Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

10 articles on this Page

8LAENAU FFESTINIOG.j

News
Cite
Share

8LAENAU FFESTINIOG. Sportsmen would do well by paying a visit to J. N. Edwards, Ltd, to inspect their new Stock of Cartridges, Powder, Shots, etc. Also Guns, Revolvers, all of the best makes, for the Season now just opened. SPECTOLS.—Os bydd rhywbeth allan o Ie ar etch Spectols, gellir ei gwneyd yn foddhaol gan Mr. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, yr nnig Optician yn Sir Feirionydd, sydd wedipasio Arhol- iadau yn y cyfeiriad hyn. Fel hyn y canodd yr Alltwen i Ddwylaw Duw I:- LJaw dialedd llid i'w elyn-yw'r chunth, Rhy chwern at gredadyn j Ond llaw agored wedyn,— Liaw dde Duw sy'n llwyddo dyn. Llawen genym ddeall ei fod am ymweled a ni ddiwedd yr wythnos hon. Dymuna J. N, Edwards, Ltd., Berlin House, hysbysu y Cyhoedd eu bod newydd dderbyn Stoc enfawr o Lampau at y Tymhor dyfodol, a'r rhai hyny yn cael eu gwerthu yn is nag erioed. Cyn gwneyd eich pryniant yn unman arall, cofiwch am y Bargeinion digyffelyb sydd i'w cael yn y cyfeiriad uchod, ac fe dal yn rbagorol i cbwi. Cofiwch y Cyfeiriad Berlin House. YMADAEL.—Drwg genym ddeall fod ein cyfaill caredig, siriol, a rhydfrydig ei feddwl, -y Parch W. R. Jerman, B A.. Ciwrat hynaf St. Dewi, am ein gadael o hyn i'r NadoHg am Llanfair yn-Nghornwy, Mon. Tra yn aros yn ein plith am bedwar blynedd fe ffurfiodd iddo ei hun gylch eang o gyfeillion, ac yr oedd yo nodedig o gymeradwy yn mlitb y bobl y troai fwyaf yn ei mysg gyda'i ddyledswydd fel Gweinidog yr Efengyl. Yn sicr, bydd chwithdod ma" r ar ei ol yn mysg pob dosbarth yn ein tref. Boed iddo bob llwydd. BF-THANIA,-Dydd Sul diweddaf, cynhal iwyd Cyfarfod Ysgol. Yr oedd hwn yn cael ei gynal gan yr eglwys ei hun ac nid o dan nawdd Undeb Ysgolion. Llywyddwyd cyfarfod y boreu gan Mr Robert Roberts, Foelfronllwyd. Dechreuwyd trwy gael adroddiad o 12 bennod a Rhufeiniaid gan Mr Griffith Ellis, Bryneilian yna arweiniwyd mewn gweddi gan Mr Griffith G. Jones, Penygarth. Holwyd y dosbarth hynaf a'r canol gan Mr Bevan, Brynaber, a chafwyd hoH ac ateb eitbriadol, a dangoswyd fod gwaith mawr yn cael ei wneyd yn yr Ysgol. Yn ystod y cyfarfod canwyd unawd gan Miss Lizzie Jones. Cafwyd gair hefyd gan y Llyw- ydd. Diweddwyd gan Mr David Williams, Glasfryn.-Llywydd cyfarfod y prydnawn yd- oedd Mr. Evan Williams, Isfryn. Adroddwyd penod gan Miss Mary Elizabeth Thomas, Brynegryn, a gweddiwyd gan Mr Ellis Jones, PenieL Holwyd y plant gan Mr Joseph Jones yn Hanes lesu Grist. Canodd Misses Lizzie a Maggie Jones ddeuawd yn hynod effeitbiol; hefyd cafwyd unawd gan Miss A. C. Bevan. Anerchwyd y plant gan y Parch Thomas Griffith, Salem, a seiliodd ei sylwadau ar Zechariah viii, 5, "A heolydd y ddinas a lenwir o fecbgyn a genethod yn chwarae yn ei heolydd hi," Ni raid i ni gyfeirio at allu a dylanwad Mr Griffith, a'r derbyniad y mae yn ei-gael yn mhobman dafyddai cael yr aoerch iad hon trwy boll eglwysi y cylch. Canwyd y plant amryw dorau o dan arweiniad Mr Alun Williams, Isfryn. Terfynwyd gan Mr Griffith. —Decbreuwyd cyfarfod y nos trwy i Mr Llew- elyn Jones, Glanygors adrodd p2nod, a Mr Pierce Williams, Frondeg. Y Llywydd yd- oedd Mr Evan Jones, Isfryn. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr D. J. Rowlands, Cludfan, ar Y moddion goreu er atal dirywiad yr Ysgol Sabbothol." Gorfu i Misses Lizzie a Maggie Jones ail garni y ddeuawd ar gais amryw. Terfynwyd gan Mr John H. Jones, Glanygors, Xfeuliwyd Sabboth hyfryd, a bydd bendith y dydd yn arcs yn hir, a diau y tala cyfarfod cyffelyb yn fuan eto ei ffordd yn rhwydd gydag ychydig llai o unffurfiaeth. CYDYMDEIMLAD-Wrth anfon pleidlais o gydymdeimlad oddiwrth eglwys Gilgal (A ), Maentwrog, a Mr a Mrs Evan W. Rowlands 2. Barron Road, yn eu gofid a'u galar o golli eu hanwyl a'u hunig fsrch fach "Sallie," amgauodd Ysgrifenydd yr Eglwys, sef Gerallt, y ddau englyn hyn i gyfleu ei deimladau ei hun:- Heddyw, i'r anedd, rieni,-er ing, paeth yr angeu difri; Trist y'ch weithian gan gyni, I lwch cer aeth a'ch perl chwi. Sarah bach, bellach y bydd-aelwyd wag Ar dy ol di beunydd A'th lesu hoff, tithau sydd, Hoender gei yn dragywydd. YMWELIAD EFENGYLYCD ENWOG.—Bydd yr Efengylydd adnabyddus, y Parch. R. B, Jones o'r Deheudir, yn ymweled a'r ardal hon yr wythnos nesaf, ac yn pregethu bob nos, am saith o'r gloch yn nghapel Calfaria. Cynhelir cyfarfodydd yn fwyaf arbenig i'r chwiorydd am ddau o'r gloch y prydnawn, o ddydd Mawrth yn mlaen. Gwahoddir y chwiorydd o bob enwad i'r Cyfarfodydd hyn. Nid oes unrhyw weinidog yn Nghymru mewn blynyddau diweddarwedieiarddel gan yr Arglwydd yn aDllycach na'r Parch, R. B. Jones, ac hyderir y bydd ei ymweliad a Blaenau Ffestiniog yn fendith fawr i'r holl ardal. CYMDEITHAS G OR AWL Y MANOD.—Mae Pwyllgor Gweithiol y Gymdeithas uchod wedi sicrhau Ysgoldy y Manod i ymarferyd tuagat Gylchwyl Gerddorol Harlech, Judas Maca- beus" fydd y cyfanwaith ac y disgwylir i bob Cor ei feistroli, Bydd y mudiad hwn yn Saffaeliad mawr i'r pen yma i'r ardal, ac yn rhywbeth cysurus a buddiol i bawb dros y gauaf agoshaol. Myner y bobl ieuaingc ym- Reladi, a rhodded yr hanafgwyr gefnogaeth ijddynt ac yna bydd eu llwyddiant yn amlwg. Bydd y Cor yn dechreu ar ei waith yn fuan, ac bonir ei fod ar gyraedd trothwy cant mewn nlfer. DARLUN.-Y mae Darlun yn y Drych am Medi 15, o Mr D. Lloyd George a'r Cwmni oedd gydag ef yn ffrynt Llys Meddyg, ar yr achlysur o'i ymweliad diwedddf a'r dref. Cymer Cymry yr Unol DaJaethau ddyddordeb mawr yn ein cydwladwr enwog fel y cymer ei genedl yn yr ochr yma i For y Werydd. GWLEDD GERDDOROL. Dymunir galw sylw yr ardal ar y Cyngherdd Elusenol a gyn- helir nos Iaa nesaf (Hydref 6ed), er cynorthwyo y brawd Evan Roberts, Ty Canol. Credwn nad oes eisieu dweyd dim am y gwrthddrych na'r cantorion, y mae y gwrtbrych yn deilwng o'n cynorthwy, a'r cantorion ymhlith y goreuon. Mae Miss Bessie Jones fel Soprano yn un o'r rhai mwyaf addawol, ac wedi gorcbfygu cewri mewn nifer fawr o Eisteddfodau. Gwelir enw Miss Maggie Jones yn oreu ar y Solo Contralto yn Eisteddfod Genedlaethol Colwyn Bay, Y mae dyfodol disglaer i'r gantores ieuaingc hon. Mae enw Mr Powell Edwards yn ddigon hys- bys, gan fod yntau wedi cipio gwobrwyon yn Eisteddfodau Cenedlaethol Llangollen a Llun- dain. Clywsom ef yma unwaith, a rhoddodd foddlonrwydd i'r gwrandawyr oil. Yn sicr fe geir gwledd gerddorol gan y tri hyn, mewn unawdau, deuawdau a thriawdau. Y maent yn lleiswyr neb eu hail. Cofiwn am y Cyngherdd nos Iau nesaf. FOOTBALL.-Next Saturday, the same team as played at Llanberis will journey to Llanrwst to fulfill their League fixture. Reserves, Moses Roberts and Richard Jones. At the Newborough Park, the following team has been selected to play against Dolwyddelen Junior Cup team :-Goal, Tom Jones; backs, Setb Jones & Hugh Williams; halves, Richard Jones, Moses Roberts, Robt. Morris Williams forwards, D. Evans, Owen Roberts, Owen C. Owen-, J. R. Owen, W. J. Penny (Captain). Reserves, Evan Owen, Wm. Owen. Kick-off 2 30 p.m. Admission 3d & ld. All to pay. TARW HELBULUS.-Nos Lun, fel yr oeddid yn ceisio arwain tarw tew o ffermdy Caeglas, Maentwrog, i Ladd dy Mr Albert S. Roberts, Blaenau, cyffrowyd yr holl le, Yr oedd yr anifail graenus wedi "upsetio" amryw, a gwelid thai ar eu pedwar ganddo. Ger y Manod Hotel rhoddodd ei hun i lawr, ac nid oedd bosibl ei symud er pob ymdrecb. Ond o'r diwedd tywalltwyd dwfr oer i'w glust, ac yna neidiodd i fyny, ac arweiniwyd ef yn mhellach hyd weitbdy Mr John Lodwick, High Street, ac aeth i lawr drachefn, a bu felly am ysbaid haner awr neu well, nes y cododd yn ei amser da ei hun. Dyddorol iawn ydoedd gweled y criw yn tynu yn y rhaff rwymedig wrth ei ffroen, ac ar darawiad nid oedd yn hawdd gwneyd allan pa un oedd y tarw, gan fod un o'r criw gan ddued ag yntau—a'r ddau yn Gymreig. Nodweddiadol o traction driver oedd y dyn hwnw oedd yn cydio yn ei gynffon ac yn ei throi bob tro y gwrthodai yr anifall symud. Daeth i ben ei siwrne yn ddiogel heb nfweidio neb, ond cydymdeimlwn a phawb gafodd eu "startio" ganddo, yn enwedig y merched, pa rai hedent fel ieir i bobinan.- EDRYCHYDD. CVFLWYNO ANRHEG —Dydd Gwener di- weddaf, yn nghiniawdy Llys Tegid, Chwarel Maenofferen, ar yr awr ginio, cynhaliwyd cyf- arfod ymadawol, a chyflwynwyd anrheg oFeibl hardd i Isaac Jones, Wynne's Road, ar ei jmadawiad i Amlwch, Mon. Llywyddwyd gan Rees Jones, a chyflwynwyd yr anrheg gan T. H. Salisbury, dros y ciniawdy, yr hwn gyda dymuniadau a chynghorion buddiol am i'r Gair gael y Ue goreu a blaenaf, ac hefyd i fod yn rheol bywyd i farw ac i fyw. Dio!chodd Isaac Jones am y teimladau da tuag ato, a'i falchder o'r Beibl, gan mai dyma y cyntaf a gafodd yn yr ystyr yma. Cafwyd anercbiadau rhagorol gan amryw frodyr, sef R. Hughes, D. Jones, Tanrallt, W. 0. Roberts, J. Thomas, a W. Roberts, D. Davies, E, Owens, E. Evans, Trawsfynydd. DyweCold yr oil eu bod yn dymuno ei Iwyddiant. Llinell eglur yn yr anerchiadau oedd cymeriad da a gonestrwydd y cyfaiH Isaac Jones, a'i wasataeth parod mewn cymdeithas. Yr oedd y brodyr yn datgan eu llawenydd ei fod yn cael dyrchafiad, a dylem oil fel gweithwyr lawenhau fod ambell un o honom yn cael ssifle uwch na gweithiwr, Pwysleisiai y brodyr ar yr aelodau ieuaingc i gofio mor bwysig yw cymeriad da a gonest- rwydd—dyma amodau llwyddiant. Mae cyfri- foldeb Isaac Jones yn fawr yn ei le newydd fel Goruchwyliwr Gwesty Dirwestol, a dymunwn bob llwyddiant iddo. Aed ymlaen eto. Wele ymfflamychiadau rhai a alwant eu hunain yn feirdd:— We!, yr hen Isaac, a wyt ti yn myn'd Gan adael hen gaban, a fu i ti'n 'flrynd ? Buost yn llywydd, ond chwyddodd dy god, Daliaist am ddiwrnod, a hyny ge'st fod. Eto un arall:- Mae Ilawer rhath o ganu i'w glywed yn y byd, Cawn rhai yn canu croesaw yn ol i gartref clyd; Cawn eraill mewn priodas, a,u dymuniadau'n llu, Ond canu c&n o ffarwel 'r'ym ni i gyfaill cu. Naturiol wrth ffarwelio yw dweyd rhinweddau'r dyn, Gwnawn ninau enwi 'chydig, os deil rhag colli ei hud: Hanesion papyr newydd oedd ganddo yn ystor, Ysbeilwyr a llofiuddioxs, ac arwyr tir a mor. Y llofrudd o Newcastle adroddai gyda bias, A Dr. Crippen hynod, fu dros y cefnfor glas Ei dalent fwyaf enwog oedd fel gwneuthurwr te, A dyma'r d'ryswch mwyaf, pwy gawn ni yn ei le. Bu ffyddlon bron bob amser i'r pyngciau fu ger bron, Os defaid, cwn, neu adar, cawn ef bob pryd yn lion; Trwy hyn fe ga.'dd anrhydedd i fod yn llywydd gwiw, Ond dranoeth bu ail fotio, a chollodd yntau'r llyw, Fel ae'od yn LlysTegid 'roedd bron yn oreu un, Os yw yn wyllt ei dymher, daw'n fuan ato'i hun Fe deimlwn ninau golled am dano lawer awr, 'N eawedig pan yn talu, dydd Llun ar ol Tal mawr. Dymunwn wrth derfynu, ei Iwyddiant yn Sir Fon, Hir ddyddiau a dedwyddwch, heb brudd-der yn ei doa, A gyda'r anrheg fechan, fe gofia drwy bob pla, Bod ganddo yn Llys Tegid, lu o gyfeillion da. Ar gyflwyniad y Beibl:- Cewch heddyw Lyfr y llyfrau," a sanctaidd "Air ein Duw," Cewch heddyw "Reol byivyd," i farw ac i fyw; Boed hwn trwy daith yr anial yn llawenhau eich cAn, A'ch arwain yn y diwedd i fro Caersalem Ian. D. J.

BAZAAR MAENOFFEREN, BLAENAU…

Marwolaeth GoruchwyliwrI Chwarel…

I TANYGRISIAU.

PENRHYNDEUDRAETH.I

!Yr Ewythr, y Meddyg, a'r…

- -- - - - ---MANION AMAETHYDDCL.

NODION O'R LLAN. :

.LLANFROTHEN.

Advertising