Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

HARLECH A'l OLEU. I

MASNACH RYDD: PA BETH YW,I…

ADQCFION ..DYDDOROL.

Y Ddiweddar Mrs. Sanluel Evans,I…

- - - - - - - - - - - - PENRHYNDEUDRAETH.…

News
Cite
Share

PENRHYNDEUDRAETH. t PRIODAS FAWREDDOG. Dydd Gwener, Hydref 14. cymerwyd dyddordeb neullduol yn mhriodas Ellis Owen Lloyd mab hynaf y Parch. John Lloyd (w.), Tremadoc, a Miss Olive Vaughan merch Mr. Philip Vaughan, Shop Fawr (gynt o Crossing Cambrian Railway). Cymerodd y Seremoni le yn Nghapel Tabernacl (w.), Penrhyndeudraeth. Rhoddwyd y briodferch- ymaith gan ei thad. Gwasanaethyddion ydoedd Mr. David Lloyd a Miss E. Vaughan, Thomas Vaughan a Miss Lizzie Lloyd, Mr. John Lloyd a Nellie Vaughan. Yr oedd y Capel yn llawn o edrychwyr. Gweinyddwyd gan y Parchn. R. Mon Hughes, R. Morton Roberts, Aberdyfi, J. Mostyn Jones, Talsarnau a Mr. J.,Bennett Jones, Cofrestrydd, Gan mai hon oedd y briodas gyntaf yn y capel er pan y cofrestrwyd ef, anrhegwyd y par ieuanc a Beibl Teuluaidd gwerthfawr. Cafodd tua 40 eu gwahodd i'r boreufwyd rhagorol a barotowyd yn nhy y briodferch, a cafwyd anerchiadau gan y Parchn. R. Mon Hughes, R. Morton Roberts, Mostyn Jones, Mr. J. Bennett Jones. Cafwyd anerch- iad barddonol gan Mr. Thomas Lloyd. Diolch- odd y priodfab ar ran ei hun a'i briod. Yr oedd yr anrhegion yn lluosog a gwerthfawr. Ymadawsant yn nghanol dymuniadau goreu llu o gyfeillion i dreulio eu gwyliau yn Aber- ystwyth.? Cofied pawb am y Social" sydd yn Gcrph- wysfa nos Iau (heno). Diau y teimla rhan uchafiy Penrhyn lawer o hwylusdod gan fod y llythyrau yn cael eu cymeryd o Bryngwilym am 5-45 yn awr. Mae Eglwys y Fron wedi sicrhau y Parch H. Barrow Williams, i ddod yno i draddodi Dar- lith cyn diwedd mis Tachwedd. Diameu y bydd llawer yn falch o gael cyfle i glywed y darlithydd poblogaidd. Nos Wener dan lywyddiaeth y Prif Demlydd John Moses, cynhaliwyd y Deml, pryd y caf- wyd papur rhagorol gan Mr John Pritchard, Brithwernydd, ar Samson." Siaradwyd yn mhellach gan amryw o'r aelodau. Nos Iau cafwyd cyfarfod agoriadol y tymhor gan obeithlu Nazareth dan lywyddiaeth Mr R. T. Jones. Cymerwyd rhan mewn adrodd gan Elizabeth Davies, Blaenddol a Mary Jones, Isfryn; mewn canu gan Mary C.Griffith, Dora C. Evans, a Katie Pritchard. Y goreu am ddyweyd enwau lleoedd gyda llythyren arbenig ydoedd Deudraeth Williams. Gwers ar y Modulator gan Mr John C. Owen, a canodd y plant dan aaweiniad Mr Owen R. Williams. Lluosog iawn ydoedd y cynulliadau yn yr oil o'r addoldai dydd LIun Diolchgarwch, Rhyf- edd y gafael sydd gan y dydd hwn ar lawer yn y rhanbon o'r wlad. Gwnaed casgliadau at wahanol achosion yn y gwahanol gapelau. Ni chawsom y manylion am yr oil. Yn Gorph- wysfa casglwyd £ 23 a Nazareth £ 36 10s. Yn Nghymdeithas Ymdrech Grefyddol Naz- areth nos Sul cafwyd papur ar John Penry, y Merthyr Cymreig," gan Mr Richard Hughes, Mae Cor Undebol Mr D. Lloyd Evans yn dechreu parotoio ddifrif gogyfer a Ffestival Harlech. DIOLCHGARWCH. Cynhaliwyd Gwyl y Cynhauaf yn yr eglwys blwyfol, dydd Llun. Am 8, gweinyddwyd y Cymun gad. y Ficer, y Parch. John Hughes, B.A. Am 10 30, Boreuol Weddi, yn Saesneg, Cymun, a phregeth gan y Parch. J. Jenkins, B.A. 8Cymerwyd rhan yn y gwasanaeth gan y Ficer, a darllenwyd y llithoedd gan Mr. J. O. Hulme. Am 2, Litani yn Gymraeg, yn cael ei donyddu gan y Parch. J. Jenkins. Pregethwyd gan y Parch. J Rees Jones, M.A., Rheithor Llanbedr. Am 6. Prydnawnol Weddi, yn Gymraeg, y Parch, J. Jenkins yn tonyddu. Darllenwyd y llithoedd gan Mr. R, Baxter (junior). Pregethwyd gan y Parch. Rees Jones. Canodd y Cor yr anthemau 0 Arglwydd, mar luosog yw dy weithredoedd" (D. D. Parry, LJanrwst). ac hefyd y Te Deum (T. Edwards, Caer). Yr oedd yr Eglwys wedi ei haddurno yn brydferth a blodau, a ffrwythau a grawn gan y rhai canlynol :-Misses Hulme, Misses Hart Williams, Misses Jenkins Davies, Miss J. P. Williams, Misses Gwladys and Elsie Hart, Miss Hughes. Vicarage, Mr. Hulme a Mr. H. H. Griffith. Cafwyd gwasanaethau effeithiol ar hyd y dydd, ■ i

[ LLANRWST.

Family Notices