Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYFLWYNEDIG

News
Cite
Share

CYFLWYNEDIG I Laura a John Williams (gynt o Harlech), ar eu huoiad priodasol yn Sask, Canada. Os cefnu wnest ar Gymru bell, Gan hwylio dros y dwr, Ac yn dy fynwes, obaith gwell Am dy ddewisol wr; D'anturiaeth, drodd yn llwyddiant gwir, 'Rol cyrhaedd dros y don, A theithio yn hirfaith ar y tir, Cyrhaeddaist dy anwyl John. Daeth dydd priodas gyda hyn, Er mewn dieithr wlad, Fe gawsoch wenau dot a bryn, A Duw'n parhau yn dad; Boed llwyddiant ar eich uniad clau, A byddwch fyw'n gytun, Nid ydych mwy yn "ni ein dau," Ond dau yn byw yn un. Boed cariad mewn helaethrwydd mawr, Yn llanw'r bwthyn clyd, A hapus fyddoch ar bob awr Ac yna Gwyn eich byd Mae'r oes yn araf gilio draw Fel niwlen ar y ddol, A myn'd wnawn ninau maes o law, I beidio dod yn ol. Mae'r bywyd brau yn hyn o fyd, Yn llawer mwy ei werth, Na holl drysorau'r llawr i gyd, Er ei holl rwysg a'i nherth Mae byd y tragwyddoldeb pell I'w dreulio ar ol hwn, 0 enaid," cais y Trysor Gwell," I roddi arno'th bwn. 38J, Union St. Utica, N.Y. W. WILLIAMS (eich brawd).

"Y LLEUAD."

CYLCHWYL ----n'I

Advertising

TREFN OEDFAON Y SUL

RHESTR TESTYNAU Cyfarfod Llenyddol…

I The GREAT SKIN CURE.

Advertising