Welsh Newspapers

Search 15 million Welsh newspaper articles

Hide Articles List

16 articles on this Page

RHAGOR 0 ADGOFION EDNO.

IBWRDD GWARCHglDWASD pziy-IRHYIMDEUDRAETH.

IOYNQOR DOSBARTH -LLANRWST.…

News
Cite
Share

OYNQOR DOSBARTH LLANRWST. i Cynhali.vyd cyfarfod rheolaidd y Cyngor uchod ddydd Mawrth o dan lywyddiaeth y Parch. H. Rawson Williams. Yr oedd hefyd yn bresenol Mri. John Roberts, Edward Edwards, William WilliamL s, Isaac Hughes, David Lewis, David Jones (Llan- gernyw), Evan Roberts. Thomas Hughes (Clerc), a Maurice Roberts (Arolygydd) Derbyniwyd teierau Swyddfa'r RHEDEGYDD am gyhosddi cyfrifon y Cyngor am yr haner blwyddyn ddiweddaf. Ar gynygiad Mr. William Williams a chefnogiad Mr. John Roberts pasiwyd pleid- lais o gydymdeimlad a Mr. David Owen, Maesmawr, Llanddoged, ya ei brofedigaeth o golli ei ferch. Daeth Ilythvr oddiwrth Fwrdd Ffyrdd Cy- hoeddus yn » gl n a Deddf Gwelliantau 1909, ac yn gofyn am adroddiad gan y Cyngor ar welliantau tebygol o ddod o dan ddarpiriaethau y Ddeddf hono -Pssiwyd i'r Ardygydd wneyd adroddiad ar y mater at y Cyngor cesaf. Y Cadeirydd a ddywedodd iddo fod yn ym- ddiddan a'r Is gadeirydd, Mr John Davies, Bryniog, yn deisyf arno barhau i fod yn aelod o'r Cyoger, ond yr oedd Mr Davies, ar gyfrif ei afiechyd, yn methu gweled ei ffordd yn glir i gydsymo Mr Edward Edwards a ddywedodd iddo yntau fod yn siarad a Mr John Davies, ac mai yr un oedd ei deimlad.-Y Clerc a ddy- wedodd nad oedd angen am ddatgan fod ei sedd yn wag gan nad oedd wedi arwyddo ei fod yn derbyn y swydd —•Mr John Roberts, Bu Mr Davies yn aelod ffyddlon a da. Gofid mawr i ni fel Cyngor yw ei golli o'n mysg. "-Cadeirydd, Yr oedd yn un oi- .elo I- au mwyaf trwyadl ar y Cyngor. Yr wyf ys cynyg ein bod yn gosod ar y Cofnodion ddat- ganiad o'u gwerthfawrogiad o'i wasanaeth a'n gofid o i golli o'n mysg.Mr John Roberts, Yr wyf yn eilio, Bu yma er flurfiad y Cyng- or. Yr oedd yn ddyn clir iawn ei farn, ac yn ei mynegi yn ddiofn. Yr oedd yn uu o'r ych ydig hyny a chanddo asgwrn cefn, ac vn gallu sefyll dros yr byn farnai oedd yn iawn.Pas- iwyd yn unfrydol. Adroddodd Dr. Travis i 22 o enedigaethau gael eu cofrestru yn y Dosbarth yn ystod mis Gorphenaf, a 9 marwolaeth, Nid oedd yr un clefyd heintus yn y dosbarth. Mr. John Roberts a roddodd adroddiad o'r cynhadledd gynhaliwyd gan y cyd-bwyllgor Iechydol yn Ngbaernarfon. Bu yno sylw maith ar y modd i ymladd a'r afiechyd dinystriol,—y darfodedigaeth. Cafwyd trafod- aeth faith ar o! adroddiad Mr. Roberts, a theimlid mai dymunol iawn fu-isaicael raoddion i atal lledaeniad yr afiechyd, ond achawdd iawn ydoedd taraw ar gynllun effeithiol. Teimlid yn ddiolchgar i Mr. Roberts ara ei ffyddlondeb yn myned i'r gynhadledd, sc am ei adroddiad o'r gweithrediadau. Mr. John Roberts a ddywedodd iddo ef a'r Arolygydd, ar gais y Cyngor, gyfarfod ag Arolygydd Cyngor Bettwsycoed, wrth y Sarn groesa yr afon yno. Cawsant fod un gareg edi ei chario i ffwrdd, zc un neu ddwy wedi symud o'u lie, Yr oeddynt yn argymell i'r Sam gael ai hadgyweirio, ond oedd y gost i fyned dros chwe phunt. Y ddau Gyngor i dalu yn gyfartal aten y gwaith.—Pasiwyd yr argymelliad. Gwnaeth y Clerc gais am godiad yn ei gyflog gan ei bod ya derfyn blwyddyn arno yn y swydd, a bod y Cyngor wedi pasio i'r mater ddod gerbron ar derfyn y flwyddyn.—Mr John Roberts a ddywedodd y telid £ 45 gan Gyngor Seirionydd am waitheyffelyb, ac yr oeddynt hwythau yn talu hyny i Mr R. R. Owen. Yr oedd yr adroddiadau ffafriol gawsant gan Archwiliwr y Llywodraeth ar y modd y cedwid y llyfrau a'r cyfrifon yn eu cyfiawnhau i godi y cyflog i'r hyn ydoedd o'r blaen.—Mr William Williams a gefnogodd a phasiwyd yn unfrydol.

LLANGERNYW.I

I Ma?wo?eth Sydyn Edward.…

I Rhestr c'f Casglyddion fu…

TwylSo geneth o Lanrwst.

IHed beiriant Athro Cymreig.…

Tori i Dafarn yn Mhwllheli.____I

V Oymro leuano a'i Awyr-long,

-Llorg Rhyfel Anfertho!.

Penodi Barnwyr Newyddion.

-Wyth o ddynion i ddal dynes.

Y Canghellydd Adref.

TREFN OEDFAON Y SUL

[No title]