Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
9 articles on this Page
NODION O'R -CYLCH. I
NODION O'R -CYLCH. I Mae cysgod tymor y Gauaf arnom eto, end mae rhyw fath o brydferthwch hyd yn nod ar y Gauaf, ac ni ddaw ei hirnosau heb eu hadloniant i'w caniyn. Mae cymdeith- asau y cy!ch o bob math yn dechreu parotoi ar gyfer y tymor. Y rhaglen gyntaf a wei- som allan oedd un Carmei, Tanygrisiau. Mae y gymdeithas hon i'w Ilongyfarch ar amrywiaeth a buddioldeb ei thestynau. Profant fod yn mysg ei haelodau rai mewn cyffyrddiad byw a phynciau y dydd,acmewn cydymdeimlad ilawn a dyheuadau gvverinol. Mae cryn haner dwsin o'r testynau ar bync- iau cymdeithasol a pholiticaidd, fel Y Tlottyn," "Sosialaeth," "Etholfraint i ferched," &c. Rhoddir lie mawr hefyd i drafod rhai o arwyr banes o Gymru a gw!edydd eraill. Cymdeithas arall sydd wedi troi allan waith rhagorol ydyw y Y.M.I. Llwydda hon i dynu ati ac i gadw ynddi wyr iejainc mwyaf dysgedig a thaientog y fro, ac mae rhaglen y tymor hwn yn gredyd i'w dysg a'u dawn. Gwleidyddiaeth yw prif ran y rhag!en eleni, er fod celf ac awen a chan yn cael lie teilwr.g. Os cerir allan waith y rhag!enau hyn yn deihvng o'r cyn- llun oheno, nis gali y tymor beiciio bod yn un ilwyddianus. Yr wythnos hon, cafwyd prawf nad yw I Rhyddfrydwyr Blaenau Ffestiniog wedi di- fateru serch nad oes cyffro ethoiiad yn yr awyr, nac un argoel y sylweddolir am beth amser i ddod y breuddwydion freuddwyd- iwyd gan y doethion y methai y Prif Wein- ideg gadw y Blaid wrth ei gllydd ond arn ychydig fisoedd. Aeth pobpeth yn mlaen hyd yma yn gwbl foddhaol, ac arwyddir stfydlogrwydd a pharhad er gwaethaf y daroganu fu. Boed fel y bo yn y Senedd, y mae y Blaid Ryddfrydol yn iach a chref yn y Blaensu. Cafwyd cyfarfodrodedig galon- ogol yn y Clwb Rhyddfrydol nos Fawith, ac y mae y Swyddcgion am y flwyddyn wedi eu dewis. Dymunwn yn y fan hon ddatganu ein barn nad eliir gwell Ysgrifenydd na Mr J. J. Williams. Y mae ei holl ysbryd yn y gwaith, heb son am ei fedrusrwydd gyda'r cyfryw. Bu Mr White Phillips, y Cadeir- yyd, yn selog iawn gyda'r Clwb, ac yn gwbl naturiol ail ddewisiwyd ef. Wedi gwasan- aethu yn ffydd!on ac effeithiol fel Trysorydd oddiar sefydliad y Clwb, ymddiswyddodd Mr Hugh Jones, Chemist, a dewiswyd Mr W. J. Williams yn ei le. Ni bu cyfarfodydd blyny.Mol y Gym- deithas Ryddfrydol heb Mr. R. T. Williams yn bresenol ynddynt er's Itawer iawn o flyn- yddoedd, ac yr oedd absenoldeb hen arwr mor selog a ffyddlon i'w weled a'i deimlo. Yr oedd y sylw wnaed o hyn yn weddus iawn. Cydunwn i ddatgan ein gofid am ei hir waeladd, ac i ddymuno am ei adferiad. Mae colled wirioneddol am dano yn nghyn- ulliadau rhyddfrydol yr ardal, ymddengys fel pe byddai donioldeb a gwreiddioldeb wedi cadw draw i'w ganlyn. 'Hir oes iddo €to i roddi awel yn hwvliau y blaid y mae yn garu mor egwyddorol, ac wedi ei gwas- anaethu mor ffyddlon. FEL y gwelir, y mae EisteddfoJ Ffestiniog i'w chynal y Sadwrn nesaf, a llawen genym ddeall fod rhagoljgon am un wir lwyddianus yn mhob ystyr. Y mae Gwyr yUan" yn hen ddwylaw gyda chadw Eisteddfodau, ac os bydd hon rywbeth yn debyg i'r rhai fuont yno o'r blaen, ceir hwyl, addysg, ac iechyd i gorph a meddwl. Swn paratoi mawr sydd ati, a chawn weled beth fydd y ffrwyth dydd Sadwrn. Y Prif-fardd Elfyn fydd yn ar- wain, a gwyddom nad yw ef byth yn fyr o ddyddori cynulliadau, a hyny heb gymeryd benthyg ffraethebion neb arall, na sylwadau a lhvydni henaiht yn orchuddiedig arnynt. Edrychwn yn mlaen am wledd -o'r fath a garwn.
- Llysoedd -Cofrestrol Dyffryn…
Llysoedd Cofrestrol Dyffryn Conwy. Ffurfiol gan mwyaf oedd Llysoedd Cofrestrol y Dyffrvn yn ystod diwedd yr wythnos. Yo Talycafn y decbreuodd Mr Latham ar ei waitb, ac nid ces yno neb yn cynrychioli y pleidiau gwleidyddol er fod y rhestr yn cynwys etholwyr Dolgarrog, Caerhun, a Llangelynin. Awd i Trefiiw, a bu ycbydig o gyfnewidiad yno, a'r un modd yn Penmachno, Bettwsycoed a Dol- wyddelen, Ni bu Llysoedd mor ddiddyddordeb yn y Dyffryn er's Ilawer iawn o flynyddoedd, a dangosid difrawder mawr ar ran arweinwyr gwleidyddol yn y gwahanol racbirthau ethol- iadoI.
TREFRI W. I
TREFRI W. I Dydd Mawrth cafoddsun o'r gweithwyr ar Ian Llyn Eigiau ei niweidio tra yn dilyn ei or- chwyl. Anafodd dyn arall ei fys yno fel y bu raid i Dr Lloyd Williams ei dori ymaith. Y mae y dyn y torwyd ei droed ymaith ychydig amser yn ol yn gwella yn rhagorol.
-Gened igaet hau.- - - -
Gened igaet hau. JONES.—Medi 23ain, priod Mr William Henry Jones, Tynewydd, Tanygrisiau, ar ferch (cyntif-anedig). ROBERTS.—Medi 18, priod Mr Richard Roberts, Garth, Minffordd, ar fab. JONES.—Medi20fed, priod Mr. William Jones, Penmaen, Trawsfynydd, ar ferch. FFAITH.-Nid oes unrhyw Optician yn y Deyrnas yn meddu ar Dystysgrifau uwch ar ol pasio Arholladau mewn Profl y golwg, fic., na Mr. Hugh Jones, Med- ial Hall Blaenau Festiniog.
- MASNACH RYDD, &c. I
MASNACH RYDD, &c. I MR GOL,—Y mae Crispin yn dod, a'r areh I yn bared oad fy mod heb crphen ei phygu. CRISPIN. I
PA UN AI UN, AI TRI CHOR FYDDI…
PA UN AI UN, AI TRI CHOR FYDD OREU I'R ARDAL? Syr,—Er fy syndod y sylwais ar y penawd uchod yn y RHEDEGYDD, Ni feddyliais y bu-as-ii neb dan len" nac un fu yn "hen aeiod" yn ymboani cymaint a mater mor ddibwys, Nid priodo!, ya s!cr, yw cymeryd mantais ar y wasg i greu drwg deimladau, ac ma.e'n syn gsayf feddwl fod un a gymer enw yr hen." Solomon mor ysgafn sg Hen Aelod yn colli cymaint o'l amser, ac hefyd o'i ras, beth bynag am ei" ddcethirwb." Fe cymarai ychydig mwy o amssr i fyfyrio geiriau doeth- ineb Solomon, mi gawsai dal da, ac hwyrach y cawsai weled mai y p3th goreu iddo yn y mater hwn beth bynag fyddai coelio yr hen ddiareb, "Meincied pawb ei fusnes ei hun," a byddai yn llawer il u o bosn iddo ei hun, ac i eraill. A chaniatau mai "enwadaeth" neu "genfigen" sydd wrth wraidd y syniad o dri chor," beth yw hyny i Hen Aelod ? Os yw wedi rctirio gadaweo. i'r aelodau newydd ymgecru. Cawsai ef, mi gredaf, gystal gwers gan y gath fach ag Iolo dan len," pe adnabyddai ei hun, Ie, a chsniatau mai csnfigen, fel y sylwais, sydd wtth ei wraidd, dyma gyngorSolomon i'r "Hen Aelod,"—"Nac ymryson a neb heb achos, os efe ni wnaeth ddrwg i ti." Eto, "Na feddwl ddrwg yn erbyn dy gymydog," ac na chen- figena wrth wr traws, ac na ddewis yr un o'i ifyrdd ef." Gwel yr Hen Aelod" fod yr hen Salomon yn ei ddeall ef yn drwyadl, ac y byddai yn foddion o ras iddo astudio mwyarno ei hun, er gadael i rai traxas ofalu am danynt eu hunaia, a chofio fod ganddynt berffaith hawl i gredu yn onest mai gwell tri chor nag un," a chaniatau fod gradd dda o ddeall a doethineb gan yr Hen Aelod." Nid wyf yn deall pam yr ayr un o'r cyfeiilion i chxareu sg enwadaeth. Mae enwadaeth yn iawn yn ei lie, ond nid ynglyn a hen Wyl y Castell" y mae ei lie yn ddics. Mae muriau yr hen gasteli yn siarad dros ysgwyddau'r can- rifoedd, "Rhyddid," ac "Aititibyniactl-t,na rwymer traed yr un cor a maglau enwadaeth. Nid oes ystyr fod enwadaeth yn gyfrifol am yr un o'r ddau gor newydd yma, gan balled ag y gwelaf fi, canys y mae y ddau enwad cryfaf yn y ddau gwr yn berffaith gyfeillgar. ac yn cyd- weithio yn ardderchog, ac y mae un o'r arwein- yddion yn digwydd bod yn perthyn i'r un enwad sg arweinydd y cor canolig. Fel!y lie mae lie i'r syniad o enwadaeth yn y mater o gwbl ? Credaf fod lie da i'r cyfaill a eilw ei hun yn Hen Aelod i dewi. Os yw yn cynrychioli thyw un dosbarth gyda'r mater hwn, gwell yw iddo fod yn gynil hwyrach, a chofio ei fad yn honi bron eifod yn ddam o "HollaHuog," trwy awgrymu beth a phwy sydd yn gyfrifol am y syniad o dri chor, a chofied beth ddywed "Solomon" etc, mai "Doethineb sydd yn gorphwys yn ngbalon y call, ond yr hyn sydd yn nghalon y ffyliaid a wybyddir." Gwell iddo fod yn gynil a'i honisdau hefyd rhag ofn iddo yntau nid yn unig "ollwng y gs.th o'r cwd," ond dod o'r "cwd ei hunan." Ceisi* yn ei ddull mawreddog gymeryd syniad "1010 dan len yn ysgafn, fel p3 bai ef yn wr anffaeledig. Oad i rai yn deall dipyn o'r ddwy oeh", mae swn "gwyntoedd lawer" yn ei fost a'i fympwy. "Os na fedr un arweinydd gael frefn ar dri neu bsdwar cant o gor," meddai, Sut y gall Mr 0. 0 Robet ts gael rheolseth ar yr holl gorau ?" Mae hynyna yn ddangoseg go dda o'i amgyff- rediad am waith arweinydd yn y Practice, ag arweinydd mewn Festival, piham tybed nad ces peth mantais mewn rhif bychan i ddysgu darnau i berffeithrwydd ? Os nad oes, pam yr aeth cymaint o nosweithiau gan gor yn "pract- icio dan faton arweinydd yr ua cor yn ddi- weddar iawn gogyfer a chystadleuaelh, i ddysgu adranau o'r cor, fel y gelwid ef yn "Section practice?" Dywed hyny, fod man- tais fawr i'w gael oddiwrth nifer gyffredin mwy nac sydd gyda thyrfa fawr. Mor belled ag y gwelais yn llith Iolo dan len," ni ddywedodd nad oedd yn y cor presenol bigion yr ardal, ond dweud ddarfu ef, fod rhywbeth arall ynddo, a pwy a wad ? Ni welais gor erioed nad oedd "efrau" yn mhlith y gwenith, ac mae hyny i'w briodo!i yn ami iawn i rhyw deimladau drwg, neu deimladau gwa- hapol, ac i'n tyb i, mae gormod o'r yspryd cynaf yna. Yn llith fy nghyfaill a eilw ei hun yn "hen aelod" ac 'rwyf bron a chredu mai blaidd mewn croen dafod ydyw ar y goreu, ac mai ei fryd yw ceisio creu drwg deimladau, ac ei fod yn c iel ei bortreadu eto gan Solomon, Y dyn drwg sydd a'i fryd ar derfysg yn unigT" a chredaf y gwiredir diwedd yr adnod, os na ddaw yq fuan, sef A chennad greulawn a anfonir yn ei erbyn ef." Gwell iddo felly gofio adnod araU o eiddo y gwrdoetb, "Calony doeth a reola ei enau ef yn synhwyrol ac a chwanega addysg i'w wefusau Credaf ei fod yn myned braidd yn mhell pan ddywed fod ymdrech wedi ei wneyd i ddenu aelodau y cor preseool i'r corau eraill," na choelier bob peth glywo hyd yn nod gan rai sydd yn gantorion, mi wn am reolau un o'r corau sydd yn syml fel y cinlyn, gyda'r aelodau hyn Fod thywun (yr ysgrifenydd mae'n debyg), yn rhoddi gwahoddiad iddynt, os dewisent, neu os yn dymuno yn well aros hefo'r cor arail, pobpeth yn dda;" nid oes swn ymdrechion i dynu neb oddiar ei ffordd. Yn y ffaith syml, fod drws agored i aelod o Gor arall i ymaelodi, yn y Cor sydd yn ymarferyd yn ymyl drws ei dy, a gallaf sicrhau yr Hen Aelod" anrhydeddus, nad oes cenfigen yn bodoli am fod neb y pigion na'r chwyn yn cerdded dros eu terfynau. Gellwch cbwi ymdawelu frawd, na chwyth cenfigen, ond ar i fyny," ac ond i chwi eirych ddwywaith ar yr ysbryd corawl yn yr ardal hon yn ystod y ddwy flynedd ddiweddaf y cewch weled o ba le y tardd y drwg deimladau, ac i ba amcan, ac mae rhai yn ddigon ehud i redeg ar ol bob awef o wynt, yn neillduol os bydd dipyn arogl y deheu arno, sef o'r desparth delicate. Gwyiiwch iddo fod yn ihy debyg i rywun cytiredin arall. Y ffaith yw hon, ac mi eraiff ei gwireddu yu y mater hwn, os nad yw wedi ei gwireddu i raddau, "cenfigen a la.dd ei pberchenog," ac end i "Hea aelcd" a'i gyfeillsoa weithredu amynedd, mi gant weled mai gwir yw hyn." Felly gyfaill Na fydd dyst heb achos yn erbyn dy gymydcg, ac na huda. a'th 'Rwyf yn digwydd bod yn gredwr mawr yn y syniad y gwneir gwaith mwy effeithiol gyda thri chor cymhedio!, nac mewn un Cor mawr bostfawr. Grill amfcell ganwr ieuanc addawol gael cyfla i yniddadblygu, a gallwn edrych ar yrWyl fel yr edrychir ar ein Cymanfaoead Cann, yn symudiad ag y ceir cyfle i neb a gar ymuao a'r corau ddangos eu plaid, ac wrth hyny, gael mactais i ddiwyllio a dadb!ygu yn y gelf gain o ganu yn soniarus i'r Arglw/dd," Nid priodol edrych ar yr ardal hon ar yr un tir a'r srdaloedd bvchain sydd yn gwneyd i fvnny y Wyl." Mae mor naturiol cael tri chor o ardal mor boblog, a'i manteision cerddorol mor ddisglaer a Ffestiniog, ac ydyw cae! un o Talsarnau, mm Harlch. a Nefyn, a dweyd y ileiaf, ar y mater. Nid ymhelaethaf, gan hyderu y gwna yr I "Hen aelod" gofio fod myn'd yn "gas" yn bath cheap iawn ac mi gawn ysgwrs eto, ond iddo ddo'd allan dan ei enw priodol, nid I ymdyngedaf i'w atteb, end o dan enw priodol, gan y credaf mai anfantais fawr i'r gamydog- aeth dda" ydyw hen yspryd vmgegru yn y wasg, gin hyderu y gwna1 Golygydd feddwl, mai goreu po gyntaf i roddi y goLfn i rywbeth mwy sylweddol. Diwsddaf eto gyda'r teim'adau goreu. Ya ngeiriau Solomon: Gwen yw doethineb nac arfau rhyfel and un pschadur a ddinystrio lawer o ddaioni. 'AAAAAAAAAAAAAAAA" A GWYLIWR. I I
- --I LLANRWST -
LLANRWST TREFN Y MODDION SABBOTHOL. I Yr Bglwys Ssfydledig. ST, CRWST.—10-30 a 6, Gwasanaeth Cymreig. Sf. MARY.—-11, a 6, Gwasanaeth Seisnig. Y Methodistiaid. SEION .-Parch. William Thomas. HEOL SCOTLAND,-Parcii. R. Rowlands, Annibynwyr. TABERNACL.—10, Cyfarfod Gweddio; 6, Parch W. Cynwyd Williams, EBENEZER.— Wesleyaid. HOREB-Parch T. G. Roberts. ST. JAMES (Englisb).-Rev, W. Mellor. Eedyddxvyr. PENUEL.—Parch. Abel J. Parry, D.D. EGLWYS BABAIDD.-11, Cymun Sanctaidd- 6 30, Gwasanaeth Cymreig, y Tad Treb- aol, O. M 1. Y CYNGAWS AGOSHIOL.—Y mae y Cyngaws sydd rhwng Mr O. Isgoed Jomaa Chyngor Dinesig Llanrwst i lawr am wranoawiad yn yr Uchel Lys ddiwedd Hydref, o flienyr Arglwydd Farnwr Warrington. Y mae hawliad Mr Jones yn oael ei roddi i lawr fel y canlyn:-I. Dat- ganitd nad yw y Cyngor diffynol yn meddu hawl i ddefnyddio cattbffosydd neillduol yn y fath fodd i gario neu bed cario cartbion neu ddwfr aflan drwyddynt i Afon Ccnwy. neu y byddo y cyfryw wedi eu puro oddiwrth bobpeth aflan neu ddrewllyd all anmhuro neu lygru dwfr y cyfryw afon. 2 I gael achos ataliadol i rwystro defnyddiad y cyfryw gartbffosydd yn y dull y gwneir. 3. Yn ychwanegol neu yn lie atcheb ataliadol, iawn. 4 Cycoithwy pellach neu wahanol. 5 Ccstau.—Mri Chamberlain & Johnson, Llandudno, yw cyfreithwyr Mr Jcnes; a'r Mri Porter, Amphlett & Jones, Llanrwst a Conwy, dros y Cyngor. Cafodd Mti Robert a Rogers Jones Sale lwyddianus iawn yn Talycafn ddydd L!un, a sicthawyd prisiau nodelig o uchel am yr holl stock, y rhài a gUriwyd yn llwyr. Yr oedd amryw brynwyr anifeiliad yn bresenol o brif drefi L'oegr. Da genym ddeall fod Mrs Jones, I-lys Idwal Mrs Davies, Wern a Miss Jones, Cartrefle, yn gwella yn dda. Hefyd, i Miss Jones, Denbigh Street, ddod yn Ilwyddianus trwy y llawfeddygiaeth fa o tani yn Lerpwl yr wythnos ddiweddaf, Daliodd Mr John Casey, frithyll yn Llyn Cowlydd ddydd Gwener, yn pwyso saith pwys a haper. Y mae yr Eglwysi Ymneiduol nos Sul diveldaf, wedi psncerfynu cynsl gwyl, Diolch em y Cynbauaf ar Hydref. 17, a'r moddion i barhau ar hyd y dydd. Neithiwr ac ar hyd y dydd heddy* (Iau), cynhelir cyfarfod pregethu blynyddol y TabernF.cl, pryd y gwasanaethir gan y Parchn. Stanley Jones, Caernarfon, a Bea Davies, Ystalyfera. Bwriada yr Arolygydd Wyse ymneillduo o'r Heddlu. Bu yn gymeradwy iawn yn ystod ei ddwy flynedd o arosiad yn ein plitb. Drwg genym hysbysu am farwolaeth Mrs Catherine Ha:ker, 13, Watling Street, yr hon a gymerodd Ie ddydd Iau, yn ei 70 mlwydd o'i hoedrao. Daeth hi a phriod i'r dref tua deugain mlynedd yn ol, a buont uchel eu parch yn ein plith gan fagu tyaid o blant dyfasant i fyny i fod yn anrhydedd i'w rhieni. Claddwyd ei gweddillion ddydd Llun, yn mynwent yr Eglwys newydd, pryd y gwas- anaethwyd gan y Parch Jenkin Jones. HEDDLYS.—Dydd Llun o flaen y Milwriad Smdbach (Cadeirydd), O. Isgcei Jones, a W. B. Halhed, Ysweiniaid. Treth!. Caniatawyd clis Mr R. E. Thomas i dreth amaethwr bychan o Nantbwlchyrheyrn gael ei maddeu. Hysbyswyd y Llys fod ganddo un- arddeg o blant. Mewn achos arall, hysbyswyd Mr Thomas gan un oedd ar ol gyda'i dreth fod yn dda ganddo gael y wys er mwyn cael yr arian dy- ledus iddo gan berson arall. Addysg. Gohiriwyd achos George Edwards, Narrow Sheet, Llanrwst, gyhuddid o esgeulaso anfon ei dair geneth i'r Ysgol, Hysbyswsd y Llys i'r plant gael eu symud o Ysgol y Cyngor i'r Ysgol Geaedlaethol, Cyirarra at eu Rhisiu. Mr O. Evans Jones a ofynodd am arcbeb am 6c yr wythnos yn erbyn George Williams, gwasBryncynheulog, Llangernyw, at gadwraeth ei fam.—Dywedodd y Diffynydd iddo dalu swllt yr wythnos at gyna! ei fam hyd nes y priododd, ond yn awr nis gallai wneyd hyny am mai deg swllt yr wythnos oedd ei gyflog, a'i fod yn gorfod talu mewn rhandalifdau wythnos am ei ddodrefn. Yr oedd yu foddlawn talu chwech cheiniog yr wythocs, a gwnaed archeb am y swm hwnw i ddod i rym Ionawr laf, 1911 pin fyddo wedi gorphen talu am ei ddodrefn.-—Gwnaed archeb am 1/- yr wythnos yn erbyn ei frawd, Albert Williams, 73, Bute, Manchester. Daeth yr un swyddog a chais am warant i atafaelu ar Price Owen, Brynsychdu, Melin-y- coed, sm ddwy bunt dyledus o dan archeb wnaed gan y Liv-s yn ei erbyn Gorphenaf 27, 190S, i dalu swllt yr wythnos at gadw ei fam. Nid oedd ei fam yn cael cynorthwy plwyfol yn awr, a honai y Diffynydd ei fod yn ei chadw ar hyd yr amser,—Caniatawyd v warrant. Dal Adar. Yr Heddgeidwad Davies, Eglwysbach. a gyhuddodd W. A. Williams ac E. Hughes, y ddau o Lianddulas, o droseddu Deddf Adar Gwylltion, Tystiodd iddo weled y Diffynydd- ion yn ymyl Eglwysbach Medi 5ed, a chawelli adar a glud yn eu meddiant, ac yr oedd gan bob un o honynt bump o Beneurod (Gold- finches) yn eu meddiant.-Dirwy o swllt yr aderyn gyda'r costau yn mhob achos. Heb Drwydded. Dirwywyd Sydney W, Ruttenan, Fallowfield, Manchester, ddeg swllt a'r costau am fethu dangos ei drwydded Modur pan ofynwyd am dani gan y swyddog. Meddw. Yr oedd James Riley, Navvy, yn gweithio wrth Llyn Eigiau, a chaed ef yn feddw nos Sadwrn yn LIanrwst fel y bu raid ei gloi i fyny. Gan iddo fod yn y carchar er nos Sadwrn gollyngwyd ef yn rhydd ar yr amod ei fod yn gadael y dref, Rhyfel Merched Heol Scotland, Mary Pierce, Heol Scotland, a wysiodd Elizabeth Jones, 6 Powell Terrace, o'r un heol, o ymosod tra yr oedd Elizabeth Jones yn cyhuddo Mary Pierce o drosedd cyffelyb o dan groes wys, a gwysiai hefyd Jane Jones, 37 Scotland Street, Robert Davies, tad y ddwy ddynes a wysid, ac hefyd William Jones, Heo! Scotland.—Ymddangosodd Mr. W. Twigge Ellis dros Mary Pierce a'i pherthynasau, a Mr T. Lstimer Jones dres Elizabeth Jones. Cym- erodd yr belynt Ie ar y Su!, Medi 4, a bu Mary Fierce ac Elizabeth Tones yn ngafael eu gllydd, a chymerodd Jafie Jones a'r gweddill ran yn y cweryl. Bu i Dr. Hill drwsio archoli ar ben Elizabeth Jones mewn canlyniad i'r ymosod- iadiii. Honid i'r oil godi o ymeiriach yn nghylch fod lletywr Elizabeth Jones yn cael ei borthi. a "pheawaig wedi eu patio "-Dirwy- wyd Jans Jones 10/- a haner gini i'r meddyg, gyda'r costau. Dirwywyd Mary Pierce ac Eliz. Jones 5/- yr un a'r costau, a rhwymwyd y personau eraill i gadw yr hsddwcb yn y swm o bum' punt yr un. Helyntlon Teuluaidd yn Melinycoed. Sarah Jones, Tanyfron, MeHnycoed, a wysiodd ei gwr Evan Jones, a'i brawd-yn- nghyfraith Hugh Parry, am ymosod, a chroeswysiodd Hugh Pary -.Sarab Jones.- Ymddangosodd Mr W. Twigge Ellis dros yr aohwynyddion ac amddiffynwyd gaa Mr. R. O. Davies. Yn ol tystiolaeth Sarah Jones, daeth el gwr adref ddydd Mawrth, Medi 20, tua ugain muayd i wyth o'r gloch mewn diod. Dechreuodd ei thafodi ac aeth yn gweryl rhyngddynt. Ymosododd ei gwr ami, a phan oedd yn y drws yn ffoi rhagddo derbyniwyd hi gan.Hugh Parry yr hwn a'i llusgodd gerfydd ei gwallt ar hyd y ffordd, ac wedi dodi ei benliniau ar ei brest a cheisiodd ei thagu. Pan gafodd o'i afael taflodd lond bwced o ddwfr, a rhedodd i dy cymydog,-O du y Diffynwyr dadleuid mai yr achwynyddes oedd yn codi helynt parhaus gyda chwaer ei gwr.— Gan fod y tystiolaethau mor groes i'w gilydd, rhwymwyd y pleidiau oil i gadw'r heddwch am chwe' mis. YR YSGOL SIROL.—Cyfarfu y Rheolwyr o dan lywyddiaoth Mr W. J. Williams, U.H., ac yr oedd'nifer dda wedi dod yn nghyd. Eglurodd y Clerc (Mr Thomas Griffith) fod yn ffafr y Rheolwyr o dan Rhif 1, wedi eu buddsoddi mewn Consuls y llogau cronedig o £ 321 3s 6c. ac yn nghyfrif Rbif 2 y swm o £1,324 4s 3c, Dywedodd y Cadeirydd y gellid defnyddio yr ail swm at yr adeiladsu n?wydd- ion. Ba sylw ar wneyd cais at Awdurdod Addysg Sir Gaernarfon am gael codi eu rhodd o £50 i £ 100 Yr oedd cynifer a 40 o'r plant yn dod o'r Sir hono i'r Ysgol, ond Sir Ddinbych yn gorfod dwyn pw 1S"U y costiu gyda'u h-iddysg. Pasiwyd i dycu allan fanylion am y cais a'i ymddiried ir Ddirp-'wyaeth ap-vyntiedig i fyned a'r achos o flaen yr Awdurdod Addysg. Caniatawyd Bursary o bum' punt i Maggie Williams, 1, York Terrce, gin fod un o'r rhai benodwyd i'w gael wedi peidio dod i'r Ysgol. Caniatawyd Ysgoloriaeth fewnol i Griffith Trefor Jones, yr hvin\a argymeHwyd gan y Prifathraw. Rhoddodd Mr D. J. Williams rybudd o gynygiad i'r Ysgoloriaetbau mewnol gael eu hadystyried y cyfarfod nesaf. Pasiwyd i ychwanegu pane yr un at Ysgolor- iaethau y rhai canlynol o Llangernyw:—H. M. Reynard, Henry Rees Jones, Mary H, Parry, R. F. Parry, a J, W. Davies. Yr oedd y Cynllun Sirol newydd yn trefnu na fyddo fees yr ysgol yn llai na £ 5 nac yn I uwch na £ 10 ond argymellai y Rheolwyr na byddent yn llai na phump na mwy na deg punt.
I BLAENAU FFESTINIOG.
BLAENAU FFESTINIOG. I WEDI GADAEL—Yr wythnos o'r blaen gadawodd Miss Lily Williams, 3, Wynne Road, i gymeryd i fyny ei lie fel athrawes gynorthwyol yn Ysgol y Cyngor, New Broughtoa, Gwrecsam. Cafodd Miss Williams yrfa golegawl ddisglaer a Ilwyddianus yn Man- gor. Yn ystod y flwyddyn gyntaf pasiodd bed- war o'r testynau allan o'r naw gofynol i enill y odd o B A. ac enillodd Certifi-,ate of Merit y Coleg. Yr ail flwyddyn pasiodd mewn saith o destynau allan c naw ac eniilcdd distinction mewn tri. Dymunwn ei llwyddiant psllach fel athrawes yn ei chylch newydd. CROESAWU'R YSGOTIAID.—Ymwelodd tua 60 o urddasolion ysgotaidd a'n treflan dechreu yr wythnos hon, Bu Awdurdodau Chwarelau Oakeley yn brysur iawn gyda hwy ddydd Llun, dan gyfarwyddyd y Prif-oruchwyliwr Mr Owen Jones, Y. H. Nos Lun amlygodd rbai ohonynt y buasai cael clywed Cor Cymreig yn canu, yn coroni eu hwyliau mawr ar eu taith i'r cylch hwn, ac anfonodd Mr Owen Jones trwy y prifardd Bryfdir, cadeirydd ffyddlct1 pwyllgor Cor Meibion Brenhinol y Moelwyn i geisio trefna cyfle nos Fawrth a gwahoddwyd yr oil. ohoaynt i'r Neuadd am S o'r gloch, a chanodd y Cor amryw o ddarnau Cymreig. Saesneg, ar Italaeg, er eu mawr foddhad; dan arweiniad yr arwr csrddgar Cadwaladr Roberts, Y.H. Daeth y Prif-atbraw Dodd, M A,, i gvfeilio i'r Cor yn garedig, yn absenoldeb Miss Owea- Davies, A.R,C M. GWELLA -Da genym gael ar ddeall trwyei feddyg (Dr. Evans), fod Mr. David Jones, Minofferen, yn dod yn mlaen yn jhigorol yn yr Ysbytty ar ol y ddamwa-in ddifrifol gafodd trwy fyned i'r Hit yr wythnos ddiweddaf. Y mae argoelion gobeithiol yn awr am ei adferiad. GWAELEDD.-Drwg genym glywed i Mr. Joseph H. Owen Davies, mab Mr. Robert Owen-Davies, Benar View, gael ei daraw yn hynod wael gan enyniad yr Ysgyfaint, Gorwedda yn awr yn yr Ysbytty yn Llundain. Dymunwn ei adferiad buan. BAZ.kAR,-Dylem fod wedi dodi yn ein hadroddiad o Bazaar Maenoffernn, mai y Beirniaid yn nghystadleuaeth Brown & Poison osddynt, Miss Thomas, Cook Mistress, a Mrs Williams, Glorian." a rhoddwyd canmoliaeth uchel i'r rhai o'r merched. Rhoddwyd y gwobrwyon jan Mrs. Jones Morris. CwN. Llongyfarchwn y Rhingyll John Lloyd, ar ei waith yn enill y wobr flaenaf yn Arddangosfa Corwen am dorlwytfe-^o gwn. Y mae ein Rhingyll caredig yn hen gynefin ag enill gwobrwyon mewn Arddangosfeydd. PENODI > D—Hyfryd genym gael llongyfarch Mr J. M. Davies, Ysgolfeistr y Valley, Men, ar ei ddyrchsfud i gymeryd gof-il Ysgol Pensrra. Yr oedd 39 yn ymgeisio am..y lie. Fel y gwyddus, brawd ydyw Mr Davies i'r Parch D. Davies (Dewi Eden), Harlech, a Mr Lewis Davies; The Square, Blaenau Ffestiniog. CYMANEA'R WESLEYAID. — Nos Weier, bydd Cym^nfs Pregetha y Wesley;; J < rt dechreu, a phregethir yn Ebanezer, Disgwyifa, Soar, a Gorphwysfa, a pharheir dros y Sadwrn a thwy'r dydd y Sabboth, gyda Chyfeillach nawn Sadwrn. Y gweinidogion a wasanasthant fydd y Parchn Hugh Hughes, T. O. Jones, T. Isfryn Hughes, R. Garrett Roberts, a D. R. Rogers, B A.
I TRAWSFYNYDD.
I TRAWSFYNYDD. NEWYDD DRWG-Derbyniasom yr wythnos ddiweddaf y newydd pruddaidd o'r Dehsudir, fod Mrs. Jarrett Morris, anwyl b:ind Mr. William Morris, Leigh Tarrace, Quaker's Yard, wedi huno yn yr angau, boreu ddydd Mercher, Medi 21ain, a hi ond 29 miwvdd oed, Merch ydaedd i'r diweddar William Thomas, Crydd, Trawsfynydd, a Kate Thomas, ei wraig. Cafodd gystudd maith a phoenus am amryw flynyddau. Claddwyd ei gweddillion marwol ddydd LIua divteddaf yn Cem- etary Abercynon. Gwasanaethwyd gan Mr. Thomss. gweinidog Anibynol y lie, Gadawodd btiod a phedwar o blant bach ieuanc iawn i alaru eu colled ar ei bol, ac hefyd ddwy chwaer, sef, Mrs Glanville, Abercynon, a Mrs. Thomas, Bronden, Manitoba, Canada. Cydymdeimlwn yn fawr a'r naill a'r Hall o honynt yn eu profedigaeth chwerw mewn lie dieithr. Y NEUADD.—Swn gweithio o ddifrif sydd gyda'r symudiad hwn, y mae yr Architect wedi bod yma, sef, Mr. L'oyd Jodes, Bala, ac felly disgwylir^f bydd y Planiau allan ar fyrder, ac hefyd y mae y Pwyllgor wedi trefnu Cyngherdd rhagorol i fod yma ar yr Sfed o Hydref, acjwedi sicrhau gwasanaeth y datganwr penigamp Mr. Powell Edwards, Rhos, a'r Telynor Dall a Dewi Mai o Feirion, a'i lywyddiaeth yn Haw y doniol a'r fraeth Dr. John Jones, C.C., Dirprwy Arglwydd Raglaw Meirion. Os am wledd awn i Ysgol y Cyngor y nos Sadwrn hwu. Drwg iawn genym i wall amlwg ymddangos yn ein hysgrif am yr wythnos ddiweddaf, yn nglyn a cbladdedigaeth y diweddar John M. Jones. Dylasai fod a gwasanaethwyd gan y Parchn David Davies, Rheithior y Piwyf, Rd. Evans, Llanidan, Mon, Deon Gwladol, Mon, D. R. Lewis, Llanenddwn. Deon Gwiadol, Meirionydd. EISTEDDFOD TRAWSFYNYDD.—Trwy amryf- usedd, ni ddaeth yr adroddiad i law hyd nos Fercher pan oeddym yn myned i'r wasg. Diolch i chwi am eich ffyddlondeb, er yr an- ffawd hwn a ddigwyddodd i'r eiddoch yr wythnos hon. v