Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

CLWB RHYDDFRYDOL.

MASNACH RYDD, PA BETH YW,…

News
Cite
Share

MASNACH RYDD, PA BETH YW, A PHA LE Y MAE. Syr,—Gyda gradd o syndod y darllenais lythyr Crispin yn eich rhifyn diweddaf, ar ol iddo gymeryd pythefnos o amser yn ei barctoi, ac yr wyf yn sicr nad yw fy syndod a'm siomedigaeth i i'w cydmaru ag eiddo ei gyfeill- ion ef, yn ol siarad llawer o honynt yr oedd yna ddisgwyliad mawr oddiwrtho fel dadleuydd cadarn ac effeithiol dros Tariff Reform. Pan y daeth Crispin allan i'r wasg i ymosod ar Fasmch Rydd ac i amddiffyn Diffyndollaeth, fe ddylai fod yn barod i wrthsefyll unrhyw ymosodiad ar ei ddaliadsu. Yr oedd fy nghwestiynau yn gwrthbrofi honiad y Tariff Reform. Os yw Tariff Reform yn egwyddor deilwng o'i dilyn fe ddylai fod yn deilwng o gael ei harnddiffyn. Anhawdd genyf gredu na fuasai Crispin yn ateb bob un o'r cwestiynau pe y gallasai, pe buasai ddim end er mwyn anrhydedd ac urddas ei blaid. Ond hwyrach y cymer rhai o'i gyfeillion ei Ie. Byddaf yn ddiolcbgar iddynt os y gwrant, ac atebaf finnau unrhyw gwestiwn mewn amddiffyniad i Fasnach Rydd fel ac y mae yn bod yn bresenol. Dywed Crispin mai y rheswm dros gymeryd Germany ac America mwy na Spaen a Portugal oedd "fod ganddo ryddid ac awdurdod i wneud fel y darfu," Apeliaf yn ddiduedd at eich darllenwyr i farnu drostynt eu hunain, a yw yr atebiad yna yn deilwng o un yn d'od allan i'r wasg i amddiffyn Tariff Reform. Nid wyf yn amheu dim ar ei hawl a'i awdurdod ond yn sicr mae yna ryw reswm dros enwi Germany ac America mwy na rhyw ddwy wlad arail sydd yn mwynhau Tariff Refrcm. Os mai i Tariff Reform y priodotir llwyddiant masnachol Germany ac America, paham na lwyddai Spaen a Portugal odditano ? Nid yw Crispin yn gwella ei achos trwy ofyn am nifer o longau a gwerth masnachol Prydain, America, a'r Almaen er's pedvvar ugain mlynedd yn ol. Os yw cydmaru Prydain ac America a Germany er's cymaint o flynyddau yn arddangosiad o lwyddiant Tariff Reform yr adegau hyny, ei ddyledswydd ef yw gosod y ffeithiau yn ysgrifenedig i brofi hyny, ond y mae yn apslio ataf fi i brofi ei honiadau. Mae yn rhaid i Crispin brofi ei honiadau ei hun, a'm lie innau fydd eu gwrthbrofi. Dywed nad yw Masnach Rydd ddim yn bod, profed hyny. Yr cedd allforion Prydain yn 1801 yn £42. 000,0000 dan Protection yn 1846158,000,000, cynydd o [16,000,000 mewn 45 mlynedd. Pa beth ddywedasai y Tariff Reformers pe buasai ein masnach yn cynyddu yn 01 y mesur yna. Yr ydym yn gwneyd mwy o fasnach mewn mis o dan Fasnach Rydd nag mewn blwyddyn o dan Protection. Yr oedd ein hallforion yn 1907 cymaint a [518,000,000. Mae llawer o'r Tariff Reformers yn honi bod ein masnach yn llwyddo yn well pan yr oeddem o dan Tariff Reform, ond ffeithiau ddywed yn wahanol. Dyma ddesgrifiad o'r sefyllfa yn 1826 yn ol Walpole's History of. England :—" The dis- tress which was prevalent in the manufacturing districts had already led to universal discon- tend. Every description of trade was dull. The imports and exports were largely reduced, Thousands of working men were thrown out of employment, and thousands of others were compelled to accept lower wages. In Barns- ley the wages of the working classes averaged only 20 pence per week. In Sussex the labour- ers were employed on the roads at fourpence and threepence a day." Dyma fel y dywedodd Lord Beaconsfield, yr arweinydd goreu a fu gan y Blaid Doriaidd erioed Protection is not only dead but damned." Sut mae Crispin yn hofii y frawddeg yna ? A ydyw yn ddigon parod i ddweud nad oedd Lord Beaconsfield (yr hwn mae ei blaid ef, yn cadw coffa am dano trwy wisgo y briallen bob blwyddyn), yn siarad oddi ar dir rheswm a goleuni. Ac i goroni'r cwbl dyma eiriau brenin y Tollwyr I think it necessary that we should once more rub up our history of those bad times before Mr Bright and Mr Cobden succeeded in persuading Parliament that the Corn Laws were an iniquitous tax. People walked the streets like gaunt shadows and not like human beings. There were bread riots in every town. There was famine I throughout the length and breadth of Ireland. There was only one class that profited, and 11 that was the Landlords, who continued to exact there rents. The Duke of Norfolk, who recomended to the people that they should take a pinch of curvy powder in water to keep off the pangs of hunger. The depression of trade and the lack of employment is as nothing beside the misery and destitution which pre- vailed when the Corn Laws were in full force. It is well to remember these things," (Dont forget, Crispin). Mr Chamberlain Nov. 7th, 1885, at Birmingham. Dyna'r canlyniad o fyned i diriogaeth ffeithiau, onide. Dywed y Tariff Reformers na buasai 2/- o dreth ar yr yd yn codi pris y bara. Dywedodd Mr Balfour hyny yn York (Jan- uary 12th, 1910) I believe that a small duty on corn with preference to the Col- onies, will tend to diminish, rather than increase the price of bread." Os yw hyn yn wir, fe ddywed Crispin y rheswm paham na ddarfu i Mr Balfour yn 1903 ostwng dim ar dreth yr yd ar ol bod mewn grym am flwyddyn, Rhaid cofio fod Mr Balfour yn siarad cyn yr etholiad ac felly yr oedd eisieu votes; ond wedi cael y votes mae Mr Balfour yn dweud fel hyn I sometimes see my opinions quoted, as if I had promised that their should be no use in the price of food. How could I or anyone else promise that ? Ond dyma fel dywedodd Mr Jesse Collings yn York February 13, 1908, "They could not help tenant, if they were to give him 10/- duty to-monow on every quarter of wheat he raised, what would happen. In a very short time that ten shillings would appear in the rent." Chwareu teg i Mr Jesse Collings am fod yn onest trwy ddweyd y gwir. Dyma, Syr, yw byd y rheswm a'r goleuni mae Crispin am ei ddwyn iddo. Mae yn rhaid fod gan yr hen gyfaill rhyw syniad rhyfedd am reswm a goleuni. ROLLIE WILLIAMS.

LLYTHYR AGORED AT DRETH-I…

AIL LYTHYR AOOREDI AT DRIGOLION…

HARLECH A'I OLEU. I

AN OPEN LETTER TO ALL MY FRIENDS…

[No title]

Y WAWR.

LLINELLAU CYDYMDEIMLAD

I LLANRWST.

BETTWS Y COED.

IFFESTINIOG.