Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYMANFA WESLEYAIDD BLAENAU…

A^A'WWWWVWWWWWWWVV CYNGOR…

EISTEDDFOD LENYDDOL A CHERDDOROL…

Urdd Anibynol y Rechabiaici.I

' MAENTWROG.

News
Cite
Share

MAENTWROG. YSGOL Nos,-Y mae yr athraw llafurus, Mr R. Percy Hughes, Ysgol y Cyngor, Gellilydan, yn bwriadau ail-agor yr Ysgol Nos, am y tym- hor dyfodol eto eleni, a deailwn fod nifer fawr o'n bieunctyd yn bwriadu manteisio ar y cyf- leusdra ardderchog yma i ddiwyliio eu medd- yliau. Proffodd yn llwyddiant perffaith y llynedd fel y dengys Adroddiad Arolygydd ei Fawrhydri. Dodwn gynwys yr adroddiad yn yr iaith yr Ysgrifenwyd ef.—" Some excellent work of a preparatory nature has been done in this School during the present session. The Classes have been greatly appreciated and the students have shown great eagerness and enthusiasim in the various aspects of the course. The Class divided naturally into two sections, and the English work of the Upper section was quite exceptionally good for a district which is so predominantly Welsh as this. The Teacher and pupils are to be congratulated upon a very succesful session's woik, and it is to be hoped that they will be able to cany further in future session's work'which has been so well begun 11 Llongyfarchwn Mr Hughes yn y modd mwyaf calonog am y llwyddiant eithriadol goronodd y tymhor diweddaf, ac am y dystiolaeth arbenig ddyry Adroddiad Arholwr y Llywodraeth i waith y gwahanol ddosbartbiadau. Y mae y dysgyblion hefyd i'w llongyfarch ar y gwaith campus wnaethpwyd y llynedd, Hyderwn y rhoddir y gefnogaeth a deilynga i'n Ysgol Nos eleni eto. Deallwn y bydd yn ail-agor nos- Fawrth y 4ydd, cyflsol. PRIODAs-Medi 28ain. yn nghapel y Meth- odistiaid Calfinaidd, Gelli-lydan, pryd y gwas- anaethwyd gan y Parch Hugh Ellis (gweinidog),, a'r Parch Thomas Griffith, Salem, unwyd mewn glâl1 briodas Mr W. H. Chatt, Taly- waenydd. a Miss Maggie Sarah Lewis, Cae'r- saeson, Maentwrog. Y gwas priodas ydoedd Mr J. E. Chart, brawd y priodfab, a'r morwynion oeddynt Misses Jennie a Nellie- Lewis. Ar ol y seremoni croesawyd hwy a chawodydd o rice a confetti. Yr oedd amlwg arwyddion o iawenydd a dymuniadau da; a dangosai yr ardal pa mor uchel ydoedd Miss Lewis yn ei golwg. Ar ol y boreufwyd yn Cae'rsaeson, treuliasant y gweddill o'r dydd yn Criccieth. Yr oedd yr anrhegion yn lliosog a gwerthfawr. Pob llwydd fo iddynt.

. - - - ...................-…

[No title]