Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

DUOlAiO A DIACONIAID. I

MASNACH RYDD, PA BETH YW,…

PRUN AI UN, AI TRI CHOR FYDD…

News
Cite
Share

PRUN AI UN, AI TRI CHOR FYDD OREU IIR ARDAL? Syr,—Os na bydd hyny yn ormod 0 dreth ar eich amynedd, ceisiaf ateb eto i lythyr Gwyliwr ar y pwnc uchod. Yn gyntaf oil, carwn ei gcmplimentio ar ei gyfarwydd-deb yn ei Feibl. Difynodd ddigon o adnodau i droi eich pspyr yn Seiat am unwaith yn ei oes ac mae yr adnodau byn, i'r pwrpis eu gwnaed, yn sicr o fod yn rhai da iawn, ond nid wyf yn gweled eu bod yn ateb i'r pwnc o dan sylw ddim gwell na pbe difynasi Cofiwch wraig Lot" neu ryw adnod arall mae pawb yn ei chofio. Mae pob adnod yn iawn yn ei lie, ond nis gwn fod yr un o'r rhai ddifynir yn csbonio prun ai un ai tri chor fydd oreu i'r atdal hon. Rhaid i mi ei gomplimentio hefyd ar ei dalent i guddio ei bwyntiau. Darllenais ei lythyr droicn i chwilio am y dadleuon sydd ynddo, ond mae yr awdwr gal!uog wedi eu cuddio mor ofalus fel y mae yn ihaid caal ilygad craffach nag un Hen Aelod" i'w gweled. Traetha ei farn ond nis gallaf weled ei reswm am dani. Dywed fod gan y neb a fynu "berffaith hawl i gredu yn ocest mai gwell tri chor rac un." Ond nis gwn fod neb wedi gwadu yr hawl hono. Yr oil a wnaethum i yn fy llythyr cyntaf oedd gwahodd rhai i roddi rheswm drcs gredu felly neu fel arall. Wrth gwis, mae rhywrai yn "credu yn onest" neu ni fuasai tri chor wedi eu codi ond nid yw eu ffydd ond ffoledd os na bydd sail iddi, waethpa mor onest fydd y sawl a'i coledda. Rhoddais i fy rhesymau dros gael un cor cryf yn gyfansoddedig o bigion yr ardal, yn hytrach na darnau o gorau ar chwal yn mhob cwr ohoni, ac nid oes neb wedi ceisio eu gwrth- ddywedyd. Ymddengys i mi eto bod pob rheswm o blaid hyn pa un bynag fyddo ai Cor ar gyfer Cylchwyl Harlech ai Cymdeithas G orawl i godi safon cerddoriaeth yn ein plith. Ceisiodd lolo" (yn ei ddiniweidrwy dd, mae'n lebyg) gyfiawnhau tri chor ar yr un tir ag enwadaeth. Ond cyturaf a "Gwyliwr" na ddylai enwadaeth gaellle yn y mater yma; a da genyf gael fy sicrhau ganddo nad yw yn cael lie chwaiih. Ni thybiais i hyny ar y dechreu. nid wyf yn tybied hyny yn awr. 1010" sy'n gyfrifol am ei awgrymu. Dywed "Gwyliwr" ei fod yn gredwr ma-wr yn y syniad y gwneir gwaith mwy effeithiol gyda thri chor cymedrol nee mewn un cor mawr," a chefnoga syniad plentynaidd "rolo" na fedr un arweinydd gael rheolaeth briodol ar gar mawr. Ond mae hanes cerddoriaeth yn llwyr yn ei erbyn. Cymerer yr eisteddfod genedlaethol ddiweddaf fel engraifft, yr oedd canu y corau mwyaf o ansawdd bsrffeithiach na'r rhai llai. Yr oedd nid yn fwy yn unig, ond hefyd yn well yn mhob ystyr.-y ddisgyblaeih yn fwy trylwyr, y feistrolaeth yn fwy perffaith, a'r datganiadau yn fwy gcrphenedig yn mhob modd. Mae hyn yn tori'r tir o tan draed Gwyliwr," os nad yn ei adael heb yr un goes i sefyll arni, ac yn dangos ei fod mor anmhrofiadol o ganu corawl sg ydyw ei gyfaill "lolo." 0 berthvnas i'r hyn a ddywed am "genfigen" a "cbreu drwg- deimladau" a "aweyd pathau cas," er mor ysgythyrol oedd ei bregeth, rhaid i mi gvfaddef fy mod yn parhau yn hollol anedifeiriol. Yn wir, of naf f od fy iaciiawdnvriaeth yn ancbeithiol gan nad wyf yn ymwybodol i mi bechu o gwbl yn y cyieirkd yea. Ac os bydd Gwyliwr mewn hwyl i ddifynu adnodau eto, difyned hon yn gyntaf Holed dyn ef ei hun." Yr eiddoch, HEN AELOD.

PA UN AI UN, AI TRI CHOR FYDD…

Y BAZAAR, Y LIMERICK, A'R.…

I LLYTHYR AGORED AT DRIGOLION…

ITALSARMAU. -I

I -PEWRHYNDEUDRAETH.-

--TRAWSFYNYDD. I

- ,V V¥¥CRQESCfl.v v v v v…

..PENMACHNO.

I BLAENAU FFESTINIOG.

BETH A DDYWEa MB. BALFOUR?