Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

NODI AD AU WYTHN0S0L

I FLORENCE NIGHTINGALE.

News
Cite
Share

FLORENCE NIGHTINGALE. Dydd Sadwrn, bu farw Florence Nightingale hefyd, yn Ilawn 90 mlwydd oed. Prin y mae yn rhaid dywedyd iddi hi ddyfod yn adnabyddus i bobl Prydain Fawr. ac yn anwyl iawn ganddynt trwy ei gwasanaeth arwrol i'r clwyfedigion a'r cleifion yn rhyfel y Crimea, fwy na haner can' mlynedd yn ol. Pan nad oedd ond geneth ieuanc iawn nodweddid hi gan deimlad tyner ragorol a barai iddi geisio ymgelyddu pa greadur bynag a welai mewn poen. Wedi iddi gyraedd oedran a wnai hyny yn bosibl, ymrodd- odd i weini ar y cleifion gerllaw pres wylfod ei rhieni, y rhai oeddynt yn bobl mewn amgylchiadau clyd iawn. Yn ystod rhyfel Crimea, gwybuwyd fod nifer luosog o'r milwyr Prydeinig yn dioddef pethau ofnadwy ac nad oedd neb wrth law i estyn iddynt ymgeledd, a'r pryd hyny aeth Florenee Nightingale allan gan gymeryd gyda hi ddwy-ar- bymtheg-ar-hugain o weiriyddesau. Yr oedd ei hiechyd y pryd hyny mewn cyflwr anfoddhaol i'r eithaf, ond ni wybuwyd hyny hyd yn ddiweddarach. Gwnaeth hi a'r rhai a'i cynorthwyent wasanaeth anmhrisiadwy i'r dioddefwyr, ac edrychai'r milwyr arni fel pe buasai angel. Nid oedd llawer rhyngddynt a'i haddoli. Ar ei dychweliad adref, rhodd- wyd iddi dderbyniad mwy na thywys- ogaidd. Cyflwydwyd iddi ^50,000 fel anrheg genedlaethol, ond ni fynai gym- eryd ceiniog o honvnt, a rhpddodd y cwbli sefydlu a chynal Cartref i Wein- yddesau," lie yr hyfforddir merched i'r gwaith' a ddechreuodd hi ac yr ymrodd- odd iddo gyda'r fath sel a gwroldeb a thynerweh. Da ydyw gweled pobl yn dysgu cydnabod a gwertbfawrogi gwas- anaeth yn y ffurf yma, ac i edrych arno fel gwasanaeth mor arwrol ag unrhyw weithred a gyflawnwyd gan wyr arfog ar faes rhyfel erioed, Eisoes mae enwau y rhan fwyaf-enwau bron yr oil—o ryfelwyr penaf y Crimea wedi eu hang- hofio. Nid feMy enw Florence Night- ingale. Cofir ei henw yn hir, a thra 'i cofir fe'i haJnwylir hefyd.

Y BLAID GYMREIG.

IGWYN CANADA YN ERBYN DIFFYN-…

-MR. WINSTON CHURCHILL A'I…