Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

9 articles on this Page

NODION O'R -CYLCH. I

News
Cite
Share

NODION O'R -CYLCH. I Mae cysgod tymor y Gauaf arnom eto, end mae rhyw fath o brydferthwch hyd yn nod ar y Gauaf, ac ni ddaw ei hirnosau heb eu hadloniant i'w caniyn. Mae cymdeith- asau y cy!ch o bob math yn dechreu parotoi ar gyfer y tymor. Y rhaglen gyntaf a wei- som allan oedd un Carmei, Tanygrisiau. Mae y gymdeithas hon i'w Ilongyfarch ar amrywiaeth a buddioldeb ei thestynau. Profant fod yn mysg ei haelodau rai mewn cyffyrddiad byw a phynciau y dydd,acmewn cydymdeimlad ilawn a dyheuadau gvverinol. Mae cryn haner dwsin o'r testynau ar bync- iau cymdeithasol a pholiticaidd, fel Y Tlottyn," "Sosialaeth," "Etholfraint i ferched," &c. Rhoddir lie mawr hefyd i drafod rhai o arwyr banes o Gymru a gw!edydd eraill. Cymdeithas arall sydd wedi troi allan waith rhagorol ydyw y Y.M.I. Llwydda hon i dynu ati ac i gadw ynddi wyr iejainc mwyaf dysgedig a thaientog y fro, ac mae rhaglen y tymor hwn yn gredyd i'w dysg a'u dawn. Gwleidyddiaeth yw prif ran y rhag!en eleni, er fod celf ac awen a chan yn cael lie teilwr.g. Os cerir allan waith y rhag!enau hyn yn deihvng o'r cyn- llun oheno, nis gali y tymor beiciio bod yn un ilwyddianus. Yr wythnos hon, cafwyd prawf nad yw I Rhyddfrydwyr Blaenau Ffestiniog wedi di- fateru serch nad oes cyffro ethoiiad yn yr awyr, nac un argoel y sylweddolir am beth amser i ddod y breuddwydion freuddwyd- iwyd gan y doethion y methai y Prif Wein- ideg gadw y Blaid wrth ei gllydd ond arn ychydig fisoedd. Aeth pobpeth yn mlaen hyd yma yn gwbl foddhaol, ac arwyddir stfydlogrwydd a pharhad er gwaethaf y daroganu fu. Boed fel y bo yn y Senedd, y mae y Blaid Ryddfrydol yn iach a chref yn y Blaensu. Cafwyd cyfarfodrodedig galon- ogol yn y Clwb Rhyddfrydol nos Fawith, ac y mae y Swyddcgion am y flwyddyn wedi eu dewis. Dymunwn yn y fan hon ddatganu ein barn nad eliir gwell Ysgrifenydd na Mr J. J. Williams. Y mae ei holl ysbryd yn y gwaith, heb son am ei fedrusrwydd gyda'r cyfryw. Bu Mr White Phillips, y Cadeir- yyd, yn selog iawn gyda'r Clwb, ac yn gwbl naturiol ail ddewisiwyd ef. Wedi gwasan- aethu yn ffydd!on ac effeithiol fel Trysorydd oddiar sefydliad y Clwb, ymddiswyddodd Mr Hugh Jones, Chemist, a dewiswyd Mr W. J. Williams yn ei le. Ni bu cyfarfodydd blyny.Mol y Gym- deithas Ryddfrydol heb Mr. R. T. Williams yn bresenol ynddynt er's Itawer iawn o flyn- yddoedd, ac yr oedd absenoldeb hen arwr mor selog a ffyddlon i'w weled a'i deimlo. Yr oedd y sylw wnaed o hyn yn weddus iawn. Cydunwn i ddatgan ein gofid am ei hir waeladd, ac i ddymuno am ei adferiad. Mae colled wirioneddol am dano yn nghyn- ulliadau rhyddfrydol yr ardal, ymddengys fel pe byddai donioldeb a gwreiddioldeb wedi cadw draw i'w ganlyn. 'Hir oes iddo €to i roddi awel yn hwvliau y blaid y mae yn garu mor egwyddorol, ac wedi ei gwas- anaethu mor ffyddlon. FEL y gwelir, y mae EisteddfoJ Ffestiniog i'w chynal y Sadwrn nesaf, a llawen genym ddeall fod rhagoljgon am un wir lwyddianus yn mhob ystyr. Y mae Gwyr yUan" yn hen ddwylaw gyda chadw Eisteddfodau, ac os bydd hon rywbeth yn debyg i'r rhai fuont yno o'r blaen, ceir hwyl, addysg, ac iechyd i gorph a meddwl. Swn paratoi mawr sydd ati, a chawn weled beth fydd y ffrwyth dydd Sadwrn. Y Prif-fardd Elfyn fydd yn ar- wain, a gwyddom nad yw ef byth yn fyr o ddyddori cynulliadau, a hyny heb gymeryd benthyg ffraethebion neb arall, na sylwadau a lhvydni henaiht yn orchuddiedig arnynt. Edrychwn yn mlaen am wledd -o'r fath a garwn.

- Llysoedd -Cofrestrol Dyffryn…

TREFRI W. I

-Gened igaet hau.- - - -

- MASNACH RYDD, &c. I

PA UN AI UN, AI TRI CHOR FYDDI…

- --I LLANRWST -

I BLAENAU FFESTINIOG.

I TRAWSFYNYDD.