Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
8 articles on this Page
CYFARFOD CHWARTEROL ANNI-I…
CYFARFOD CHWARTEROL ANNI-I BYNWYR MElRION. Cynhsliwyd yr ucbod yn Salem, Corris, Medi 27 a 28, 1910.Pwyllgorau am un o'r gloch ddydd Mawrth.—Y gynhadledd am ddau o'r gloch, o dan lywyddiaeth y Parch, Owen Davies, Ganllwyd, cadeirydd am y flwyddyn. Gyflwynodd yr ysgrifenydd gylchres o'r Cyfar- fodydd Chwartercl hyd 1922-Y cyfatfod nesaf i'w gynal yn Bethania, Ffestiniog. Parch. E, Evans, Llanegryn, i agor yr ymdrafodaeth ar y ffordd i feithrin brwdfrydedd crefyddol yn ein pob! ieuainc a'r Parch. H. ltdwards, Dyffryn, ar Ddirwest.-Ar gynygiad Mr Hughes, Jeru- salem, a chefnogiad Mr Davies, Brynbowydd, fod deibyniad cynes a cbroesawgar y cyfarfod yn cael ei roddi i'r Parch J. A. Morgan ar ei ymsefydliad yn Nhanygrisiau, gyda dymuno ei lwyddiact a'i gysur.-Penodwyd y personau caclynol i fed yn arholwyr ar y dosbarthiadau 11., III a IV,, y Parch. J. W. Davies, Hyfrydfa T. G. Joseph, Abergynolwyn, a H. Gwion Jones, Bethel. Fod y mater o gael un daflen gerddorol i'r holl Undebau Ysgolion Sul yn cael ei chirio hyd nes y ceir mwy o addfedrwydd barn ar y mater.—Pwyilgor Dirwest: Wedi darken penderfyniad Pwyilgor Dirwestol yr Undeb Cymreig i gael ymgyrch dirwestol y gauaf, aEogwyd fod mwy o sylw yn cael ei roddi i'r Baad of Hope, a da fyddai i frodyr gwahanol gymydogaethau newid a'u gilydd er rhoddi mwy o arbenigrwydd ar ddirwest. Ein bod yn llongyfarch Dr. Uoyd, Towyn, ar ei waith yn enill medal yr Alliance, a hyny gydsg anrhydedd i ymweled a'r eglwysi sr ran y Genhadaeth Dramor :—Dosbarth Ffestiniog. Mri Hughes (Jerusalem) a Morgan (Tanygrisiau); dosbarth Bala, Mri. Davies (Corwen) a Phillips (Bala); dosbarth Dolgellau, Mri. Parri Huws ac Edwards (Dyffryn) dosbarth Towyn, Mt Evans (Pennal) a Dr Lloyd (Towyn), Anog- wyd i'r brodyr ymweled-a boll eglwysi hyd y gellir. Cafwyd hanes dyddorol o weithrediad- au y gynhadledd fawr gynhaliwyd yn Edin- burgh, gan Dr Lloyd, a chredwn i bob calon gael ei chynesu at y gwaith cenhadol trwy hon. Fod y Parch. Owen Davies, Ganllwyd, i ofalu am gasglu at Drysorfa Gweddwon Gweinidog- ion.—Rhoddwyd anogaeth i yswirio ein medd- ianau yn ngbymdeithas yr enwad, yr hon sydd wedi cyfranu pedair mil o bunau i gynorthwyo gwahanol gymdeithasau yr enwad.—Hysbysodd yr ysgrifenydd iddo dderbyn llythyr oddiwrth y Parch. W. Parry, Aberllefeni gynt, Idaho, America, yn awr, fod ef a'i deulu yn iach a chysurus.—Fod yr ysgrifenydd i anfon llythyr at deulu y diweddar Barch. D. Lloyd Jones,, Patagonia, gynt o Bethania, Ffestiniog, Man- chester, Rhuthin, i ddatgan cydymdeimlad y gynbadledd a hwy ac a'r gwladfawyr yn y golled a gawsant yn ei ymadawiad, yr hwn a'r gyfrif ei alluoedd, ei gymeriad, a'i ysbryd gwladgarol, fu o wasanaeth aumbrisiadwy iddyr-t,-Fod ccfion y gynhadledd i gael ei anfon at Mr Morgan Jones a Mrs Jones, Bryn- bowydd, a chydymdeimlad a theuluoedd Mr Jones, Nant, a Jones, Nant yr Eit a; Mr Pugh a Mrs Edwards, Llanuwchllyn aca Mr T. J. Williams, Jerusalem, Ffestiniog.—Am haner awr wedi wyth bcreu Mercher caed cyfeiilacb, o dan lywyddiaeth y Cadeirydd. Dechreuwyd gan Mr Gregory, Dinas. Wedi ychydig eiriau gan y Cadeirydd, galwodd ar y Parch H. Gwicn Jones, Bethel, i agor yr ymdrafodaeth ar Ddisgyblaeth Eglwysig yn ngoleuni dysg eidiaeth Crist." Yr oedd y ppyr yn un cryf, atbronyddo), duwinyddo! ac yn dangcs meddyl- garwch a meistrolaeth cryf, ac y mae dymuniad cryf am iddo ymddangos yn y wasg. Cafwyd ymdrafodaeth fyw gan Mr Hughes, Jerusalem Mr Edwards, Dyffryn; Mr Pari Huws, Dol- gellau, a'r Ysgrifenydd, a chaed cyfarfod buddiol a byw.—Pregethwyd nos Fawith a thrwy ddydd Mercher. Yr oedd eneiniad am- lwg ar yr holl gyfarfodydd, ac y mae Mr Davies a phcbl ei ofal yn gweithio yn rhagorol er gwaethaf y dirwasgiad. Druid, Carwen. J. PRITCHARD, Ysg, Druid, Corwen.
Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol…
Cyfarfod Llenyddol a Cherddorol Trawsfynydd. Cynhalwyd yr uchod prydcawn a cos Sadwrn, Medi 24sin, Dechreuwyd cyfarfod y prydcawn am 2 o'r gloch o dan lywyddiaeth Mr Evan Jones, C.M., LSanrwst, Arweiniwyd y ddau gyfarfod yn ddeheuig dros ben gan DewiMai c Feiriôn, I ddechreu y cyfarfod, cafwyd detholiad ar y delyn gan y Telynor DaB, yr hwn oedd wedi dyfod yma i wasan- aethu yn y cyfatfodydd, a chafwyd anerchiad rhagorol gan y Llywydd. Enillwyd y gwobrau gan y rlrai canlynol :-Cystadleua-eth unawd, Yr Ecs," i rai dan 12 oed, cyfartal oreu Laura WiiHams, Trawsfynydd, ac Annie Alice Edwards, Manod Road, Bl. Ffestiniog; unavvd "Merch Megan," i rai dan 16 oed, goreu gydag uebel gymsradwyasth Teddy Rowlands, Fron- heulog, 2 Nellie Jones, Llys Arenig, 3 Sally Roberts, Chapel Street; englyn, "Robin Goch," Ednant, Dolgellau; adroddiad, "Y Bywydfad," 1 Alice Edwards, Manod Road, 2 W. C, Williams, Meirionfa; cosy cover, Miss Roberts, Llanfrothen; canu gyda'r tannau, II Llwyn Onn," W. J, Edwards, Highgate Temperance; unawd soprano neu contralto, Can y Preseb," Mrs M. E. Stoddart (Llinos Ceiriog), Bl. Ffestiniog; datganu gyda'r tannau gan Dewi Mai; sideboard cover, Miss Rob- erts, Llanfrothen action song i blant, goreu gydag uchel gymeradwyaeth, cor Mrs Morris, Bronygan, CYFARFOD YR HWYR. Dechreuwyd am 6 o'r gloch, dan lywydd- laeth Owen Owen, Ysw., C.C., Bl. Ffestiniog, [ yr hwn a draddododd anerchiad rhagorol. I [ ddecbreu y cyfarfod, cafwyd can Yr eneth ? ? ?Ios"ganLHnosDwyryd. EciMwydy gwob- rau yn y cyfarfod hwn gan y rhai canlynol Pedwarawd, "Myfanwy," J. Ll. Prodger a'i Syfeiilion, Festiniog; anerchiadau gan y beirdd, ni ddaeth ond un bardd yn mlaen, sef Hedd Wyn unawd baritone, "Profiad plentyn ? taeddwyn," Hugh O. Williams, Manod Rd.; datganu gyda'r delyn gan Dewi Mai, geiriau o'i waith ei hun prif adroddiad, Y ffoadur," William Parry, Namor, Beddgelert; unawd, "Cartref," Miss L. C. Thomas, Hafodfawr isaf, Festiniog; cyfansoddi darn i'w adrodd i blant, cyfartal Glan Machno, Penmachno, Ednant, Dolgellau, ac Eidan Jones, Llithfaen, Pwllheli; parti cymysg o ddeg-unrhyw don, cyfartal parti R. R. Jones, Festiniog, ac Edwin Lloyd, Trawsfynydd; antimacassar, Miss Roberts, Llanfrothen canu gyda'r delyn gan Dewi Mai; par o hosanau, neb yn deilwng; unawd tenor, "Y ferch o'r Seer," J. LI. Prodger; patti meibion, "Toriad y aydd," parti Graigddu, dan arweiniad Mr Edwin Lloyd, Trawsfynydd cor merched, Canig y cIychau," Trawsfynydd, dan arweiniad Mr Ellis Jones, Bodlondeb. Beirniad Cerddorol ydoedd J. J. Thomas, Ysw., Taisarnau Ad- roddiadau, Dewi Maio Feirion; Farddoniaeth, Parch R, R. Morris, Tabernacl, Bl. Ffestiniog. Gwasanaethwyd wrth yr Offeryn yn fedrus fel arfer gan Mrs Morris, Bronygan. Da iawn genym oedd clywed Dewi Mai yn hysbysu y cyfarfod fod y foneddiges ragorol Miss Pugh, Bryngwyn, wedi cyfranu at y drysorfa. Chwith iawn gan bawb weled ei lie yn wag ynddynt. Dymunwn ei hadferiad buan, ac hefyd da oedd genym glywed Dewi Mai yn cyfeirio at y ddau Lywydd am eu rhodclion teilwng. Diolchwto o galon iddynt,
GYftJGOR DINESIG BETTWSYCOED.
GYftJGOR DINESIG BETTWSYCOED. Cynhaliwyd cyfarfod rheolaidd' y Cyngor hwn ncs Isu, Mr. Henry Roberts yn y Gadair, yr oedd hefyd yn bresenol Mri. T. W. B. Corns, Henry Williams, B, H. Pullan, W. E. Jones, T. Parry, Abel Davies, T. W. Evans, Salisbury Jones (Clerc), a R. D. Jones (Arolygydd). Cydymdeimlad. Y Cadeirydd ar ddecbreu y gweithrediadau a alwodd sylw fit farwolaeth Mr. Robert Rowlinson, yr hwn a fu yn aelod o'r Cyngor er ei sefydliad i fyny hyd Ebrill diweddaf, sc yn ystod y tymor hwnw bu yn nodedig am ei gyngor a'i sel gydag amgylchiadau cyhoeddus yr ardal. Cynygiai eu bod yn anfon llythyr o gydymdeimlad a'i weddw oedranus yn ei phrofedigaeth, j ac yn dodi ar y cofnodion ddatganiad o'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth ymroddol fel dinesydd. Cefnogodd Mr. Henry Williams, a phasiwyd trwy i'r Cyngor sefyll. Ananol. Mr. Corns a gyflwynodd adroddiad y Pwyllgor Arianol yn dangos costau y mis yn £ 54 Is 9c, ac yn gadael gweddiH mewn Haw o [88, 5s 5c. Casglwyd [114185 Oc ery cyfarfod diweddaf. Tori Coed. I Mr, B. H. Pullan a gyflwynodd adroddiad y Ddirprwyaeth fu gyda Mr. Thomas Griffith, Goruchwylydd etifeddiaeth Gwydyr. Gofynid am gael tori y ddwy dderwen ar Bont Pyllan a'r ddwy ar y cae gyferbyn, teneuo y coed ar Ian yr afon o Bont Waterloo i'r Sarn. Hefyd tori llwybr o Miners Bridge at Raiadry Wenol, a chlirio rhan o'r coed yn nghefn y Royal Oak Hotel er mantais i'r haul gael tywynu ar y lie. —Datganodd Mr. Griffith ei fod mewn cydym- deimlad a'r awgrymiadau ac y defnyddiai ei ddylanwad o'u plaid.-Mr. Abel Davies a ddywedodd y buasai llythyr ffurfiol yn cynwys y petbau a nodwyd yn cryfhau dwylaw Mr. Griffith wrth osod y peth o flaen y perchenog, a phasiwyd i anfon un felly. Goleuo. I Galwodd Mr. W. E, Jones sylw at yr angen oedd am lampau cyhoeddus ger Pontypair ac yn nghefn y Royal Oak Hotel, yr oedd cais hefyd wedi ei dderbyn yn flaenorol oddiwrth nifer fawr o drethdalwyr, ond yr oeddid wedi oedi ystyriaet'i y cyfryw.—Mr. Pullan a sylwodd i'r cais blaenorol gael ei oedi, a dylai hwn hefyd fod ar yr un tir hyd nes yr ail ystyrid holl fater y goleuo —Mr. W, E. Jones a ddaliai na ddylid oedi cais trethdalwyr oeddynt yn cael eu hamddifadu o freintiau fwynheid gan drethdalwyr eraill tra y cynhalient hwy ran o'r traul beb dderbyn dim o'r budd.—Wedi cryn siarad pallach, cyflwynwyd yr holl geisiadau i'w hystyried gan y Pwyilgor pan ddeuai pwngc cyffredinol y Goleuo o dan eu sylw. Mr. T. Parry a alwodd sylw nad odd y lampau yn cael eu diffodd ar ambsll adeg hyd yn mhell dros yr adeg penodedig, a deuai hyny a chostau ychwanegol arnynt heb ddimgalw am dano. Dylai y lampau gael eu diffodd ddeg o'r gloch. Pasiwyd i anfon at Gwmni y Gwaith Nwy ar y mater. Ar gynygiad Mr. W. E. Jcnes a chefnogiad Mr. Pullan pasiwydi ofyn i Gwmni y Reilffordd oleuo ffordd yr-Orsaf hyd yr adeg y diffoddid y lampau cyhoeddus. Ffyrdd. Pasiwyd i anfon at Arolygydd y Sir am gynllun o ffordd Cwmllanerch er mwyn ei osod o flaen Iarll Ancaster gyda golwg ar ei gwella, Penodwyd Mri. Pullan, y Cadeirydd, a'r Is- gadeirydd i fod yn Ddirprwyaeth i fyned at Iarll Ancaster yn nghylch ffordd Hafodlas oedd yn prysur ddod o dan ofal y Cyngor. Amrywi01. Cadarnhaodd Bwrdd y Llywodraeth Leol ail benodiad yr Arolygydd, Caniatawyd Trwydded i'r Llanrwst Con- solitated Co., i gadw Pylor yn eu Hystorfa. Adroddodd Dr. Travis i un enedigaeth ac un farwolaeth gael eu cofrestru yri ystod mis A wt. Pasiwyd i gynal cyfarfodydd y gauaf am bump o'r gloch yn lie chwarter wedi chwech fel yn misoedd yr haf.
I PRENTEG.-----
PRENTEG. DEWIS SWYDDOGION —Bu y Parch G. Parry Hughes, Morfa Nefyn, a Mr W. T. Wil- liams, Penmorfa, yn derbyn llais eglwys M ,C. Prenreg, ynglyn a dewis swyddogion. Dewis- wyd y rhai canlynol Mri J. Alun Pugh, Porthreuddyn, a Robert Jones, London Terrace
I CYMDEITHAS RHYDDFRYDOL IMEIRIONYDD.
CYMDEITHAS RHYDDFRYDOL MEIRIONYDD. CYFARFOD YN PENRHYNDEU- I DRAETH. Anerchiad gan Mr. Haydn Jones, I A.S. Cyfarfu y Gymdeitbas prydnawn lau, yn Ysgoldy Gorphwysfa (M c ), Penrhyn, dan lywyddiaeth Mr. William Owen, Plaswaenydd, Blaenau Ffestiniog, Cadeirydd. Gohebiaethau. Darllenodd yr Ysgrifenydd lythyrau oddi- wrth Mr. William Hughes, Dogellau General R. O. Jones, Bala a Syr A. Osmond Williams yn gyfidio na allent fod yn bresenol. Darllenwyd llythyr oddiwrth Gangen leol y Cymdeithas yn Nghorris, yn gwrthwynebu i'r Cyfarfod Blynyddol gael ei gynal yn Mhen- rhyndeudraeth yn hytrach nag Abermaw neu, Dolgelley, am eu bod yn fwy canolog, ac hefyd yn gofidio na buasai rheolau y Gym- deitbas wedi ei diwygio a'u cwblhau (clyweh clywch). DarJJenwyd IJytbyr o'r Gangen Gymdeithas Harlech yn gofyn am i'r Cyfarfod Blynyddol gael ei gynal yn Harlech yn ei dro. Sylwai y Parch. D. Davies (Dewi Eden), fod ganddynt amryw resymau dros eu cais. Yr oedd Harlech wedi bod yn y gorphenol yn fan canolog y Sir i gynal gwahanol gyfarfodydd, ond erbyn hyn yr cedd pobpeth wedi ei gymeryd oddiarnynt ond y Castell (chwerthin) ac erbyn hyn yr oedd yn teimlo eu bod o ddifri am adferu Harlecb i'w safle cyntefig. Dywedodd y Cadeirydd mai materion i'r Pwyilgor Gweithiol ydoedd y rhai hyn a pasiwyd i roddi iddynt. Rhoddodd Mr. r. Davies, Harlech rybudd y byddai yn dod a'r cynygiad yn mlaen y tro nesaf. Y Gyllideb. Gyflwynodd y Trysorydd (Mr J. W. Roberts, U H., Bala), y cyfrifon arianol, y rhai a ar- chwiliwyd gan Mr J. Prrry Jones, U.H., Bl. Ffestiniog. Treuliau y lfwyddyn, /62 9s; ac yr oedd y swm o £ 58 8s mewn llaw, ac eisiau £60 i gyfarfod a thraul y flwyddyn nesaf. 01-ddyledion. I Galwodd y Cadeirydd sylw at y cymdeith- asau Ileol oedd mewn ol-ddyledion. Y prif rai ydoedd Abermaw, £ 9 3s 6c Conglywal, f 12 16s 3c; Llanegryn a Hwyngwril, ClO 16s, ac amryw symiau llai yn gwneyd cyfanswm o tua £ 50. Methai a deall pam yr oedd lleoedd fel yr uchod yn peidio talu. Adeg etholiad bydd- ant yn fyw iawn, ac am ei hawliau yn llawn. Nid oedd ond un cynrychiolydd o Gongly- wal, sef Mr William Williams, Gofynai y Cad- eirydd a allai roddi ryw reswm dros ei sefyllfa. Mr W. Williams.-Ofnai fod difaterweh a diffyg ymdrech yn y trefniadau yn y dosbarth i fyned o gwmpas i gasglu, ac nid oedd yno neb ond efe a digon o wyneb i ddod i'r cyfarfod, ac ofnai na byddai iddynt allu talu os na bydai iddynt faddeu rhyw gyfran iddynt. Cadeirydd.-Dyna y cais llynedd, ac er hyny nid oedd dim ymdrech yn cael ei wneyd i: dalu dim. Wedi amryw gynygiadau, pasiwyd ar gyn- ygiad yr Henadur W. B. Evans, fod i'r Cad- eirydd, Mr John Cadwaladr, ynghyda Mr W. Williams, i fyned i'r Dosbarth i gynal cyfarfod i wneyd apel at yr etholwyr, yn cael ei gefnogi gan Mr G. Brymer Hughes, ynghyda cynygiad Mr G. G. Davies fod cylchlythyr yn cael eu hanfon i'r etholwyr yn y gwahanol ddosbarth- iadau sydd mewn dyledion, y pwysigrwydd iddynt wneyd eu rhan yn arianol, er cadw eu hawliau yn y Gymdeithas, yn cael ei gefnogi gan Mr Richard Williams, Bl. Ffestiniog. Hysbysodd Mr Griffith Roberts, Abermaw, nad oedd pethau cyn waethed yno ag oedd yn meddwl. Yr oedd ganddynt mewn Haw £ 8 10s a byddent wedi eu talu ymhen ychydig amser (uchel gymeradwyaeth). Llanegryn a LJwyngwril. Nid attebodd yr un Cynrychiolydd. Pasiwyd i Dr J. J Jones, Dolgelley, a Mr W. Wynne, Arthog, i fyr ed yna i gynal cyfarfcd ac i egluro iddynt hwythau eu safle. Dew!s Swyddogion. I Argymella y PwyllgorGwcithiol i'r unSwydd- ogion gael eu hail ethol, a gwnaed felly:- Llywydd, Mr W, Owen, U.H Bl. Ffestiniog; ls-lywydd, Mr John Davies, Dyffryn Trysor- ydd, Mi J. W. Roberts, U.H., Bala; Ysgrifen- ydd, Mr Guthrie Jones, Dolgellau Archwilivvr Mr J, Parry Jones, U.H., Blaenau Ffestiniog. Gofynodd Mr R. J.Jones, Penrhyn, ar ba dir y gwnai y Pwyilgor Gweithiol hyn. Credai ef mai gwell a thecach lawer ydoedd i'r Cyfar- fod Agored ddewis Swyddogion (clywch, clywcb). Mr John Davies, Dyffryn, a ddywed- odd fod y cyfarfod blynyddol yn y Bala wedi pasio nad oedd y Pwyllgor Gweithiol i enwi swyddogion, ond fod y Gynhadledd i gael dwy- law rhydd yn y mater. Y Cadeirydd a ddywedodd na wyddai pam na fnasai Mr John Davies wedi dyweyd hyny yn y Pwyllgor Gweithiol. "Yn oedd ganddo ran yn y trefniadau, ond dywedai y byddai i'r Pwyllgor Gweithiol gymeryd sylw o'r peth, Etholwyd Mr Louis Jones, Harlech yn lie y diweddar Mr Foulkes Jones ar y Cyngor Rhyddfrydol Cenedlaethol, a Major R. 0 Jones, Bala (yn lie y Trysorydd), a Mr Haydn Jones, A S. Ac ar y Cyngor Rhyddfrydol Sirol, Syr A. Osmond Williams, Mr. Haydn, Jones, A.S., a Mr Guthrie Jones, I- Penderfyniadau. Cynygiodd Mr Andreas Roberts benderfyniad o Ranbarth Fourcrcsses, Blaenau Ffestiniog: "Fody cyfarfod hwn yn datgan ei barn yn bendant o blaid i'r Llywodraeth ddeddfu er sierhau taliad i Ae'odau Seneddol am eu gwas- anaeth, ac hefyd osod costau Swyddogion Dychweliadol gydag etholiadau Seneddol ar y trethi. Cefnogwyd gan Mr W. Edwards, Llandder- fel, a phasiwyd. Cynygiai y Parch W. R. Jones, Llanfrothen, "Ein bod fel Cymdeithas Ryddfrydol Sir Feirionydd yn datgan ein aiolcbgarwch i'r Weinyddiaeth am yr hyn a tvnaeth yn gor- phenol, ac hefyd ein hymddiriedaeth lwyraf ynddi, gan hyderu yn fawr y bydd iddi gario allan ddymuniadau y werin yn nglyn a Ty'r Arplwyddi." Cefnogwyd gan Mr John Davies, Dyffryn, a phasiwyd gyda chymeradwyaeth. Anerchiad Mr. Haydn Jones, A.S. I Ar gais y Cadeirydd cododd Mr. Haydn Jones i fyny i anerch y cyfarfod yn nghanol cymeradwyaeth. Dywedai mai dyna y cyfar- fod cyntaf iddo gael cyfle i anerch y Gymdeitbas wedi ei etholiad 12 mis yn ol, a da ganddo gael cyfle i dalu diolchgarwch am iddynt ei ddewis mor anrhydeddus (cymeradwyaetb). Bu i gymaint a 6065 bleidleisio o dan y faner Ryddfrydol yn y Sir. Dyna y nifer fwyaf, a bu i 1873 bleidleisio dros y Toriaid nis gwyddai a'i hyny oedd y nifer lleiaf, ac yr oedd am i'r nifer fyn'd yn Hai. Nid oedd yn meddwl mai dim ynddo ef oedd yn peri y fath fwyafrif ond ymdrecb mawr ei b'eidwyr. Anfonodd cyfaill o Dori (Mae genyf, meddai, rai cyfeillion yn y blaid hono) un o'r pethau mwyaf dyddorol i mi y dydd o'r blaen, sef copi o hen e*halrestr o Sir Feirionydd yn y flwyddyn 1836. Rhifedi yr etholwyr y pryd hwnw oedd 1336. Yr oedd yn ihaid i ddyn fod yn berche Oj eiddo, neu yn dal tydd., n £ 50 o rent er cael pleidlais, ac nid oedd ballot yn bod chwaith. Cymerodd etholiad le yn y Sir a dau ymgeisydd ar y rnaes. Dros y Toriaid yr oedd Mr. Richards a dros y Rhydd- frydwyr, Mr. Wynne. Cdfodd y Rhyddfryd- wyr 150, a'r Toriaid 501. Nid oedd ond pump o leoedd a pheidleisio vnddynt trwy y Sir, sef Harlech, Dolgelley, Towyn, Bala, a Corwen. Yn Towyn yn unig y cafwyd mwyafrif Rhyddfrydol (chwerthin). Harlecb, 65 (R ), 108 (T.); Dolgelley, 7 (R.), 97 (T.); Towyn, 70 (R.), 58 (T.); Bala 5 (R ) 130 (T ); Corwen, 3 (R ), 107 (T.). Ond er y cwbl achos yn myn'd rhagddo ydyw. Yr oedd gwaith y blaid Doriaidd yn gwrthwynebu i bob pregethu gael pleidlais yn Llysoedd Cofrestriadol wedi deftro llawer (cywilydd). Pan oeddwn yn myn'd a gwmpas amser yr etholiad, y prif faterion oeddynt, Cyllideb Mr Lloyd George (cymeradwyaeth), Ty'r Ar- glwyddi, Yswiriaeth i'r di-waith. Yr oedd y Gyllideb erbyn hyn wedi pasio er gwaethaf yr Wrth-blaid a'u dichell i geisio cael gan y Gwyddel i'w helpu, i'w magu. Mae y Gwyddelynfwyhirbenolawer na'r Toriaid. Gwyddai na fydda gobaith o'r cwestiynau mawr, Ymreolaeth i'r Iwerddon a Ty'r Arglwyddi, os na phlesid Cyllideb Mr Lloyd George (uchel gymeradwyaeth). Gjdi golwg ar y Conference oedd yn ystyr- ied pwnc Ty'r Arglwyddi, yr oedd ef yn ei herbyn ar y cychwyn, am ei fod o blaid dileu y Ty, ond yn awr tueddai i gredu y deilliai lies ohono. Mae y ffaith fad y Toriaid wedi anion cynrycbiolwyr i'r Gynhadledd yn dweyd fod eisiau diwygio rhywbeth arno. Nid oes dim gorphwys i fod hyd nes gwneyd rhywbeth i Dy'r Arglwyddi, ac nid awn i etholiad heb gael y Weinyddiaeth i ddweyd yn bendant pan y torodd y Conference i fyny. Os na ehid cytuno, fe fydd y blaid Rhyddfrydol ar dir cadarn o flaen y wIsd. Disgwyliai y byddwn cyn mis Rhagfyr wedi c-iel gwybod beth fydd wedi dod o'r Gynadledd, ac fe fydd y Toriaid yn ymdrechu a'i boll egni, a rhaid i ninau wneyd. Nis gallwn ddweyd pa mor agos ydyw hyny, dywed rhai y bydd yn mis Ionawr, ond nis gwyddent. Ymladdodd y Toiiaid y tro di- weddaf i gael gweled lie yr oeddynt yn sefyll. Gellir bod yn sicr y gwnact eu goreu eto, a gweithiwn ninau ein goreu i wneyd y mwyafrif yn fwy o lawer, ac fe gawn lonydd. Ei gyngor i bawb yw Bydowcb barod (chwertbin). Dangosodd Mr Haydn Jones gopi o'r Form IV y scnir cymaint am dani, ac eglurodd mai amcan y Toriaid yn codi anhawsterau yn ei chylch oedd er ei wneyd yn gri etholiadol. Nid oedd yn werth o gwbl iddynt ddod a Masnach Rydd o flaen y wlad eto. Yr oedd Mr Walter Long yn colli dagrau wrth ben y ffurflen, a Mr Prettyman yn sefydlu Undebau y Tir." Diolchai iddynt, nid am eu bod yn anhawdd ei deall, ond am eu bod yn codi toilau newydd- ion oedd yn govgu iddynt hwy oedd yn perch- enogi ystadau anferth, dalu eu rhan yn decach at gyllid y wlad, a thynu peth o'r baich oddiar gefn y gwan (cymeradwyaetb). Nid oedd angen pum munyd i lanw y ffurflen. Mae Cyllideb Mr Lloyd George yn myn'd i wneyd i'r tlawd a'r gorthrymus, ac hefyd i ssfyllfa arianol y wlad, fwy nag a feddyliodd Mr L'oyd George ei hun (cymeradwyaeth). Cwynai y Toriaid oherwydd y gwastraff mawr mewn talu cyflogau, appwyntio priswyr ac arolygwyr ynglyn a'r tir, ond yn gwneyd hyny er cynorthwyo y werin ac i roddi baich ar rai abl i'w gario, ac yn awr mae llawer yn teimlo y baich am y tro cyntaf (cym.) Cyfeiriodd at gynllun Yswiriaeth. Yr oedd hwn yn barod at y flwyddyn nesaf, a byddai y rhai sydd yn derbyn cymorth plwyfol dros 70 oed, yn cael Pension ddecjhreu y flwyddyn. Dywedai ei fod bob amser o blaid i'r Llyw- odraeth dalu i Aelodau Seneddol, ac yn fwy felly ar ol myn'd i'r senedd, a gwelid fod llawer iawn yno yn fwy ar gyfrif yr-hyn oedd yn eu llogellau na'r hyn oedd yd eu penau (chwerthin). Hefyd rhoddi costau etholiadol ar y trethi, ond rhaid fyddai diwygio a newid y raddfa o'r modd y telir yn bresenol. Cyfeir- iodd *4 ei berthynas ef a'r Ty ac a'r Blaid Gymreig. Gofynlai iddynt beidio barnu dyn yn ol y rhif y rhaniadau oedd wedi ei attendio, nid oedd wedi bod yn mhob rhaniad, ond gallai ddyweyd ei fod wedi presenoli ei bun yn mhob rhaniad o bwys. Nid oedd yn hollol foddhaol ar bob peth wnaeth y Blaid Gymreig. Yr oedd rhywun yn y papurau wedi dweyd nad oedd ef a dau arall yn cytuno a'r Blaid, Nid oedd hyny yn wir, Teimlai fod llawer a waith eislau ei wneyd nad oedd y Blaid yn ei gyflawni ac yr oedd ef a thri neu bedwar eraill wedi dechreu ei wneyd. Teimlent nad oedd llw y Brenin yn ffyddlon i Anghydffurfiaeth a chaw- sant gyfnewidiad ynddo. Meddyiiai Mr. Jones pan yn myned i'r Senedd, ar y dechreu, fyned yno i gael teimlo ei ffordd, a pheidio siarad am yspaid. Ond diolchai i Mr. Ormsby Gore am ddod ag ysgcl Towyn i sylw, a rhoddi iddo gyfleusdra i siarad am y tro cyntaf yn Nhy'r Cyffredin ar fater y gyddai gymaint yn ei gylch a Mr Ormsby Gore a dweyd y lleiaf (chwerthin). Ar y diwedd eto diolchai iddynt oil, ac nid oedd wedi cael dim ond caredigrwydd ganddynt. Yr oedd yn benderfynol o wneyd ei oreu yn y Ty. Yr oedd dob amser yn cael pleser mewn gwasanaethu eraill, ac os byddai gan rywun mewn ryw ardal ryw gwestiwn a garent i ddwyn i syIw, gwahoddai hwynt i anfon ato a gwnai ei oreu ar eu rhan. Trefna gyfarfodydd i fyn'd o gwmpas er gwneyd pob peth i gael cyfleusdra i adnabod eu gilydd, a phan ddaw taro i ni gael gwneyd byny yn effeithiol (cym ). Ar gynygiad y Cadeirydd a chefnogiad Mr William Edwards, Liandderfel, pasiwyd diolcbgarwch cynes i Mr Haydn Jones am ei waith a'i anerchiad. Talwyd diolchgarwch hefyd i'r Llywydd ar gynygiad Mr Cadwaladr Roberts, u.H.
BWRDD GWARCHEIDWAID PENRHYNDEUDRAETH.
BWRDD GWARCHEIDWAID PEN- RHYNDEUDRAETH. Cyfarfu y Bwrdd ddydd Mawrth pryd yr oedd yn bresenol, Mri. Owen Jones (Cadeirydd), R. O. Williams (Is gadeirydd), D. Tegid Jones, Parch, Thomas Griffith, Mrs Casson, Mrs Morris, G. Parry Jones, Richard Roberts, Richard Williams, William Wil- liams (Blaerau), William Williams (Traws- fynydd), Jphn Roberts (Taisarnau), John Roberts (Itawsfynydd), Edward J. Hughes, David Pughe, Parch. John Hughes, Parch. D. Onllwyn Morgan, Owen Evans, R. W. Vaughan, Evan R. Owen, D. Ffowden Jones, Edward Llewelyn, Cadben Morgan Jones, E. Davies Jones, John Pritchard, Dr J. R. Jones (Meddyg y Ty), Thomas Roberts (Clerc). David Jones (Clerc cynorthwyol), David J. Jones (Meistry Ty), a'r tri Swyddog Elusenol, R. Parry, W. Thomas, a J. Bennett Jones. Y Ty. Y Meistr a roddodd ei amcan gyfrif am al- wadau y Ty y pedair wythnos nesaf yn gwne-ed y cyfanswm o Lr82 9s 7c. Yr oedd 78 yn y Ty ar gyfer 81 yr un amser y llynedd, a galwodd 24 o grwydriaid yn ystod y bythefnos ddiweddaf. Medi 21 aeth Robert Davies allan o'r Ty i fyned at ei fam Ann Davies, Penrhyndeudraeth. Medi 21, daeth Robert Williams, 32 oed, Cwmbowydd Road, Blaenau, i'r Ty, Medi 23, daeth Ellis Williams, Saer, Maentwrog, i'r Ty yn wael ei iechyd. Medi 28, diangodd William Lewis, Llongwr o Porthmadoc allan o'r Ty, ac wedi ei ddal ddydd Sadwrn, dygwyd ef yn ol, a rhoddodd y Meistr dasg galed iddo. Cymer- adwyodd y Bwrdd yr hyn a wnael iddo. Yr Elusenau a'r Tlodion. Yn Nosbarth Tremadoc talodd Mr. Richard Parry £72 7s Oc mewn bythefnos rhwng 272 o dlodion, ar gyfer £ 77 2s Oc rhwDg 280, a gofynai am £ 79 at y bythefnos nesaf. Yn Nosbarth Ffestiniog talodd Mr. William Thomas £ 114 18s llc rhwng 375, ar gyfer £ 110 13s Oc rhwng 337, a gofynai am [1l5. Yn Nosbarth Deudraeth talodd Mr. J. Bennett Jones £ 70 lis 9c rhwng 240, ar gyfer £ 67 12s 3c rhwng 242, a gofynodd am £ 71. Cyfanswm o £ 264 17s 8c rhwng 887. ar gyfer £ 255 7s 3c rhwng 859, a'r gofyniadau yn f 265, Arianol. Y Cadeirydd a ddywedodd nad oedd y Bwrdd yn nyled neb, ond yr oedd tri pblwyf yn nyled y Bwrdd. Ffestiniog £ 2795 Garn Dolbenmaen £ 95 Ynyscynhaiarn £ 200 :— 1.3,090. Archwilio Rhestr y Tlodion. Rhanwyd y Bwrdd yn dair cangqn ac awd trwy restr yr holl dlodion gan gyfneryd pob enw ar ben ei hun. Canlyniad hyn oeid gostwng 8/- ya Nosbarth Tremadoc, a 1/6 yn Nosbarth Ffestiniog. Galwad Cyngor Sirol Arfon. Yr oedd galwadau y Cyngor uchod yn £ 1799 Is am yr haner blwyddyn nesaf. Y Tlodion a'u Pieidleisiau, Pasiwyd i gefnogi deiseb yn ffafr deddfu nad oedd derbyn e)usen achlysurol i ddifreinio y sawl a'i derbyniant i gael pleidleisio. Y Gwallgofiaid. Derbyniwyd bil y chwarter o Wallgofdy Dinbych am £ 251 18s 9c. Coffadwriaeth y Brenin. Y Cadeirydd a ddatganodd ei gymeradwy- aeth llwyr i gynllun Mr David Davies, Llan- dinam, gyda codi coffa y diweddar Frenin, Methodd ef a myned i'r Gynhadledd, ond nis gallesid gwneyd yn well nag a wnaed yno.
1-1 - - CAPEL CURIO.
1-1 CAPEL CURIO. Derbyniodd trigolion y lie newydd da iawn sef fod Cwmni wedi cymeryd Chwarel y Rhos ac yr oedd yr hen ddwylaw yn cael ail ddechreu gweithio heddyw sef dydd Llun. Mae y chwarel uchod wedi ei chau er's dwy flynedd, hyderwn yn fawr y bydd yn gaffaeliad i'r lie. Mr. D. Evans yw y goruchwyliwr fel o'r blaen. Da genyf ddeall fod Mr. E. Lewis yr Ysgol- feistr yn gwella yn foddhaol ar ol y ddamwain a'i cyfarfu. Gweinydda yr Hybarch Benjamin HugHSs, Llanelwy, gyda'r Methodistiaid, yr hwn sydd mewn oedran mawr, eto mor heinyf a llangc ugain oed.
Advertising
FFAITH.—Nid oes unrhyw Optician yn y Deyrnas yn meddu ar Dystysgrifau uwch ar ol pasio Arholiadau mewn Profi y golwg, fic., na Mr. Hugh Jones, Med- cal Hall Blaenau Festiniog.