Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

13 articles on this Page

LLYS METHDALIADOL BLAENAU…

News
Cite
Share

LLYS METHDALIADOL BLAENAU I FFESTINIOG. Dydd Llun, yn Adeiladau Sirol Blaenaa Ffes- tiniog, o flaen y Cofrestrydd, Mr Thomas Jones, daeth chwech o achosion Methdaliadol —dau chwarelwr, dau dafarnwr, un mas- nachwr llechi, ac un masnachwr, Holwyd hwy gsn Mr John Tobias, y Dirprwy-dder- bynydd Swyddogol, Achos Robert Hughes. I Daeth Chwarelwr o Dolgaregddu, Blaenau Ffestiniog, i fyny am ei arholiad cyhoeddus Swm ei ddyledion oedd £ 83 18s lc, eiddo £ 2 12s 'Oc yn gadael diffyg o £81 6s lc. Bu yn byw yn Springfield Terrace am amryw flynydd- oedd, ac yr oedd yn 2, Dolgarregddu er's chwe' mis, Cbwarelwr ydoedd gyda thri o blant, un o honynt yn wael. Enillai 4s 3c y dydd, a gwnaed Archeb Weinyddiadol yn ei erbyn flynyddoedd yn ol am yn agos i haner can' punt o ddyled i'w thalu yn ol 12s 6c y bunt, a 9s y mis. Talodd J9 Is oc o dan yr Archeb hono, yr hyn oedd yn gyfartal i Is 8c y bunt o'r dyledion o tani. Yr oedd mewn dyled er's naw mlynedd, a suddodd yn ddyfn- ach trwy nad oedd yn gweithio ond am bedwar diwrnod yr wythnos am dair blynedd.-Cau- wyd yr arholiad. Achos Owen Henry Owen. I Daeth Owen Henry Owen, 1, Uncorn Ter- race, Blaenau, i fyny am ei arholiad. Rhoddai swm ei ddyledion yn £ 200 lls le, o'r rhai yr oedd £ 100 yn ddyledus i un masnachwr. Yr oedd y Taquat Mining Co,, yn ei ddyled o £150, a chyfrifai hyny yn ddyled drwg. Ei ddiffygion oedd £ 198 lis Ic. Bu am dymhor yn gweithio yn Nglofeydd y Deheudir, a gwas- anaethodd o ddeg i bymtheg mlynedd gyda'r Royal Fusiliers, a gwasanaethodd yn rhyfei- oedd Deheudir Affrica a Burmah. Bu yn gweithio yn y West Coast yn Affrica. ac_«n enill punt y dydd, ac anfonai arian adtffrw deulu tra y bu yno. Yr oedd ganddo werth cant a haner o bunau o gyfranau yn y Taquat Mining Co. Gofynodd Mr Tobias pa fodd ar y ddaear yr oedd wedi llwyddo i fyned i ddyled o gant punt gyda'r un masnachwr yn yr ardal, ac atebodd mai ar sail yr eiddo oedd ganddo yn y Cwmni ucbpd o'r hwn y disgwyliai arian. Labrwr yn y chwarel oedd yn awr.—Cauwyd yr arholiad. Achos Alfred Edward Parry. I Daeth Alfred Edward Parry, Black Horse Inn, Llanrwst, yn mlaen am arholiad. Yr oedd cyfanswm y dyledion yn £ 717 5s 9c, ac wedi tynu yr eiddo allan yr dedd y cyfrif yn gadael diffyg o J272 14s 9c. Achos y meth- daliad ydoedd Masnach wael,:a rhoddi coel." Gwnaed ef yn Fethdalwr Awst 22. Yr oedd yn 38 mlwydd oed, ac yn saermaen wrth ei alwedigaeth, ond yn awr yn denant Black Horse Inn er's chwe' blynedd, ac am ddwy flynedd cyn hyny bu yn denant y Crown Inn, Llanrwst. Cyn hyny fa weithiodd fel saermaen am bum' mlynedd, a bu mewn partneriaeth gyda'i frawd fel adeiladwyr am bum' mlynedd hyd 1901. Chwefror 1904 bu i'r partneriaid a fasnachent fel Samuel Parry & Sons," wneyd gweithred yn trosglwyddo yr eiddo er budd y gofynwyr o dan yr hon y mae 5s y bunt, allan o gytundeb am 10s y bunt, wedi eu talu. Daeth i eiddo gweith £350 ar ol ei dad Samuel Parry, adeiladydd, ond yr oedd Mortgage llawn arno. Yr oedd 36 o ofynwyr i'r swm o C343 15s 9c heb eu diogelu, yn cynwys 21 am ddiodydd, 3 am arian benthyg, un meddyg am ddeg punt, ac 11 am nwyddau, &c. i'r ty. Yr cedd 1170 dros werth yr eiddo o ofynion ar Awst 10, collwyd ar y fasnach £ 50 14"s 9c a £ 60 o gost y ty. Bu costau trymion arno yn Black Horse, a'r ddyled oedd ar bobl iddo yn benaf am ddiodydd.—Cauwyd yr arholiad. Achos William Owen Williams. I Daeth William Owen Williams, Wern, LIsn- frothen, i fyny am ei arholiad, Yn ei gyfrif dywedai mai achos o Fethdaliad oedd, cael ei wasgu gan ei ofynwyr. Gwnaed ef yn Feth- dalwr Gorphenaf 27. Yr oedd yn 58 mlwydd oed. Chwarelwr ydoedd hyd 1882, pan aeth i Canton House, Penrhyndeudraeth, i fasnachu gyda chyfalaf o ddau gan' punt oedd wedi eu cynilo. Aeth o Canton House yn Tachwedd, 1907, i'r Wern, Llanfrothen, Ile'r oedd ei fab yn byw. Efe oedd perchenog Canton House a Paris House, Penrhyn. Yr oedd ei ddyled yn y Bank yn £ 400 pan aeth i'r Wern, ond yr oedd gwerth y ddau dy rhydd-ddaliadol yn y Penrhyn yn naw cant o leiaf. Yr oedd ei ddyled i'r Bank yn 1906 yn £ 640. Bu iddo yn ei anoethiceb arwyddo yr holl eiddo drosodd i Mr Henry Roberts, Syflog, fel Ymddiriedolwr, Hid oedd yn gwneyd dim yn awr at ei fywol- iaeth, ond caffai gartref ac ymborth gan ei fab yn y Wern. Daeth Mrs Williams a chyfraith yn ei erbyn, ac enillodd, ac o achos hyny gwnaeth yntau ei hun yn Fethdalwr. Yr oedd ef yn golygu ei ofynion yn £ 73 12s lc, a'r diffyg yn £ 63 lis lc. Gwerth ei eiddo oedd £ 1150, ac at hyny yr oedd dyled o £ 820 i rai wedi cael diogelwch am danynt, a £ 405 i rai hob ddiogelwch. Hysbyswyd y Llys fod yr Ymddiriedolwyr wedi sylweddoli £ 406 15s 5c, ond ni ranwyd dim o honynt am fod y mab yn dod yn mlaen i hawlio. £ 300 gafwyd am Paris House, ac yr oedd gweddill yn y Bank o £19 8s gyda chostau yr arwerthiad.—Cauwyd yr arholiad. Achos Andreas Roberts. I Daeth Andreas Roberts, Boston House, Blaenau, i fyny am ei arholiad. Rhoddodd achos ei Fethdaliad wnaed ar Gorphenaf 21 i lawr i "colledion mewn masnach, gostyngiad yn ngweith eiddo, a cholled ar werthiad ystorfa dillad." Yr oedd yn 68 mlwydd oed ac yn fasnachydd Ilechi a goruchwylydd ffrwydron. Yr oedd yr holl ofynion yn £3.070 16s 4c, 16 o ofynwyr heb sicrwydd yn eu gofal am £ 248 15s 5c, a 4 gyda sicrwydd am £ 2,054 15s, ac amcan-gyfrifid gwerth y sicrwydd yn £2)109 15s 8c, yr hyn adawai weddill o £ 55. Gwerth y dodrefn oedd £ 70, a phethau eraill £ 14 15s 9c yn gwneyd cyfanswm o £ 134 Os 2c, yn gadael diffyg o £ 707 Os 6c. Yr oedd y dyledion llyfrau yn £ 76 9s 4c a golygai hwy yn werth £ 5. Cafodd £ 44 o elw at y Life Policies y flwyddyn ddiweddaf. Erlynwyd ef gan y Bank, a gwnaeth ei hun yn Fethdalwr. Yr oedd yn werth dwy fil o bunau pan ddaeth o fod yn Oruchwyliwr yn Cwmorthin. Ei eiddo oedd 11 ty yn West End, a 10 ty yn Cwmorthin Road, Tanygrisiau, ty yn Ynys Terrace, Boston House, High Street, a chyfranau mewn dwy long yn Porthmadoc, a Life Policies. Rhoddodd £1.350 am dai Cwmorthin, a chafodd fenthyg Z500 arnynt gan Gymdeithas Adeiladu Pwllheli. Yr oedd yn Boston House er's 21 mlynedd, ac wedi talu Z427 am y stock pan aeth i mewn am fasnachu mewn dillad. Y merched a'i wraig a ofalai am y fasnach hono. Ni wnaed dim elw o'r lie, a gwertbodd yr oil am ij25 yn 1906. Fel Roberts & Sons" y masnachai mewn llechi, ond nid oedd gan y meibion ddim rhan o gwbl yn y fasnach hono, a thybiai fod elw y fasnach hono yn C50 i £ 60 y flwyddyn. 0 1907 i 1909 y daeth y wasgfa fasnachol, Yr oedd ei holl eiddo yn awr ar Mortgage. Cymerwyd meddiant o'r eiddo yn Medi, 1909. Yr oedd Mortgage ar Boston House ugaia mlynedd yn ol, ac ar dai Cwmorthin. Yr oedd gweithredoedd y ty yn Ynys Terrace yn y Bank er 13 mlynedd, a cheisiwyd ei werthu, ond J150 a gynygiwvd am dano. Benthycodd gan' punt gan John Jones, a dau gant ar ol hyny fel ail ofyniad (second charge) ar Boston House a'r Policies Yr oedd yn anmhosibl gwneyd i'r eiddo dalu yn awr am fod gwerth y tai yn Tanygrisiau wedi myned i lawr gymaint, a'r trethi wedi codi o 2/8 y bunt i 6/6 y bunt. Yn Hydref, 1909, yr oedd yn nyled Cwmni Chwarel Votty a Bowydd o £299, a chlowyd ei lechi i fyny yno. Talodd Humphrey Jones £ 250 i gael yr eiddo yn rhydd, a dyna oedd rhan H. Jones yn awr fel partner yn firm Roberts & Jones, fel masnach- wyr llechi. Rhoddodd ei oriawr aur a'i gadwen i'w fab y Nadolig diweddaf, yn ol cytundeb rhyngddynt bedair blynedd yn ol ac ar ol hyny, am ei fod yn anfon arian adref yn barhaus. Yr oedd yr oriawr a'i gadwen yn werth £ 25 yr amser basiodd, ond tua deg punt oedd ei gwerth yn awr. Nid oedd dim o'i eiddo yn ei law ef yn awr, ac yr oedd wedi rhoddi pobpetb i fyny i'r Derbynydd Swyddogol. John Jones, un o'r Gofynwyr, a ofynodd lle'r aethy £ 310 a roddasai ef yn fenthyg.— Mr. Tobias (wrth John Jones), "Y mae y Mortgage Deed genych a gwna cyfreithiwr eich cynorthwyo." Yna gofynwyd am ohiriad yr arholiad er mwyn cael cyfrif manwl am arian John Jones —Gohiriwyd yr arholiad. Achos William Davies. Daeth William Davies, 224, Palatine Road. Blackpool, gynt yn cario yn mlaen fasnach fel Tafarnwr yn Ferry Hotel, Talycafn, Dyffryn Conwy, yn mlaen am ei arholiad, yr hwn a barhaodd am dros ddwy awr. Gwnaed ef yn Fethdalwr ar gais gofynwyr Gorphenaf 29, 1910. Rhoddodd y Methdalwr ei ddyledion yn £ 1272 14s 7c, o'r rhai yr oedd £ 1171 10s 9c yn ddyledus i 25 o ofynwyr heb ddiogelwch o gwbl, ac un gofynwr am 2/5 wedi ei ddiogelu gyda gwerth £ 5 2s. Nid oedd yr holl eiddo i gyfarfod y dyledion ond £ 8 7s 10c, yn cynwys £ 14 19s lie, ac i droi £ 3 15s 9c i'r eiddo; diffyg [2194 14s llc. Rhoddai achos ei feth- daliad i lawr i Colledion ar fasnach glo, cyfalaf annigonol, coel hiq." Yr oedd y Derbynydd Swyddogol yn ychwanegu y sylwadau canlynol ar yr schos.-Y mae y Metbdalwr yn 40 oed, a bu o Mehefin 1, 1904, hyd Mawrth 29, 1910, yn dal trwydded y Ferry Hotel, Talycafn. Dywedodd fod ganddo ,Clllo pan aeth yno, ac iddo dalu £ 1150 .am fyned i mewn. Tra yno yr oedd hefyd yn fasnachydd glo. Wedi bod yn y Gwesty am ychydig fe fentbycodd £ 400 gan Ddarllawyr, y rhai ni thalodd yn ol. Gwerthodd y fasnach glo flwyddyn yn ol am ddau gant o bunau a'r fasnach yn y gwesty, yn cynwys pobpeth ar y lie Mawrth 1910, am A1600 (wedi tynu £ 80 commission allan). Hona iddo dalu dyledion o'r swm hwnw yn gwneyd cyfanswn o Z1300, collodd £ 200 ar fetio yn Rhedegfeydd Epsofh yn Ebrill 1910, a chadwodd £ 100 at gynal ei hun a'i deulu. Aeth y teulu, ar ol gadael y Gwesty, i fyw gyda pherthynasau yn 224, Palatine Road, Blackpool, ac yr oedd yntau wedi byw yno ac mewn gwestai yn Llundain lle'r elai, meddai ef, i geisio rhyw waith. Cyn dod i Talycafn cariai fasnach yn mlaen yn Mytbop a Lytham fel Florist. Honai mai masnach ei wraig ydoedd wedi ei gael ar ol ei thad, ond addefai iddo ei hun ei garip yn mlaen yn' ei enw ei hun, a gwerthodd ef am fil o bunau cyn myned i'r gwesty. Honai nad oedd ganddo ddim eiddo ond ychydig ddyledion llyfrau wnai sylwedoii £ 3 13s 9c. Llosgodd yr holl lyfran a'r papurau a dywedai na symudodd ddim ond dillad a teg- anau chwareu y plant. Dywed na chadwai lyfrau cyfrifon yn y gwesty, ac na wyddai ei fod yn analluog i dalu ei ddyledion hyd nes gwertbodd y Gwesty yn Mawrth diweddaf. O'r cyfanswm dyledion heb ddiogelwch yr oedd pedwar am fenthyciadau (dau o honynt yn Fenthycwyr Arian) o £851 Os 10c; wyth am werth £ 228 13s 7c o gwrw a gwirodydd dau am werth [30 4s ] lc o lo ac una'rddeg am nwyddau, &c. i'r ty, gwerth £ 61 11s 6c. Yr oedd deuddeg o'r dyledion yn gwneyd cyfan- swm o £ 1,114 2s 5c a thros ddeg punt yr un. Awd i'r dyledion hyn yn 1910, ond yr oedd dau swm mawr yn myned yn ol i 1903 a 1906 Rhoddai gyfrif o'i ddyledion o Mehefin 30, 1909 yn mlaen fel y canlyn :-diffyg y dyddiad uchod £ 100 colled ar y fasnach, C90 dyled- ion drwg, [11 4s 4!2c costau teulu, ei hunan, y wraig, a daublentyn, £ 112 10s 6ic; gostyng- iad yn ngwerth y gwesty a'r fasnach glo, £ 680; a cholled ar redegfa Epsom, £ 200— £ 1,193 14s 11c. Mewqjrtebiad i Mr. Tobias dywedodd iddo fod yn ngwasanaeth Mr Henry Tate am ugain mlynedd, a gadawodd yn 1901. Cafodd ddau gan' punt o dan ewyllys Mr. Tate, ac yr oedd yntau wedi arbed o gant i ddau ei hunan, Priododd ferch Florist o Lytham, a bu hi yn I J cario y busnes yn mlaen ar ol eithad, o dan ewyllys yr bwn y cafodd hi gan' punt. Prynodd y fasnach hono am wyth cant o bunau, a thalodd yr haner y pryd hwnw, ac arbosai y gweddill yn ddyledus. Gwerthodd y fasnach bono yn 1904 am il,100, y rhai a dalwyd iddo, ond ni thalodd ef y £ 400 oedd yn arcs arno am y lie. Yna aeth yn mlaen i adrodd am bryniant y Ferry Hotel a'r Fasnach Glo, a gwerthiant y nsill a'r Hall, Addefodd nad oedd wedi rhoddi 26 o ofynwyr trymion i mewn yn mysg ei ddyledion, ac mai £ 600 dalodd o'i ddyledion ar ol gwerthu y gwesty am £ 1,600, gan gadw o leiaf £ 700 iddo ei hun. Gwyddai ei fod mewn dyled o £ 1,200 pan werthodd yr eiddo. Benthycodd arian gan Jolleys a Harris, ac wrth wneyd hyny nid oedd wedi dywedyd y gwir with ateb un o'r benthyewyr.—Mr Tobias a ddywedodd y byddai raid cael cyfrif wedi ei gywiro, a mwy o fanylion.—Gohiriwyd yr Arholiad.

Oymdeithas Llawfer Gymraeg.…

-TALSARNAU.-I

.BURNLEY. I

Family Notices

[No title]

IRHYDDFRYDWYR RHANBARTHI FOURCROSSES.

RHYDDFRYDWYR RHANBARTHAUI…

Advertising

OR PEDWAR CWR.

-""""YV-VYVV'VV'V' , BETTWSYCOED.

Marwolaeth Canon Hugh Jones.

Cael dyn wedi ymgrogi yn Llanbedrogf.