Skip to main content
Hide Articles List

7 articles on this Page

CYMANFA WESLEYAIDD BLAENAU…

News
Cite
Share

CYMANFA WESLEYAIDD BLAENAU FFESTINIOG. ADFYWIÀD YSBRYDOL." Cyahaliodd y brodyrWesleyaidd eu Cymanfa bregethu eleni yn dechreu cos Wener a diweddu nos Sul, Y gweinidogion wahoddwyd eleni oeddynt y Parchn T. O. Jores (Tryfan), D. R. Rogers, B A., R. Garrett Roberts, T. Isfryn Hughes, a Hugh Hughes, ac arbedwyd hwy i aHu cadw eu hymrwymiad. Cafwyd oedfaon grymus yn y pedwar addoldy. Yr oedd y pregethau yn Ebenezer y Sabboth yn rymus iawn ond ymddygiadau yr ieuengctyd yn y prydnawn yn hynod o anheilwng, Beth mewn difrif bsrodd i ferched ieuaingc o g3pelau eraill fyned i'r oedfaon a gosod eu hunain ar leoedd amlwg yn y gallery i cb-verthin a siarad gyda'u gilydd ar hyd y gwasanaeth, Yr dwy y nos yn y gallery yn cellwair ar hyd y bregeth gyntaf, a chodasant i fyned allan pan oedd yr ail bregethwr wedi dechreu pregethu, Sylwodd y Parch H. Hughes arnynt, a dywed- odd, Is! ewch allan gael i'r rhai sydd yma yti awyddus am wrandaw yr efengyl gael hsddwch Yr Arglwydd mawr roddo help i ni gofio mai nid paganiaid ydym Difrifol o beth oedd fod yn rhaid i'r pregethwr godi ar ei draed ar ddcchreu y gwasanaeth a dywedyd, Bobol! a ydych yn cofio lle'r ydych ? Rhodded Duw help i chwi sylweddoli mai yn ei Dy Ef yr ydych, ac nid mewn cyngerdd Tywallted arnom ysbryd addoli." Trachefn, pan oedd y Parch T. Isfryn Hughes yn darllen Gair Duw bu raid iddo ymatal, a galw sylw at dri o langciau ceddynt vn mhen uchaf y gallery yn camymddwyn! Hyn oil yn Mlaenau "Ffestiniog Yr oeddym yn methu credu y peth er yn dyst o hono. Nid oedd yn rhyfedd yn y byd i'r Parch Hugh Hughes ddywedyd "fod cyflwr pobl ieuaingc Cymru yn peri pryder dwys iddo, a'i fod yn ofni y gwaethaf am danynt." Er gwaetbaf yr "anfri a'r anfoes" hwn ar ran y bobl ieuaingc, cafwyd gwasanaeth ac Ysbryd Duw yn amIwg yn y gwiricnedd. Nid yw yn lie i ni mewn adrodd- iad fel hyn gofnodi y pregethau, ond yn unig ddatgan llawenydd wrth weled fod y nerth a'r ymroddiad nodweddai y PwJpud Wesleyaidd gynt yn parhau i aros ynddo, ac hyderwn yr erys tra y bydd y pwlpud ar ei draed, Y GYFEILLACH. I Frydnawn Sadwrn, yn Ebenezer, cynhaliwyd Cyfeillach, o dan lywyddiaeth y Parch P. Jones-Roberts. Wedi canu emyn ac i'r Parch D. R. -Rogers, B A ddarllen a gweddio, sylwodd y Cadeirydd mai y mater gosodedig i siarad arno ydoedd "ADFYWIAD YSBRYDOL," Byddai i'r brodyr oeddynt wedi eu penodi i draethu, gymeryd i fyny wahanol agweddau y mater. Cydnabyddant oil fod y mater yn un pwysig, -a neillduol o amserol. Hyderai y byddai effeithiau grymus o'r peth ei bun gael ei brofi tra y traethid arno. Caniataed Duw iddynt fod oil mewn ysbryd dysgwyl am v adfywiad crefyddol, a thra yn dysgwyl, gael ei sylweddoli. Y Parch T. Isfryn Hughes a ddywedodd. fod ganddo ef i siarad ar"Pa peth yw Adfywiad Ysbrydol ?" Yr oedd yn dda ganddo gael S bod unwaith yn rhagor yn Ebenezer, a chodai adgofion melus yn ei feddwl am lawer cyfarfod a cbyfeiliach agos at y nef gafwyd yno. Chwith iawn meddwl am le gwag nifer fawr o rai fu'n selog yn eu mysg, ond y maent hwy yn awr yn cynal cyfeillach yn ymyl y Gwr a garent mor fawr tra yma yn ceisio ei wasan- aethu. Yr oedd geiriad y mater oedd ganddo ef i siarad am dano yn un penodol -Beth yw Adfywiad Ysbrydol." "Adfywiad" ac nid "Diwygiad." Y mae adfywiad-yn rhywbetb dyfnach na diwygiad, Arwain y meddwl at yr effeithiau y mae diwygiad, ond arwain y meddwl at yr achos y mae adfywiad. Nid yw yn weddus arfer y gair adfywiad am achubiaeth dyn, am nad oes dim i'w adfywio mewn peefcadur ond pechod. Rhywbeth yn yr Eglwys ydyw, a rhai wedi eu hachub a'u hail eni a all ei deimlo. Y mae Adfywiad yn. rhywbeth sydd o angenrheidrwydd yn cymeryd lie yn yr Eglwys. Y mae llawer o feio ar yr Eglwys, ac y mae iddi lawer o bethau y byddai yn ddy- munol cael gwared a hwy, ond dyweder a fyner am dani, hi yw y sianel fawr i burc y byd. Nid oes obaith am lwyddiant ar Eglwys a'i gwaith heb adfywiad. Nid gweddi i bechadur yw yr un am adfywiad, ond gweddi i'r ailenedig. Gair dwfn iawn yw y• gair "Ysbrydol." Cyffyrdda a'r hyn sydd ddyfnaf ya y dyn y than ddyfnaf o'i bersonoliaeth. Ni arferir y gair "Ysbrydol" yn y Beibl yn ei berthynas a'r byd hwn a'i bethau, ond Arferir ef yn ei berth- ynas a'r hyn sydd anweledig ac agosaf i Dduw a thragwyddoldeb. "Adfywiad Ysbrydol:" díyw ymlenwad o'r Dwyfol-llanw y bywyd Dwyfol yn dod i mewn nes llenwi ein person- oliaeth a'i ddylanwad. Dyna y gwahaniaeth mawr rhwng moesoldeb a chrefydd un am weithio i lawr a gwella dyn a chymdeithas, y lIali am gymeryd meddiant o'r galon a gwella oddi lawr-oddifewn i'r allanol. Y mae yn yr adfywiad ysbrydol ochr Duw ac ochr dyn. 0 du Duw, llanw y bywyd Dwyfol yn cymeryd meddiant o'r holl ddyn ydyw. Ni wyddom beth yw bywyd, ond gwyddom beth yw byw. Bywyd, beth ydyw? Egni yn yr organau, medd rlni. Egni y Dwyfol yn dod i'r golwg mewn gwirionedd, purdeb, sancteiddrwydd, cyfiawnder, a chariad. Y cyflwr yma yw Adfywiad, ac felly y mae iddo ystyr, eang, Yr ydym yn ami yn ei gyfyngu i gyffroad teimladau, ond y mae yn bwysig cael syniad cliriach am ei ystyr na hyny. Golyga amgyffrediad cliriach, ac argyhoeddiad dyfnach o'r gwirion- edd fel y mae yn yr lesu. Awydd am wybod y gwirionedd cynifer sydd yn ein heglwysi yn anwybodus o Air Duw. Cael dirnadaeth mwy treiddgar o Air Duw, a'i sylweddoli yn ddyfnach. Yn yr adfywiad ysbrydol y mae hefyd fwynhau a gogoneddu Duw. Meddwl mwy am ogoneddu Duw na gogoneddu neu lesoli dynion. Caru cymydog yn fwy na charu Duw: gwendid Sosialaeth yw hyn, Duw sydd i fod yn gyntaf a phenaf, a dyn wedi'n, I 0 ochr dyn y mae Adfywiad Ysbrydol yn golygu,—arwydd ac ymdrech am sancteiddiad yn gwbl oil: ymdrech am gyflwr o lawnder ac aeddfedrwydd ysbrydol. Dywedodd John Wesley yr edwinai yr eglwys pan y collai olwg ar gwbl sancteiddhad. Y mae adfywiad ysbrydol i fod yn brofiad parhaus. Clywir am athrawiaeih cofnodau amser nodedig i Dduw weithio yn a thrwy yr eglwys ond y mae efe yn gweithio yn gyson. Dylai yr adfywiad fod yn brofiad parhaus yr eglwys. Gwir fod adegau o gyffro yn yr eglwys, ond y mae Duw yn gweithio ar ol hyny mewn ymgeIedd a nodi y dychweledigion. Y dydd o'r blaen yr oedd yn Talsarnau ar fin yr hwyr. Sylwai ar y llanw yn dod i mewn, a'r haul wrth fachludo yn goreuro yr holl fryniau a phrydferthweh annesgrifiadwy. Meddyliodd am lanw y nef yn dod i mewn yn Adfywiad Ysbrydol, a'r Eglwys yn prydferthu pobpeth o'i hamgylch a'i llewyrch a'i dylanwad sanctaidd. Y Parch R. Garrett Roberts, a ddywedodd mai i'w ran ef y daeth traethu ar Yr angen am Adfywiad Ysbrydol." Nid oedd angen am iddo ef fanylu ar y geiriad gan ei fod mor eglur, Yr oedd mwy o angen am Adfywiad Ysbrydol heddyw yn Nghymru nag y bu erioed, ar ol yr enciliadau a'r oeri mewn sel oedd trwy yr holl eglwys ar ol llanw y Diwygiad diweddaf. Edrychwn i'r fan a fynom, a dyma'r cri cri yn codi oddiar argyhoeddiad dwfn o'u hangen am Adfywiad Ysbrydol. A oes elsiau prawf o hyn ? Gwelirefynanmhoblogrwyddmoddion mwyaf ysbrydol yr Eglwys. Eglwys o dri chant o aelodau, a dim ond pymtbeg neu ugain yn y gyfeillach. Profi y mae hyny nad yw yr archwaeth mor ysbrydol ag y dylai fod. Dyna'r cyfarfod gweddi, anmhoblogaidd iawn yw hwnw. Dyma wres-fesurydd yr Eglwys. Bu gwres a bias arno yn amser y Diwygiad felyr oedd y bregeth mewn peryg], ond da cael y bregeth yn awr, a'r cyfarfod gweddi wedi bron ei gwbl esgeuluso. Beth am ddarllen Gair Duw: yr awydd am ddarllen y Beibl? Gwerthwyd mwy o Feiblau yn Nghymru yn 1904 a 1905 nag a werthwyd erioed yn flaen- orol, a gadawyd heibio lenyddiaeth smbeus, ond sut y mae yn awr ? Yr hen lenyddiaeth wenwynllyd yn dod yn ol, a'r Beibl wedi ei roddi o'r neilldu, Beth am y ddyledswydd deu- luaidd, y cyfarfodydd gweddio ar awr giniaw yn y gwaith, lie maent ? Cenid emynau y cysegr yn meob cwr, ac ar bob egwyl; ond mor wahanol yw heddyw. Hen arferion oeddynt wedi eu gosod i lawr yn codi eu penau eto yn ein gwlad. Y llenyddiaeth sydd yn myn'd yn awr oedd yr hyn nad oedd neb yn ei phrynu. Oes, y mae arwvddion o'r angen am Adfywiad Crefyddol. Defnyddir moddion atpheus at dalu dyledion addoldai: y niggers a'r raffles, &c. Oes, y mae angen am Adfywiad Crefyddol i godi yr Eglwys i awvrgylch burach a llai amheus. Y mae pobpeth genym ond yr Adfywiad. Y weinidoeaeth oreu fa gan yr Eglwys er y dechreu: y peirianwaith yn ardderchog, ond" Ysbryd y peth byw vn symud yr olwynion" yn absenol. Gwelodd beiriant mawr yn ngorsaf y Reilffordd a'i enw yn "Powerful," ond llonydd a gwan oedd am nad oedd sgerdd ynddo i'w symud. Yr oedd yn ymyl y dref (Blaenau) power house lie cyn- yrchid trydan i droi peirianau a goleuo yr ardal. Y mae gan yr Eglwys house of prayer, a dylai fod yn power house o dan ddylanwad yr Adfywiad mawr oedd eu hangen am dano. Y Patch T. O. Jones (Tryfan) a ddywedodd fod ganddo ef, a'r Parch Hugh Hughes, i siarad ar Pa fodd i gael Adfywiad Ysbrydol." Y mpdd ei gael oedd :—1. Ei ddymuno. Mae genym ni ein rhan. Sychedu a dymuno am dano. Mae adfywiad Eglwys yn golygu ad- fywiad yn y personau a'i ffurfiant. Rhaid ei ddymuno yn bersonol. 2 Ei geisio. Ei geisio a'n holl galon. Addawodd i ni ei gael ond ei geisio a'n holl galon. Ei geisio yn bersonol ac a'n holl galon. Pawb drosto ei hun yn ei geisio. 3. Talu pris am dano. Sonir am iachawdwriaeth rad, ond eostiodd i Dduw fwy na dim arall, a mwy na phobpeth ynghyd. Rhaid talu yn ddrud am dani: Codi y groes bob dydd-beunydd." Yr achos. fod ein bywyd wedi gwywo yw na chodasom y croesau wrth fyned yn mlaen. Rhaid symud yr byn sydd yn rhwystr i'r Adfywiad. Rhaid rhoddi i fyny ambell le, ac ambell arferiad. Costia yn ddrud, ond rhaid symud y rhwystrau os am Adfywiad. Rhaid tynu y plug o'r brif bibell os am gael cyflenwad o ddwfr i'r dref. Beth sydd yn rhwystro y dwfr sanctaidd i lifo i dy ysbryd. Wyrach y rhaid i ti adael dy alwedigaeth cyn y cei adfywiad i'th ysbryd. Beth sydd yn peri y gwywiant? Rhaid myn'd yn ol i chwiiio. Ceir yr Iesu lie collasom Eft Cafodd ei rieni Ef yn y deml, ac yno y collasant Ef. 4. Arcs nes y daw, Arhoswch chwi yn Jerusalem," Yn mba le y mae aros? Yn Jerusalem; yn ymyl yr ardd a'r groes. Aros lie y collasom y ff ordd. Y Parch. Hugh Hughes a ddywedodd ei fod yntau yn teimlo fod cryn hiraethu am gyflwr adfywiol parhaus yn yr Eglwys. Yr oedd wrthi yn awr, yn ei hamddenau, yn darlien banes bywyd Spurgeon. Byddai yn gyflwr o adfywiad parhaus arno ef a'i Eglwys: deunaw cant yn bresenol mewn cyfarfod gweddi bob tro. Byddai pawb o'i go' yno, a phawb yn ei sense hefyd. Sut i gael Adfywiad Ysbrydol? LJta peth at yr hyn a glywyd yn barod,-Rhoi ffordd i bob argraff dda ddaw oddiwrth Dduw Yr oedd Jinnie Lind yn tynu sylw a chlodfor- edd y byd yn yr Opera House, ond wrth weled fofl ei henaid yn cael cam, rhoddodd i fyny yr Opera am bethau uwch. Collodd glodforedd y byd am gwmni y Beibl. Un diwrnod tra'r eisteddai ar y traeth a'r Beibl ar ei glin, a'r haulfiJ1 machludo dros y gorwel. daeth un ati a gofynodd paham y gadawodd yr Opera a chlodforedd y byd, ac atebodd hithau fod colli yr oil yn enill smile Duw. Dylem wrandaw ar awgrymiadau a dylanwad da. Y golled oedd ein bod yn ceisio breuddwydio pethau amheus. Yr oedd yn anrhydedd i ni roddi ein hunain i gael ein cario ganddo Ef. Ein cario i sicrwydd na adewir mo honom gan Dduw. Ein cario nes y bydd y Salm Fawr" a'r holl son sydd ynddi am grfraith a ",deddf 'I.Duw 1 wrth fodd ein calon. Wedi dod felly, fe ddeu- wn i deimlo sicrwydd y gall Duw hel arian at achos crefydd heb i ni arfer moddion amheus i wneyd hyny. Y mae Adfywiad Ysbrydol yn golygu deffroad yr Ysbryd i hawliau Duw arnom, Gofynodd anffyddes un diwrnod, i Proffssor Jowett, "Beth ydych yn ei feddwl o Dduw ?" gan ddysgwyl cael atebiad amheus ac anffyddol ganddo; ond dywedodd Jowett, Cwestiwn bychan iawn yw, Beth yw fy medd- wl i am Dduw ?" Yr hyn sydd yn bwysig i mi yw, Beth y mae Duw yn ei feidwl o honof fi ? Rhodder i ni awydd i gyraedd tir mor uchel nes ymholi, sut y gallwn wneyd y diafol yn rhy nervous i ddod yn agos atom. Terfynwyd y gyfeillach trwy weddi gan y Parch. Rhys Jones.

A^A'WWWWVWWWWWWWVV CYNGOR…

EISTEDDFOD LENYDDOL A CHERDDOROL…

Urdd Anibynol y Rechabiaici.I

' MAENTWROG.

. - - - ...................-…

[No title]