Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

/ER COF

News
Cite
Share

ER COF Am David Tudor, Ty'ntwII, Trawsfynydd, yr hwn a hunodd ynyr Iesu Hydref 7fed, 1910, yn 73 mlwydd oed. Pan wawriodd yr Hydref yn ernes o'r Gauaf, Fe ddaeth y wys olaf, i'th alw i ffwrdd 0 fyd y blinderau, i gartref y seintiau- Cystuddiau a phoenau byth yno ni'th gwrdd Ti gefaist ran helaeth o ofid ac alaeth, A chwerwedd.mewn afiaeth, i ddryllio dy fron Ond trodd yr holl wermod i'th wneyd yn fwy I adael pob pechod cyn croesi y don. [parod Fe fuost ti, Dafydd, yn ffyddlawn ac ufudd, Yn nghanol pob tywydd tros achos dy Dduw Yn gyson yr hauaist, a dewr yr arweiniaist, A swynol y dysgaist pa fodd i'r plant fyw Mae sain dy weddiau yn awr yn fy nglustiau, A'th daer erfyniadau yn arcs a hyd Diferent yn felus cydrhwng dy ddwy wefus Yn bur iaith paradwys i ffinion ein byd. Os darfu dy deithiau, a glasu dy Iwybrau, Mae rhyw beraroglau yn byw ar dy ol, Yn sa yr awelon, yn burlan gyfrinion, A swynol alawon, tros fryniau a dol Os gwsg yw yr aelwyd oherwydd dy symud, A'th roddi mewn gweryd i huno mewn hedd, Mae lists cymydogion, a chri'dy anwyliaid, Yn tystio mai gwron a gwympodd i'r bedd. Dy babell a ddrylliodd, dy enaid ehedodd, Y porth a agorodd, a thodiaist yn thydd Nid marw mae'r Cristion ond mynd at ei goron I gariol angylion i gartref y dydd Mewn goror wen ddisglaer, yn nghanol pob llawnder, Nid oes yno amser na therfyn yn bod, Ond pawb mewn llawenydd, a'u tanau yn newydd, Yn rhodio y broydd gan arllwys eu clod. EVAN WILLIAMS, Brynhyfryd, Trawsfynydd.

LLINELLAU

I "CADW'R -DRWS."_______

Advertising

TREFN OEDFAON Y SULf

Advertising