Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
12 articles on this Page
[No title]
ymhen canrifoedd fel cartref gwr sddy wedi enill ymddiried a pharch a serch ei wlad i fesur mwy na neb a aeth o'i flaen Nid yw wedi anghofio'r bobl o'r rhai yr hanodd, ac nid oes arno gywilydd o honynt. Gwyr gystal ag y gwyr yr un dyn byw am danynt; mae'n deall eu hangenion ac yn cydymdeimlo a hwynt. Myn sirioli eu bywyd a rhoddi iddynt gyfleusterau i gasglu gwybodaeth fudd. iol fel y'u cymhwyser i wasanaethu eu gwlad yn well mewn pethau crefyddol a gwladol a chymdeithasol. Mae ei eiriau a'i weithredoed yn cyffwrdd yn drwm a chalon Cymru. Heblaw ei bod yn falch o hono ac yn ei edmygu, y mae wedi enill ei chalon yn 11 wyr. Pa un fwyaf a chryfaf a thyneraf—ei gariad ef at Gymru ai cariad Cymru ato ei ?
ETHOLIADAU.I
ETHOLIADAU. I Cyhoeddwyd yn swyddogol fod y pen-I odiadau y cyfeiriasom atynt yr wythnos ddiweddaf wedi eu gwneyd. Erbyn, hyn y mae South Shields a Waltham- Stow yng nghanol berw etholiadol. Mr Bussel Rra, Rhyddfrydwr iach a gwleid- ydd gwir ragorol (yr hwn a gollodd ei sedd yn yr etholiad cyffredinol ddiwedd- af) sydd wedi ei ddewis yn ymgeisydd gan Ryddfrydwyr South Shields. Mr Vaughan Williams, yr hwn a wrthwyn- ebai Syr W. S. Rolson yn yr etholiad ddiweddaf, ydyw y Tori. Nid oes sicr wydd eto pwy a ddygir allan gan Blaid Llafur. Ond y mae sicrwydd y dygir srhywun allan, a'r tebygolrwydd ydyw mai Mr Will Crooks fydd. Da iawn fuasai genym ei weled ef a Mr Russel Rea yn ol yn Nhy'r Cyffcedin. Ond ni adiehon y dda,u fyn'd yno i gynrychioli South Shields. Nid ydym heb ofni y syrth y sedd i "ddwylaw'r" Toriaid, trwy fod Plaid Cynydd yn rhanedig. Gwrthwynebir Mr J. A. Simon yn Wal- thamstow gan y gwr a'i gwithwynebodd # yn yr etholiad ddiweddaf. Yn Waltham- stow y trig Mr Osborne, enw yr hwn sydd mor adnabyddus fel y gwr a bar- odd i waith Undebau Llafur yn talu cyfiog i aelodau seneddol gael ei dyf- arnu yn acghyfreithlon gan Lys Ty'r Argiwyddi. Mae'n sicr y bydd lie amlwg iawn yn cael ei roddi i'r cwest- iwn yma yn yr etholiad. Hyd yn hyn nid yw Mr Simon wedi hysbysu ei olyg- iadau arno. Mae'n ddealladwy, fodd bynag, fod y Cyfringylch yn awr yn ystyried pa gwrs a gymer y Llywodraeth ynglyn a'r mater, ac y mae'n ddiameu genym y deuent i ryw benderfyniad mewn pryd i'w wneyd yn bosibl iddo siarad yn eglur arno.
NODION O'R CYLCH. I
NODION O'R CYLCH. I Y mae y Cymdeithasau Llenyddol wedi (1(ichreu o ddifrif ar eu gwaith am dymor y Gauat, ac, o iarnu oddiwrth y rhagleni, y mae golwg am ffrwyth toreithiog mewn par^toi papurau, anerchiadau, a datganu. Yr hyn sydd yn bwysig yn awr yw, cael ffyddlondeb yn y rhai ydynt wedi addaw cymeryd rhan, fel na byddo cynifer ag un o honynt yn siomi eu Cy mdeithas. Diflasdod mawr ar y cyfarfodydd yw i aelljdau esgeul- use cyflawni eu hymrwymisd. Byddwn yn gwylio gyda dyddordeb y gwaith a wneir trwy y cylch yn ystod y tymor. Yn Mwrdd diweddaf Gwarcheidwaid Undeb Ffestiniog yr oeddid yn myned trwy bob enw oedd ar y llyfrau er mwyn rhoddi ystyriaeth benodol i bob achos wrtho ei hun. Yr oedd yr adroddiadau ar rai o'r achosion yn rhai hynod iawn cyfeiriwn at un neu ddau heb eu henwi o ardal Ffestiniog. Dyma un achos,—y fam yn dywedyd am ei dau fachgen "mae ryw ddeg swllt yr un a nillent," ond prawf wedi ei gael eu bod yn enill tua thair punt a'r ddeg y mis rhyng- ddynt! Sylwodd y Cadeirydd i un o weithwyr y Blaenau ddywedyd ar ei Iw mewn Llys yn y Blaenau mai 3s 4c y dydd a enillai, tra y gwir oedd ei fod yn enill cyfartaledd o 6s 4|c ar hyd y pedair blynedd a basiodd. Mewn achos arall !le'r oedd y tad wedi ei gymeryd yn wael, dywedid wrth y swyddog nad oedd y mab yn eniH nesaf peth i ddim gan mai I" y mab yr oedd." Sylwodd y Cadeirydd fod y mab yn enill 3s 9c y dydd, a'i fod yn bartner gyda'i dad yn ei fargen! I ba ddyben mewn difrif y ceisir camarwain y Swyddog gyda cheisio Elusenau j Y mae achosion fel yr uchod yn sicr o arwain i'r gwir dlodion gael eu gwasgu, ac felly orfod dyoddef yn dciachos. Pwngc dyrus neillduol yw achos y crwyd- riaid ydynt y fath bla ar y wiad. Cafwyd trafodaeth ddyddorol arnynt yn Mwrdd Llanrwst ddydd Mawrth. Daeth yno, fel i Fwrdd y Penrhyn jr wythnos cynt, air yn hysbysu y prif linellau olygai y Gynhadledd fu yn eistedd uwch ben y peth yn rhai budd- iol i'w cymeryd. Ni wriaed sylw pellach ar peth yn y Penrhyn na dywedyd yn syml fod y rheol yn cael ei chadw eisoes gan- ddynt. Cedwir hi hefyd yn Llanrwst. Cyn- llun Mr Gower yw gwneyd Trefedigaeth o'r giwaid," a'u casglu oil at eu gilydd, gan eu gorfodi i weithio er cadw eu hunain. "Barn ddidrugaredd i'r hwn ni wnaeth drugaredd," yw hi gyda Mr Gower, ac y mae diogi yn bechod bron anfaddeuol yn ei olwg. Ni fyn ef ddiogi ei hun, ac nis gall oddef diogi mewn eraill. Gorfodi y tramp i weithio wna settlo y peth mewn ychydig amser," yn ol ei farn ef. Cawn weled beth ddaw o'r symudiad presenol sydd yn y wlad gyda'r bobl hyn.
Chwareli Cydweithiol Bethesda.I
Chwareli Cydweithiol Bethesda. I Dydd Sadwrn, yn Ystafelloedd y Co-oper- ative Wholesale Society, Manchester, cynhal- iwyd cyfarfod cyffredinol o Gyfranddalwyr Cymdeithas y Chwareli Cymreig (Bethesda), a bu iddynt benderfynu, heb ond un yn erbyn, "nad allai y Gymdeithas, ar gyfrif ei gofynion, gario yn mlaen ei masnach, a'i bod yn ddoeth. ach i ddirwyn y cyfryw i fyny." Llywyddid gan Mr J. Cooker, Leeds (Cad- eirydd y Cyfarwyddwyr), a dywedodd mai gyda gofil dwfn y deuant o'u blaen-fel cyfran- ddalwyr gyda banes o fethiant. Yn ystod y blynyddosdd diweldaf-yn neillduol yn ystod y tair blynedd y bu ef yn gyfarwyddwr-bu raid iddynt wingo yn galed iawn i gadw eu penau uwchlaw'r dwfr. Un anhawsder oedd eu bod yn gorfod cario yn mlaen y dyled- swyddau gweinyddol yn Manchester,-gryn baHder oddiwrth y chwareli. Drachefn yr oedd y cyngorion roddwyd gan Expsrts er ffuifiad y. Gymdeithas x'eii profi yn ddiefthiiad anghywir. Yr oedd ef o'r farn nad oedd ac na bu digon o arian wedi eu suddo yn y chwareli i'w gwneyd yn llwyddiant. Y safie yn awr oedd fod yn rbaid iddynt fabwysiadu un o ddau gwrs,-gofyn am gyfalaf newydd, neu gau y lie yn hollol, ac yr oedd ef yn credu nad oedd y Cymdeithasau Cyd-weithiol yn barod i roddi rhagor o arian. Byddai iddo ef, fodd bynag, betruso gofyn iddynt am arian. Yna darllenwyd adroddiad maith ar ran y Cyfarwyddwyr, a chymerwyd cyfle ar unwaith i wrthwynebu am nsd oedd wedi ei hargraffu a'i dodi yn nwylaw y cyfranddalwyr. Atebwyd oddiar y llwyfpn fed y cyfarwyddwyr wedi ei gweled yn aDgenrheidiol i alw y cyfarfod ar frys fel na chafcdd yr argraffwyr amser i ar- graffu yr adroddiad. Yr oedd yr adroddisd yn cafnodi y ffaith i'r Gymdeithas godi allan o'r "cydymdeimlad grewyd trwy'r wlad gyda chwarelwyr a llafurwyr oeddynt wedi eu gwneyd yn orfodol segur trwy anghydwelediad fodolai ar y pryd yn Chwarel y Penrhyn," Detbyniodd y Gymdeithas mewn ffurf o gyf- ranau, benthyciadau a Mortgage bonds £ 39712 Yn ol v Prospectus, a ddyddiwyd Gorphenaf 27, 1903, y swm a wariwyd ar y cycbwyniad ar y tair chwarel berchenogid gan y Gym- deithas ydoedd £ 18,400. Yr oedd y cyfalaf ychwariegol wariwyd wedi codi y swm i £34, 503, yr hyn a adawai £ 5,209 i gael cyfrif am danynt. Yr oedd y colledion o ddechreu y gweithio ar Awst 1, 1903 yn cyraedd y swm o 43,636, Gwneid i fyay y gwahaniaeth ( £ 1572) fel y canlyn Ystorfa o le'chi, &c £ 2,303; amryw ddyledwyr (yn cynwys costau wedi eu talu yn mlaen Ilaw), (370; arian mewn llaw ac yn yr Ariandy £ 26. Fodd bynag, yr oedd yn ddyledus i'r Gymdeithas oddiwrth amryw bersonau 41,127. Ar derfyn y flwyddyn ddi- weddaf yr oedd £ 1572 mewn llaw at weithio yn mlaen, ond yr oedd collpdion yn ystod y flwyddyn hon wedi gostwng y swm i Z328 Yr oedd yr adroddiad hafyd yn cyfeirio at y ffaith lod y canlyniadau oblegid, yn ol y Prospectus, wedi ctel effeithio arnynt gan ddefnyddiad tiles i doi y tai goreu a pharhad y dirwasgiad yn y fasnach adeiladu. Yr oedd hefyd ostyngiad mawr wedi cymeryd lie yn y prisiau. Y Cadeirydd a gynygiodd benderfyniad yn ffafr dirwyn y Gymdeithas i fyny, a dywedodd fod 193 o Gymdeithasau wedi rhoddi 537 o bleidleisiau yn ei law. Yr oedd gan gynrychiolydd o Gymdeithas Manchester a Salford eisiau rhoddi cyfarwydd- yd expert i'r Cyfarwyddwyr, ond rheolodd y Cadeitydd ef ajilan o drefn. Yr oedd yr amser wedi pasio, meddai, i'r cyfarwyddwyr i dderbyn unrhyw gyfarwyddyd yn nghylch gweithio y Chware'i Mr. Barker (Dove Holes) a ddywedodd fod methiant y Chwareli yn ergyd i weriaiaeth. Yr oedd ef yn credu fod digon o arian yn y mudiad cyd-weithiol i wneyd y Gymdeithas yn Ilwyddiant. Yr oedd ef yn fvddlawn i roddi llaw rydd i'r cyfarwyddwyr i godi arian a gweithio y chwareli. Mr T. Wood, Manchester (Ysgrifenydd y Gymdeithas), a ddywedojd mewn atebiad i gwestiwn, fod y chwareli wedieu cau ar Gor- phenaf 23 trwy benderfyniad y, Cyfarwyddwyr; ond yr oedd nifer fechan wedi eu cidw ar y lie am resymau neillduol. Cynrychioiydd," Pa swm o arian a fyddai arnoch ei eisiau i gadw y chwareli byn i fyn'd ?" Cadeirydd, Y mae hwn yna yn gwestiwn anhawdd i'w ateb. Dywed expert nas gallwn obeithio am lwyddiant heb yenwanegiad o ugain mil o bunau yn y cyfalaf. Yn bersonol, nid wyf yn tueddu i ofyn i'r Cymdeithasau Cyd-Weithiol am ugain mil o geiniogau. Mr Gratton, a udywedodd ei fod ef yn cynrychioli un o'r Cymdeithasau Cyfran- ddaliadol mwyaf, a chredai na wnai apel am gyfalaf newydd ddim ond gwneyd pethau yn waeth nag ydynt. Yr oedd ef yn cydweled yn hollol mai y peth goreu ellid wneyd ydoedd dirwyn y Gymdeitbas i fyny. Cydsyniai dau gynrychiolydd arall a hyny. Mr. Redfearn (uno'r Ymddiriedolwyr dros y Mortgage Bondholders) a gefnogai y cynygiad. Dywedodd fod un o'r Cyfranddaiwyr yn barod i waeddi cywilydd ar Gyd-weithwyr ac Undebwyr am beidio cael hyd i "gyfaUf ychwanegol. Yr oil allai ef ddywedyd oedd, os oedd y cynrychiolwyr hyny yn awyddus i dreio eu Haw credai y byddai yn dda gan y Dirwynydd-i-fyny adael iddynt gael y chwareli am ffigiwr isel iawn. DeaUai pe cynyddid y cyfalaf gydag ugain mil o bunau y collid y cwbl mewn dwy flynedd. Rhoddwyd y panderfyniad l'r cyfarfod, a chododd pawb ond un eu Haw drosto. Penodwyd Mr. Wood (Ysgrifenydd), yn Dirwynydd-i-fyny.
CYNQRAIR'R EOLWYSI RHYDOION…
CYNQRAIR'R EOLWYSI RHYDOION I Cyfarfyddodd y Cyngrair uchod nos Wener diweddaf, Hydref 7, yn yr Eglwys Seisneg. Llywyddwyd gan y Parch, R. Silyn Roberts, M.A. Y mater cyntaf ydoedd dewis swyddog- ion. Dewisiwyd Mr R, J. Jones, Gorphwysfa, High Street, yn ysgrifenydd Mr Owen Jones. o eglwws Jerusaiem yn drysorydd. Cynygiwyd gan y Llywydd a chefnogwyd gan Mr W, W. Jones, Brynawel, bleidlais o gydymdeimlad a theulu y cyn-drysorydd ymadawedig, Mr. Morgan Jones, Brynbowydd, ynghyd a gwerth- fawrogiad o'i lafur a galar o golli brawd mor ffyddlon. Wedi hyny cafwyd araeth yn llawn sel ar ran y mudiad' cenedlaethol mawr a phwysig sydd yn prysur enill safle deilwng iddo ei hun yn Nghymru, gan y Parch John Hughes, Jerusalem, fe osodwyd yr olwyn i ddechreu troi yn Amwythig, Cyfarfyddodd hyrwyddwyr yr achos da hwn, dynion enwocaf ein cenedl, ac yn cynwys y Pwyilgor, ac ein boll Aelodau Seneddol. Mae ganddynt waith mawr o'i blaenau, ssf ymlid un o elynion mawr yr oes bresenol, y Darfodigaeth. Mae miloedd wedi croesi yn anamserel am nad ydoedd Ilecedd priodo! or eu cyfer i geisio gwellhad, ond yn awr mae yn agor i gyrraedd y werin bob!. Mae Cymru yn dioddef mwy oddiwrth yr aflechyd nag unrhyw rhan arall o Brydain. Dyma i ni gyfle i roddi ein llaw ar yr aradr. Bwriedir casglu £ 250.000, ag adeiladu gyda hwynt Sanatorium. Cynygiwyd gan Mr W. W. Jones, Brynawel a chefnogwyd gan y Parch Thomas Griffith, Salem, ein bod yn anfon at y Cyngor Dinesig i ofyn a fydd iddynt alw Cyfarfod cyhoeddus o'r holl dreth- cawyr yn ddiymdroi i gael trafodaeth ar y cwestiwn pwysig hwn, ac i gael cydymdeimlad teilwng c honom fel ardalwyr. Mr Thomas Williams, Garregddu, a gynygiai, a Mr David Hughes, Tanygrisiau a gefnogai fod y mater hwn i gael sylw yn yr eglwysi, y cymdeithasau llenyddol, a'r Band of Hopes, a phasiwyd yn unfrydol. Galwodd y Parch J. Hughes sylw y Cyngrair at y Gynhadledd fawr a gynbaliwyd yn Edinburgh, a'r ystyriaeth ddifrifol gymer- odd le niewn perthynas i wareiddiad y dwyfain pell. Un o'r pethau mwyaf ysbrydol gafwyd eaoed. Mae sfengyl y Groes yn ceSroi yr oes yn gyflym. Pasiwyd i gael cyfarfod cenhadol a dewiswyd Is-bwyllgor, Pasiwyd mai nos Wener fydd noson y Cyngrair, i ddechreu am 7 c't glocb. Diweddwyd gan Mr Evan Rob- erts, Gwylfa.
Addysg Dosbarth Li an rwst.-…
Addysg Dosbarth Li an rwst. I Nos Lun, yn Neuadd Drefol Llanrwst' cyfarfu y Rheolwyr Addysg canlynol, Mri W- Hughes (Cadeirydd), Parch W. Cynwyd Williams, Parch W. Thomas, W. J, Williams, E. Mills, A. Hnghes, W, Jones W. G. Owen, T. R. Jones, David Roberts, William Roberts (Clerc Cynorthwyol), a Thomas Williams (Swyddog Presecoldeb). Niweidio eiddo I Hysbyswyd fod rhai yn dringo y walliau a'r adeiladau perthynol i'r ysgol yn y dref. Pasiwyd i osod y mater yn llaw yr Heddlu gyda hawl i erlyn pwy bynag a ddelid yn gwneyd hyny eto, a bod y Clochydd trefol i gyhoeddi hyny er rhybudd i bawb rhagllaw. t'tt Ysgol Eglwysbach.. I Yr oedd Mary Williams, sydd yn glanhau yr Ysgol hon wedi rhoddi rhybudd ei bod yn ymddiswyddo, a phasiwyd i hysbysebu am un yn ei lie. Y.W.C.A. I Caniatawyd gwasanaeth un o ystafelloedd I Ysgol Llanrwst i Gymdeithas Gristionogol y I Merched gyfarfod un ngson yn yr wyihnos. Presenoldeb. I I Bu'r presenoldeb yn rhagorol yn ystod y mis, gan fod y cyfartaledd trwy'r dosbarth yn 91'5 ac wyth o honynt yn uchel iawn. Ymadawiad Aelod. Khoddodd Mr T. R, Jones eiymddiswyddiad i mewn fel Rheolwr.-Y Cadeirydd a ofidiai weled Mr. Jones yn tori ei gysylltiad a'r Dosbarth, Bu yn aelod gwerthfnwr iiwn o r Bwrdd, a chariodd allan ei rwymedigaetbau cyboeddus gyda medrusrwydd arbenig—Ar gynygidd Mr. W. G, Owen a chefnogiad Mr. A. Hughes, pasiwyd i ddodi ar y cofuodion I werthfawrogiad y Bwrdd o't wasanseth. fgyda dymuno yn dda iddo yn ei gylch newydd.— Cydnabyddodd Mr. Jones yn ddiolchgar y taimladau dA ddangosid tUAg ato. Y Rhcithior a'r Ysgol. Anfonodd. Awdurdod Addysg y Sir ddau lythyr i'w hystyried gan y Rheolwyr. Yr oedd un o'r IJythyrau wedi eil. sgrifenu gan y Parch Ellis Davies, Rheithior Llanddoged, yn cwyno mewn iaith gref ynghylch y dull yr oedd athrawon Ysgol Llanddoget yn cario allan eu dyledswyddau, a phan y bu iddo siarad a hwy ar y pen iddynt fyned yn sarhaus. Yr oedd y Ilythyr arall wedi ei ysgrifenu gan yr Ysgol- feistr yn gwadu y cyhuddiad, ac yn cyfeirio at ei ddeugain mlynedd o brofUd fel ysgolfeistr. Yr oedd y ddau lythyr yn cynwys adlewyrch- i idau personol, a dymunodd y Rheolwyr ar y Wasg i beidio eu cyhoeddi ar hyn o bryd.— Mr T R. Jones a ofynodd a oedd y llythyrau wedi eu gosod o flaen y Rheolwyr Ileol cyn eu hanfon i'r Clerc i Ruthyn; ac atebodd y Cadeirydd ei fod yn ymddangos eu bod wedi eu banfon ar eu hunion i Ruthyn.—Mr T. R. Jones a farnai na ddylid cymeryd sylw or ohebiaeth yn ngwyneb adroadiadau ffafriol Arolygydd yr Ysgolion -Mr David Roberts, "A oes gan y Rheithor bawl i fyn'd i'r ysgol." Cadeirydd, "Efe yw gohebydd yr ysgol. Mr D. Roberts, Dylasai gael ei barchu felly." -Pasiwyd i anfon yr ohebiaeth i'r Rheolwyr Lleol i gael eu barn cyn symud yn mhelJach. ———- —
BWRDD GWARCHEIDWAID LLAN-I…
BWRDD GWARCHEIDWAID LLAN-I RWST. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd y Bwrdd ddydd Mawrth, pryd yr oedd yn bresenol, Mri John, Roberts (Cadeirydd), D. G. Jones (Is-Gadeir- ydd), Parch John Gower, Parch J. Ll. Richards, Parch Henry Jones, Mathew Roberts, William Williams, E. P. Hughes, O. Lloyd Jones, John Berry, Edward Edwards, John Owen, John Hughes, Hugh Hughes, Ll. G. Jones, Isaac Hughes, W. G. Jones, William Evans, Evan Roberts, Edward Mills, R. O. Williams, David Owen, T. Hughes (Clerc), Edward Hughes (Meistr y Ty), O. Evans Jones a T. C. Roberts ^Swvddnoinri 'RlncpnnO Yr Elusenau a'r Tlodion. I- I Talodd Mr 0 Evans Jones yn ystod y misyn nosbarth Llanrwst, £ 114 rhwng 130 o dlodion, a gofynodd am £ 103 at alwadau y mis hwn. 'Talodd Mr T. C. Roberts yn nosbarth Pentrefoelas, £69 4s rhwng 121 o dlodion, a gofynodd am 170. Y Ty. or. y meistr a adroddodd fod 19 yn y Ty, ar I gyfer 26 yr un amser y llynedd, a galwodd 76 o grwydriaid yn y mis, ar gyfer 66 yr un amser y llynedd. Yr oedd wedi gwerthu dau o'r moch am £8 15, ac yr oedd y ddau arall yn barod i'w iladd ar gyfer y Ty. Dywedodd y Meistr i Navy o'r enw Ernest Shelton, 31 oed, ddod i'r Ty Tachwedd 2, yn dyoddef oddiwrth niweidiau i'w ben. Ym- ddengys i'r dyn syrthiQj i wely'r safon fiyn Treftiw pan mewn diod. Yr oedd yn yr Ysbytty eto. Dywedodd Mr Gower i'r hedd- geidwad gael hyd iddo mewn pryd neu buasai wedi ei foddi gan y llanw ddeuai i mewn i'r afon. Yr oedd y Meddyg yn dywedyd fod llygod wedi cnoi ei glustiau a'i wddf tra yr oedd yn ddiymadferth yn ngwely'r afon. Pasiwyd i Mr Hugh Hughes wneyd y cyf- newidiadau gofynol ar swyddfa y Meistr, a bod grate newydd yn cael ei dodi ynddi. Bu cryn hwyl uwchben y mater bwn, fel y bydd yn gyffredin ar bwnc o'r fath. Cydymdeimlad. 1 Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a pher- thynasau y diweddar Mr Evan W. Roberts, Cwm, yn eu profedigaeth o golli ua mor anwyl a charedig, ar gynygiad y Cadeirydd, a chefnogiad Mr John Hughes. Y Galwadau. Y Clerc a gyflwynodd yr amcan-gyftifon am alwadau yr haner blwyddyn. Yr oedd eisiau £ 24C0, a £ 1000 wrth gefn yn gwneydcyfanswm o 43400. Allan o hyny yr oaddid i dynu y £ 1118 a dderbynid o roddioo, &c,, ac yr oedd £ 961 yn awr yu ffafr y Bwrdd, yn gadael £ 1314 i'w codi trwy dretb. yr hyn oedd yn llai o £21 na'r haner blwyddyn cynt. Ond yn erbyn hyny drachefn yr oedd y gostyngiad yn mhris trethiadol y Reilffordd o £ 1300 yn gwneyd treth o ffyrling yn y bunt, er fod y cyfanswm bron yn hollol yr un fath. Felly byddai y dreth yn bum' swllt a thair ffyrling. Gofynai Cyngor Sir Gaernarfon dreth o naw a dimeu y bunt: gostyngjfed o ddwy geiniog a Chyngor Sir Ddinbych dreth o unarddeg a thair ffyrling: gostyngiad o ffyrling.-Pasiwyd yr adroddiad. Coffa y Brenln. Pasiwyd i gefnogi i gael Coffa CenedlaetholI Cymreig i'r diweddar Frenin Iorwerth VII, Y& erbyn y Tlodty. Dð dyn o'r enw David Evans, perthyabl i Lerpwl, ond yn awr yn byw yo Trefriw, o flaen y Bwrdd i ofyn am elusen, Ceisiwyd ei berswadio trwy bob cymelliad posibl i ddod i'r Ty, ond ni fynai ef wrandaw o gwbl, ac yn y diwedd aeth allan dan ysgwyd ei ben yn erbyn y..syniad o ddod i mewn, I Pwngc y Crwydriaid. I Darllenwyd cylchlythyr oddiwrth Ysgrifen- ydd y Gynhadledd gynhaliwyd yn dqiweddar yn Bangor, ar fater y crwydriaid ydynt y fath faich ar y wlad. Argymellid i ffurfio Pwyilgor o Undebau Mon ac Arfon i ystyried y mater, ac yn y cyfamser i beidio gollwng crwydriaid allan ar y Sabbath, ac Archeb 1882 i'w chario ailan,—Mr Gower a ddywedodd eu bod hwy yn cadw at y rheolau, ac Undebau eraill yn eu tori. Gollyngid crwydriaid allan gan bron bob Undeb ond hwy, Pe buasai eu hachos yo caal ei dodi yn ei law ef, ni fuasai yn hir iawn yn ei sett)o.—Penodwyd Mr Gower i gynrychioli y Bwrdd ar y Pwyllgor. Y Gweinyddesau. I Darllenwyd flythyr oddiwrth Mrs Maud Wynne Finch, Plas Foelas, yr bon sydd wedi lei dewis yn Llywyddes y Dosbarth gan Gymdeithas y Gweinyddesau yn Ngogledd Cymru, yn dywedyd eu bod yn ffurfio cangen leol yn cynwys plwyfi Pentrefoelas, Yspytty Ifan, a Caps! Garmoo, er cael Gweinyddes i'r Dosbarth, Byddai y drau! o £ 50 i £60 yn flynyddol. Gofynai am gefnogaeth y Bwrdd rnewiy tanysgrifiad at y drysorfa, gan y byddai cae! gwasanaeth y Nurse yn gaffaeiiad mawr wrth iddi weinyddu ar y tlodion yn y cylch — Mr Mills, yn unol a'r rhybudd, a gynygiodd eu bod yn codi eu rhodd o bum' gini i wyth gini at y gangen yn Llanrwsf. Yr oedd y Wein- yddes yn y dref wedi ymweled dros saith cant o weithiau a thlodion y lie. Prin yr oedd y pum' gini yn ddigon i dalu am yr enaint a'r clytiau,—Yr Is-gadeirydd a ddywedodd iddynt cstwrig i bum gini er mwyn gsllu cufranu at yr Ysbyttai yn Leipwl a sylwodd y Cadeirydd y disgwylid am road at y Gymdeithas yn Pentre- foeias t-Mr Matthew hoberts a ddywedodd fod gwasanaetb y Nurse yn fwy angenrheidiol yn y wlad nag yn v dref, gan fod y meddyg yn njhyraedd y diod ef vyr yn y dref.—Mr John Berry a ddywedouci y dylid cymeryd i ystyr- iaeth werth trethiadol y dre{ gyda ihodd o'r fath, a gwerth y gwasanaeth gaed gan yNutse. ,-Mr Gower, "A bod hil syfthiedig Adda oil yn ceisio noddfa yn Llanrwst "—Ar gynygiad Mr O. Lloyd Jones, pAsiwyd gyda Awyafiif i gyfranu pum gini fel atfetol i gymdeithas y dref, ac i oedi cais Pentrefoelss am fis.
ROE WEN. - - - -
ROE WEN. Gondus iawn genym hysbysu am y ddamwain angeuol ddigwyddod i Mr John Owen, Llyn Ucha, ddydd Gwener. Ymddengys ei fod yn un o'r adeiladau gyda pheiriant, pryd y bu i'r berwedydd ffrwydro, nes y gorchuddiwyd ef a dwfr berwedig, ac ysgaldiwyd ef yn ddifrifol, a a bu farw yr un noson. Cydymdeimlwn yn fawr a'r holl deulu yn eu profedigaeth lem.
-- - - - - - Bachgen o Llanddoged…
Bachgen o Llanddoged ar gfoll. T""O. tsoreu ddydd Llun, aeth Robert William Roberts, bachgen 13 oed Mr. Jonah Roberts, Brynmorfydd, Llanddoget, ger Llanrwst, oddicartref am yr Ysgol Sirol yn Llanrwst. Nid oes air wedi ei glywed am dano byth oddiar hyny, Ffurfiwyd cwmniau i droi allan nos Lun i chwilio am dano, ond hyd yr ydym yn myned i'r wasg ni chlywsom iddynt Iwyddo gael hyd iddo.
HARLECH.
HARLECH. Cynhaliwyd cyfarfod Chwarterol Meihodist- iaid Dosbarth y Dyffryn yma dydd Mercher prydpawn o dan lywyddiaeth y Parch T. Lewis, Llanfair. Darllenwyd papur gan y Parch. Richard Evans, Harlech,ar Eiriolaeth Crist", a chan y Parch. Christmas Lloyd. Abermaw, ar Y pwysigrwydd o ddysgu ein Haelodau yn Atbrawiaethe-ii sylfaenol crefydd." Yr oeddynt yn bapurau rhagorol, a bu mater- ion eraill o dan sylw. Dewisiwyd y Parch. Robert Thomas, Taisarnau yn Gadeirydd y flwyddyn nesaf ac Ail etholwyd Mri. Robert Richards a Richard Griffith yn Ysgrifecyddion. Yn dilyn y cyfarfod ucbod, cynhaliwyd cyf- arfod Chwarterol Dosbarth Ysgolion Sabboth- ol y Dyffryn, o dan lywyddiaeth Mr John Roberts, Abermaw, Yr oedd nifer eithriadol o dda o gynrychiolwyr wedi dod yn nghyd, yr hyn a ddangosai yn amlwg y dyddordeb dwfn gymerir yn yr Ysgol Sul trwy'r cylch. Dar- llenwyd yr Ystadegau am y Chwarter gan yr Ysgrifenydd, ond gan fod amryw heb snfen en cyfrifrifon i mewn nis gallesid eu cydmaru ar un chwarter y llynedd. Cafwyd papur gwerthfswr dros ben gan MrJ. J. Thomas. Talsarnau, ar Y pwysigrwydd i'r Athrawon g'r Aelodau barotoi yn deilwng ar gyfer yr Ysgol Sabbothcl." Trinid ei fater o wahanol gyfeiriadau, ac yr oedd ei brofiad maith fel Arholwr ac Athraw yn gosod gwerth ychwanegol ar yr hyn a ddywedai. Ymddi- swyddodd y tri aelod o'r Abermaw oddiar y Pwyl!gor, ac yr oeddynt yn y dref hono yn ym- ceillduo o gymeryd rhan yn y Gymanfa nesaf am resymau neillduol. Cynhaliwyd Cyfeiilach yn yr hwyr, pryd yr oedd y Parchn Christmas Lloyd, a R. Thomas, Mri Richard Davies, Llanbedr, a R. Stephen, Llanfair yn bresenol. Cafwyd trafodaeth ar faterion oeddynt i gael sylw o'r cyfarfad y prydnawn fel y manteisiodd yr Eglwys ar gynwys y papyr gafwyd yn nghyfarfod y cynrychiolwyr. Cynhaliwyd cyfarfod diolchgarwch am y cynhauaf yn Egiwys St Tanwg ddydd Gwener.
Family Notices
Genedigaethau. WILLIAMS.—Hydref 6ed, priod Mr John J. Williams, Bryn Melyn, Blaenau Ffestiniog, ar ferch. LLOIID.-Hydref 4ydd, priod Mr William Lloyd, Glanypwll Crossing, ar ferch. Priodasau. OWEN—BOOTH.—Hydref 6ed, yn nghapel yr Anibynwyr, Llandudno Junction, gan y Parch Joseph Davies, Birkenhead, yn cael ei gynorthwyo gan y Parch J. Luther Thomas, Conwy, Mr Ifor Owen, .M,P S., mab hynaf Mr a Mrs Richard Owen (Myfytian), ilys Ifor, Llandudno Janction, a Miss Emily Booth, merch y diweddar Mr Joseph a Mrs Catherine Baoth, Biiksnhead. Y Gwas ydoedd Mr Idwal hogers-Owen. Shop-yr- Eryr, Blaenau Ffestiniog a'r Forwyrs oedd Miss J. Eccles, Bukenhead. Afth v par dedwydd i Lundain a Shorne Cliffe, Kent, i dreulio eu mis mel, ROBERTS.—GRIFFITH.—Dydd Gwener di- weddaf, Hydref 7, yn nghapel y Tabernacl, HI. Ffestiniog, pryd y gwasanaetkwyd gan y Parch R. R. Morris, yn mhresenoldeb Mr Richard Jeces, Cofrestrydd, unwyd mewn glan briodas Mr John Ellis Roberts, Peny- gelli Terrace, mab Mr Ellis Roberts, Blaea- ycae, Rhiwbryfdir, a Miss Gwen Griffith, merch Mr Robert Griffith, Gelli Uchaf,-y ddau o BJaenau Ffestiniog. Dymuawn i'r ddau bob hapusrwydd ar eu huniad. Marwoiaethau. JONES.—Hydref 10, yn 78 mhvydd bed, bu farw Mr. David Jones, gynt o Closygraig, Blaenau Ffestiniog. Yr oedd yn awr yn lletya yn 2, Maenofferen, a bu yn gystuddiol am gryn amser. Yr oedd yn hen gymeriad diddan, ac yn aelod ffyddlon gyda'r Anibynwyr yn Jerusalem. Gedy dau fab ar ei ol. WILLIAMS —Boreu heddyw (Iau), bu farw y chwaer ragorol Mrs Catherine Williams, Bee Hive, Trawsfynydd, a mam y Cynghor- wr W. J. Williams, Cafodd cystudd hir, a thrwm. Cleddir yn Harlech, ond nid ydys eto vedi trefnu pa bryd. Cydymdeimlwn a Mr Williams yu ei brofedigaeth chwerw.
i CYNGOR DOSBARTH LLANRWST.
i CYNGOR DOSBARTH LLANRWST. Cyfarfu y Cyngor nswn Merchsr, v 5ed cyfisol, Dewisiwyd Mr William Williams, yn Is- gadeirydd, yn lie Mr John Davies yr hwn wedi ymddiswyddo fel Cynhorydd ar gyfrif cyflwr ei iechyd. Adroddodd Dr. Travis i ddeg genedigaeth gael eu gofrestru yo ystod mis Mai yn y Dosbarth, a dwy farwolaeth. Ysgrifenodd Mri. Trapp & Jones yn nglyn ar garthffos redai heibio Ty'r Bont, Talycafa, a'i bod yn achos o ffieidd-dod fel yr oedd.—Yr Arolygydd a ddywedodd mai perchenogion y; Bont oedd yn gyfrifol am iddynt newid cwrs y ffos. Nid oedd achos cwyno am dani yn awr, ond pan fyddai achos fe adroddai i'r Cyngor.