Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

CYNGOR DINESIG FFESTINIOG.

Oyfarfod Chwarterol y Wesleyaid.

i; O BORTHMADOG I BWLLHELS,I

Family Notices

I HEDDLYS BETTWSYCOED.

PENRHYNDEUDRAETH. I

Advertising

I TRAWSFYNYDD.

TALSARNAU.

IPENMACHNO.---

News
Cite
Share

PENMACHNO. Y mae ein cyfeillion yn Salem wedi ymgym- eryd a chael Organ i'r capel. Ymgymerodd y bobl ieuangc a'r peth gyda sel neillduol, a hyny nid ar air yn unig, ond mewn rhoddion calonog a hael. Bydd y gwaith wedi ei gwbl- hau yn fuan, ac y mae Mr J. E. Roberts wrthi yn prysur barotoi cor at yr amgylchiad o i hagor. Bydd yn gaffaeliad mawr i Ganiadaeth y lie. I Nos Fercher, o dan lywyddiaeth Dr W. M. Williams, cyfarfu y Cyngor tlwyf. Ar gynyg- iad y Cadeirydd, a chefnogiad Mr E. Davies- Jones, pasiwyd i anfon llongyfarchiad calonog i Syr John Eldon Bankes, K.C., ar ei ddyrch- afiad i'r Faingc Farnol, Y mae y boneddwr anrhydeddus yn meddu eiddo mawr yn y plwyf ac yn cymeryd dyddordeb dwfn yn ein mud- iadau cyhoeddus.-Rhoddodd Pwyllgor y Gol- euni eu hadroddiad am y lamp Petrol newydd oedd wedi goleuo am 35 awr, ar gyfartaledd i dair lamp o dan yr hen ddull. Cymeradwywyd yr adroddiad, a phasiwyd i brynu yr offerynau angenrheidioi i'w dodi ar yr hen lampau, er gwella y cyflenwad fydd o fudd neillduol i'r ardal.