Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

12 articles on this Page

[No title]

ETHOLIADAU.I

NODION O'R CYLCH. I

Chwareli Cydweithiol Bethesda.I

CYNQRAIR'R EOLWYSI RHYDOION…

Addysg Dosbarth Li an rwst.-…

BWRDD GWARCHEIDWAID LLAN-I…

ROE WEN. - - - -

-- - - - - - Bachgen o Llanddoged…

HARLECH.

News
Cite
Share

HARLECH. Cynhaliwyd cyfarfod Chwarterol Meihodist- iaid Dosbarth y Dyffryn yma dydd Mercher prydpawn o dan lywyddiaeth y Parch T. Lewis, Llanfair. Darllenwyd papur gan y Parch. Richard Evans, Harlech,ar Eiriolaeth Crist", a chan y Parch. Christmas Lloyd. Abermaw, ar Y pwysigrwydd o ddysgu ein Haelodau yn Atbrawiaethe-ii sylfaenol crefydd." Yr oeddynt yn bapurau rhagorol, a bu mater- ion eraill o dan sylw. Dewisiwyd y Parch. Robert Thomas, Taisarnau yn Gadeirydd y flwyddyn nesaf ac Ail etholwyd Mri. Robert Richards a Richard Griffith yn Ysgrifecyddion. Yn dilyn y cyfarfod ucbod, cynhaliwyd cyf- arfod Chwarterol Dosbarth Ysgolion Sabboth- ol y Dyffryn, o dan lywyddiaeth Mr John Roberts, Abermaw, Yr oedd nifer eithriadol o dda o gynrychiolwyr wedi dod yn nghyd, yr hyn a ddangosai yn amlwg y dyddordeb dwfn gymerir yn yr Ysgol Sul trwy'r cylch. Dar- llenwyd yr Ystadegau am y Chwarter gan yr Ysgrifenydd, ond gan fod amryw heb snfen en cyfrifrifon i mewn nis gallesid eu cydmaru ar un chwarter y llynedd. Cafwyd papur gwerthfswr dros ben gan MrJ. J. Thomas. Talsarnau, ar Y pwysigrwydd i'r Athrawon g'r Aelodau barotoi yn deilwng ar gyfer yr Ysgol Sabbothcl." Trinid ei fater o wahanol gyfeiriadau, ac yr oedd ei brofiad maith fel Arholwr ac Athraw yn gosod gwerth ychwanegol ar yr hyn a ddywedai. Ymddi- swyddodd y tri aelod o'r Abermaw oddiar y Pwyl!gor, ac yr oeddynt yn y dref hono yn ym- ceillduo o gymeryd rhan yn y Gymanfa nesaf am resymau neillduol. Cynhaliwyd Cyfeiilach yn yr hwyr, pryd yr oedd y Parchn Christmas Lloyd, a R. Thomas, Mri Richard Davies, Llanbedr, a R. Stephen, Llanfair yn bresenol. Cafwyd trafodaeth ar faterion oeddynt i gael sylw o'r cyfarfad y prydnawn fel y manteisiodd yr Eglwys ar gynwys y papyr gafwyd yn nghyfarfod y cynrychiolwyr. Cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn Egiwys St Tanwg ddydd Gwener.

Family Notices

i CYNGOR DOSBARTH LLANRWST.