Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
6 articles on this Page
Advertising
The REOPENING OF THE COUNTY SCHOOL. s Girl,' flat Baqds (Black & Gold). Boys" F. C. S." Caps and Ties itiso a snjart a$$ortmei|t of Gent's Boys Tweed Cap" 6td, to 2, 11d eacil New Tweed and Felt Hats for the Autuiqq 3pecial purchase of Little Boys Capp and Corded 1 Hats- Jj> ) Cord aqd Whip BPgEECliES. in Green, Browq and j Grey. Grey.. TO BE HAD AT P] SHOP-YR-ERYR (Hear thp, HaEI), BL. FESTINIOG, aqd SHOP ISAF, MAENTWROG. TpOMAS ROBERTS. September 16, 1910. MAYPOLE BUTTER REDUCED TO I 1/1 'PER LB. i GUARANTEED TO PLEASE. 1 at any of our 650 BRANCHES throughout the ( KSrsg-dom 2 MYP E PAIRy CO fA y, LTD. 12, Church Street Blaenau Ffestiniog, The Largest Retailers of choicest quality Butter, Tea, and Margarine in the Kingdom. Spectols 1 Specfols ?    ???v ?P??a?S? t E§j u ) Speefols S Bj POB PRIS o 2s. i fyny. I Profir y Golwg yn rhad ac am ddim jjj YN SHOP f WM. THOMAS JONES, ) Watchmaker, Jeweller & Optician (by exam), t! 2, Newborough Buildings, Blaenau Ffestiniog. H ¿.!81- 11 .t J- lotl,l; -.I. T 1Il- hoilol y pefh sydd arnoch j I ei ocingen Gallai y dywedwch "Nid oes arnaf angen am Tonic." Y mae pob cyfan- scddiad dynol yn teimlo effeitbiau dirwasgol ein dull annaturiol o fyw. Oes o fyn'd, o frys a ffwdan, yw yr oes hon, a rhaid fod ei dylanwad niweidiol ar y corff yn anocheladwy. Yr ydym yn dra agored i oerfel, ac i ddiffyg ar 1 y cylla a'r afu, mae'r nawsion amhur yn cymysgu a'r gwaed, mae'r nerfau yn gwanychu, yr ydym yn agored i lu o anhwylderau cyffredin, ac yn cael ein bygwth gan afiechydon gwaith. Yr ydym yn iach a chryf un dydd, a'r diwrnod wedyn allan o hwyl, ac efallai yn beryglus wael. Mae eisiau Rhywbeth, a'i eisiau ar bawb. GWILYM EVANS' QUININE BITTERS yw y feddyginiaeth gryfhaol, I ac adfywiol, sydd yn gwrthweithio sfiechyd, ac yn cadw organau y corff mewn llawn yni, a'r holl system mewn cyflwr perffaitb. Wedi eu gwneyd o II nifer o'r cynyrcbion mwyaf iacbusol a bywydol gwybyddus i feddygon, ¡' Mae llwydd aaghydmarol QUININE BITTERS GWILY,M EVANS yn bawdd i'w brofi pan eu cymerir ar ol ymosodiad o'r Anwydwst, neu pan yn wan a digalon, heb archwaeth, yn isel ysbryd, digwsg, liuddedig, a blin ar ei einioes. Ond i chwi ret prawf ar un botel, cewch ryddhad buan oddiwrth eich iselder a'ch gwendid, ac adenillwch eich arebwaeih. Nid oes dim arall yn debyg iddo. Cedwch ef yn eich cartref, a pham nad < ei gymeryd fel gochelydd. Gwneir ef yn hoilol o Lysiau, ac efe yw'r medd- yglyn goreu yn y byd i gcdi'r gwan i fyny. Gwna fywyd yn werth i fyw. Rhoddwch brawf ar botelaid. I GWERTHIR YN MHOBMAN, mew? poteli 2s. 9c. a 4s. 6c. yr un. j GOCHELWCH DWYLLWYR. | Gofelwch bod eQw"Gw!!ymEvans/'ary!abe!,y?stamp. a'r botel. j Unig Bercbenogion:— QUININE BITTERS MANUFACTURING CO., Llanelli, s.w.1 1 f =^== wo AV&u:nilmale Bitter -M m a n C!lF.,i 1(;Ii!I!'En- ¡oine BiMe?s
INODIABAU WYTHNOSOL.
NODIABAU WYTHNOSOL GWERINIAETH PORTUGAL TT 1 /I 1 1 -1 ~t "UT in ddisymwth dymchwelwyd gorsedd brenin ieuanc Portugal; collodd ei goron ffodd yntau am ei einioes, ac y mae yn awr yn. Gibraltar ar ei ffordd i Brydain Fawr i geisio noddfa ddiogel. Er fod y pethau hyn oil wedi cymeryd lie yn ddisymwth, nid oeddynt mewn un modd yn anisgwyliadwy. Yn gyd- piarol ddiweddar lladdwyd tad y gwr i ieuanc sydd yn awr yn alltud, yn yr beol, ac yr oedd yn ddigon gwybyddus fod ei orsedd yntau yn sigledig. Er hyny daeth y cyfnewidiad mawr yn dra disymwth. Rhaid fod parotoadau mawr ion a manwl wedi eu gwneyd yn hynod ddirgelaidd, oblegid mae'n amlwg oddi- wrth anmharodrwydd y brenin a'i gyng- horwyr i wrthwynebu y gwrthryfelwyr na ddaethai i'w meddwl fod ymgais mor bsnderfynol i gael ei gwneyd i newid ffurf-lywodraeth y wlad. Yn Portugal, o holl wledydd Ewrob, y mae'r anwy- bodaeth fwyaf dygn, ac ynddi hi y mae'r Fatican wedi llywodraethu wrth eu hewyllys ar hyd y canrifoedd. Mae'r wlad yn frith o fynachdai a lleiandai, a'r offeiriaid wedi arfer trin y bobl yn hollol fel y mynent. Erbyn hyn mae'r mynachod yn cael eu hela fel petris a gwelir yn eglur mai eu hofni a wnai y bohl yn bytracb na/u parchu. Da ydyw gallu dywedyd fod arweinwyr y ehwil- droad wedi gwneyd eu gwaith mewn modd sydd yn gredyd i'w penau a'u calonau hefyd. Ychydig mewn cydmar- iaeth yw'r gwaed a dywalltwyd, ac ym- gadwyd hyd yr oedd hyny yn bosibl rhag dinystrio eiddo, ac eisoes mae'r Weriniaeth wedi ei sefydlu yn sicr, a Gweinyddiaeth wedi ei ffurfio ac wedi gafael a Haw gref yn awenau llywod- raeth y wlad. Mae ei rhaglen wedi ei qhyhoeddi hefyd, a rhoddir lie amlwg iawn ynddi i ddadsefydliad a dadwadd- oliad Eglwys Rufain. Ar y cyntaf tybid fod pobl Lisbon, y brifddinas, wedi cymeryd cam a wrthwynebid gan boblfy parthau gwledig, ac y cant anhawsder mawr i gwblhau eu gwaith, ond nid felly y bu. Cafwyd yr holl wlad yn aeddfed. Mae'r Weriniaeth newydd eisoes wedi ei chydnabod yn ffurfiol a swyddogol gan Weriniaeth Brazil, a disgwylir i .Ffrainc frygio i wneyd yr un peth. Gobeithiwn na fydd i'n Llywod- raeth ni oedi dilyn eu hesampl, a dym- unwn i Lywodraeth newydd Portugal bob daioni yn ffurf doethineb a rhwydd- ineb ffordd i wneyd y gwaith mawr ag I y mae cymaint o angen* am ei wneyd. Yn fuan caiff y bobl wybod, mor dda ydyw bias rhyddid gwladol a chrefyddol, a rhyfeddant atynt eu hunain oherwydd eu bod wedi dioddef caethiwed am gyhyd o amser. Rhaid fod y Fatican yn Hawn pryder ag y mae yn anbawdd gwahaniaethu rhyngddo ag ofn wrth weled pobl Portugal yn anad neb wedi dryllio ei rhwymau a thaflu ei rheff- ynau oddiwrthynt."
POBL Y -"TY NESAF."
POBL Y "TY NESAF." Yr Hispaen ydyw y "ty nesaf" i Portugal, ac ni ddichon yr hyn sydd wedi oymeryd Ile gerllaw iddi lai na pheri i'r Brenin Alfonso a'i Gynghorwyr deimlo yn anesmwyth i'r eithaf. Yn naturiol mae sefydliad Gweriniaeth Portugal wedi peri llawenydd mawr i'r Gwerin- wyr lawer sydd yn yr Hispaen, gan gryfhau eu calonau a'u symbylu i fwy o weithgarweh nag erioed. Rhynga bodd i blaid y brenin yno dybied y gellir dibynu ar deyrngarwch y fyddin a'r llynges, ond ni ryfeddwn os profir yn fuan iawn nad yw'r dybiaeth yn ddim amgen na breuddwyd gwrach wrth ei hewyllys." Cofia ein darllenwyr ddarfod i ni yn ddiweddar alw sylw at y modd y mae'r Hispaeniaid yn cael eu gorthrymu gan y Babaeth, offeryn yn llaw yr hon ydyw eu brenin, ac at amlder y mynachdai a'r lleiandai y rhai sydd yn cael eu eynal ar draul y werin, ac at y ffaith fod y Prif Weinidog Canalejas wedi estyn ei law yn erbyn y sefydliadau hyny gyda'r am can o leibau eu nifer a'u dwyn dan reolaeth effeithiol. Cred rhai yr erys y Gwerinwyr hyd oni welant a lwydda'r gwr hwnw i gyrraedd ei amcan, ond nis gallwn gytuno a hwy. Pe deuai gair yfory fod yr Hispaen yrcr nghanol chwildroad, ni pharai i ni gymaint a chodi ein haeliau. Yr ydym, yn cyfrif ei fod yn llawer mwy na phosibl y gosodir angenrhaid ar y Brenin Alfonso a'i briod i ffoi i Brydain, gwlad ei genedigaeth hi, am noddfa fel y gwna cyn-frenin Portugal. Nid ydym yn dymuno drwg i neb, ond yr ydym yn llawenhau wrth glywed swn dad- ymchweliad gorseddau gothrwm a drylliad rhwymau caethiwed a phobl yn ymdaith o gaethiwed i ryddid ac o dywyllwch i oleuni. Yr ydym yn ddigon sicr yu ein meddwl y clywir swn felly o'r Hispaen ar fyrder.
BETH A DOYWEQGDQ ?'
BETH A DOYWEQGDQ ? Yr wythnos ddiweddaf, wrth gyfeirio at araeth oedd i gael ei thraddodi dranoeth gan Mr Balfour, gofynasom Beth a ddywed? Disgwyliai, o'r hyn f." lleiaf dymunai, aelodau ei blaid iddo roddi arweiniad" iddynt. Daeth y tranoeth a thraddodwyd yr araeth, a'r cwestiwn a ofynir yn awr ydyw Beth a ddywedodd ? Llefarodd eiriau lawer, a chan nad yw ef un amser yn traethu ffolineb nac yn llefaru geiriau heb ystyr, rhaid ei fod wedi dywedyd rhywbeth. Ond y mae y gofyniad Beth a ddy- wedodd ? yn ofyniad mor anhawdd i'w ateb ag ydoedd y gofyniad "Beth a ddywed ? Cyfeiriodd at Achos Osborne," a thystiodd ei fod yn awyddus iawn i weithwyr y wlad gael y dynion a farnant y rhai cymhwysaf i'w cynrych- ioli yn Nhy'r Cyffredin. Yr oeddym yn tybied ei fod yr un pryd wedi dywedyd yn erbyn talu cyflog i aelodau seneddol, hyd oni ddarllenasom araeth a draddod- wyd gan Mr F. E. Smith, A.S., ychydig ddyddiau yn ddiweddarach. Cofir fod y boneddwr hwnw wedi cyhoeddi ei fod ef yn pleidio talu cyflogau i seneddwyr, ond na fyddai iddo ei bleidio hyd at niweidio ei blaid na hyd at beri blinder i'w harweinwyr. Ehoddodd awgrym eglur iawn i Mr Balfour mai buddiol fyddai iddo roddi arweiniad i aelodau'r Blaid Doriaidd yn y mater yma. Fel y dywedwyd uchod, parodd darllen araeth Arweinydd yr Wrthblaid i ni ddeall ei fod yn erbyn talu cyflog i seneddwyr. Ond ni fyn Mr F. E. Smith fod ei arweinydd wedi dywedyd dim o'r fath. Mewn cyfarfod a gynhaliwyd yn Abing- don (wedi araeth Mr Balfonr) dvwedodd Mr Smith fel hyn :—"Dywedais yn ddi- weddar fod yn well genyf fi dalu cyflog i aelodau seneddol na dadwneyd y dyfarniad yn achos Osborne, ac y mae golygyddion ysgolheigaidd rhai newydd- iaduron wedi fy meirniadu yn llym. Felly yr wyf yn addef mai gyda bodd- lonrwydd mawr y darllenais boreu hedddyw fod Arweinydd y blaid yn cymeryd yr un olwg ag a gymeraf fi ar y mater." Gadawn i'r Toriaid bender- fynu, os gallant, beth a ddywedodd eu blaenor. Yr ydym wedi arfer cydnabod rhinweddau a ihagoriaethau Mr Balfour fel arweinydd. Ymhlith y pethau y rhagora ynddynt rhaid cyfrif gallu i areithio yn hyawdl a thrafod gwahanol gwestiynau mewn modd dyddorol heb egluro ei olygiadau arnynt, a gallu i wrthsefyll (ac, yn wir, i anwybyddu) pob cymhelliad ac anogaeth ac apel i draethu ei farn ar unrhyw fater hyd oni wel y bydd gwneyd hyny yn fanteisiol i'w blaid. Nid yw beirniadaeth lym newyddiaduron Toriaidd na chwynion ei ganlynwyr yn tycio dim. Nid yw yn cymeryd arno ei fod yn gwybod dim am danynt: A o'r tu arall heibio iddynt, a gwen ar ei wyneb, heb gymaint a gwneyd sylw o honynt. Gall fforddio gwneyd hyny heb ofni cael ei fwrw allan o'i le. Gwyr nad oes ymhlith ei ganlyn- wyr gynifer ag un yn gym'wys i gymeryd ei le.
GANGHELLOR Y TRYSORLYS A LLANYSTUfVSDWY.
GANGHELLOR Y TRYSORLYS A LLANYSTUfVSDWY. Gwelwn fod Mr Lloyd George wedi hysbysu pobl Llanystumdwy, y pentref lle'i magwyd, ei fod wedi dod i'r pender- fyniad i roddi llyfrgell rydd a darllenfa yn anrheg iddynt, Yr oedd yn ei fryd brynu'r ty y trigai ynddo pan yn blentyn, a,'i gyfaddasu i'r dyben a nodwyd; ond gwrthododd y perchenog ei werthu iddo. Nis gwyddom pwy yw y perchenog. Canmolwn y Cangbelldr am y ffordd a gymerodd i fynegi deimladau caredig at ypentref-pentrefag y soniram dano
CYNHADLEDD YR WYTH.,
CYNHADLEDD YR WYTH. Bu i'r wyth sydd yn ceisio cyturio ynghylch dyfodol Ty'r Arglwyddi gyfar- fod ddoe (dydd Mawrtb) am y tro cyntaf er's amryw wythnosau. Buont yn cyd- eistedd am awr a haner, ac y mae yn wybyddus eu bod wedi trefnu i gyfarfod eto yfory neu drenydd. Dengys hyn, nad ydynt wedi rhoddi i fyny obaith y gallant ddyfod i gytundeb. Brysiodd llawer i gredu eu bod, oherwydd i Feistr Elibank ysgrifenu llythyr yn cefnogi ymgeisiaeth rhyw Rhyddfrydwr a dy- wedyd yn y llythyr fod y cad-oediad" drosodd. Nid ydym yn gweled fod yn y llythyr hwnw gymaint a gair ag y gellir ei gymeryd fel awgrym fod y gyn- hadledd wedi troi allan yn fethiant. Er hyny credwn mai hyny a gyhoeddir yn swyddogol ar fyrder Os felly, ni fydd yn ddrwg genym oblegid yr ydym wedi hen flino ar gyfaddawdau. Nid yw cyfaddawd yn ddim ond enw ar gynllun i wneyd y bobl yn foddlon i gymeryd haner torth pryd y gallent trwy fod yn benderfynol gael torth gyfan.