufain." Tua deg o'r gloch boreu Llun, aeth Mrs Hughes, Britannic Stores, yn ol ei harfer ar draws yr heol i Dorset House, pryd y dargan- fyddodd Miss Jane Jones, y tenant, yn farw yn ei gwely. Yr oedd yn 43 mlwydd oed, ac yn byw wrthi ei hun. Cleddir heddyw (dydd Iau)
PENMACHNO.
PENMACHNO. Y mae Arglwyddes Roberts wedi addaw traddodi anerchiad yn fuan yn nglyn a'r gangen leol o Gymdeithas Ddirwestol y Merched, Y mae Mrs J. T. James wedi ei bethol yn Llywyddes, Mrs E. Davies-Jones yn (Is-lywyddes, Miss L. R. Evans yn Drysor- yddes, a Miss Myfi Williams, Boston Villa, yn Ysgrifenyides. Drwg oedd genym glywed y newydd am farwolaeth Mrs Thomas, priod Mr J. Thomas, Llechwedd Hen, Bala. Cofir am dani yn byw yn y Benar. Nos Wener, dechreuodd Cymdeithas Salem ar gyfarfodydd y tymor, pryd y cafwyd anerchiad grymus gan y Parch J. T. James.
Marwolaethau.
Marwolaethau. $?ARRY.—Tachwedd laf, yn ei breswylfod, Gorphwysfa, Eardley Crescent, South Ken- -sington, LIundain, Mr. Robert Parry, tad .Mrs Silyn Roberts.
Cor Meibion y Moelwyn yn Llan.…
Cor Meibion y Moelwyn yn Llan. dudno. Yn ol adroddiadau y gwahanol bapyrau bu i'n Cor enwog roddi perl ychwanegol yn eu Uu coronau nos Iau diweddaf, a thynasant bron ddigon o wrandawyr i lanw y pafiliwn enfawr a bu iddynt orfbd dyblu pob item, a threblu un neu ddwy. Anfonodd L. J. Roberts, Ysw,, Arolygydd yr Ysgolion, yr hwn sydd yn gerddor o fri, at yr arweinydd i'w longyfarch ar y canu godidog, yn neillduol felly ar Y delyn aur; a dywedai na chafodd gymaint boddhad with wrando y Battle of the Baltic gan yr un o'r corau dedd yn cystadlu ar y dernyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gynhaliwyd yn Colwyn jBay, nac yn Festival Llandudno," pryd yr enillodd y Cor diguro o Manchester yn y ddau le, ac mae clod mawr yn hyn in Cor Meibion, pan yr ystyriwn ei fod yn ddernyn trwm ag eithriadol anhawdd, ac na buont ond prin dair wytnnos yn parotoi gydag ef. Dyma fel yr edrydd y "Llandudno Advertiser. Grand Choral Concert. Thursday Concert will long be remembered by those who were fortunate to be present. The services of the Moelwyn Male Choir, which it will be remembered gave a Concert at the Grand Theatre last November, prior to their visit to the United States, had been secured, and they drew a very large attendance. During the Concert they sang W. O. Jones arrangement of "Welsh Airs:" and were heartily encored. When they sang the Men of Harlech and "Hen Wlad," &c.also Ed. German's "O Peaceful Night"; Balfe's Killarney, and the Irish Air Shamrock Italian Salad and Y Delyn Aur," under the baton of their famous able conductor, Mr C. Roberts, J.P., encores were demanded for every item set down. Under the baton of Mr W. Haigh, this excellent choir also sang The Soldiers Chorus," from Faust, and this was also redem- anded. This was the first time we have had an opportunity of seeing Mr Haigh conducting a vocal chorus and orchestra combined. His handling of the two was excellent in every respect, and the result thoroughly deserved the thunders of applause which followed. Naturally Mr T. Osborne Roberts came in for a warm ovatiou as he stepped forwards to conduct "The battle of the Baltic" (of his own). The encores fOd, the choir items where so numerous, that several selections, and other items had to be considerably shortened, or cut out altogether. Caiff yr uchod farnu drcsto ei hun, ac mae ami damaid arall canmolaethus iawn. Daliwch atti fechgyn, er mwyn eieh enw da, ac er mwyn eich dyfodol. Mae applications am wasanaeth yn dod yn hwylus a chyson o amryw leoedd eraill. Da genyf fod enw mor odidog wedi ei wneyd yna gan y cor, gan hyderu dweyd y deuant a llawer mwy o glod i'r ardal na dim arall welwyd yma ar hyd y blynyddau. I UN 0 BOYS FFESTINIOG.
I-------TANYGRlSiAU.--------I
I TANYGRlSiAU. -I CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL CARMEL A'R CANGHENAU —Cynhaiiwyd yr uchod nos Fawrth diweddaf, yn Vestri Carmel. Cafwyd Cyfarfod Amrywiaethol, o dan lywyddiaeth Mr W. H. Jones, Castell Barlwyd. Dechreu- wyd trwy ddatganu ton gynulleidfaol. Awd trwy y rhaglen ganlynol :-Anerckiad gan y Llywydd. Adroddiad gan Miss Maggie Lewis, Dolrhedyn Terrace. Solo gan Mr Daniel O. Williams, Doppog. Adroddiad gan Miss Annie Jones, Glan'rafon Terrace. Can gan Miss Mary Davies, Glan'rafon Terrace. Adroddiad gan Miss Catherine Alice Edwards, Tanyfron. Can gan Miss Maggie J. Williams, Bryn Hyfryd. Cystadleuaeth areithio ar John Penry" 1 Mr W. J. Williams, Bodiwan. Deuawd gan Misses Maggie J. Williams a Mary Davies. Adroddiad gan Miss Lizzie Williams, Bronfoel. Diweddwyd trwy gyd- ganu ton gynulleidfaol. CYFARFODGOBEITHLU DOLRHEDYN(M c.), -Gynhaliwyd yr uchod yn Dolrhedyn, nos Fawith, o dan arweiniad a llywyddiaeth Mr H. H. Roberts, Dolrhedyn, yr arweinydd i fod oedd y Parch R. Silyn Roberts, ond oberwydd ei fod wedi cyfarfod a phrofedigaeth o golli ei dad yn-nghyfraitb, ac ni allai fod yn bresenol. I ddechreu cafwyd ton cynulleidfaol o dan arweiniad Mr John Roberts, London Place, yna awd ya mlaen gyda y rhaglen a ganlyn Solo gan Mr Owen D. Owen, Tynllwyn. Adroddiad gan Miss Kate M. Pritchard, West End, a thra yr oedd hi yn adrodd yr oedd Miss Bessie Thomas. Foundry House, yn Canu Rock of Ages," wrth y drws. Solo gan Miss Gwladys Williams, Jones Street. Adroddiad gan Miss Kate M. Roberts, Plas Cwmorthia Solo gan Mr John E. Williams, Penybryn. Adroddiad gan Miss Katie Parry, Pencaig. Solo gan Annie Lizzie Owen, Tynllwyn. Solo gan Miss Annie Griffiths, Hendre House, High Street. Deuawd gan Mri J. E. Williams ac Owen D. Owen. Solo gan Miss Bessie Thomas. Solo Euphonium gan Mr Bob Smith, Trefeini. Yna deuwyd at brif waith y cyfarfod, sef cys tadleuaetb canu yr unawd "Hen benill adrodd- ai fy nhad," neu Bwthyn yr Amddifaid." Ymgeisiodd 5, a dyfarnwyd Mr Owen Jones Hughes, Pantcoch, yn oreu gyda chanmoliaeth. Deuawd Offerynol gan Mri Bob Smith a R. Parry, Pencraig. Solo gan Miss Lizzie Mary Jones, Cwmorthin. Unawd gan Miss Annie Griffith. Tatwyd y diolchiadau arferol gan yr arweinydd, Mr H. H. Roberts, a chefnogwyd gan Mr John Williams, Cwmorthin Road. Y Beirniad Gerddorol ydoedd Mr Rd. Rowlands (o Chwarel Rhosydd), a chyfeiliwyd yn fedrus gan Mr William O. Evans, Ddol. Cafwyd cyfarfod rhagorol, a diameu eu bod wedi cael elw da, pa rai sydd yn myned at wobrwyo y plant yn y Gobeithlu. Yr oedd yr addoldy yn llawn.—YSG,
- - - - - - - - I -At ein…
I At ein Qor -I I Cyngor Dosbarth Deudraetb, allan o ddiffyg III e.
BLAENAU FFESTINIOG. I
BLAENAU FFESTINIOG. CLWB RHYDDFRYDOL.—Heno (nos Iau), bydd y Clwb yn dechreu ar gyfres cyfarfodydd y gauaf gyda Chyfarfod Cystadleuol. Ceir canu, canu penillion, areithio, adrodd, a barddoni. Croesaw calon i bawb ddod i'r cyfarfod hwn sydd yn rhad ac agored i'r aelodau a phawb ewyllysia ddod iddo. Sportsmen would do well by paying a visit to J. N. Edwards, Ltd., to inspect their new Stock of Cartridges, Powder, Shots, etc. Also Guns, Revolvers, all of the best makes, for the Season now just opened. DIRWESTOL.—Cynhaiiwyd Cyfarfod Dir- westol nos Sadwrn diweddaf, o dan lywyddiaeth Mr Edward Edwards. Dechreuwyd trwy i Miss Gwen Jones, Beihania, adrodd Psalm, ac i Mr. Benjamin Jones, Lord Street, arwain mewn gweddi. Adroddiad gan Miss Gwladys Williams. Can gan Miss Lizzie Lloyd Smith, a Rees Williams, Rhiw. Adroddiad gan Thomas Davies, Can gan Miss Maggie Ann Lloyd. Adroddiad gan Miss Winifred Roberts. Anerchiad gan Mr. R. R. Hughes (Treborfab). Can gan Mr. W. W. Roberts, The Square. Adroddiad gan Mr. Llewelyn Jones, Glanvgors Terrace. Can gan Miss Kate A. Jones, Bethania. Cyfeiliwyd gyda'r offeryn gan Mr. Evan Lewis Roberts, Tabernacle. Diweddwyd gan Mr. William Thomas. Bydd cyfarfod nos Sadwrn nesaf i ddechreu am 6 50.-T.R. EIN BARDD CADEIRIOL.-Y dydd o'r blaen cafodd Bryfdir air oddiwrth foneddiges o Gymraes o America yn ei gyfarwyddo i anfon at Ysgrifenydd Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam, i hysbysu y rhoddai hi y wobr ar destyn y Gadair. Da iawn yn wir. Gyda Haw, gwelwn fod ein cyfaill yn llawn gwaith y misoedd nesaf. Nos Iau, bydd yn Trefriw, ya darlithio, Oedfa gyda'r Beirdd yn destyn. Y mae ganddo i feirniadu yn Eisteddfod y Nadolig, Towyn, a Dinbych, a da genym ei weled yn troi ei sylw i'r cyfeiriad hwnw. FF AITH.-Nid oes unrhyw Optician ya y Deyrnas yn meddu ar Dystysgrifau uwch ar ol pasio Arholtadau mewn Proft y golwg, Sc., na Mr. Hugh Jones, Med- cal Hall Blaenau Festiniog. CYMDEITHAS GORAWL Y MANOD.—Nos Wener diweddaf, agorwyd y Gymdeithas ucbod, a daeth agos i gant o gantorion ynghyd -rhai o honynt yn gantorion gwych a'r oil yn lleiswyr rhwydd. Rhanwyd copiau o'r Cafan- waith a chanwyd o hono See the Conquering Here comes," a We never bow down," ac wedi deall y cyfan yr oedd ystyr priodol i'w canu oblegid yr oedd Pwyllgor y Gymdeithas wedi gcrfod myned trwy Iawer o anhawsderau a phryderon er cyrhaedd yr amcan uchel a chwaethus hwn. Yr oedd pawb ar eu huchel fanau, yn enwedig yr Arweinydd, Mr Evan James Jones. Cafwyd siars gan Mr Bevan am brydlondeb a ffyddlondeb yr Aelodau, a der- byniodd ei sylwadau gwerthfawr gymeradwy- aeth. Bydd y Cor yn ymgynull bob nos Wener am 7-30, a bydd cyfle i rai o'r newydd ymuno nos Wener nesaf. Da genym hefyd hysbysu fod boneddwr adnabyddus wedi anfon offeryn-hollol newydd, at wasanasaeth y Cor yn rhad 0 hyn tan) y GylchwyL BETHANIA.—O flaen Cymdeithas y bobl ieu- aingc y lie uchod, traddododd y Parch. J. A. Morgan, Tanygrisiau anerchiad fywiog a gafaelgar ar Cyfoeth a thlodi," Y llywydd ydoedd Mr Evan Pierce Jones, Glanygors Terrace. AMBULANCE.—Dymunwn alw sylw pobl ieuangc yr ardal at y Dosbarth Ambulance sydd wedi cychwyn ar waith y tymor. Cyfarfyddir bob ncs Iau yn y Market Hall, o &n hyfforddiant Dr Jones, Isallt. Y mae nifer dda iawn wedi ymuno, a chymellir yn daer am i ragor wneyd hyny er eu lies hwy eu hunain, ac er mwyn bod o wasanaeth i'w cyd- ddynion. Bu y Dosbarth hyd yn hyn yn dra llwxddianus, ac erys ar law ein pobl i'w dal i fyny yn ei boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb. GENWEIRIAWL.-Nos Wener diweddaf cyn- haliodd y Gymdeithas Enweiriawl gyfarfod brwdfrydig, pryd y cafwyd trafodaeth bwysig ar amgylcfiiadau y gymdeithas o dan lywydd- iaeth Dr R. Roberts, UH. Pasiwyd i wneyd Hatcheries tuagat fagu degau o filoedd o bysgod eleni eto, er cyflenwi y dyfroedd y flwyddyn nesaf. Hefyd fod darpariaeth yn cael ei wneyd i gadw gwyliadwriaeth fanwl ar ei dyfroedd ar y Sabbothau, ac yn ystod tymor y claddu. a diameu genym y cytuna goreuon cymdeithas eu bod yn teilyngu cefnogaeth fcesol, beth bynag am gefnogaeth arianol yr holl ardal yn gyffredinol. Mae ymdrechion y gymdeithas hon yn foddion arbenig, yn fwy felly eleni na nemawr ddim arall hyd yn hyn, ddwyn yr ardal a'i hamgylchoedd i sylw dy- eithriaid fel y prawf ei hanes yn ystod y flwyddyn ddiweddaf yn arbenig. Dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol. FOOTBALL. Next Saturday, Llanberis United will journey here to iplay their return League Match. The following will represent the Town Team :-Goal, Bob Smith; backs, Tom Hughes, Morris J. Morris halves, Jim Llovd, W. Bangor Joces, W. H. Williams; forwards, Bob Boberts, Johnny Hughes, W. J. Hughes, H. Collins, W. R. Owen (Capt). Reserves-Bob Powell, Moses Roberts, Dick Jones, Owen Roberts. Kick-off 3 p.m. Ad- mission 4d, Schoolboys 2d. A:NRHEGU .-Yn nghymdeithas pobl ieuaingc Bowydd, cyflwynodd Mr William Owen, Plas- weunydd, anrheg o nifer o lyfrau i Mr Wyn Williams, ar ei ymadawiad i gymeryd gofal eglwys Llanystumdwy. Siarwyd ar ran yr eglwys gan Mr Thomas Griffith, ac ar ran y gymdeithas gan Mr R. Meirion Jones. Ad- roddwyd yn ystod y cyfarfod grm Miss Rhianon Jenkins, a chanwyd gan Mri Owen Hughes a Edward Thomas, a chafwyd detholiadau ar y Gramophone gan Mr J, G. Owen, Brynbowydd. Llywyddid gan Mr D. White Phillips, C.S. BETHE.SDA.—Nos Fercher diweddaf, cynhal- iodd pobl ieuaingc Bethesda eu cymdeithas o dan lywyddiaeth Mr Owen Griffith Jones, Caegwyn. Hwn ydoedd cyfarfod agoriadol y tymhor. Dechreuwyd gan Mr Matthew Jones, Glasfryn. Yna awd yn mlaen gyda y rhaglen ganlynol :-Unawd gan Master Hughie Jones, Bethesda. Anerchiad gan y Llywydd, Ad- roddiad gan Miss Sydney Mary Jones. Un- awd gan Miss Nell Williams, Glasfryn. Ad- roddiad gan Mr Hugh Roberts, St Martha. Triawd gan Mr. Robert E. Jones a'i gyfeillion. Gair gan Mr John Lloyd Humphreys, Manod Road. Unawd gan Mrs Stoddart, Penygelli. Gair gan Mr John Morris, Manod Road. Unawd gan Mr Evan Evans, Gelli. Unawd gan Mr J. H. Jones, Bethesda. Terfynwyd trwy ganu emyn. Cyfeiliwyd gan Mr John H. Evans. JERUSALEM.—Yn nghyfarfod y Gymduithas nos Fawrth, o dan lywyddiaeth Mr Owen Jones, buwyd yn nghwuni Tanymarian." Dechreuwyd gan Mr. D. Cadfan Jones. Yna darllenwyd dau bapur gwir dda ar y testyn gan Mri E. Morris Jones a Morris H. Thomas, Siaradwyd yn mhellach gan y Llywydd, Mrs., Parry, a'r Parch John Hughes. MARWOLAETH.—Drwg iawn genym hysbysu am farwolaeth Mrs Jones, priod Mr Richard Jones (gof), 1, Cromwell Street, yr hyn a gvmerodd le yn sydyn iawn tua haner nos nos Fawrth. Yr oedd Mrs Jones yn dioddef oddi- wrth boenau neillduol er's oddeutu pedair blynedd, a bu yn yr Ysbytty yn Lerpwl o dan law-feddygiaeth beth amser yn ol, a derbyniodd les mawr; ond yr oedd yn amlwg er's tro ei bod yn gwaelu ac mewn gwendid mawr, a mwy nag oedd yn ei hysbysu, am y byddai bob amser pan ofynid iddi sut yr oedd yn teimlo o ran ei hiechyd, atebai ei bod yn teimlo yn well. Bu Mrs Jones yn wraig dda, ofalus, a charedig dros ben, yn gwarchod gartref yn dda, a diabsen o bawb, eisiau cuddio ei hun o'r golwg bob amser. Yr oedd a'i hysbryd bob amser yn ngwaith a gwinllan ei Harglwydd. Ymdrech- odd (bron gellir dweyd hyd at farw) i fyned i'r capel, a hyny trwy anhawsterau a phonau corphorol, a gwendid mawr. Mae wedi gadael esiampl dda ar ei hoi i'w hefelychu yn ei hymlyniad wrth yr achos. hyn yn dangos yn eglur i bwy yr oedd wedi credu, a phwy oedd yn ei garu; aq y mae'n ddiameu genym bod hyn wedi troi yn elw mawr iddi erbyn hyn. Nid oes genym ond dymuno y bydd i'r teulu gael Duw yn Dad yr amddifaid ac yn Farnwr i'r gweddw yn yr amgylchiad galarus, Yr oedd Miss M. A. Jones wedi dyfod adref er's tro i weini ar ei mam, a bu yn gysur ac yn sirioldeb mawr iddi. Cafodd yr oil wneyd yr hyn a allent iddi hyd y diwedd. Cleddir dydd Sadwrn yn mynwent Bethesda cychwynir tua dau o'r gloch. Dymuna J. N. Edwards, Ltd., Berlin House, hysbysu y Cyhoedd eu bod newydd dderbyn Stoc enfawr o Lampau at y Tymhor dyfodol, a'r rhai hyny yn cael eu gwerthu yn is nag erioed. Cyn gwneyd eich pryniant yn unman arall, cofiwch am y Bargeinion digyffelyb sydd i'w cael yn y cyfeiriad uchod, ac fe dal yn rhagorol i chwi. Cofiwch y Cyfeiriad Berlin House. LLWYDDIANT.—Da genym gael ar ddeall fod Trefor Hughes, Jerusalem, wedi ei benodi yn glerc ym mhrif Swyddfa y London, Liverpool & Globe Insurance Co." yn Llundain. Hefyd. Edward Francis Jones yd Swyddfa leol y Refuge Insurance Co. Dyma flaen- ffrwyth yr Ysgol Uwchelfenol sydd newydd ei sefydlu yn yr ardal. Y,M.I.-Nos Fercher, o flaen y Gymdeithas hon, traddododd y Parch. R. Silyn Roberts ei Ddarlith odidog ar "Dafydd ab Gwilym." Diangenrbaid i ni ddywedyd fod y ddarlith yn wledd farddonol yn ngwir ystyr y gair. Llywyddwyd gan Mr. J. Lloyd Roberts, B.Sc. Nid oes gwell Cod Liver Oil i'w gael yn un- man na'r hwn a werthir am bris hynod o isel gan HUGH JONES, Chemist, Medical Hall. BRYNBOWYDD. Cyfarfod Amrywiaethol wedi P-i drefnu gan Miss M. A. Williams, Mr. Edward H. Evans, Mrs. Griffith, a Mr. W. J. Williams, gafwyd yn y Gymdeithas nos Lun, Yr oedd yr adrodd, areithio, a chanu yn ddifyr ac adeiladol. MARWOLAIEUI.-Boreu ddydd Mercher, wedi cystudd maith a thrwm, bu farw Mrs. Mary Hughes, 1, Dwyryd Terrace, gweddw y diweddar Owen Hughes yn ei 71 mlwydd o'i hoedran. Meibion iddi hi yw Mri D, O. Hughes, Dolafon, Tanygrisiau, ac Owen Hughes, Carriwr. Yr oedd yn fam dyner a gofalus: ac uchel ei pharch gan bawb a'i hadwaenai. Cleddir ddydd Sadwrn yn mynwent Bethesda angladd anghyoedd. FOR THE TOILET.-Lad les can rely upon getting the finest Perfumes and reliable Toilet Preparations from Hugh Jones, Chemist, The Medical Hall. Sole Agent for the" Arak" Powder Papers for the complexion.
FFESTINIOG.".
FFESTINIOG. LIVING PICTURES.Dyna yw pob peth y dyddiau byn, a da iawn genym yw llongyfarch bachgen o'r Pjwyf hwn sydd wedi ymgymeryd a'r cyfryw. Yr ydym wedi arfer a chredu bob amser nad oes neb all wneyd dim end dieithr- ia.id. Cyogborwn. bawb sydd wedi arfer credu felly i dalu ymweliad a. Neuadd Gyhoeddus y Llan, a chant weled peth amgenach. Dang- hosir yno ddarluniau-cystal os nad gwell nag a ddarghoswyd gan Gyraro na Sais a fu yno o'i flaen. Gresyn o beth na roddwn y flsenoriaeth i facbgen sydd wedi ei eni a'i fagu yn ein plith. Myned pob un sydd beb gael cyfle i'w gweled ganiatau un noson iddynt eu hunain ddechreu yr wythnos nesaf, er cael cyfle i'w gweled. Hefyd y mae yn bur debyg y bydd i lawer o bobl y Blaenau ddod i'r Ffair: dyma i chwi gyfle i ddangos eicb ochr. Mynwch eu gweled pe dim ond er mwyn eu cydmaru ag eraill. Dymunwn i Davies bob llwyddiant tra bydd yn ein plith.—EWYLLYSIWR DA.
Advertising
PUBLIC HALL, FESTINIOG. EVERY MONDAY, TUESDAY, and WEDNESDAY NIGHTS. DAVIES'S ANIMATED PICTURES. PROGRAMME FOR NOVEMBER 7th, ;8th & 9th, 1910:- In the time of the Romans (An Old Time Drama). The Fortune Hunters (Exciting Comic). The Road to the Heart Drama (A.B ) Latest Triumphs of Sherlock Holmes (Comic Detective Story). Never Despair (Dramatic) The Rlvai^Sisters (Comic). &c., &c., &c. NEW PICTURES WEEKLY. MONDAY AND WEDNESDAY NIGHTS Performances to commence S-I5. TUESDAY NIGHT at 7-30 o'clock. ADMISSION 3d. and 6d. CHILDREN'S PERFORMANCE EVERY TUESDAY at 5 o'clock. Id. and 2d. Watch this column weekly for List of New Pictures. A RARE CHANCE. SPECIAL OFFER Of 100,000 small and medium sized PLANTS, Of the wellknown pretty White Free-flower- ing Clematis, which partly covers my house, The Old Rectory, (Bronturnor Mawr), Tanybwlch. Price 3d. & 6d. each, 2/6 and 4/6 per dozen usually sold at 1 and 1/6 each. POST CARD ORDERS will be personally delivered free within 7 miles. Beyond this extra postage will be required. No Cottage should be without this beau- tiful climbing plant, which will thrive any- where its pretty cluusters of flowers being ever a source of admiration. ROUSE AND GARDEN PLANTS, including Roses,* in 50 good varieties, all equally cheap. SEED POTATOES, FRUIT & FOREST TREES. Practical advice will giadly be given. Orders shall receive my best attention. ALFRED JOHNSON, The Old Rectory, Tanybwlch. Re ANNE WILLIAMS, deceased. "VT OTICE is hereby given that all persons having claims" or demands against or upon the estate of Anne Williams, late of Bronant, Festiniog, widow deceased who died on the 13th day of May, 1910, are required to send me (the undersigned), at my Office at Bank Place Chambers, Blaenau Festiniog, full particulars of such claims or demands on or before the 12th day of November next, in order that the same may be examined by the Executor of her Will. Dated 26th day of October, 1910, D. WHITE PHILLIPS, Solicitor to the Executor. RHAG-HYSBYSIAD. Gwyl Flynyddol EBENEZER (W.), BLAENAU FFESTINIOG. Cynhelir yr Wyl Flynyddol eleni DDYDD IAU, RHAGFYR 29, 1910, TE A CHYFARFOD. Manylion pellach i ddilyn,
TREFRIW.
TREFRIW. Agorodd Cymdeithas Ebenezer gyfres cyf- arfodydd y gauaf gyda dadl ar A ddylid talu i Aelodau Seneddol am eu gwasanaeth ?" Mr. William Owen. Poplar Cottage a arweiniodd yn y drafodaeth, a chymerodd Mri Owen Jones, Bryn Crafnant, David Roberts. Brynafon, E. Williams, Bryndderwen, Samuel William. Cae Coch, a Samuel Hughes, Glyn, ran bellach. Bamai y mwyafrif y dylid talu i'r Aelodau, Cafwyd Gwyl de a chyfarfod adloniadoI dydd Iau yn Ysgoldy Capel Penuel. Rhodd- wyd y wledd gan Ddosbarth Mr R. E. Thomas Cafwyd dros ddeuddeg punt yn mlychau casglu y plant at drysorfa y Capel newydd. Canodd y Cor Plant o dan arweiniad Mr F. H. Ed- 1 wards, Wigfa, yn swynor iawn, a chymerodd amryw ran yn y cyfarfod adeiladol a difyr hwn Prydnawn Sadwrn yn Ysgoldy Ebenezer cynhaliwyd cyfarfod Cyngrair y Cynorthwywyr Ieuaingc cysylltiol a Chartrefi Dr Barnardo gyfarfod difyr dros ben. Cafwyd te blasus trwy garedigrwydd Mrs Marsh, Miss White, Miss Humphreys, a Miss Edgar. Yn yr hwyr cynhaliwyd cyfarfod amrywiaethol o dan ly- wyddiaeth y Parch Henry Jones.