Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

- - - - - - - - .FFESTINIOG.…

LLANFROTHEN.

CYNGOR DINESIQ LLANRWST. I

News
Cite
Share

CYNGOR DINESIQ LLANRWST. I Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor nos Wener, pryd yr oedd yn bresenol Mri. H. J. W. Watling (Cadeirydd), T. Rogers Jones (Is-gadeirydd), William Hughes, E. Mills, D. J. Williams, John Williams, Griffith Jones, William Davies, William Jones, A. Hughes. L. Latimer Jones (Clerc), George Wynne (Arolygydd), E. M. Jones (Treth- gasglydd), a T. R. Jones (Cadben y Dan Gatrawd). Cynllun. Pasiwyd cynllun ty i Mr. Charleton ar ffordd Abergele. Cynllunydd ydoedd Mr. D. Henry Roberts. Arianol. Mr. D. J. Williams a gyflwynodd adroddiad y pwyllgor arianol yn argymell talu biliau yn gwneyd cyfanswm o £ 169 15s 9c, yn gadael gweddill yn ffafr y Cyngor o £ 103 14s 4c. Yr oedd y"Trethgasglydd wedi casglii.,6215 19s 6c yn ystod y mis yn cael ei wneyd i fyny o £ 197 8s 6c treth gyffredittol; £ 3 7s 8c tollau'r Farchnadfa; a £15 3s 4c treth y dwfr. Carthion. Derbyniwyd rhybydd Mr. George Jones i derfynu y cytundeb i glirio carthioo y dref, ond pasiwyd iddo barhau i wneyd y gwaith hyd Tachwedd 30 yn ol 10/- y dydd. Yr oeddid yn awr yn chwilio am le newydd i ddodi y Carth- ion, ac ymddiriedwyd y mater i'r Cadeirydd a Mr. W. J. Williams i ymddiddan a Mr. T. Griffith, Goruehwyliwr Etifeddiaeth Gwydr, a'r Milwriad Higson. Archwilio Tai. Penodwyd yr Arolygydd i wneyd y gwaith gofynol o dan Deddf Archwilio Tai (1910), a bod y llyfrau gofynol yn cael eu pwrcasu. Atal Trafnidiaeth. Darlienwyd llythyr oddiwrth y Prif Gwns- tabl yn dywsedyd iddo dderbyn cwynion fod y drafnidiaeth yn cael ei atal ar yr heolydd gan waith masnachwyr yn gosod eu nwyddau oddi- allan i'w masnachdai, a gofynai a oedd y Cyngor yn dymuno i'r Heddlu gymeryd cwrs yn eu herbyn o dan Ddeddf Heddlu'r Trefi (1847).-Pasiwyd i anfon atebiad nad oedd y Cyngor wedi pasio Man Ddeddfau yn delio a'r mater, a chan nad oedd y Cyngor wedi derbyn unrhyw cwynion, ystyrient mai mater I'r Heddlu ydoedd i arfer eu barn a'u gallu eu hunain o dan y Ddeddf ucbod, ac nad oeddynt fel Cyngor yn rhoddi unrhyw gyfarwyddyd. Ymddiswyddiad. Cyflwynodd Mr T. R. Jones ei adroddiad ar y Goleuo Cyhoeddus a'r Dan Gatrawd. Hefyd rhoddodd i mewn ei ymddiswyddiad fel Arol- ygydd y Goleuo Cyhoeddus ac fel Cadben y Tan Gatrawd. Gwnaeth y Cadeirydd sylwadau caredig iawn ar yr amgylchiad. Wedi bod yn flaenllaw a defnyddiol gyda holl fuddianau cyhoeddus y dref ar hyd y blynyddoedd, yr oedd Mr Jones yn awr am eu gadael am Pata- gonia. 'Gofidient yn fawr ei golli, a chynygiai eu bod fel Cyngor yn datgan hyny yn ffurfiol gan ddymuno yn dda i Mr Jones yn y dyfodol. -Mr W. Hughes a gefcogodd, ac ychwan- egodd caredig i'r cyfeiriad. Pasiwyd y bleid- lais ac hefyd fod Aelodau y Cyngor yn rhoddi pob cefnogaeth i'r Pwyllgor sydd yn symud yn mlaen i wneyd Tysdeb i Mr Jones ar ei ym- adawiad o'r dref.-DioIchodd Mr Jones am y geiriau caredig fynegwyd, yn nghyda'u dymun- iau da. Gan ei fod yn ymadael yr oedd yn dymuno cael ei wisg Swyddogol fel Cadben. Bu yn ei gwisgo am ddeuddeng mlynedd, ac ar un amgylchiad arbenig roddai iddo ef werth eithriadol arni.-Caniatawyd y cais gyda'r ewyllysgarwch mwyaf.—Pasiwyd i'r Is-gadben gymeryd gofal y Gatrawd hyd nes y penodir Cadben newydd. Y Gwaith Nwy. I Darllenwyd llythyrau oddiwrth Mri Carter, Vincent, & Co., yn nglyn a gwneyd cais am Archeb Darpariaetbol i Gwmni Nwy Caergybi a Gogledd CymrU. a gofynant am gydsyniad y Cyngor i wneyd y cais.-Y Clerc a eglurodd mai y pwngc oedd a wnaent fel Cyngor brynu y gwaitb, a bod buddiant y dref i'w ystyried. Fe hysbysebid y peth yn y Wasg. a chaffai y Cyngor amser i ystyried beth i'w wneyd.— Pasiwyd eu bod yn gwrthwynebu y cais yn ffurfiol. I:chydol. I I Hysbysodd Dr. Travis i wyth genedigaeth I gael eu cofrestru yn ystod mis Medi, a thair I marwolaeth. Treth y Reilffordd. Yr oedd Cwmni'r Reilffordd yn gofyn am ddychweliad y tair punt oeddynt wedi eu talu dros ben gan fdd eu gwerth trethiadol wedi gostwng.-Oedwyd ystyriaeth y mater am fis. Y Cyngaws Agoshaol. Hysbysodd y Clerc fod y Cyngaws ddygitt gan Mr. O. Isgoed Jones yn erbyn y Cyngor i lawr ar restr yr Uchel-lys i'w wrandaw yo 24 o'r achosion o flaen y Barnwr Parker, ac y byddai yn debyg o gael ei gyrraedd ddiwedd y mis presenol. ( Cadarnhau. Cadarnhaodd Bwrdd y Llywodraeth Leol ail benodiad Dr. Travis a Mr. George Wynne yn Swyddogion i'r Cyngor. Ciirio Papurau. Cafwyd trafodaeth faith ar fod p3purau ofer y masnachdai yn cael eu cludo i'r Gwaith Trydanol i'w dinystrio, ond ar awgrym y Clerc gadawyd y mater heb benderfynu dim arno. Gwellalr Ffyrdd. Yr oedd y Cyngor Sirol wedi caniatau haner can' punt at wella'r ffordd yn y ffyrdd croesion wrth yr Eglwys Newydd. Ystyrid y peth yn dra boddhaol.

Advertising

I CYNGOR DOSBARTH QEIRIONYDD.

I 0 BORTHMADOQ I BWLLHELI.

VWVWWVWWWVSMA/NMAAIVW TALSARNAU.

-,TRAWSFYNYDD.

TREFRIW.

Irwwvvvvvvvxv WV V V V WV…

. - - . - - - - - . - - -…

- -MAENTWROG.-

- -................ TANYGRISIAU.

Advertising