Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

7 articles on this Page

CYMANFA WESLEYAIDD BLAENAU…

A^A'WWWWVWWWWWWWVV CYNGOR…

EISTEDDFOD LENYDDOL A CHERDDOROL…

Urdd Anibynol y Rechabiaici.I

News
Cite
Share

Urdd Anibynol y Rechabiaici. I Caniatewch i mi roddi ychydig o hanes un o gyfarfodydd y REchabiaid a gynhaliwyd yn y Free Trade Hall, Manchester, yr wythnos ddiweddaf, i'r hon y mae ei hegwyddorion wedi eu sylfaenu ar fod llwyrymwrlhodiad oddiwrth y fasnach sydd yn dinystrio ein byd, ac sydd yn galw am ein cefnogaeth ninau i fod yn bur i'n hegwyddorion, ac o roddi ein plant o dan Faner y Rechabiaid i'w magu a'u meithrin, byddai yn gychwyniad i'w gyrfa, fel pan heneiddiont nid ymadawant a hi. Dyma Gymdeithas nad oes unrhyw Gymdeithas arall i'w chydmaru yn ol rhif aelodau a chyfalaf. Er engraifft dyma ychydig o hanes ei chynydd am y pum' mlynedd a'r hugain diweddaf, o 1885 hyd 1910. Mae rhif y Pebyll a agorwyd yn 4631, aelodau mewn oed a dderbyniwyd yn 190,137, a'r plant yn 183,280. Ei chyfalaf yn £ 1,785,674. Ond o'i chychwyniad mae Rhif y Pebyll a agorwyd yn 6,463 aelodau mewn oed, 250,000 plant, 200.000. Ei Chyfalaf yn yn £ 2,150,000. Dyma fan diogel i ieuengctid ymuno. Pan yn dyfod yn aelod o'r Gymdeithas hon telir 2/6 with gynyg, ac i rai o 16 hyd 18 I oed telir 1/6i yn fisol i gael 10/- yn yr wythnos o glaf-dal, a £10 ar farwolaeth i rai o 19 hyd 24 oed telir 1/7 i gael yr un faint allan ac o 24 hyd 27 oed, 2/4! i gael 3 5/- yn yr wythnos o glaf-dal a £ 10 ar farwolaeth ac o 27 i 30 oed, 2/6. Eto i'r plant: 6c. entrance a 4c, yn y mis i gael 2/6 yn yr wythnos o glafdal ac o 30/- i £ 5 ar farwolaeth. Felly fe welwch na raid wrth dystiolaethau, am fod ei thystiolaethau wedi eu sylfaenu yn gadarn ynddi ei hun. Mawr hyderaf y bydd hyn o air yn rhoi goleuni i rywrai i weled ei gogoniant fel finauAELOD

' MAENTWROG.

. - - - ...................-…

[No title]