Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

15 articles on this Page

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG.

News
Cite
Share

HEDDLYS BLAENAU FFESTINIOG. Dydd lau, o flaen Dr R. Roberts (Cadeirydd), G. H. Ellis, Dr R. D. Evans, Dr W. Vaughan Roberts, Dr Richard Jones, William Owen, J. Vaughan Williams, D. Tegid Jones, a Cadwaladr Roberts (hynaf), Ysweiniaid. Meddw ac Afreolus. Yr Heddgeidwad E. Davies a gyhuddodd John Roberts, Maengwyn Street, Trawsfynydd, o fod yn feddw ac afreolus Medi 8fed.-Nid ymddangosodd, a dirwywyd ef 10/- a 7/6 o gostau. Y Rhingyll J. Lloyd a gyhuddodd Hugh Morris Hughes, Freeman Terrace, Blaenau, o fod yn feddw ac afreolus Medi 24. Yr oedd wedi ei ddodi ar yRhestrDdu y Llys diweddaf. Holodd y Llys He 'r oedd wedi cael diod, ac hysbyswyd mai ei gael gan rywun allan o'r tafarndai yr oedd. Hefyd hysbyswyd iddo fyned i Canada ar ol troseddu. Galwodd heibio yr Arolygydd i ddywedyd Good bye," ac y byddai i ffwrdd am saith mlynedd.- Dirwy 10/- a'r costau. Yr Heddgeidwad J. Morgan a gyhuddodd David Roberts, Blaenafon, Blaenau, o fod yn feddw ac afreolus Medi 24, yn High Street.— Addefai ei fod yn feddw, ond nid yn afreolus.— Y Rhingyll Lloyd a dystiodd iddo weled y cyhuddedig mewn lie arall yr un noson yn feddw ac afreolus. Nid oedd lie i amheuaeth yn ei gylch.—Gohiriwyd pasio dedfryd am dri mis er gweled pa fodd yr ymddygai yn y cyfamser. Troseddu Deddfau'r Chwarel. Mr W. Owen, Prif Oruchwyliwr, Chwarel y Llechwedd, a gyhuddodd John Parry Thomas, 7, Jones Street, o droseddu Rheol 29 (C), o'r Rheolau Arbenig trwy: esgeuluso myned ile diogel i gysgodi tra'r oeddid yn saetau y graig. Nid aeth ond i enau y level, a tharawyd ef a maen o'r ergyd yn ei goes fel y bu adref am bedwar diwrnod.-Dirwy 2s 6c a'r costau. Ymosodiad. Y Clerc a hysbysodd fod achos o ymosodiad ddygid gan Lizzie Jones, Ysgubor Wen, Maen- twrog, yn erbyn Deborah Ellis, Cefnfaes, Maentwrog, yn cael ei dynu yn ol. Trwydded Cl. Yr'Heddgeidwad R. E. Davies a gyhuddodd Arthur Bond, 3, Dean Street, Bangor, o fod yn cadw ci heb drwydded Hydref 4.-Dirwy 7s 6c a'r costau. Trosglwyddo Trwydded. Mr John Humphreys a ofynodd am dros- glwyddiad dros dro o drwydded y Commercial Hotel, Blaenau, oenw Mrs Miriam.Eynon i enw Miss Kate A. Roberts. Bu cais am dros- glwyddiad o'r drwydded hon yn flaenorol, ond oherwydd anhawsderau godasant y pryd hwnw, ni chaniatawyd y cais. Erbyn hyn yr oedd pob anhawsder wedi ei symud.—Mr L. Jones, ar ran Mrs Eynon, a gydsyniodd a'r cais.- Caniatawyd y trosglwyddiad. Gor-yru Modur. Yr Arolygydd Owen a gyhuddodd James Gwythyr, Erinhurst, Frodsham, Caer, o yru ei Fodur i berygl y cyboedd Medi 13, rhwng Bwlchygwynt ac Aelybryn, Blaenau.-Ym. ddangosodd Mr R. O. Davies i erlyn dros yr Heddlu, ac amddiffynwyd gan Mr R. T. Morgan, Caer.—Tystiwyd i brofi y cyhuddiad gan y Rhingyll Owen, Heddgeidwad R. E. Davies, Richard Williams, ac Eben. Hughes. —Mewn amddiffyniad, tystiwyd gan y Diffyn- ydd, a Mrs Harrison, ei Feistres.-Taflwyd yr achos allan, Lladrata Esgidiau. I Yr Arolygydd Owen a gyhuddodd David Jones, Carter, 18 Maenofferen Street, Blaenau, o ladrata par o esgidiau, gwerth deg swllt, eiddo Ifor Maurice Humphreys, Maentwrog, Medi 24.—Yn ol y tystiolaethau, yr oedd y cyhnddedig yn symud dodrefn y diweddar John Humphreys,* Penybryn, Maentwrog, a lladra- taodd bar o esgidiau o'r ty, gan eu dodi am ei draed. Gwrthododd eu tynu pan wnaed cais taer arno wneyd hyny, a daliai i ddywedyd iddo brynu yr esgidiau gan Mr Ensor, Blaenau, ac wrth un arall dywedai mai eu prynu yn Lerpwl a wnaeth, Dywedodd y Swyddog a Mr Ifor M. Humphreys fod y cyhuddedig wedi cael diod, ond nid oedd yn feddw, a gwyddai yn dda beth oedd yn ei wneyd.-Mewn amddiffyniad addefid y trosedd, ac mai diod oedd yr achos o'r helbul i gyd.- Yr Arolygydd a ddywedodd i'r cyhuddedig ddod ato i addef ddydd Llun, a bu iddo beidio ei gloi i mewn ddydd Sadwrn, am ei fod yn dywedyd fod ei wraig wedi cael ei gwely dridiau cynt. Cafodd allan nad oedd y stori hono yn wir.-Wedi bod o'r neilldu, dywedodd y Cadeirydd fod yn ddrwg gan y Faingc ei gael yn y safle yr oedd. Rhwymid ef o dan Ddeddf Trosedd Cyntaf i ddod i fyny am ddedfryd pan elwid arno yn y swm o ddeg punt.

- - - - - - - - .FFESTINIOG.…

LLANFROTHEN.

CYNGOR DINESIQ LLANRWST. I

Advertising

I CYNGOR DOSBARTH QEIRIONYDD.

I 0 BORTHMADOQ I BWLLHELI.

VWVWWVWWWVSMA/NMAAIVW TALSARNAU.

-,TRAWSFYNYDD.

TREFRIW.

Irwwvvvvvvvxv WV V V V WV…

. - - . - - - - - . - - -…

- -MAENTWROG.-

- -................ TANYGRISIAU.

Advertising