Skip to main content
Hide Articles List

10 articles on this Page

8LAENAU FFESTINIOG.j

BAZAAR MAENOFFEREN, BLAENAU…

Marwolaeth GoruchwyliwrI Chwarel…

I TANYGRISIAU.

PENRHYNDEUDRAETH.I

!Yr Ewythr, y Meddyg, a'r…

News
Cite
Share

Yr Ewythr, y Meddyg, a'r Canghellydd. Y dydd o'r blaen wrth droi papurau a hen lythyrau, daeth Dr. R. D. Evans, U.H., Llys Meddyg, Blaenau Ffestiniog, ar draws y llythyr canlynol Anwyl ffrynd.-Mae genyf un caredigrwydd i'w ofyn genych y tro hwn ar ran fy Chwaer. —Mae'n Bachgen David yma wedi cael attack tebyg i'r un gafodd pan oeddych chwi y ffordd yma, a thrugaredd fod un neu ddau o'r powders ddarfu i cbwi eu prescnbio iddo heb fyned- daethant ag ef ato ei hiin rhag blaen y tro hwn eto. Mae arnaf ofn ymddiried i'r "Drugg" Jones yma rhag nad yw yn cofio beth oedd y Recipe yn iawn, a fyddai yn anhawdd genych enclosio y prescribtion yn eich llythyr nesaf at eich worthy sister-gallwn ei gael felly yn lled fuan am y byddwch yn anfon adref bob wythnos, fel mae'n dda genyf ddeall. Byddwn yn ddiolcbgar iawn-mae mor effeithiol i'r poor boy, Byth yn ffyddlon, R. LL." Ysgrifenydd y llythyr oedd Mr. Richard Lloyd, Criccietb, ewythr Mr. David Lloyd George, a'r un yr ysgrifenai ato oedd Dr. R. D. Evans. Yr oedd Dr. Evans ar y pryd yn 17 oed ac yn fyfyriwr meddygol yn Ngholeg Caerdydd; a'r poor Boy a ein Bachgen David yw y Gwir Anthydeddus David Lloyd George, oedd y pryd hwnw o naw i ddeg oed. Arferai gael ymosodiadau trwm o anhwyldeb corphorol pan yn hogyn, a llwyddodd Dr Evans i daraw ar y cyffur priodol at ei ddolur fel y mae'n amlwg oddiwrth lythyr yr ewythr. Hir oes i'r tri.

- -- - - - ---MANION AMAETHYDDCL.

NODION O'R LLAN. :

.LLANFROTHEN.

Advertising