Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
7 articles on this Page
GLOWVR DEHEUDiR CYMRU.
GLOWVR DEHEUDiR CYMRU. O'r diwedd mae'r anesmwythder ym mysg glowyr Deheudir Cymru wedi cyrhaedd pwynt sydd wedi peri i gynifer a 30,000 o lowyr Morganwg sefyll allan. Ofnwn fod y nifer yma wedi cynyddu yn ddirfawr erbyn yr adeg yr ydym yn ysgrifenu y geirjau hyn. Rhaid i ni gydnabod nad yw manylion yr anghyd- welediad yn hysbys i ni; ond cyn belled ag y mae ein gwybodaeth yn myn'd, credwn mai yr hyn sydd wrth ei wraidd ydyw y ffaith fod cryn lawer o'r glowyr heb fod yn perthyn i'r Undeb, a bqd hyny yn peri anfoddlonrwydd i'r mwyaf- rif anferthol sydd yn aelodau o hono a'U bod yn awr wedi penderfynu gwasgu y perchenogion i bcidio rhoddi gwaith i'r lleill. Os felly, yr ydym yn ofni yr ym- leda y sefyll allan ac y bydd y frwydyr yn un galed ac y peri yn hir. Pair hyny gyni a dyoddef mawr ym mhlith y glowyr, a chaiff yr holl wlad deimlo oddiwrtho mewn mwy nag un modd Mae genym ymddiried cryf yn noethineb arweinwyr y glowyr. Os gwrandewir arnynt hwy mae'n ddiameu genym y cymerir y cwrs goreu yn yr amgylchiad- au dyrys, ond nis gallwn anwyhyddu y duedd gref a amlygir gan gryn lawer o undebwr yn y dyddiau hyn i arwain eu harweinwyr yn hytrach nag i'w dilyn. Nis gallwn weled y dichon dim ond niwed ddeilliaw iddynt o wneyd felly. Mae eu harweinwyr yn wyr profiadol ac egwyddorol hefyd. Ceir yn eu plith wyr fel Mabon a'r Mri T. Richards, Brace, a John Williams-gwyr ydynt yn glir eu gwelediad ac yn rhydd oddi- wrth unrhyw gymhelliad i wneyd dim ond a fydd yn fantais i'r rhai a gyn- rychiolant ae y cydymdeimlant a hwynt Pa olwg a gymerant hwy ar y mater nis gwyddqm. Boed a fyddo, da y gwna y glowyr i ymddiried yn ofalus ac i ym- bwyllo yn hir cyn cymeryd yr awenau o'u dwylaw hwy i'w dwylaw eu hunain. Yn y gorphenol y maent wedi eu cael yn arweinwyr gwrol a diogel, ac ni ddylent fod yn ddiystyr o hyny.
Advertising
STOCK NEWYDD 0 WllllNENI- CYOIREIG ac EDflFEDD evmREIG, A A.  Nwyddau Drapery af y Gauaf, I'W CAEL YN SHOP- YR-ERYR (wrth yr Hall), BL. FE$TINIOG, a SHOP ISAF, MAENTWROG. TfflORflAS ROBERTS. MA YPOLE BUTTER REDUCED TO 1/1 PER LB. GUARANTEED TO PLEASE. at any of our 650 BRANCHES throughout the Kingdom 1 MAyPOLE PfllRy COMpANy, LTD. 12, Church Street, Blaenau Ffestiniog. The Largest Retailers of choicest quality Butter, Tea, and Margarine in the Kingdom. Darllthoedd Giiebnst Da r I ILROtd till b, t CYNHELIR YR AIL GYFRES CYR DARLITHOEDD UCHODR YN YR I Assembly Rooms, BLAENAU FFESTINIOG, Nos Wener, Ionawr 2ofed, 1911. Nos Wener, Chwefror 3ydd. Nos Wener, Chwefror 17eg. Nos Wener, Mawrth 3ydd. ■, Nos Wener, Mawrth I7eg. Bydd y Tocynau a'r Manylion o'r Darlithoedd allan o'r Wasg yn fuan, 11111 Vn holiol y peth sydd arnoch ei iinteri1 Gallai y dywedwch Nid oes arnaf angen am Tonic." Y mae pob cyfan- II soddiad dynol yn teimlo efieithiau dirwasgol ein dull annaturiol o fyw. Oes o fyn'd, o frys a ffwdan, yw yr oes hon, a rhaid fod ei dylanwad niweidiol ar y corff yn anocheladwy. Yr ydym yn dra agored i oerfel, ac i ddiffyg ar. y cylla a'r afu, mae'r nawsion amhur yn cymysgu a'r gwaed, mae'r nerfau yn gwanychu, yr ydym yn agored i lu o anhwylderau cyffredin, ac yn cael ein bygwth gan afiechydon gwaith. Yr ydym yn iach a chryf un dydd, a'r diwrnod wedyn allan o hwyl, ac efallai yn beryglus wael. Mae eisiau Rhywbeth, a'i eisiau ar bawb. GWILYM EVANS' QUININE BITTERS yw y feddyginiaeth gryfhaol, I ac adfywiol, sydd yn gwrthweithio afiecbyd, ac yn cadw organau y,corff mewn llawa yni, a'r holl system mewn cyflwr perffaith. Wedi eu gwneyd o nifer o'r cynyrchion mwyaf iachusol a bywydol gwybyddus i feddygon. Mae llwydd anghydmarol QUININE BITTERS GWILYM EVANS yn hawdd i'w brofi pan eu cymerir ar ol ymosodiad o'r Anwydwst, neu pan yn wan a t digalon, heb archwaeth, yn isel ysbryd, digwsg, lluddedig, a blin ar ei einioes. Ond i chwi roi prawf ar un bote!, cewch ryddhad buan oddiwrth eich iselder a'ch gwendid, ac adenillwch eich archwaeth. Nid oes dim arai! yn debyg iddo. Cedwch ef yn eich cartref, a pham nad ei gymeryd fel gochelydd. Gwneir ef yn hollol o Lysiau, ac efe yw'r medd- yglyh goreu yn y byd i godi'r gwan i fyny, Gwna fywyd ynwerthifyw, Rhoddwch brawf ar botelaid. GWERTHIR YN MHOBMAN, mewn poteli 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un. GOCHELWCH DWYLLWYR. Gofelwcb bod enw Gwilym Evans" ar y label, y'stamp, a'r botel. II Unig Berchenogi.-n:- -I j QUININE BITTERS MANUFACTURING CO.,UMe!H,S.W. i QwHym Evan Quinine Bitt? ? ?!!?m Evans Qus?ine I;Wi, VEMra.m ,,Nlans ui ni "nct f13!ttwftrs
I 7 NODIADAU WYTHNQSOL
I 7 NODIADAU WYTHNQSOL mm Y prifweinidog. Bu Mr Asquith yn anerch ei etholwyr yn Ladybank ddydd Sadwrn diweddaf. Rhaid oedd iddo wneyd rhyw gyfeiriad at Gynhadledd yr Wyth," a llwyddodd i wneyd hyny heb chwanegu dim. at wybodaeth neb yn ei chyleh. Er dal yn fanwl ar bob gair a ddywedodd, a sylwi yn graff ar don ei lais, a gwylio mynegiant ei wyneb, ni Iwyddodd neb i dynu casgliad yng nghylch Ilwyddiant neu aflwyddiant tebygol yr ymdrech a wneir i gytuno. Fel mae'n wybyddus, mae rhai Rhyddfrydwyr wedi gwrth- dystio yn erbyn hawl dybiedig ychydig o bersonau (er iddynt fod y gwyr pwys- icaf yn y wlad) i drefnu mater mor bwysig i'r deyrnas mewn pwyllgor cudd. Dywedodd Mr Asquith ychydig eiriau a'lIt dyben L ddangos nad oes gan neb achos i dybied fod ganddo ef na'r saith sydd gydag ef fwriad i geisio gwneyd dim o'r fath. Fel hyn y dywedodd :— Os bydd i'r rhai sydd yn ymgynghori lwyddo i gytuno, ni fydd eu cytundeb yn effeithiol- ac ni ddichon fod yn effeitbiol-oni a hyd oni chymeradwyir hi gan farn gyhoeddus y wlad." Sylwn fod y gynhadledd wedi cyfarfod ddydd Mawrth am yr ailfed-waith-ar-.bymtheg. Mae'r amser yn nesau pan y bydd yn rhaid hysbysu'r senedd pa benderfyniad y maent wedi dyfod (neu ar ddyfod) iddo. Gorfodir ni i gredu eu bod ar y ffordd i gytuno. Oni bae eu bod, ni fuasent yn dal i gyfarfod fel y gwnant, oblegid gwyr ydynt nas gallant fforddio gwastraffu dim amser. Rhaid iddynt wrtho i wneyd y gwaith mawr sydd ganddynt i'w wneyd yn eu cylehoedd pwysig.
ETHQLIAQ SOUTH SHIELDS.I
ETHQLIAQ SOUTH SHIELDS. I Trodd yr etholiad allan yn dra bodd- haol i'r Rhyddfrydwyr. Dywedwn hyn er nad oedd y mwyafrif Rhyddfrydol yn gymaint ag oedd mis Ionawr; nid oedd yn rhesymol disgwyl iddo fodyn gym- aint. Yr oedd y boneddwr a adwaenir yn awr fel Arglwydd Robson yn hen adnabyddus i'r etholwyr ac yn ffafr- ddyn mawr iawn ganddynt, ond nid adwaenai neb o honynt Mr Russell Rea hyd oni ddewiswyd ef yn ymgeisydd lai na mis yn ol. Heblaw hyn, gellir bwrw fod aid ychydig o'r rhai a fynent ddwyn allan ymgeisydd Llafur wedi ymgadw rhag pleidlesio, ac i byn yn benaf, os nad yn unig, y mae'r lleihad yn mwyaf- rif y Rhyddfrydwyr i'w briodoli. Aeth i lawr o 4,236 i 3,019-Ileihud o 1,217. Er hyn, Did oedd y cynydd yn y bleid- lais Doriaidd yn ddim ond 56. Lleihad o 1161 oedd yn y bleidlais Ryddfrydol, ac yr yr ydym eisoes wedi dywedyd pa gyfrif sydd i'w roddi am hyny. Pan ystyrir yr amgylchiadau, mae'r canlyn- iad, fel y dywe'dasom eisoes, yn dra boddhaol. Ni ddisgwyliodd y Rhydd- frydwyr y byddai eu mwyafrif yn gym- aint, ac yr oedd y Toriaid yn hyderus mewn gobaith y llwyddent i'w dynu i lawr i'r haner. Felly maent hwy yn siomedig a'r rhai a orchfygasant yn llawen.
MR,, ELLIS-JOINES GRIFFS™…
MR,, ELLIS-JOINES GRIFFS™ K.C. Llongyfarchwn Mr Eilis J. Griffith ar ei benodiad yn un o Gynghorwyr y Brenin. Er's cryn lawer 0 flynyddoedd bellach gwneid yn K C. pa fargyfreith- iwr bynag a wneir gais at yr Arglwydd- Ganghellydd, ond y mae Arglwydd Loreburn, yr Arglwydd-Ganghellydd presenol, wedi barnu yn briodol ystyried pob cais yn fanwl a'i ganiatau neu ei wrthod yn ol ei deilyngdod. Dywedir fod cyniler a deg-a thri ugain wedi ceisio yr anrhydedd y waith hon, ond pedwar-ar-bymtheg- a'i cafodd. Galwyd yr aelod dros Fon i fod yn fargyfreithiwr yn 1889-un-mlynedd-ar-hugain yn ol. Ghwe' mlynedd yn ddiweddarach (yn 1895) etholwyd ef i gynrychioli Mon yn yn Nhy'r Cyffredin, a gwyr pawb ei fod wedi enill iddo ei hun rodd dda yn y Senedd. Mae'n wybyddus fod y Prif- weinidog wedi cynyg swydd iddo ddechreu'r flwyddyn a'i fod wedi! ei gwrthod. t Gwrthododd hi, dybygwn, am ei fod yn credu y gallai, trwy arm;, gael swydd uwch yn y man. Yn gydmarol ddiweddar penodwyd ef yn Gofnod-Farnwr Penbedw. Chwenychir swydd felly gan fargyfreithiwr nid am fod y cyflog yn fawr ond am ei bod yn cael ei chyfrif yn swydd urddasol sydd yn rhoddi i'r sawl a'i caffo safle uchel yn ei alwedigaeth. Hyd yn ddiweddar nid oeddym yn credu fod yng nghyraedd Mr Ellis Griffith swydd uwch na swydd Barnwr Llys Manddylediony ond yr ydym erbyn hyn yn edrych arno fel gwr ag y mae'n bosibl (os nad yw'n debygol hefyd) y'i gwelir yn y man yn eistedd ym mysg Bstrnwyr yr Ucjiel Lys.
ETHGLIADAU R CYNGHORAU TREFOL…
ETHGLIADAU R CYNGHORAU TREFOL I Dydd Mawrth, cymerodd etholiad aelodau o'r Cynghorau Trefol le ym mhob bwrdeisdref trwy Gymru a Lloegr. Deil llawer yn fanwl ar yr etholiadau hyn bob blwyddyn am y credant eu bod yn dangos yn weddol eglur pa ffordd y chwyth y gwynt gwleidyddol. Yr ydym yn mhell o deimlo yn sicr eu bod. Os ydynt, mae gan Byddfrydwyr achos i gymeryd calon, oblegid daw adroddiadau o bob rhan o'r wlad fod yr etholiadau wedi troi allan yn fwy ffafriol iddynt eleni nag y gwnaethant er's rhai blyn- yddoedd bellacb. Yn Lerpwl, un o gadarnleoedd cryfaf Toriaeth, enillodd y Rhyddfrydwyr bedair sedd, a Phlaid Llafur un. Llwyddodd y Toriaid i ddwyn un sedd oddiar y Rhyddfrydwyr, ond hyn sydd yn awgrymiadol. Delid hi gan Ryddfrydwr (?) sydd yn erbyn Cyllideb Mr Lloyd George, ac wedi cytuno a'r Toriaid i gwyno yn erbyn Ffurf IV. Cymro ydyw: John Morris ydyw ei enw. Yn Wallasey, ardal boblog iawn am yr afon a Lerpwl, a'r hon sydd newydd gael ei chorphori, bu brwydr galed iawn, Ar y Cyngor Dos- barth Dinesig a lywodraethai hyd ddydd Llun, yr oedd gan y Toriaid fwyafrif cryf, ond dydd Mawrth dymchwelwyd mwyafrif o Ryddfrydwyr i'r Oyngor Trefol newydd. Yn Mhenbedw, cipiodd y Toriaid un sedd oddiar y Ehyddfryd- wyr, a chyfrifant hyny yn ddigon o reswn dros ddywedyd y bwrir Mr H. Vivian, A.S., allan o'i sedd pan ddaw etholiad, ac yr eistedd Tori ynddi megis yn y dyddiau eynt. Mae peth felly yn bosibl, ond gobeithiwn nad yw yn deb- ygol.
ARGLWYDD MORLEY A'I SWYDD.
ARGLWYDD MORLEY A'I SWYDD. Dywedir gyda phendantrwydd mawr fod Arglwydd Morley wedi hysbysu y Prifweinidog ei fod yn awyddus i roddi i fyny ei swydd fel Ysgrifenydd dros yr India. Mae wedi cyrhaedd y deuddeg- fed-flwyddyn-a-thriugain o'i oedran, ac nid yw (meddir) yn teimlo y gall ddal ddim yn hwy y trymwaith pryaerus sydd wedi syrthiio i'w ran er's pan ben- odwyd ef i'w swydd yn 1905 hyd yn awr. Ehaid i ni gredu fod y peth yn wir. Dichon er hyny y pery Arglwydd Morley yn aelod o'r Gyfringylch. Ni ryfeddwn os rhoddir iddo swydd ysgafn Arglwydd-lywydd-y-Cyngor, yr hon a ddelir yn bresenol gan Arglwydd Beau- champ. Yr anhawsder ydyw pender- fynu beth a ellir ei wneyd a'r boneddwr hwnw, oblegid nid ystyrir ef yn gymwys i ddal unrhyw swydd bwysig iawn. Gellir bwrw y gwneir amryw gyfnewid- iadau yn y Cyfringylch ynglyn a'r swyddi a ddelir gan ei aelodau, ond nid yw'n debygol y dygir neb newydd iddo oni chilia Arglwydd Morley allan o hono.