Skip to main content
Hide Articles List

14 articles on this Page

i Cyngor Dinesig Bettwsycoed.…

-LLANRWST.

I PENRHYNDEUDRAETH.

-O'R PEDWAR CWR.

News
Cite
Share

O'R PEDWAR CWR. Y mae y Parch Tegid Davies, Tregarth, wedi ei ddyrchafu gan Esgob Bangor i fywoliaeth Llanfihangel-y-Pennant. Mr William Lloyd Griffith, Cae Cristo, Caernarfon, sydd wedi ei ddewis yn lie y Milwriad Radclifte yn Drefnewydd y Ceidwad- wyr i Ogledd Cymru. Y mae Mr Griffith yn uchel iawn ei barch gan bawb a'i hadwaen, ac yn boblogaidd gyda phob plaid. Bydd yn gaffaeliad i'r Blaid Geidwadol trwy'r Siroedd Gogleddol. Wrth anerch amaethwyr ddydd Sadwrn yn yr Amwythig, dadleuodd Iarll Dinbych dros dyfu sugar-beat, a daliai y gwnaed elw o bedair i chwe' phunt yr erw gydag ef. Ceid gwaith i Law-weithfeydd Siwgr yn Mhrydain ond cael y Sugar-best wedi ei dyfu o fewn cyraedd iddynt. Y mae awyr-Iong Mr Clement-Bayard wedi ei phrynu gan y Swyddfa Ryfel ddydd Sadwrn. Talwyd deunaw mil o bunau am dani. Wedi taith o 16 niwrnod gyda barrel-organ o Southport i Wrecsam, yr oil dderbyniodd y ddau oedd gyda hi ydoedd deg swllt a'r hugain: prin ddigoij, meddai un o honynt, i'w cyflenwi a bara sych. Dirwywyd dyn o Carr Bridge, Scotland, i bunt neu wythnos o garchar, am gymeryd eryr ieuangc o'i nyth ar graig Craigellachie. Yr oedd dau gyw yn y nyth, a chadwodd y dyn yr un a gymerodd am dri mis, ond gan fod eisiau dwy wningen iddo yn ymorth dyddiol, gwerthodd ef am £2 10s. Yr oedd yr aderyn yn awr yn y filodfa. Cafodd Mr Howell Evans, Cyfreithiwr, Dinbych, ddeg gini o iawn, a dedfryd yn ei ffafr gyda'r hawliad a'r gwrth-hawliad mewn cyngaws ddygodd am niweidiau • dderbyniodd trwy' i gerbyd modur y meddygon David Lloyd a Collins Lewis, Dinbych, redeg ar ei draws. Dyn un llygeidiog oedd yn gofalu am y modur. Bu'r achos am ddau ddiwrnod o flaen y Barnwr S. Moss,

Marw a Phriodi. ,

rTYTYYYI Tlotyn Arianog.

BWRDD QWARCHEIDWAID PEN-IRHYNDEUDRAETH.I

-IBoneddiges yn cymeryd gofal…

Family Notices

ICyfarfod Oystadleuol Elim,I…

LLANBEDR.I

0 - BORTHMADOG -I -BWLLHELI.

FFESTINIOG.

rvwwvvwvvvvwvvvvvwvvvvvv Campiau…