Welsh Newspapers
Search 15 million Welsh newspaper articles
17 articles on this Page
Y CAPEL A'R CAPELWR.
Y CAPEL A'R CAPELWR. Syr.—Gair eto i'r Capelwr, os ar dir y rhai byw. os nad yw, at ei frodyr capelyddol. Un- waith mae yr enw capal" yn y Beibl. Ei ystyr yw llys barn. Ond yn amser Amos fel yn ein hamser ni, yr oedd barn wedi ei throi yn ol, a'r gorchymyn allanam beidio proffwydo yn Bethai mwy. Yr oedd y ty yn wag, ac -felly y bu hyd Grist, a byth ar ol hyny Eich ty a adewir i chwi yn anghyfanedd." 'Doedd yr Arch ddim ynddo. Profiad Noah yn yr Arch yw eiddo y cristion tra heb fyned gyda'r lluaws i wneyd drwg." Diystyr iawn oedd y dyn dall o'r Phariseaid ar ol i Grist agor ei lygaid ef-" dyn yn gweled oedd yn awr fel pob cristion. Mae proffes dda gan Balaam a Pad. Y gwr yr agorwyd ei lygaid," yw proffes y ddau, ond nid yw y broffes hon yn cynwys profiad Noah yn yr Arch, nac eiddo y dyn daU." Representio y ddau uchod y mae y Capel a'r Capelwr, ac felly yn amser Abram •yr oeddynt yn cael eu cyffelybu i hwrdd inewn drain." Dyna yr olwg mae yn debyg a gafodd Capalwr arno el bun wrth ddarllen fy ysgrif yn y Rhedegydd,O. WEN.
LLAN, .Y CYNGHORWYR A'R AGOR-IADAU,
LLAN, Y CYNGHORWYR A'R AGOR- IADAU, Syr Teimlaf beth dyddordeb yn yr achos hwn, ac yn gymaint ac fod Trethàalwr" wedi amlygu ei fwriad yn Rhedegydd Gorpbenaf 30, na wnai sylw o ddim a ysgrifenid ynglyn a'r mater, oni cheid atebion clir a chyflawn i'r deg gofyniad, ond gan y teimlaf lawn cydym- deimlad a Trethdalwr," am y credaf y dylem Igynal breichiau pwy bynag fyddo vn rboddi pwys ar ddynoliaeth gref, unpl/g a diboced. A phar tipyn rhywbeth ?, Hea Drethdalwr"— dyna'r enw goreu gredaf eliir roddi ar ai gym- ysgfa amddiffynol yr wythnos ddiweddaf, a beth yn y byd barodd i'r creadur yma feddwl y gall fod o fantais i amddiffyn neb; rhodded ei delyn ar yr helyg, a bydd ein Cynghorwyr yn llawer gwell allan. Mae yn ymddangos fel pe ar- ierai fyw yn musoes pobl eraill cyn y buasai yn troi ei dafod a'i ysgrifell gyda'rachos hwn, a beth yoy byd a'i cymhelloddihyny, nisgwn. Dywed ei fod yn credu nad oes gan y Cynghorwyr eisiau ymgecru, ac eto mae ef yn dyfod i'r maes o bwrpas i hyny, paham na chymer ddalen o'i besiampl, ac astudied beth olygir wrth ymgecru," cyn y gwna byth eto alw am attebion i ddeg o ofyniadau yn ymgecru," Fe byddai Hen Drethdalwr." yn gwybod jhywbeth am Dividend a Bonus buaswn yn ei argymell i fod yn ofalus gyda'i details mewn iaith cyn eu defnyddio. A chan mai *( Hen Drethdalwr" sydd ar y maes carwn ofyn am atebion ganddo ef i'r ychydig ofyn- iadau canlynol :-1, A ydyw ef bob amser yn mbiaid Y Gwir ?" 2, A ydyw Y Gwir yn hawlio ei amddiffyn ? 3, A wel Hen Dreth- datwr fai arnaf fi Amddiffyn Y Gwir ?" 4, A Wnai Hen Drethdalwr amddiffyn cyfeill- ion pe yn cyflwyrso adroddiad anwiteddus ? 5, A ydoedd tystiolaeth y Cynghorwyr yn cynwys y gwir i gyd ? 6 A wna Hen Dethdalwr," eu hamdditfyn pe na byddai eu tystiolaeth yn wir i gyd ? 7, A'i am fod y Cynghorwyr yn methu ateb y gcfyniidau y geilw Hen Dreth- dalwr" hwy yn aelodau rhagorol a thang- nefeddus ? 8, Ydyw Hen Drethdalwr" yn sicr ei fod yn deall yr amgylchiadau ? Os ydyw gadawer ei glywed yn egluro hyny. 9. Tybed y gwybydda Hen Drethdalwyr" fod u Trethdaivur yn caru y cynghorwyr yn fwy p* ohiegrifl ei fod yn rhoi cyfleusdra iddynt iamddiffyn eu tvgtioJaeth ? Ydwyf. TRETHDALWR NEWYDD.
0 BORTHMADOG I BWLLHELI.I
0 BORTHMADOG I BWLLHELI. Prydnawn Llun, bu farw Mrs Robert Wil- liams, Park Square, yn 40aip mlwydd oed. Yr oedd hi yn briod i'r diweddar Cadben Robert Williams, Criccieth, ac yn ferch i'r diweddar Owen Roberts, Ironmonger. Bu yn waei am lawer o fiynyddau. Bu Mr R. M. Greaves, y Wern, yn llwydd- ianus i gipio amryw wobrau yn yr Arddangosfa Frenhinol yn Llanelli yr wythnos o'r blaen jgrda'i wartheg duon Cymreig. j-owri C. Roberts, merch Mr a 'Mrs Pierce Roberts, weui pasio ei harboliad cerddorol yn y Trinity College, Llundain, gydag anrhydedd. Mae Clwb y Golffwyr wedi penodi eu swydd- ogioa ac jn hwylio at belaethu y mass chwareu. Arglwydd Hari^Ch yw y llywydd, Mr D O. M Ro&erts yn gadben, Mr Llew Davies yn is-gadben, Mr William Jones yn ysgrifenydd, a Mr John Owain Hughes yn drysorydd. Mae Criccieth yn parbau yn lie o atdyniad i ymwelwyr urddasol. Yr wythnos ddiwaddaf bu Mr Haldane, Llywydd y Swyddfa Ryfel, ar ymweliad a'r lie yn nghwmpeini Mr Lloyd George, Caoghellydd y Trysorlys, a't teulu. Eir ymlaen yn brysur gyda'r Hythyrdy newydd yn y dref, ac y mae Cwmni y Rheil- ffordd yn prysur eaogu yr oisaf ac yn gwneyd deiladau vchwanegol yno. Bu i ryw leidr beiddgar dori i mewn i Westy y Black Lion, yn TVhwllheri. diwedd yr wyth ncs, a lladrata oddiyno dros naw punt. Nid yw yr heddgeidwaid hyd yn hyn wedi cael j gafael ar y trcseddwyj. Cyfarfyddodd yr Henadur Eifl Jones a i damwain trwy syrthio yn y ty gwair yr wythnos m'r blaen. Mae yn graddol wella. Hwyiir ar gyfer cynal Cymanfa Undebol Anenwado1 yn y dref ddiwedd yr haf. Mae Mr Harry Evans wedi ei nodi allan fel arwein- ydd. Diau y ca' y mudiad bob celaogaeth. j Cynbelir math o gystadlenon dyddorol gan y j golffwyr yr wythnos hon. Gwneir trefniadau gan Mr Caradoc Davies, yr Ysgrifenydd. i Trodd y tywydd allan braidd yn anffafriol ar gyfer thedegla gychod Lianbedrog dydd lau Bu rai gohirio rhai adranau hyd dydd Sadwtn. j
TRAWSFYNYDD.I
TRAWSFYNYDD. I Y CYNHAUAF GWAIR.-Golwg brysur sydd i'w gael aryr amaethwyr y dyddiau hyn gyda'r gwair. Mae rhai yn llawenhau o gael y gwair i ddiddosrwydd, ac eraiil yn ymyl ei gael, a chredwn ei fed yn gynbauaf toreithiog. YMRYSONFA.—Fel y mae yn hen arfer yn mysg amaethwyr ac eraiil, i gae! ymrysonfa tori gwair, felly eleni, mewn maes perthynol i Mr Evan Jones, GwynfynydB. Yr oedd y I cystadleuwyr yn Iluosog, a chymerid dyddordeb neillduol yn y path gan yr edrychwyr. EoiIl- wyd y gwobrwyon fel y canlyn :—1 Henry Pugh, Cefndeuddwr; 2 Robert Owen, Gwyn- fynydd; 3 Griffith Owen. Gwynfynydd 4 Evan Jones, Hafotty Bach; 5 Thomas E. Thomas, Gwynfynydd. Y beirniaid oeddynt Mri Edward Jones, Beddcoedwr, a Richard Jones, Bwlchyffordd. Gwasanaethid fel Field Commander gan yr hen gyfaill dyddan Mr Evan Jones, Gwynfynydd, mewn modd deheuig iawn. Ca'fwyd hwyl ragorol a noson ddifyr wedi cael ei threulio ac yn sicr yr oedd y gystadleuaeth mor dda fel ag i roddi tal da i bawb am ddyfod yno. Er cymaint oedd pryder y swyddogion, sef Mr Humphrey Jones, Hafodty Bach, fel Ysgrifenydd, a'r Trysorydd caredig Mr John l'ugh, Cefndeuddwr, am lwyddiant y gystadleuaeth, credwn fod y naill a'r llall o hoovnt yn llawer mwy cefoog ar y diwedd er i'r god gael ei gwaghau yn drwm. Y NEUADD GYNULL-M:ae y Pwyl!gor wedi gweithio yn egniol dros ben gyda'r symudiad hwn, ac edrychir ymlaen gyda dyddordeb neillduol at y Cyngberddau sydd i'w cynal er budd y symudiad, ac yn sicr y maent yn haeddu cael cefnogaeth gyffredinol gyda'r mudiad, gan fod enwogion o fri yn myd cerdd a chan yn dod i wasanatthu. Y mae y cyngerdd cyrtif wedi ei drefou i fod yn y Camp heno (cos Iau), ac y mae'n ddiameu y manteisia llswar o'r pentrefwyr ar y cyfleusdra i gael taita i'r Camp unwaith eto. Ymae y cyngerdd an 1! i fod yn y pentref, yn Ysgoldy y Cynghor, nos Sadwrn, fC y mae enw&u y cantorion sydd ar yr hysbysleni yn ddigon o sicrwydd am gyngerdd da. Mynwn eu clywed gan fod rhai o honynt yn ddieithr i'r ardal. MARWOLAETH.—Tra mae rhai yn edrych ymlaen am wleddoedd cerddorol cawn eraill yn yr ardal mewn dygn brofedigaeth ar ol eu hanwyliaid. Dyna welwn eto yr wythnos hon ydyw ollla angeu yn gweithio; feliy y bu gyda'r hen gyfaill dyddan Mr David Pugh, Frongaled. Yr oedTd arwyddion amlwg er's rhai misoedd bellach fod y ty o bridd yn dad- feilio, ond pan ddaeth y diwedd yr oedd yn newydd prudd. Cafodd ei gystuddio ond cafodd neith i beidio grwgnach. Bu ei ferch a'i fab-yn nghyfraith yn hynod o ofalus o hono yn ei gystudd, sef Mr a Mrs Jacob Jones, ond er pob gofal meddygol a theuluol daeth y diwedd prydnawn Sabboth diweddaf, yn yr cedran cynar o 57ain mlwydd oed. Cleddir ei weddiilion yn mynweot Salem heddyw (Iau). Gadawodd chwech o blant, pump o fetched ac un mab, ac un chwaer i alaru ar ei ol, gyda'r rhai y mae ein cydymdeimlad dyfnaf. A/WWVWWWWWWWWWWVA
FFESTINIOG.
FFESTINIOG. Dydd Mercher, Awst 3ydd, yn nghapel Engedi, Ffestiniog, unwyd mewn glan briodas Miss Lily Cunnington, Brynbrisgyll, a Mr D. A. Roberts, yn awr o New Brighton. Cafwyd boreufwyd blasus yn nhy y briodferch, lie yr oedd llu o wahoddedigion wedi ymgasglu i'w croesawu, a dymuno yn dda iddynt. Aeth y par ieuanc yn yr hwyr yn ol am New Brighton, lie y bwriadant gartrefu. Llwyddiant a phob hapusrwydd iddynt. YR ARDDANGHOSFA.- Y mae golwg ar- dderchog iawn am Arddanghosfa lwyddianus yma ar y 27ain o'r mis hwn, gan fod yr Entries yn dylifo i law yr ysgrifenydd-Mr. A. E. Foster, Bronddwyryd. Y mae y pwyllgor yn flodus iawn wedi sicrhau gwasanaeth Mr. John R. Davies, o'r Chwarelau Oakeleys i feirniadu Adran yr Holiti Llechi. Hysbysir ar y pryd pa nifer o lechi fydd yn angenrheid- iol i bob cystadleuydd wneyd allan o bob block.
DOLWYODELEN. I
DOLWYODELEN. Y BAZAAR A CHANGELLYDD Y TRYSORLYS. -Yr wythnos hon bydd Metbodistiaid yr ardal hon yn hynod o brysur gyda'r uchod. Eisoes mae gwaith mawr wedi ei v nevd, a bydd y cyfryw yn cael ei ddangos a'i werthu ya yr Ysgoldy dyddiau Iau, Gwener, a Sadwrn. Y mae y Pwyllgor wedi sicrhau gwasanaeth rhai o brif enwogioa y dayrnas i ddod yma i'w bagor. Dydd Iau bydd Mr Lloyd George, "LDgbeIJydd y Trysorlys," a. Mrs Lloyd George, yisgbyda Mr W. Jones. A.S., yma Dydd Gwener, agoiir gan Mr J> D. Jones, Llanrwst, a Mrs Rogers Jones, Llanrwst Gwssanaethir befyd gan Mr a Mrs Henderson Jones, Taisarn, a Llew Owen, o'r ardal hon. Gwneir trefDiadau gael train thad, fel na byddo neb yn caei mantais i atbsenoli eu hunain oddiyna. Prydnawn heddyw bydd Cymdeithas Gristioncgal Mercbed Iauaiogc Blaenau rFfeüiniog yn dod am eu Picnic i r Castell. CERDDOROL—Llawen geaym ganfod Ilwydd iant d&u gerddor ieuanc ac addawo! o'r arch] hon, yn yr arholiad a gynhaliwyd yn L'aorwsi y mis diweddaf. Liwyddodd Miss Essie Xch- erts, School Houee, i enill ssfle anrhydeddus mewn chwareu y bsrdoneg, a daeth Harry, ei brawd drwyddi yn gacmoladwy. Addysgwyd y ddau gan yr Athro D. D. Parry, A.R.C.M., Llanrwst.
Ymweliad y Cangellydd a DyffrynI…
Ymweliad y Cangellydd a Dyffryn I Conwy. Heddyw (ddydd Iau). y mae Mrs. Lloyd George i agor Nodachfa Dolwyddeien, a bydd v Caoghellydd gyda hi yno. Y mae y boneddwr anrhydeddus i siinad yn Bodnact, Eglw., sbach y prydnawn.
BLAENAU FFESTINIOG._I
BLAENAU FFESTINIOG. I I BWLLHF-LI.-Dydd LInn. bu Ysgolion Sabbotnol Eglwysi Jerusalem, Bethania, a Salem, Rhiw, am drip i Bwllheli. Cawsant hin ddymunol iawn.—Dydd Llun nesaf, bydd Ysgolion Sul, Calfaria, Morian, a .Seion, yn myned i'r un He. SPECTOLS.—Os bydd rhywbeth allan o le ar eich Spectols, gellir ei gwneyd yn foddhaol gan Mr. Hugh Jones, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog, yr nnig Optician yn Sir Feirionydd, sydd wedipasio Arhol- iadau yn y cyfeiriad hyn. Nid oes gwell Cod Liver Oil i'w gael yn un- man na'r hwn a werthir am bris bynod o isel gan HUGH JONES, Chemist, Medical Hall, Blaenau Ffestiniog. YN RHODIO I ANRHYDF-DD.-Dyna yn syml ydyw banes ein cyfaill leuanc diymhongar, ond talentog, David J. Davies, mab Mr a Mrs Ellis Davies, Leeds Street. Wedi bod yn ngwasanaeth Mr Yale a'i Gwmni yn Ngorsaf Drydanol Dolwen am tua deg mlynedd, cafodd tua thri mis yn ol wahoddiad gan Gorphoraeth Manceinion i gymeryd gofal rhai o'r Gorsaf- oedd Trydanol.yno. Yn fuan iawn tynodd ei gymhwysder i'w swydd, sylw Hygaid ei Feistr- iaid, a daethant ar unwaith i ddeall ei fod yn ddyn ieuanc gwir ofalus a galluog, ac maent erbyn hyn wedi ei ddvrchafu yn un i gymeryd gofal eu Gorsaf Drydanol bwysicaf, yn dwyn yr enw Polygon." Yr ydym o eigion calon yn 'ei longyfarch ar ei safle anrhydeddus Dichon na wyr llawer, byd yn oed yn Ffestin- iog. iddo yn ddiweddar droi allan yn ddyfeisydd a pharchen yr unig ddyfais i atal Motor Cats i drafaelio mwy nag ugain milltir yr awr, a liwyddodd i gael patent arno, a phwy wyr ? pan fydd y Llywodraeth yn cymeryd yn fan- ylach amddiffyniad bywyd ei deiliaid i'w Haw, na thry y ddyfais yn ffertiwn iddo. Fodd bynag, mai'r ffaith ynddi ei hun, ynghyda'r safle mae ein cyfaill eisoes wedi ei gyrhaedd yn ei alwedigaeth, yn profi fod ynddo allu eithriadoi, ac yn glod nid yn unig i'w deulu, ond i'r ardal yn gyffredinol. Yn nwch yr elo. COR BREINIOL MERCHED CYMRU.—Fel y gwelir oddiwrih ein colofnau hysbysiadol, bydd y cor uchod yn talu ymweliad a'n tref nos Ian nesaf, Awst 18. Dyma ymweliad cyntaf y cor rhagorol a byd-eowog hwn a'n bardal, a dylai pawb fanteisio ar y cyfleusdra i'w glywed. Ni chlywodd Cymru gor o ferched hafal iddo, ac?, nid oes ond canmoliaeth i'w glywed iddo o bob man y mae wedi bod ynddo. Y mae pob aelod ynddo yn llais diwylliedig, a gall bob un gymeryd y llwyfan fel unawdwr. Fe fydd y rhaglen roddir yma yn un poblogaidd a Chym- reig, ac yn sicr o dynu'r ty i lawr. Cadwed pawb eu sylltau a'u chwecheiniogau tan nos Iau nesaf, Awst 18, a chant noson o ganu heb eithebyg. O'R WLADFA.—Da genym groesawu amryw o'r Gwladfawyr i'n plith. Y Bonwr Morris Owen, a'i fam, a'i wyres. Mae llawer o gydnabod Mrs Owen yn yr ardal. Priod y diweddar John Owen, Saer, Conglywal, pynt, wedi bod yn y Wladfa am 35 mlynedd, ac wedi bod yn llwyddianus iawn fel llawer o'n cyd- genedl. Daeth hefyd y Bonwr John Henry lones, Dolwyddelen, a'i deulu, a'r Bonwr Robert Roberts, a'r teulu, i gymydogaeth y Bala. Yr 011 yn edr Ich yn dda a cheinog. R J. ENILL.—Drwg genym i ni adael enw Mr Philip Williams, Pretoria, Glanypwll, allan o restr buddugwyr Gwyl y Bane, yn Arddangosfa Beaumaris. Efe enillodd y wobr gyntaf gyda torlwyth o gwn bach ac mae wedi gwrthod ymadael a dau eisoes am bris sylweddol. Enillodd Mr Gwilym Humphreys, 3ydd wobr yn yr un arddangosfa gyda Fox Terrier, a Mr Richard Williams, Tyddyn Gwyn Road, Conglywal, y wobr flaenaf gyda'i Ddaeargi Cymreig. Hefyd enillodd Mr Robert R. Jones, 18, Dorfil Street, y wobr flaenaf gyda Colomen Jacobin yn Arddangosfa Ruabon, a'r drydedd wobr yn Arddangosfa Bangor. Llongyfarchwn hwy oil. YIVIFUDO.—Ddoe (ddydd Mercher), yr oedd Mr. W. H. Roberts, 9, Leeds Street, yn ymfudo i Red Deer, Alberta, Canada. Dymunwn iddo bob llwyddiant ac hapusrwydd yn ngwtad y Gorllewin. LLWYDDIANT CERDDOR'OL.—Da ggsnym ddeall fod Miss Jane Alice Jones, 2, Picton Terrace, wedi myned trwodd yn llwyddianus gyda anrhydedd mewn chwareu y berdoneg yn yr arholiad a gynhaliwyd yn Llanrwst y mis diweddaf. Parotowyd hi gan Mr D. D. Parry, A.R.C.M., Llanrwst. ARWESA: LLYN Y M ORWYNION ,-Mae yr uchod erbyn hyn yn nesbau, ac y mae y rhagolygon yn dra chaionogol. Liu o enwau eisoes wedi eu derbyn, a cbofied yr holl ymgeiswyr fod y cynyrchion i gyrraedd eu priodol feirniad, ac enwau yr adroddwyr a'r cantorion i gyrraedd yr Ysgrifenydd ar neu cyn dydd Llun nesaf, Awst 15fed. Sylwed y cantorion mai yr Unawd i Unrhyw Lais yw Tra bo dau," ac nid fel yr hysbysir ar y rhaglen. DAfi vEiNiAU.—Ganol dydd Llun, cyfarfu Danie.. sacbgen bychan Mr J. D. Davies, Wynne ko'\], a damwain drom trwy idd«o syrthio o ben wal uchel yn cghefn y ty i ganol meini, i mddengys i gareg fawr oedd ar ben y wal roddi ffordd, ac i'r bychan syrthio gyda 11.i. Archollwyd ei ben yn drwm a chafodd ysgydwad i'r ymenyddf. Gweinyddwyd arno gan Dr Evabs.-Wrth chwareu ar y ffor.dd yn Glanypwll bu i Owen Davies, bachgen Mr Hugh Davies, Tai, faglu. Syrthiodd ar y llordd, a thorodd asgwrn ei fraich yn y penelin, a tbaflodd ei ysgwydd o'i lie. A BOON TO MOTHERS.—" Nurserine:" is the Idelll Nursery remade, it destroys Nits and Vermin and all pests in children's hair. It makås the hair soft and si ky. Soe Agent, Hugh Jones, Chemist, Medical Hall, Blaenau Festintog.
ER SERCHOG GOFFADWRIAETH.…
ER SERCHOG GOFFADWRIAETH. I Am David Owen, anwyl fab Rowland a Cath- erine Owen, 6, Summer Hill Terrace, BI. Ffestiniog, yr hwn a hunodd yn yr Iesu Mehefin 10, 1909, yn 15 mlwydd oed. Na chwynfanwch deulu hawddgar Wrth y dyner wanwyn dlos, Os y daeth i agar i chwi Lythyr, wnaeth eich dydd yn nos Cenad gafodd gan ei Grewr, Yntau ddaeth i'ch gardd fel hyn Ef ei hua ddangosodd iddo, I P'un oedd addfed ac yn wyn. Gwelwch chwithau pa mor barod, Ydoedd ef i'ch gadael chwi, Canai yn eich gwydd yr Emyn, Ti, 0 Iesu, bia fi; 11 Bloayn ydoedd llawn aeddfedrwydd, Teg ei bryd i arall wlad, Heibio rboddodd wisgoedd daear Am y wisg yn nhy ei Dad. Gwyddwn ni, a gwyddai eraill, Pa fath un oedd David 'rioed, Un a hoffai wrandaw gweddi, Pan nad oedd ond deuddeg oed Cofio 'rwyf y dorf yn fychan, Mewn anedd-dai lawer gwaith, Neb i daraw tant yr Emyn- David fyddai yn y gwaith. O ardderchog blentyn Iesu, Y mae hiraeth ar dy ol, Ond wrth gofio dy fod yna Mae'n rhoi nerth i'w ddal e' nol; Cana bellach vn dy wynfyd, Ti enillaist fythol hedd, Tragwyddoldeb o lawenydd Heb na blinder, poen na bedd. EVAN JONES, 121, High Street, Blaenau Ffestiniog.
IER SERCHOG GOFI
ER SERCHOG GOF Am Mrs. Mary Llovd, anwyl briod Mr Robert Lloyd, Penlan Isaf, Penrhyndeudraeth, yr hon a fu farw dydd Iau, Mai y 12, 1910, ac a gladdwyd dydd Llun canlynol. Hedeg wnaeth hi wedi treulio Oriau'i hoes i Iesu Grist, Caru wnaeth yr Hwn fu farw- Caru'n Ilawen, nid yn drist; Cofiodd hon, os cawsai yma Gwmni'r Iesu cu o hyd, Y buasai n cael ei gwmni I fyn'd fry i arall fyd. Gorphwys arno yn yr afon, Wnaeth gan afael yn ei law, Felly wedi ei garu yma Ca'dd ei gwmni i'r ochor draw; Os ca'dd yma yn yr anial Deimlo ami chwerw loes, Y mae beddyw wedi myned Draw i wlad lie nad oescroes. Y mae yno'n awr yn canu Aur delynau'r drydedd nef, Yn mhlith llu o heirdd angylion, Ger ei ddisglaer orsedd ef; Canu, am y marw rhyfedd, Fu ar fynydd Calfari, Canu byth i'r hwn a'i daliodd, Pan yn croesi grym y Hi. Dyna'n gweddi ddwysaf ninau, Wrth i n ddilyn ar ei hoi, Yw cael cwmni'r Iesu yma Er cael myn'd i'w gynes gol; 1 Iesu hawddgar cofia'r teulu Trist sy'n wylo ar y llawr, Taena'th aden dirion trostynt, Tro eu nbos yn ddwyfol wawr. GWLADYS WILLIAMS, Cae'rhys, Trawsfynydd.
NANTMOR. j
NANTMOR. j Da genym weled un o fechgyn yr ardal, Mr J. Marnant Hughes, ki.bc.. Ysgot Sirol Caergybi, mab Mr a Mrs William Hughes, Cwmcaeth, yn mysg y ddirprwyaeth sydd wedi ei banfon i'r wlad ddiffyndollawl Germany, i edrych i mewn i'w sefyllfa gymdeithasol Edrychir arnynt yn debyg i'r ysbiwyr hyny gynt yn myn'd drosoddd i edrych ansawdd y wlad. Disgwylir ya hyderus am eu hadroddiad er cael eu barn am sefyllfa y ddwy wlad, sef gwlad diffyndollawl a gwlad rydd.
TALYBONT.I
TALYBONT. I Y BAZAAR.—Deallwn fod y Bazaar a gyn- baliwvd ddyddiau Iau a Gwener diweddaf, o dan nawdd a thuag at achos y Methodistiaid Calfinaidd wedi sylweddoli £ 150 o elw dir. Llongyfarchwn y pwyllgor ar eu llwyddiant. YN GWELLA.-Da genym glvwed fod priod y Parch W. Ê. Williams yn gwelll o'i gwaleledd diweddar. Dymunwn ei llwyr adferiad a hyny yn fuan.
Marwolaeth y Parch. Griffith…
Marwolaeth y Parch. Griffith Owen, Rhosddu. Wedi yn agos i ddeng mlynedd a'r hug-nn o weioidogaetbau yn Rhosddu, bu farw y Parch Griffith Owen. Mab ydoedd Mr Owen i'r diweddar Cadwaladr Owen, Bodegroes, Dol- wyddelen, ac yr oedd cysylltiad agos rhyngddo a theulu enwog Tanycastell. Ordeioiwyd ef yn 1867 ar ol cwrs o astudiaeth yn ngoleg y Bala. Bu am amryw flynyddoedd yn gweinidogaethu yn Din Mael, ac yn 1881 sefydlodd yn Rhosddu. Yr oedd yn bur llwyddianus fel gweinidog, ac yn lienor gwych fel y prawf "Cofiant Cadwaladr Owen" o'i waith. Yr oedd yn llafurio er's gryn amser ar Hanes M ethodistiaeth yn Sir Fflint."
[No title]
Mae jielodau afswyddogion Gyngcr Dosbarth Absrmaw wedi pasio i anrhegu Mr. William George, ar ei briodas. Mae Mr. George wedi gwsithrddu fel Clerc y Cyngor o'i gychwyniad.
TANYGRISIAU.
TANYGRISIAU. GWIBDAITH -Dydd Sadwrn diweddaf, bu aelodau Teml Barlwyd ac eraill yn mwynhiu eu bunain ar Ian y* mor yn Mhorthygest. Cawsant hin ddymunoJ a siwrnai gysurus, YN GWELLA,—Da genym ddeall fod Mr H. H. Roberts yn gwella yn dda ar ol bod mewo gwaeiedd. TRYDANOL.—Deallwn fod eglwys Bethel yn symud yn mlaen i gael goleuni trydanol i oleuo y capel. Y mae y gwaith wedi ei osod, ac aelodau yr eglwys o ddifrif yn casglu ar gyfer y draul. Diau y bydd hyn yn welliant o'r mwyaf yn y lie. AR YMWELIAD.- Y mae yma lawer o'n cyf- eillion a'n hen gymydogion ar ymweliad a'r ardal y dyddiau hyn. a da genym weled eu hwynebau oil unwaith yn rhagor. CERDDOROL.—Noa Sul diweddaf, yn eglwys, Bethel, dewiswyd Mr W. 0. Edwards, Y Ddol, i cbwareu yr offeryn gyda y ddau sydd eisoes yn ffvddlawn iawn gyda'r gorchwyl hwn, Y mae Mr Edwards wedi bod yn dra ffyddlawn a pharod i wasanaethu o'r blaen am gyfnod. cyn symud o hono i gymeryd gofal Ysgol Carrog, YN DECHREU.—Y Sabboth nesaf bydd y Parch D. P. Morgan yn dechreu ar ei waith fel bugail yn eglwys Carmel (A ). Da genym gael ei groesawu i n plith, a dymunwn iddo ef a'r- eglwys bob bendith a llwyddiant ar eu huniaU a'u gilydd. AGOR Siop.Bellach er's rhai wythnosau y mae y Mri George Hughes a'i Fab wedi agor busnes eu hunain yn yr ardal, yn yr hen sefydliad poblogaidd a elwir Siop Sian Tomos." Dymunwn lwyddiant y ddau sydd mor gadnabyddus yn ein plith er's llawer blwyddyn bellach.
IPENRHYNDEUDRAETH.
PENRHYNDEUDRAETH. Boreu Sadwrn, bu farw Mrs. Kellow, priod y diweddar Mr. William Kellow, yn 72 mlwydd. oed, yn nhy ei mherch Mrs. Dr. Hughes. Cwynai er's amser, ond daeth y diwedd ya sydyn ac anisgwyliadwy. Dasthant i'r cylcb- oedd hyn o Cornwall er's amser maith yn ol. Bu ei diweddar briod mewn eysyiltiad a chwarelau Gorseddau a Ceunant Park, ac y mae ei mhab, Mr. Moses Kellow, yn bresenol yn Brif Oruchwyliwr ar chwarelau Croesor a, Ceunant. Claddwyd dydd Mercher, ya mynwent Ramoth, Llanfrothen, angladd anghyhyoedd. Gwasanaethwyd wrth y ty ac ar y bedd gan y Parch. Enoch Jones, Bowydd, Ffestiniog. Derbynied y teulu Iluosog ein cydymdeimlad llwyraf. Cwyn sydd mai ychydig yw nifer y dieithriaic5 sydd yn dod i aros yma, er fod llawer iawn i'w gweled yn myn'd a dod a'i cri yn barbaus yw nad oes yma ddim yn cael ei wneyd er atdynif dim ymwelwyr i aroz, yma. Nid oes cymaint a lie iddynt eistedd yn un man, a'r wythnos o'r blaen cyfarfu nifer o Bwyllgar a eilw eu hunain Pwyllgor y Gwelliantau Lleol." Da gweled rhywun yn ysgwyd, ond drwg yw eu bod wedi arcs yn rhy hir am y tymhor hwn. Maent wedi tynu allan nifer o betbau sydd i gael eu gwneyd er gwella y lie, a'i wneyd cyn hir yn gyrchfan ymwelwyr. Maent wedi pasio i wneyd rhai pethau ar unwaith. Disgwyl y llwyddant ac y cant pob cefnogaeth yn em hymdrech. Mae llawer iawn oddiyma wedi myned dreulio eu gwyliau i wahanol leoedd. Dydd Mawrth yr oedd Mr. a Mrs. Joseph Humphreys, Gwalia, yn cychwyn am Isle of Man, a'r Parch. a Mrs. E. J. Evans, Nazareth, a Miss Richards i Liandridod, lie yr arferent fyned yn gyson. Hyderwn y cant lawer a fwynhad, nerth, ac iechyd. Cyfarfod Ymgysegriad gafwyd yn Ngymdeith- as Ymdrech Grefyddol, nos Sabbath, dan lywyddiaeth Mr. S. J. Jones, Bwriada aelodau y Demi ymgynull nos Wener nesaf. Taer ddymunir am i'r aelodau fod yn bresenol er ceisio cael ail gychwyn iddi. Mae y Cor Undebol wrthi yn parotoi at fyned i wasanaethu mewn Cyngerdd yo Criccieth yn fuan. PRIODAS FAWREDDOG.-Dydd Mercher, am. un o'r ddeg y boreu, yn Eglwys y Drindod, gao y Pazch J. Hughes, B.A., Vicar, yn ngwydd, tyrfa fawr, unwyd mewn glan briodas Mr. John Ellis, Aberdar. mab hynaf Mr. a Mrs. Griffith Ellis, Park Road, â Miss Maggie. Lloyd Hart, trydydd ferch Mr. J. Lloyd Hart, Cartref, Minffordd. Y gwasanaethyddion oeddynt y Parch. J. T. Phillips, B.A., Llangoed, a Miss Gwladys Hart (chwaer y briodasfercb), Mr. Bob Williams, Connah's Quay a Nurse Ellis (chwaer y priodfab), Mr. J. Lloyd, Merthyr (cefnder y briodasferch), a Miss Jannet Price Williams. Chwareuwyd y, Wedding March gan Mr. Hulme. Cyrchwyd a danfonwyd y briodas mewn Ceir Modur. W43i y gwa-sanaeth briodasol yr oedd gwledd odidcg wedi ei threfnu yn Ysgol Genediaehol,, Penbryn, pryd yroedd tua 40 o wahoddedigion ryn bresenol. Ymadawsantyn ddiweddarach ar y dydd am Llandudno yn nghanol dymuniadau goreu caredigion lawer. Boed eu gyrfa yn llawn hapusrwydd a dedwyddwch.
[No title]
Yn bel wedd y tywydd anwadal y mae llawer eto o wak yn aros heb ei ddiogolu. Y flwyddyn ddiweddaf methwyd a gorpben hyd adeg y cynhauaf yd, ac yn ol pob tebyg bydd i'r un peth ddigwydd eleni eto. Hyd yn hyn ychydig o heulwen ddisgynodd arnom, ac y mae yn bosibl y bydd i hyiw beri i'r cnydau ceircfc, haidd, agwenith, beidio cyrhaeddaeddfedrwydd mor gynar ac yn y tyrporau basiodd. Ofnir fod llawer o'r gwair sydd eisoes wedi ei gael yn gyffredin ei gydwr yn herwydd iddo gael el sychu a'i wlychu lawer gwaith trosodd cyn ei gario. 0 dan yr amgylchiadau credir na bydd gweiriau yn isel eu prisiau yn ystod y gauaC; agoshaol,