Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

6 articles on this Page

Advertising

NODI AD AU WYTHN0S0L

News
Cite
Share

NODI AD AU WYTHN0S0L 1ARLL SPENCER. Nos Sad wrn diweddaf, bu farw larll Spencer, wedi gwaeledd hir, yn 75ain mlwydd oed. Pryd nad oedd ond dwy- ar-hugain oed, etholwyd ef yn aelod o Dy'r Cyffredin fel cynrychiolydd Swydd Northampton; ond cyn pen blwyddyn bu farw ei did, a chymerodd yntau ei sedd yn Nhy'r Arglwyddi. Yn fuan iawn gwybu ei gyd-arglwyddi fod y pendefig ieuanc yn haeddu ac yn hawlio parch, ac ni chafwyd hwynt yn hwyr- frydig i roddi parch iddo. Wedi dal amrywewyddi israddolond anrhydeddus yn y Brenhin-llys, a than fwy nag un Weinyddiaeth Byddfrydig, penodwyd ef yn y flwyddyn 1868 yn Arglwydd-Rag- law yr Iwerddon, a daliodd y swydd hono hyd y flwyddyn 1874. Ail ym- aflodd ynddi yn y flwyddyn 1882, a'r dydd y cyrhaeddodd Dublinlllofrudd- iwyd y diweddar Arglwydd Frederick Cavendish a Mr Burke, mewn modd ac mewn amgylchiadau a lanwodd y wlad a braw, ac a digofaint llidiog hefyd. Bu y weithred hono yn foddion i brofi cryfder a gwroldcb larll Spencer, a i ffyddlondeb i'w egwyddorion, a daliodd y prawf er llymed oedd. Syrthiodd i'w ran i weinyddu'r gyfraith a elwid Act y Troseddau- eyfraith na feddyliai neb am lunio ei thebyg. yn awr. Gwnaeth hyny o'i anfodd mae'n sicr, ond yn bwyllog a diofn. Oherwydd hyny yr oedd yr arweinwvr Gwyddelig wrth eu gwaith yn ei felldigo ac yn dysgu eu canlynwyr i wneyd felly. Galwent ef yr larll Coch-Ilys enw a roddasant arno oherwydd fod ei farf o liw coch iawn; edliwiasant iddo y ffaith ei fod yn ddiblant, gan ddywedyd fod hyny wedi chwerwi ei yspryd hyd onid oedd tywallt gwaed rhieni a phobl ieuainc yr xwerddon yn waith hyfryd ganddo ei wneyd. Ond ni thyciodd hyn oil i beri iddo wyro trwch blewyn oddiar lwybr dyledswydd, nac i wanhau ei awydd i wasanaethu yr Iwerddon. Yn 1886, rhoddwyd iddo swyddArglwvdd-Lywydd y Cyngor yng rig weinyddiaeth Mr. Gladstone, ac yn 1892 penodwyd ef yn Brif-Arglwydd y Morlys. Erbyn hyn yr oedd yn dwyn mawr sel dros ymreolaeth i'r Iwerddon, a chafodd Mr Gladstone ynddo gynorthwywr y gallai ddibynu I arno, ac achos ymreolaeth bleidiwr cryf a selog. Am dymor hir safodd yn amlwg ym mysg arweinwyr y Blaid Ryddfrydol -wmnemmsBamm -aanra i:*w riwg. ac ni ehafwyd neb yn flyddlonach i egwyddorion Rhyddfrydiaeth nag y cafwyd ef ar hyd y blynyddoedd. Er na ddywedai ei edmygwyr penaf ei fod yn wladweinydcl mawr, rhaid i'w wrth- wynebwyr cryfaf gydnabod ei fod yn wladweinydd cywir ac egwyddorol, a wnaeth i'w wlad wasanaeth mawr a gwerthfawr a'i gwna yn ddyledus i anrhydeddu ei goffadwriaeth. Cymerir ei deitl a'i etifeddiaeth gan ei haner- brawd Arglwydd Althorp. Adwaenid y gwr hwnw hyd yn gydmarol ddiweddar fel yr Anrhydeddus Robert Spencer- Bobby" fel y'i gelwid gan ei gyd- aelodau seneddol, ymhlith y rhai yr oedd (ac y mae eto) yn ffafryn mawr iawn. Efe sydd yn dal swydd Arglwydd- Ystafellydd y Brenin, ac y mae yn Rhyddfrydwr iach.

I FLORENCE NIGHTINGALE.

Y BLAID GYMREIG.

IGWYN CANADA YN ERBYN DIFFYN-…

-MR. WINSTON CHURCHILL A'I…