Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

CYMDEITHAS GORAWL BLAENAU…

News
Cite
Share

CYMDEITHAS GORAWL BLAENAU FFESTINIOG. Arweinydd-MR. J. TUDOR OWEN, A.R C M. Mr. Golygydd.-Teimlwa yn hynod ddiolch- gar i chwi os byddwch mor garedig, a chaniatau rhan fechan o'ch gofod i ni alw sylw yr ardal at y Gymdeithas uchod. Teimlwn ei bod yn ddyledswydd arnom fel Pwyllgor yn gyntaf tuagat Arweinydd galluog y Gymdeitbas, ac hefyd tuagat y Gymdeithas ai hun; i symud unrhyw gamargraph a all fod yn Ilocbesa yn mynwes neb o berthynasau iddi. Dymunwn yn gyntaf wneyd yn hysbys nad yw y Gymdeithas hon er ei chycbwyn cyntaf wedi cyfyngu ei hunan i unrhyw ran neu ranau neillduol o'r Ardal. Mae wedi bod yn agored i bob rhan o'r ardal a'r Plwyf fel eu gilydd a dymunwn hysbysu ei bod yn parhau felly, ac i barhau vn y dyfodol, Hefyd bydd i'r Gymdeithas barstoi ei hunan i gymeryd ei lie yn mbJith y gwahanol Gorau yn Nghylchwyl Castell Harlech y flwyddyn nesaf eto fel y gwnaeth y llynedd. Mae yn bosibl y gallem ni fel Pwyllgor fod yn gyfrifol i ryw raddac drwy ein Harweinydd, am y camargraph hwn. ond bydded i bawb ddeall yn glir bellach fod y Gymdeithas yn llawn fwriadu rhoddi eu gwasanaeth yn y Gylchwyl, etto y flwyddyn ddyfodol, a hyny mor effeithiol a'r flwyddyn ddiweddaf, ac o bosibl yn fwy felly. Un peth arall garem ei hysbysu i'r ardal yn ychwanegol. Erbyn hya mae y Gymdeithas wedi ei chofrestru o dan yr Evening Continuation Schools" gan y Bwrdd Addysg, a bydd i'r Gymdeithas dderbyn Grants gan y Llywod- raeth yn ol presenoldeb yr Aelodau, a thelir ymweliad a'r Cor gan Arolygydd ein Mawrhydi yn ystod y tymhor dyfodol. Sicr genym y teimla hell garedigion Cerddoriaeth yn yr ardal fod hwn yn gam yn yr iawn gyfeiriad. ac y bydd yn gaffaeliad pwysig i'n pobl ieuanc tuagat dderbyn hyfforddiant a disgybliaeth gerddorol. Tuagat sicrhau y cyfleusdra bendithiol yma i'n pobl ieuanc. Yr oedd yn rhaid i Fwrdd Addysg gael eu boddloni fod Arweinydd neu Athraw y Gymdeitbas yn gyfryw, ag y gallasai gyfranu addysg gerddorol i'r aelodau. Ac yr ydym fel Pwyllgor yn teimlo J n Ilawen ein bod wed I sicrbaugwasanaetb gwerthfawr Mr Tudor Owen at y gwaith, a bydd ei ddyled- swydd iu yn ychwanegol at ddysgu y Cor i feistroii rhai o'r Prif weithiau yn golygu ei fod yn rhoddi gwersi a "Darlitboedd" mewn gwahanol ganghenau o Gerddoriaeth a Chan- iadaeth, a mawr hyderwn y bydd i'n pobl ieuanc gymeryd mantais y gauaf dyfodol ar y cyfleusdra rhagorol hwn. Os oes rhywrai o'n pobl ienanc wedi ymuno eisoes a rhyw gym- deithas neu gymdeithasau cerddorol yn yr ardal tuagat dderbyn hyfforddiant cyffelyb. Ni ddymunem er dim wreyd dim i aflonyddu ar heddwch y cyfryw, pobpeth yn dda, a rhwydd-hynt i bob ymdrech a chydymdrech anrhydeddus yn y cyfeiriad hwn yn ogystal a phob cyfeiriad arall. Ac yr ydym fel pwyllgor yn lied hyderus y byddi ninnau fel cymdeitbas. dderbyn yr unrhyw deimladau da a heddwch oddiwrth bawb eraill Nid oeddis fel pwyllgor yn golygu i'r Gymdeithas rifo mwy na 150. gan y credwn fod byny yn ddosbarth lied gryf ar y cychwyn, ac yr ydym yn deall nad ydyw yn llawn 150 ar hyn o bryd, ac os teimla rhywun on pobl ieuanc ag sydd wedi ei beh- ditbio a'r dalent hon gael ymuno. Bydded iddynt anfon eu ceisiadau i Mr Tudor Owen, Bydd y Gymdeithas yn cyfarfod ddwy waith yn yr wythnos, a bydd y dosbarth nesaf nos Wener nesaf, yn yr Assembly Rooms am 7 30. Drwg genym, Mr Golygydd, i ni gymeryd cymaint 'och gofod. Erfyniwn eich hynawsedd, a theimlwn bellach yn lied dawel fod sefyllfa y Gymdeithas uchod yn glir i bawb. Ydym ar ran y Pwyllgor, OWEN OWEN, Llys Dorfil, Llywydd. ROBERT GRIFFITH, Tegfan, Trysorydd. WM. MONA ROBERTS'L YSgriferyddion. R. G. HUMPHREYS, j Ion. Hydref 26ain, 1910.

TAN GATRAWD BL. FFESTINIOG.…

iMASNACH RYDD : PA BETH YW…

FESTINIOGCHWAREU BILLIARDS…

! A GREAT INVENTION.

LLANRWST.I

LLANDDOGED.

|BETTWSYCOED.

Advertising