Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

8 articles on this Page

CYFARFOD CHWARTEROL ANNI-I…

Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol…

GYftJGOR DINESIG BETTWSYCOED.

News
Cite
Share

GYftJGOR DINESIG BETTWSYCOED. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd' y Cyngor hwn ncs Isu, Mr. Henry Roberts yn y Gadair, yr oedd hefyd yn bresenol Mri. T. W. B. Corns, Henry Williams, B, H. Pullan, W. E. Jones, T. Parry, Abel Davies, T. W. Evans, Salisbury Jones (Clerc), a R. D. Jones (Arolygydd). Cydymdeimlad. Y Cadeirydd ar ddecbreu y gweithrediadau a alwodd sylw fit farwolaeth Mr. Robert Rowlinson, yr hwn a fu yn aelod o'r Cyngor er ei sefydliad i fyny hyd Ebrill diweddaf, sc yn ystod y tymor hwnw bu yn nodedig am ei gyngor a'i sel gydag amgylchiadau cyhoeddus yr ardal. Cynygiai eu bod yn anfon llythyr o gydymdeimlad a'i weddw oedranus yn ei phrofedigaeth, j ac yn dodi ar y cofnodion ddatganiad o'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth ymroddol fel dinesydd. Cefnogodd Mr. Henry Williams, a phasiwyd trwy i'r Cyngor sefyll. Ananol. Mr. Corns a gyflwynodd adroddiad y Pwyllgor Arianol yn dangos costau y mis yn £ 54 Is 9c, ac yn gadael gweddiH mewn Haw o [88, 5s 5c. Casglwyd [114185 Oc ery cyfarfod diweddaf. Tori Coed. I Mr, B. H. Pullan a gyflwynodd adroddiad y Ddirprwyaeth fu gyda Mr. Thomas Griffith, Goruchwylydd etifeddiaeth Gwydyr. Gofynid am gael tori y ddwy dderwen ar Bont Pyllan a'r ddwy ar y cae gyferbyn, teneuo y coed ar Ian yr afon o Bont Waterloo i'r Sarn. Hefyd tori llwybr o Miners Bridge at Raiadry Wenol, a chlirio rhan o'r coed yn nghefn y Royal Oak Hotel er mantais i'r haul gael tywynu ar y lie. —Datganodd Mr. Griffith ei fod mewn cydym- deimlad a'r awgrymiadau ac y defnyddiai ei ddylanwad o'u plaid.-Mr. Abel Davies a ddywedodd y buasai llythyr ffurfiol yn cynwys y petbau a nodwyd yn cryfhau dwylaw Mr. Griffith wrth osod y peth o flaen y perchenog, a phasiwyd i anfon un felly. Goleuo. I Galwodd Mr. W. E, Jones sylw at yr angen oedd am lampau cyhoeddus ger Pontypair ac yn nghefn y Royal Oak Hotel, yr oedd cais hefyd wedi ei dderbyn yn flaenorol oddiwrth nifer fawr o drethdalwyr, ond yr oeddid wedi oedi ystyriaet'i y cyfryw.—Mr. Pullan a sylwodd i'r cais blaenorol gael ei oedi, a dylai hwn hefyd fod ar yr un tir hyd nes yr ail ystyrid holl fater y goleuo —Mr. W, E. Jones a ddaliai na ddylid oedi cais trethdalwyr oeddynt yn cael eu hamddifadu o freintiau fwynheid gan drethdalwyr eraill tra y cynhalient hwy ran o'r traul beb dderbyn dim o'r budd.—Wedi cryn siarad pallach, cyflwynwyd yr holl geisiadau i'w hystyried gan y Pwyilgor pan ddeuai pwngc cyffredinol y Goleuo o dan eu sylw. Mr. T. Parry a alwodd sylw nad odd y lampau yn cael eu diffodd ar ambsll adeg hyd yn mhell dros yr adeg penodedig, a deuai hyny a chostau ychwanegol arnynt heb ddimgalw am dano. Dylai y lampau gael eu diffodd ddeg o'r gloch. Pasiwyd i anfon at Gwmni y Gwaith Nwy ar y mater. Ar gynygiad Mr. W. E. Jcnes a chefnogiad Mr. Pullan pasiwydi ofyn i Gwmni y Reilffordd oleuo ffordd yr-Orsaf hyd yr adeg y diffoddid y lampau cyhoeddus. Ffyrdd. Pasiwyd i anfon at Arolygydd y Sir am gynllun o ffordd Cwmllanerch er mwyn ei osod o flaen Iarll Ancaster gyda golwg ar ei gwella, Penodwyd Mri. Pullan, y Cadeirydd, a'r Is- gadeirydd i fod yn Ddirprwyaeth i fyned at Iarll Ancaster yn nghylch ffordd Hafodlas oedd yn prysur ddod o dan ofal y Cyngor. Amrywi01. Cadarnhaodd Bwrdd y Llywodraeth Leol ail benodiad yr Arolygydd, Caniatawyd Trwydded i'r Llanrwst Con- solitated Co., i gadw Pylor yn eu Hystorfa. Adroddodd Dr. Travis i un enedigaeth ac un farwolaeth gael eu cofrestru yri ystod mis A wt. Pasiwyd i gynal cyfarfodydd y gauaf am bump o'r gloch yn lie chwarter wedi chwech fel yn misoedd yr haf.

I PRENTEG.-----

I CYMDEITHAS RHYDDFRYDOL IMEIRIONYDD.

BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.

1-1 - - CAPEL CURIO.

Advertising