Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

CLWB RHYDDFRYDOL.

News
Cite
Share

CLWB RHYDDFRYDOL. Mr Gol.—Hwyrach mai nid amhriodol fyddai galw sylw at y Clwb uchod. Er fod y Clwb i raddau wedi llwyddo yn ystod y blynyddoedd diweddaf, eto i gyd fe ddylai gael cefnogaeth mwy sylweddol mewn ardal mor Ryddfrydol a Ffestiniog. Mae y Pwyllgor gweithiol wedi dechreu parotoi rhaglen at y gauaf, a diau y ceir cyfarfodydd y bydd yn werth i bob Rhydd- frydwr—ac ambell Dori fod yn bresenol- oblegid pechaduriaid, nid rhai cyfiawn" elwir yn y cysylitiad hwn hefyd. Nifer yr aelodau y flwyddyn ddiweddaf ydoedd 196, pryd y dylai y rhif mewn cymdogaeth fel hon fod o leiaf yn 400, a rhag y gall fod diffyg mewn gwneyd yn hysbys yn mha le y ceir tocynau aelodaeth, gellir eu cael unrhyw adeg yn ystafelloedd y Clwb neu trwy rai o'r aelodau. Amcan penaf y pwyllgor gweithiol ydyw cadw yn fyw a dal i fynu yr egwyddorion mawr sydd o dan ac wrth wraidd y Mesurau sydd gan'y Blaid Ryddfrydol mewn golwg ar hyn o bryd. Rhyfedd y gwrth- wynebiad roddir i gyliideb resymol Mr Lloyd George ac eto nid yw y gyllideb hon ond un cam megis yn nghyfeiriad pethau mwy, a chyn y gellir sylweddoli y pethau mwy, rhaid i'r wlad ddacgos i'r senedd a'r llywodraeth eu bod yn benderfynol o'u meddianu. Yn ddiau dyma'r ffordd y rhaid cerdded ar hyd-ddi, ac amcana y Clwb Rhyddfrydol wneyd hyny, a phe yn cael cefnogaeth fwy byddai ei waith yn fwy sylweddol.-AFLOD.

MASNACH RYDD, PA BETH YW,…

LLYTHYR AGORED AT DRETH-I…

AIL LYTHYR AOOREDI AT DRIGOLION…

HARLECH A'I OLEU. I

AN OPEN LETTER TO ALL MY FRIENDS…

[No title]

Y WAWR.

LLINELLAU CYDYMDEIMLAD

I LLANRWST.

BETTWS Y COED.

IFFESTINIOG.